Skip to main content
Hide Articles List

2 articles on this Page

PRYDDEST.I

News
Cite
Share

PRYDDEST. I DINAS DUW. I Cian HAFGAN. I Treuliaswn lawer blwyddyn durud o'm I bywyd Ym muriog gulffyrdd diserch ddinas dyn Lie gwelswn wavvr yn wylo'i gwawl i ad- fyd; A'r haul yn llosgi'n bwl fel lloer mewn hun. Gwelaswn ddarnau arian Duw'n goliedig Ar lethrog 'strydoedd yn y liwch a'r baw A chlywswn ddigwyn gri y gorthrymcdig Fel dolef araf dreugai'm rarodir braw. I mi cynefin oedd allorau Mamon, A mwg eu hebyrth yn ymwau f'r nef Fel seirff gyfodent o'r cynfydwedd duon I boeri eu liysnafedd 'nol i'r dref. A meibion Duw yn gwerthu eu hamhyd- edd Am awr o ddawnsio i gythreulig gerdd, A merched Duw yn gweithu u cyrff am ddyrnfedd o bleser gau ym mynwent bywyd glan A'r ddinas droisai imi'n ddailun prudd- lwyd 0 uffern Bardd o Wyrfai yn ei hun Ac meddwn, Ni ddaeth imi'r dwyfol freuddwyd Am Ddinas Duw o fyw yn Ninas Dyn." A mi yn troi dalennau'r Dwyfol Femrvvn, Fel hwnnw d'rawodd Y Gynghanedd Goll, Heb nod nac amcan yn y modd darllenwn, Heb ddisgwyl mwy na geiiiau yn yr oil; Mi welais dwyfol law ar lenni dynol, Wrth araf symud trwy ganrifoedd hir, Yn lluaio darlun, fel rhyw freuddwyd hudol P ddinas Duw ar lennyrch nefol dir. Yng ngwelw wawr boreuddydd yr yspryd 01, A'r wawr yn oedi yn y dwyrain pell, Aneglur oedd y darlun, mal pei'r Dwyfol Arlunydd yn dyheu am leufer gwell. rNid fel y fflachia'r Ilusern ar y llenni Gyfanwaith ar symudiad amrant dyn Ond fel y nadd cerflunydd ar ei feini, Neu goeth arlunydd boena'n araf, flin. Fel hyn y gwelwn ddarlun Duw yn tyfu 0 oes i oes o'i ddinas freiniol Ef, Nes tybiwn weled Goleu'r Oenyn gwenu Yn heirdd ffenesti i'r orffenedig dref. A throdd y Memrwn dan fy nwylaw'n ddarlun, A'i eiriau'n wydrau mewn ffenestri cain Maddeued Duw i mi os gwneuthum eilun o gartre'r Gwr fu dan y goron ddrain. A dyma'r darlun fu yn llesmair oesoedd 0 seintiau ar heolydd dinas dyn, A dyma'r darlun gadwodd yn y trinoedd Fyddinoedd Duw yn ddewr fel Duw ei hun Cyfrinach gw6n y merthyr yn y goelcerth, Neu ar Galfaria'r byd wrth ddechreu byw, Oedd gweled heibio i allorau'r aberth Y perlau'n llosgi gan ogoniant Duw. Ardderchog Ddinas! Llanw mawl y nef- oedd Sy'n golchi beunydd gylch dy gaerau glan, Ddiobaith orchest imi chwyddo'r moroedd Sy'n arllwys arnat yn dragwyddol gan. "A'i muriau uchel." Ni cha'r t'wyllwch eithaf Gymysgu a goleuni pur y nef; Gofalodd Duw na chrwydrai llwydrew'r gaeaf I wywo blodeu gerddi'i Ddinas Ef. A'i muriau'n uchel," Gwelais ddyn yn codi Uthr uchel gaerau gylch dinasoedd byd A'r gwyllt elfennau arnynt yn ymdorri A llaw daeargryn fel yn siglo cryd Y seiliau tywod, a llifogydd amser Yn cludo'r llaid i wastadeddau pell, A'r muriau'n brwydro a'r ystorm yn ofer A gwclais ddrain ar feddau'r "dyddiau gwell." Ond seiliwyd muriau Dinas Duw ar greig- iau 0 feini drudfawr ei Gyfiawnder Ef; Ac er cyfuno nerthoedd gwyllt elfennau Y fagddu erch i chwythu ar y dref Nichyrraedd swn y storm byth i'w hys- trydoedd I greu anghydgord yn y Newydd Gan, Ac ni ddaw hadau'r anial gyda'r gwynt- oedd I ddechreu anial yn y gerddi glan. Mi wn anhawdded yw i amhur galon Ymgodi ac ehedeg goruwch ffin Y mur amherffaith gyfyd i'r uchelion 0 gylch cymdeithas lan, ar ddaear dyn. Ond uthrol uwch yw'r muriau gylch y dwyfol Difesur fel aruthredd ser y nos, A'r brwnt a'r aflan gedwir yn dragwyddol Tuallan i gyftmiau'r ddinas dlos. A'i phyrth ni cheuir." Ni bydd Duw'n gyfrifol Am gau un enaid i'r tywyllwch oer I grwydro'n wallgof oesau'r byd tragwydd- ol 'Rol machlud ola'r Haul, a'r Ser, a'r Lloer Mewn nos ddiddwyrain. Ni ddaw'r bai am golli ¡ Anfarwol enaid byth ar gariad Duw Tra'r perlog byrth yn gwahodd i'r goleuni Y bywyd gwanaf all ddyfreu am fyw. A'i phyrth ni cheuir." Ond ni chrwydra enaid Yr aflan drwyddynt i'w heolydd glan, Can's gwawl y perlau sydd adlewyrch tanbaid 0 wawl y llygaid sydd fel fliam o dan.' A'r I- eol Aur i draed y pererinion Cynefin a thylodi ffyrdd y llawr Y Duw sy'n berchen y cysawdiau drudion Addurnodd gartref plant y cystudd mawr. Yr heol aur, y perlog byrth, a'r meini, Addurtfant furiau'r ddinas, benthyg nef I fydoedd amser nes bo'r dydd yn torri I'w galw'n ol i wisgo'r Sanctaidd Dref Yw cyfoeth Duw. Daw'r dyddiau na adewir Un rhan o honno i ddiddiolch lu Y t'wyllwch eithaf. Gwlad y Nos dylodir Fel tlodir gwinllan gan y gaeaf du. Mae Hunllef Hunan ar galonau'n mawr- ion, A dwylaw rhuddgoch trais ar erwau Duw, A'r tlawd yn marw ar heolydd culion Dinasoedd byd o eisiau lie i fyw. Ond cul heolydd, lie mae'r gwyll yn llechu, Ni welir ym mhrifddinas Gwlad y Wawr, Ac ni cha rhaib a gormes le i deyrnasu Ar lan yr afon lif trwy'r Heol Fawr," Gwyn fyd na ddeuai'r dydd i'm henaid or- ffwys Ar lannau'r afon dan y dwyfol bren, Tra miwsig per y dyfroedd fyth yn arllwys I for per lesmair gerdd y Ddinas Wen. Ddinasoedd dynion Buoch trwy yr oes oedd Yn lloches erlidiedig dlodion byd, Y rhai fel defaid llwm ar wylIt fynydd- oedd, Yn swn udiadau bleiddiaid gwanc o hyd, Dreulia5ant oriau bywyd yn newynog Yng ngolwg firwythau drud y gwledydd draw, Fel gwel y defaid feysydd i'r toreithiog, Ar lannau'r afon yn y glyn islaw. Ond nis gall cysgod newyn d'wyllu glan- nau Yr afon dardd o dan orseddfainc Duw Ac ni ddaw Angen byth o dan ganghennau Y pren na welir un o'i ddail yn wyw. Ac yno can y bardd heb ofni Newyn Fel can ehedydd fore gwariwyn mwyn Am nad oes helyg yno'i grogi'r delyn Na llanw bywyd byth yn treio'i gwyn. A'r orsedd wen." Calonnau'r dinasydd- ion Fydd gorsedd teyrnas newydd Mab y Dya; Unbennaeth dry'n weriniaeth ym mhob calon Duw deddf ac enaid yno'i fod yn un. Ni welodd loan y Diffynnydd yno Un mor ymferwai dan Mangellau'r gwynt, Fel hwnnw ruodd gylch y disgybl ffyddlon Yng Ngalilea lawer noson gynt. Ond gwn fod mor o hedd tragwyddol yno, Lie ni thry nwydau yn groeswyntoedd erch I chwalu'r darlun adlewyreha yaddo O'r galon sydd yn llosgi'n fflam o serch. Aelwyd y Cread Cerdda'r bydoedd dirif 0 bell eithafion eangderau Duw Heb orffwys hyd nes cyrraedd tyner wawl- lif Y cariad bair i gaiiad losgi'n fyw, Am oesau'r byd tragwyddol ym mhob calon Ni oera cariad Un ar aelwyd nef, Ac ni bydd enaid yno dry'n afradlon Fel hwnnw gynt a grwydrai'n mhell ojdref. Gdrfoledd nos ar hen aelwydydd Cymru Ym miri llawen ddawns diniwed wledd A chalon byth at galon yn cynesu o dan ddylanwad y diniwed fedd Fu'n Nghymru gynt; a nodau per y delyn Yn deffro'r awen gysgai ym mhob bron Nid oedd yr oil ond chwareu difyr plentyn Yn ymyl hoenedd pur yr aelwyd hon. Hardd Ddinas Duw Bu serck yr oesau'n plethu Breuddwydion Hud o gylch dy gaerau di; A chalon oer Ogleddwlad yn cynesu Wrth synfyfyrio ar dy fythwyrdd fri Ac ni anghofiodd lor didderbynwyneb Ddatguddio'th heirdd binaclau i bob gwlad Can's rhoed prifddinas tragwyddoldeb Yn etifeddiaeth pawb o blant y Tad. Ond harddach ydyw'r ddinas na'r breudd- wydion Am Asgard, cartref Duwiau'r gogledd dir, Lie dawnsia'r Aesir yn y gwleddoedd drudion Ar ol y campau ar y meysydd hir. Ac harddach filwaith nac Elysium Hellas, Lie chwardd y blodau yn y gerddi chweg, Heb ofni llwydrew Hydref, na galanas Gaeafol oerwynt ar y meysydd teg. Ac harddach yw na'r darlun dynnodd loan Ym Mhatmos oesau'ia ol yn swn y mor, Pa ddynol lenni godant ond rhyw gyfran 0 ogoniannau Dinas Sanctaicjd lor ? Ni chwyth awelon o dyleddir Ameu Eill wasgar hud breuddwydion plant y llawr, A niwloedd tywyll dyffryn cysgod angeu Ni chuddiant holl ffenestri'r ddinas fawr. Bydd hon am oesau dirif fel Hud-Ramant Yn rhoi ysbrydiaeth i fywydau fyrdd I gerdded o ogoniant i ogoniant Dros lwybrau serth, a gwaedliwiedig ffyrdd. I

Advertising