Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Y o MfM i ,Odydd. i --1
Y o MfM i Odydd. 1 Dydd Mawrth, Medi 17. Adroddir am ymosodiad gan y Ffran- cod a'r Serbiaid ar ffrynt o saith milltir i'r dwyrain o Mdnastir yn Macedonia, a meddiannwyd nifer osafleoedd mynydd ig pwysig, sydd yn agor y ffordd i Bdyffryn Czerna, a chymerwyd wyth gaiat o garcharorion, ynghyd a nifer lios- ogoynnau. Bu brwydro ar y ffrynt Prydeinig ger Ypres qydd Llun, ac estynwyd ein llin- ell dros ffrynt o ddwy filltir- ar hyd glannau Camlas Comines, a gwthiwyd ymlaen, hefyd, i'r dwyrain o Ypres. Gwnaed cryn gynnydd, hefyd, ar y ffrynt Ffrengig ac Americanaidd, a chymerwyd agos i dri chant a garchar orioq. Dydd Mercher Y mae'r ymosodiad yn Macedonia yn paibau i fyned rhagddo. Y mae'r Gall- uoedd Cyngrheiriol wedi torri trwy lin ell y Bwlgariaid i ddyfnder o bum' milltir, heblaw IIedu arwyneb y frwydr. Cyrbaedda ein carcharorion erbyn hyn dros 4,000 a 30 o ynnau, ynghyda swm mawr o gad-ddarpar. Parha y gweithrediadauyn Ffrainc a Flanders o naturddibwys. IV gogledd* orllewin o St Quentin, aethom rhagom yng nghymydogaeth 4 Hoinon a; Le Verginer. Ymhellach i'r gogledd enillasom safle Germanaidd i'r gorllewin o La Bassee, a sefydlasom orsafau newydd i'r de-ddwyraino Neuve Ghapelle, ac yn agos i Ploegsteert, a gmellasom ein gafael ar y, safleoedd ger Hulluch. Hysbysir fod y gelyn yn llosgi y trefydd cyfagos i Moselle sy'n debyg o syrthio in meddianfc rai o'r dyddiau nesaf. Dywedir fod byddinoedd Bwlgaraidd neNydc1 basio trwy Belgium, ac y mae Germani wedi apelio am gynforthwy pellach oddiwrth Awstria i gyfarfod a'r sofyllfa. Edrydd Syr Douglas Haig fod ymos- odiadau cryfion ao ymladd cyndyn yn mynd ywlaen y dyddiau diweddaf. Dydd lau Ddoe, ymosododd milwyr pertbynoi i'r drydedd a'r bedwaredd fyddin Bryd einig gydsi llwydd perffaifcb, ar ffrynt o 16 milltir, yn y rhanbaith ogladdol o St Quentin. Gwfchiasanfc ymlaen i ddyfnderynamrywio o dair i bedair milltir, gan gymeryd oddeutu chwe mil yn garcharorion, ynghyda nifer liosog o ynnau, ac un gyflegrfa yn gyflawn. Derbyniodd yr Awstriaid goUedion fcrymionyn eu hymgais ofer yn erbyn satSeoodd yr ItaMaid i'r gogledd o fynydd Grappa. Bu yno gystadleuaeth chwerw cydrhwng cyflegrau'r ddwy blaid mewn amryw lecynau ar ffrynt y mynydd hwnnw, ae arhyd glannau yr afon Piave. Hona yr Awstriaid yn eu hadrodd- iadau iddynt droi yn ol bum' ymosodiad o eiddo'r Italiaid yn nghymydogaoth Monte Pertica. I DyddGwcner. Adroddir fod nifer y carcharorion sydd wedi eu cymerydgan y Prydeiniaid or dydd Mercher, yn yr ymosodiadau o flaen yr Hindenbarg line yn rbifo 10,000 a 60 o ynnau. Adroddir fod y Germaniaid yn hwyr nos Fercher wedi gwneud gwrthymosod- iad cryf a phenderfynol iawn, yn cael ei rhagflaenu gan ymosodiad cyftegrol chwerw. Yroeddhynnidar y ffrynt Brvdeinig newydd, ond ychydij i'r gog tedd iddi. Bu yr ymosodiad yn aflwydd- iannus. Y mae y Cyngrheiriaid yn y Balkans wedi trechu bob gvrthvvynebiad i'w herbyn am ugain militir tuhwnt- i'r linoll, a,nos Sul y maelinellyr ymosod- iad yn awr yn mesur 25 milltir. Y mae y corfflu Prydeinig a anfon- wyd i Baku i helpu y Rwsiaid yn erbyn y Twrc wedi encilio, a'r lie yn awr yn nwylo y gelyn. Gadawodd y coifflu y Ile mewn Ilongau Rwsiaidd. Dydd Sadwrn. ■. Ym Mhalestina llwyddodd y milwyr Prydeinig, gyda chynhorthwy y Ffran- ood, i dorri trwy lineifau y Tyrciaid > rhvng Jerusalem a Jaffa, -Yn ychwan- egol at gymeryd 3,000 o garebarorion y byddinoedd y Tyrciaid bron wed j eu hamgyichynu, Disgwylir digwydd" iadau pwysig yn y lie hwn. i Mae'r Prydeiniaid a'r Ffrancod yn parhau i ennill tir yn Ffrainc a Flan- ders. Mae gynnau mawr y Cyngrheiriaid yn tanbelennu Metz a'n hawyrenwyr yn gollwng ffrwydbelenna-u ar y dref. Mae'r trigolion wedi-dyobryii yn fawr, a hysbysir eu bod yn gadael y dref yn lluoedd. Adroddir fod y Serbiaid wedi gwtkio'r Bwlgariaid ar draws yr afon Cerna gan gymeryd 5,000 obonynt yn garcharor- ion. Dydd Llun. Mae'r Serbiaid wedi ennill 30 milltir o dir, ac maent yn awr o fewn pymtheg milltir i Prilep, pencadlys y Bwlgariaid. Mae'r gelynion wedi dechreu enciliad cyffredinol, ac mae'r Cyngrheiriaid yn chwythu pontydd i fyny er rhwystro eu 1 henciliad. Mae'r Prydeiniaid a'r Groegiaid yn ymladd yn rhagorol yma. Mae'r Cadfridog Allenby yn ennill brwydr ar ol brwydr yng Ngwlad Can- aan. -) Gosododd 24,000 o Dyrciaid mewn lie cyfyng iawn, os nad anobeith- iol. Gorchfygwyd y Tyrciaid ar ffrynt o 16 milltir, ac y mae'r Prydeiniaid wedi ennill yn agos i pgain milltir o dir. t'r dwyrain y mae Branin yr Hedjaz, Arabiad, yn bygwth y gelynion.
-HEWYDDION WESLEAIDD.I
HEWYDDION WESLEAIDD. ABERMAW. j Derbyniodd Mr Owen Parry, Kim- berley House,—un o ffyddloniaid yr achos Wesleaidd yn yr Abermaw, y llytbyr hwn oddiwrth Lywydd y Gym- deithas Genedlaethol sy'n casglu wyau i'r milwyr clwyfedig I beg to thank you for your letter of the 13th enclosing cheque value £ 32 lis. 3d., being the amount col- lected including the exhibition of the film on the evenings:of the 5th, 6th and 7th of September. I enclose you official receipt for the amount here- with. I consider this a splendid total, and I trust you will convey to all who helped in any way, our sin- cere thanks for their efforts on this occasion. I trust you will accept yourself our most grateful thanks for your splendid efforts on behalf of our wounded soldiers." Y mae Mr Parry yn ddiwyd a diflin iawn ei ymdrechion gyda symudiadau da o'r fath ywa. Y mae y moddiannau Seisnir eleni wedi bod yn nodedig o Iwjddiannus. Pregethwyd yn ystod y tymor gan y Parch E. J. Parry, gweinidog y lie, ynghyd a'r dieithriaid canlynol, Parchn Mark Guy Pearse, Brigadier General Joseph A. Bateson, Llundain; D. Glyr,fryn Jones, Evan Roberts. T. J. Evans, B.A., B.D., Caerdydd a W. A, Bryan Jones, Llanbedr, un o gynweinid- ogion y Gylciidaith, sydd yn awr yn gorffwys oblegid llesgedd yn ardal hyf- ryd Llanbedr, Ardudwy. Yr oedd y trefniadau, fel arfer, yng ngofal Mr Owen Parry, Kimberley House, a gwnaeth ei waith yn ardderchog. Tal- wyd holl gostau yr argraffu, etc., gan Mr J. S. Wilkes, Wesleaid Seisnig. car-" edig o Birmingham sy'n trigiannu tros I fisoedd yr haf yn Bryngelli. Deallwn fod Mr Parry eisoeg wedi trefnu rhaglen y moddiannau Soisnig y flwyddyn nesaf, a bod y cyfeillion can- lyfitol wedi addaw ein gwasanaethu eto. Parchn Mark Guy Pearce, Brigadier General J. H. Bateson, E. Ensor Walters, D. Gwydfryn Jones, a YVT. A. Bryan Jones. *• II wyrach y dylasem son/am anrheg y boi,eddwr Mr J. S. Wilkes i'r dref, Heblaw bod yn gymwynaswr i'r Eglwys Wesleaidd, y mae Mr Wilkes wedi bod yn garedig iawn wrth y dre. Pwrcas odd yr-lien faddon-dy ar Ian y mor gan ei droi yn Convalascent Home i blant. Bydd yn dda gan Mr Owen Parry, Kim- berley House, dderbyn rhoddion at y mudiad gan y neb a deimla yn ei galon anwylyd at aohosmor deihvng." Yn gymaint a'i wneuthur ohonoch i un o'r rhai bychan hyn i mi y gwaaeihooh." GOff.
Advertising
S '?i= ? p? m. si m || Y L L Y r As || "YR EURGRAWN" AM 1918. Pris 4 Ceiniog y mis. Dan olygiaeth y Parch Thos. Hughes. "Y WINLLAN" AM 1918. Pris Ceiniog a Dimau y mis. Dan olygiaeth y Parch D. Gwyn- fryn Jones. "V DYDDIADUR" AM 1918. Pocket Book 2/6 yr un. Dyddiadur Lliatt 9c yr un. Dan olygiaeth y Parch W. R. Roberts. Archeber ar unwalth. Y Maes Llafur. Yn bared diwedd Ebrill Esbonlad y Parch. D. Tecwyn Evans, B.A., arj Epistol Cynt-af Paul at y Corinthiaid. Pen. i-vii. Pris 2/6. Dwsin ac uchod, 2/3 yr uti. Carriage Paidj YN AWR YN BAROD. sc Gwronlaid y Ffydd (Heb. xL) Gan y Parch. E. D-Thprnas*. Pris: CHWE'CHEINIOG. Dwsin ac uchod am 4/6 y dwsin. Archeber ar unwaith. Gofyniadau y Maes Llafur Yn cynnwys y Safonau a threfn yr Arhqliadau. Pris.- CRINIOG. Rhoddir 100 am 6/ a 50 am 310 end. anfon tdl gyda'r archeb.. Anfoner yr Archebion a'r Taliadau i'r BOOKROOM, 'BANGOR. DETHQLIAD 0 EMYNAU. • I' YN AWR YN BAROD. Cynhwysa dros 200 0 Emynau Detholedig, ac adrannau ar gyfer y Cynhaeaf, yr Ysgol Sul, Bedydd Plant, Dirwest, ac ycbydig Emynau Saesneg, CASGLIAD DlCiURO. Pris, Chwe Cheiniog, mewn Ilian ya. twyth. Trwy y Post, 7 ceiniog. Dwsin am 5/6, post free. Haner cant am 25/ carriage paid. Cant am 45/ carriage paid. Testamentau i'r Milwyr. Testament bach hardd, gilt edges, mewn llian Khaki prydferth. Aiff i baced y wasgod. Prfeiau, Cymraeg, If-, Seisnig Gwna y rhai hyn anrheg ddymunoi i'r Milwyr. ¡ Llawlyfr y Parch.. Isfryn Hughes ar IrHILIPIAID, ? PH!LE?. i Pris Sch. Mae hwn yn werth i'w gael, erys o hyd yn ei w-erth. i- "i -■ LLYFRAU EMYNAU. Dau SwlIt yw pris y rhai rhataf. Ceir cyflawnder o lyfrau destlus I am 2/6 a 3/6 a 4/6. Heo. Nodiant, ¡ a Solffa, 4/6. I Rheolau y rrefn- yddion Wesleyaidd Argraffiad Newydd, yn llyfryn destlus, o'r Rheolau ddylai fod yn Haw pob aelod Wesleyaidd. rvher Rheolau hyd Gynhadledd 1913 oil yn yrargraffiad hwn. Pris, Ceiniog a dimaiy copi; 100 am 6/6; 50 am 3/3 post free. 1 ■ j Cases at Ryvymo. I Ceir Cases Ilian hardd at rwynio "Hanes Wesleyaeth Gymreig'g am swllt. Rhwymo 1/6. Cases llian destlus at rwVmo" Y r Eurgrawn a'r 1/6, 10c. Wedi eu rhwymo'n barod: Eurgrawn, 5/6 Winllan, 2/6. < t1X- -I! I Ceir y cyfan drwyeln, j YN DDIDRAUL. M "1<1. Hyderwn gael Catalogue newydd ar ol y Rhyf-el ? W ■ WA'S Pob Archebioii a Thaliadau i'w hanfon i:— ■ fe ? PM-ch. 0. MABOC ROBERTS, ? Bookroom? Ban ?or. m r) 1.4 t-l; 6, v -r& Agraffwyd dros y Cyhoeddwyr gar, L. Davies, S*yddfa'r Gwylieeyd(i New. • ydd," Blaenau Ffestiniog.