Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

CYFARFOD CYLLIDOL Y DE. I…

News
Cite
Share

CYFARFOD CYLLIDOL Y DE. I < Argraffiadau Gwladwr." Nid yn ami y daw i'm rhan i fynd i Gyfarfod Taleithiol, ond gan fod y ffordd yn bell a'rffermwyryn grysur, cefais y fraint i fynd i Gaerdydd eleni. Taith ddigon blinderus gefais gyda'r tren. Pob lie yn orlawn, a llawer o filwyr yno, a lie mae'r milwr druan, mae llwyth o "kit," Eistedd ar yn ail buom bob cam o'r ffer dd. Chwar- ,seu.teg i'r milwyr, edrychent hwy yn fwy bodlon na'n hanne'r ni, ac ni chai gwraig neu hen wr sefyll os byddai ganddynt sedd i'w chyn- nyg. Ni welais argoel diod gadarn arnynt, ac ni chlywais rêg na llw ar wefus yr un ohonynt. Bechgyn rhagorol oedd y milwyr hyn. Dyma'r tren yn aros yn y Stesion a'r Porters yn gwaeddi "Cardiff," Cardiff," &c. A chodai diolch distaw yn fy mynwes fod pen y daith wedi'i chyrraedd. Wedi mynd o'r stesion Toedd y gwlaw yn disgyn arnom fel o fwceii. Son am law 'Stiniog "wir, ni allai fod yn waeth na hwn. 'Roedd fy llety ymhell o'r stesion a'r capel. Danghosodd Arolygwr caredig Caerdydd Ie cyfieus i mi ac arall gael cysgod a chwpaned i aros yr oedfa. Nid gwaith hawdd yw dod o hyd i Gapel Wesle Cymraeg yn y ddinas, ond wedi holi plisman neu ddaii cawsom y lie. Capel dym- unol, a nifer wedi cyrraedd o'n blaen, oiid nid oedd argoel am ddechreu, ni ddeallais eto pam 'roedd rhaid oedi cy'd ar ol yr awr benodedig. Brawd ieuanc ddech- reuodd yn wresdg ac yn yr ysbryd, a'r ddau bregethwr yn y set fawr yn barod at eu gwaitn. Piti i'r cyntaf dorri ei bregeth er gwneud lie i'r ail; os dau bregethwr, 'rym ni, bobl y seti, yn fodlon aros ,i wrando dwy bregeth, Mantais efallai fyddai pe bai y bregeth gyntaf beth yn hwy a'r olaf beth yn,, ferrach. Ond cafwyd oedfa wirioneddol dda, a phawb yn can- mol wrth droi adref. Wedi mynd i'm llety cysurus, dyma destun y scwrs Onid yw yn amser i Gymry fieddwl yn ddi- frifol y gall un bregeth ymhob oedfa fod yn ddigon, ae yn fwy o fantais 1 galon y gynulleidfa na dwy bregeth. Collem beth enter- tainment, ond enillem ymhob peth arall. Wrth ymlwybro bore drannoeth tua'r Eisteddiadau, cofiwn am y Synod ddiweddaf y bum ynddi yn y dref. Synod Mai oedd honno. Mae er hynny un flynedd ar hugain. Yr epwog Eglwysbach yn y Gad- air, ac efe a Edward Humphreys yn pregethu yn y Gory Hall gydag arddeliad mawr. Ychydig o'r enw- au oedd ar brogram y cyfarfod hwnnw sydd ar yr un presennol, a theimlaf yn chwith wrth feddwl fod cynifer o'm hen gyfeillion wedi croesi. Yng nghapel y Trefnyddion Cal- finaidd, gerllaw ein capel ni, y cyfarfyddem y tro hwn. Ystafell wedi ei hawyru yn dda, ond fod brawd cryf ac iach yn cau pob ffenestr rhag-cael "drafft." Dech- reuwyd ychydig cyn hanner awr wedi deg, er fod y rhybudd oddi- wrth YCadeirydd yn dweyd ein bod i ddechreu am ddeg. Arweiniwyd ,ni at yr orsedd gan frawd sy'n an nwyl gan bawb a'i hadwaen, ac erbyn hyn yn agos a bod yn Dad y Synod. Teimlem yn fuan fod gwlith y nef yn disgyn arnom yn drwm. Dyrna ddechreu da iawn. Cododd y Cadeirydd newydd i'n hannerch. Gwr tal, lluniaidd, a'i ymddanghosiad allanol yn ein denu i wrando arno cyn iddo ddweyd gair. Gair o groesawiad, a chalondid sydd gandelo, a chyfyd obelthioa am ddyfodol disglair i'r hen Dalaith eto yn fuan. Medr y Cadeirydd ddweyd geiriau llymion hefyd. Yn y prydnawn siaradodd yn gryf am rywrai oedd yn am. hrydlon ac yn esgeulus yn barhaus gyda'u' gwaith. Dealla is fod cosp i'w gweinyddu ar y diweddariaid a'r esgeuluswyr hyn ymhen blwyddyn, ond ni wn yn iawn beth ydyw, oblegid i ddau frawd, un o bob tu i mi sisial yn fy nghlustiau r -a pheth cas yw hyn mewn cyfar- fod. Yr oedi un eisiau "clove" i I wella'r ddannodd, a'r Hall eisiau "peppermint" i ryddhau ei wddw- y ddau, meddent, wedi cael an. nwyd y noson cynt wrth aros mewn dillad llaith ac ystafell oer am dri chwarter awr i bwyllgor ddechreu. Mae'n amlwg felly fod geiriau llymion y Cadeirydd yn rhai am- serol iawn. < Fel gwr cymharol ddieithr i weithrediadau'r Synod, teimlwn ein bod yn treul io, Ilawer gortnod o amser i gyfanu Pwyllgorau, a hyn yn achlysur i lawer o siarad gwag. Pe bae'r Cadeirydd, yr Ysgriferi nydd, ac ysgrifenyddion y Pwyll gorau yn cyfarfod am awr nos Lun neu bore Mawrth,i drefnu'r Pwyll- gorau, a dod a'u cynygiadau i'r Eisteddiad, gellid gwneud y gwaith y. fwy effeithiol a'i wneud yn chwarter yr araser. Yna terfynid y gwaith hyn yn hawdd cyn mynd i ginio, a gorffennid gwaith y Synod yn gynnar fel y gallai pawb fynd yn gryno i'r oedfa. Mae'n pobl yn disgwyl gweld y cynrychiolwyr yn yr oedfaon, a chofiaf yn dda fel y gwasgai'r Eglwysbach yn y cyfar- fod blaenorol arnom i geisio ter fynu'r gwaith er mwyn mynd i'r odfeuon. Cydwelwn a nifer o'r brodyr y dylid fed wedi dod a mater codiad cyflogau'r gweinidogion gerbron eisteddiad y bore, ac nid ar ol te mewn eisteddiad teneu, a'r brodyr wedi blino bod yn yr awyr afiach drwy'r dydd. Mantais fyddai ys tyried y materion- pwysicaf yn gyntaf-" First things firsi." Lki craff yw'n Hysgrifennydd. Sylwais wrth agor fy mhapur bore drannoeth yn y tren fod ei gynhyg- iad ynglyn a Chyngrhair y Cen- hedloeddyn cael sylw a chymera- dwyaeth yn un o brif erthyglau'r papur. Oni allai'r dyn hynaws a threfnus yma geisio, pan ddel y papur yn rhatach, i ni gael llyfr ar gyfer y Synod tebyg i'r hwn sydd gan Mri Pryce a Pugh, yr Auction- eers, ar gyfer eu harwerthiadau. Pe caem hynarbedai lawer o ddar- llen mâl) bethau i'r cyfarfod, a gwneid y gwaith yn llwyrach. Un o'r pethau goreu yn yr Eis- teddiad oedd yr hamdden fechan gafwyd i siarad am ddau frawd annwyl fu farw yn ystod y flwydd- yn. Dywedwyd pethau da am y ddau; sel, brwdfryded.d a ffyddlon- eb, y naill, a gallu, hunanaberth, a dvlanwad y Hall. Awr fendithiol oedd hon, a'r awel yn chwythu'n gref drwy'r cyfarfod. ( Cefais" oedfa nos Fa wrth, a gwledd ddarparwyd i ni yno. Hapus ryfeddol fu dewisiad y ddau bregethwr. Cyflwynwyd yr efeng- yl yn swynol, a thine yr hen hwyl Gymteig gan un, a dywedodd y Hall am ddvfnion bethau Duw gyda nerth a dylanwad. Acer fod dau bregethwr, ni fu'r oedfa yn rhy hir. Wrth gefnu ar y cyfarfydydd a'r ddinas y cynhaliwyd hwy ynddi, gofynwn i mi fy hun-Pwy fydd yn bresennol yn y Synod nesaf ? Pwy bynnag fydd. yno, dylid gosod mewn llythyren fras ar ddrws pob oedfa, pwyllgor, ac eisteddiad y gair PRYDLONDEB." Os ceir esiampl o brydlondeb a threfn yn ein prif wyliau, bydd gobaith yr efylychir hyn gyda phethau cylch deithiol a chartrefol. :1;I -1 "1 Cawsom groesaw cynnes iawn gan gyfeillion Caerdydd. Prin y disgwyliem y fath groesaw yn y cyfnod presennol. 'Roedd pawb fel pe yn awyddus i'n gwneud yn gysurus. Ni chlywais neb yn achwyn, and pawb yn canmol y darpariadau wnaed. Bendith arn- och, a gwahoddwch ni yna yn fuan eto.

Cyfarfod Cyllidol Talaith…

IIYR AIL DALAITH.-

[No title]