Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

16 articles on this Page

CNWCH COCH.

News
Cite
Share

CNWCH COCH. Dydd lau, Medi 5, yn 69 mlwydd oed, bu farw Mr David Davies, Ceunant, Blaenor yn Eglwys Cnwch Coch, a Cyn^oruchwyl- iwr Cylehdaith Ystumtuen, a Lleygwr en- wog yn Nhalaith y De am lawer o flyn- yddoedd. Dydd Mercher canlypol claddwyd ei weddillion ym mynwent Aberffrwd. Gwas- anaethwyd wrth y ty. yn y capel, ac ar lan y bedd gan y Parchn G. Bedford Roberts, G. R. Owen, J. Fisher Griffiths, Charles Evans (Vicar), T. M. Jones (M.C.), a D. Morgan (M,C.). Hefyd derbyniwyd gair oddiwrth y Patchn A. C. Pearce, T. Morris, D. C. Jones, a Thomas Jones, vn datgan eu gofid o'u hanallu i fod yn bresennel, a'u cydymdeimlad a'r teulu yn eu trallod. Yn y capel nodwyd rhai o nodweddion yr ymadawedig, n-iegis Cymydog da. Tyst- iai y dorf ddaetb. ynghyd ei fod yn gym- ydog a gerid gan bawb o'i amgylch. Efe oedd Goruchwyliwr y Ffyrdd yn y rhan yma o'r wlad, a thrwy hynny deuai i gyf- athrach a llawer o bobl. Eto, ei set dros bopeth a iredai oedd yn iawn. Nid oedd pall arno. Ei ffyddlondeb gyda phob rhan o waith yr Arglwydd hyd yr oedd yn ei allu-ni fethai mewn un rhan. Ei brydlon- deb gyda phopeth a wnelai, yn enwedig gyda moddiannau y cysegr. Ei haelfryd-. edd, gyda phob achos teilwng, nid oedd natur y cybydd yn agos iddo. Ei allu fel cynlluniwr, credir fod mwy o'i gynlluniau ef ar waith yn y Gylchdaith nac eiddo un o'i gydoeswyr. Ond:yn y Cnwch yceid ef ar ei oreu. Fel blaenor nid oedd ei well, ac fel arweinydd caniadaeth y cysegr 'roedd yn ddiail. Efe oeddy prif symudydd i gael y capel new- ydd prese-nnol yno, ac hefyd isicrhau myn- went ynglyn a'r capel. Yn y Cnwch I heddyw ceir lie gwag iawn 0 I golli, a bydd ei golli o'r Cwrdd Chwarter yn golled fawr; ac yn ddiau teimla'r Dalaith ei cholled, fel yr amlygwyd hynny yr wytlj- nos hon yn y Cyfarfod Cyllidol yn Caer dydd. Rhyfedd yw meddwl fod un o gorff mor dalgryf, rodiai yn ein plith dair wythnos yn ol, heddyw yn ei fedd. Ar yr olwg gyntaf ymddangosai yn wr garw a chalon-galed, ond o'i adnabod gwelid ei fod yn Gristion gloyw, gyda chalon dyner llawn tosturi ac awydd i wneuthur daioni. Ar ei wely cystudd tystiai fod y dyfodol yn glir iddo, nid oedd ofn marw arno. gan yteimlai fod y Crist a wasanaethodd mor ffyddlon yn awr yn ei ymyl yn ei gynorth- wyo i fyned drwyymchwydd yr lorddon en. Hawdd y gallwn ddweyd, Heddyw syrthiodd gwr mawr yn Israel." Ein gweddi yw am i Dduw yn Ei ffordd ddoeth Ei hun fedyddio rhai dros y meirw i lenwi lie y cewri sy'n syrthio y dyddiau hyn. Ac i fantell y proffwyd a esgynodd ddisgyn ar lawer i'n gwneuthur yn well gweithwyr yn y Winllan. Cydymdeimlir a'r weddw, y meibion, a'r merched, ac a'r teulu oil yn eu galar dwys o golli un fu mor ffyddlon, gofalus, ac an- nwyl iddynt am lawer blwyddyn, Duw y Nef fo'n nodded iddynt. GOH.

-BETHEL, COED-Y-FFLINT._,I

IYSTUMTUEN.

*-ER COF SERCHOG.

CYLCHDAITH YR 'WYDDGRUG.I

MYNYDD SEION, LERPWL. I

I DOLGELLAU.-.

I---CAERNARFON.-'--.--I-.,I

I ,TREFEGLWYS. -I

I BORTH, CEREDIGION. I

I COED-Y-FFLINT. I

t ,AMLWCH

I CEFN MAWR. ,1

STRYT ISA.

SEION, GORr STREET, MANCEINION.

LLYFRAU BWYD NEWYDD. Eu Cyanwys…