Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

NODIADAU WYTHNOSOL.i

News
Cite
Share

NODIADAU WYTHNOSOL. Y Methodlstlald a'r Eglwys. Y mae arnryw o weinidogion y! Methodi&tiaid Calfmaidd yn ddi- weddar wedi mynd trosodd i'r, Eglwys, a chryn siaradfod eraill ar y ffordd; ac yn Sassiwn Pwllheli gofynwyd i'r Parch John Williams, Brynsciencvn, ddyweyd gair cyff. redinol ynglyn a'r mater. Ni fyn- nai Mr Williams ddyweyd dim am achos y brawd oedd yn mynd dros-I odd yn awr, eto credai fod angen dyweyd gair cyffredinol i glirio yr awyr. Nid oedd yn beth hollol ddieithr i'r Cyfundeb weld brodyr yn mynd,—fel y buasem ni yn dy- weyd,—o gorlan Ymneilltuaeth. i gorlan Eglwys Loegr. Hwyrach mai o Somin "S i gorlan fuasent hwy (yr Eglwyswyr) yn ei ddywevd.; Galwn ni hwy yn Eglwys, beth bynnag yw eu barn hwy am danom 1, ni. Ynddo ei hun nid oedd dim yn j feius yn hyn. Os bydd brawd yn credu yn onest mai Eglwys Loegr ymhob gwedd arni yw yr agosaf .i'w He, dylem gydnabod eu gonest rwydd, a datgan ein gofid, fel yi gwneir yng nghenadwri Liverpool, am eu bod yn ymadael. Ond os ystyriaethau eraill, sydd yn cyn. nwys adlewyrchiad ar Ymneilltu aeth mewn unrhyw le, ac ar y cyf ucideb yr oedd y brawd yn perthyn iddo, mae yr achos yn newid. Mae yn debyg mai un rheswm mawr dros yr anesmwythyd yma ydyw i amgylchiadau gwasgedig lliaws ein pregethwyr ienainc. Mae dyn yn cael ei wasgu, a daw i gredu yn ara deg nad oes dim yn anheilwng mewn symud fel yma. Rhaid i mi gofio yr amgylchiadau. Yr oedd efe yn siarad a gwr o amaethwr oedd yn y Gymdeithasfa, a dywed ai y gwr hwnnw ei fod, yn ihoi tair puntyr wythnos i was, ac yn faich o'i gael ar y cyflog hwnnw. Ydyw, y mae dyn yn cael tair punt yr wythnos am edrych ar ol dau geffyl, a dwy bunt yr wythnos am edrych ar ol eglwys o ddau gant o aelod- au. Dylai yr eglvin si edrych yn wyneb-y pethau hya. Y rheswm arall a roddir dros" y symudiadau hyn yw fod y rhwystr oedd ar y ffordd, yn codi 6 berthynas yr Eg- lwys a'r Wladwriaeth, wedi ei symud drwy Ddatgysylltiad a Dadwaddoltad. Mae ami i breg- ethwr a lleygwr yn teimlo fod y rheswm yna wedi ei symud. Mae graddau go helaeth o wir yn hyn. Mae Datgysylltiad a Dadwaddol iad erbyn hyn yn ddeddf. Ond un wedd ar y gwahaniaeth rhyngom a'r Eglwys ydyw Datgysylltiad a! Dadwaddohadl Y mae gwedd: arall, ac anodd deall sut y mae y brodyr sydd yn ein gadael i fynd i'ri Eglwys yn dyfod drosti. Nid ydynt1 yn myned ilr V-PIwvs am ei bod vn fwy ysbrydol; nid yw ei hymar v'eddiad yn wynnach Ond y mae;, yna ddau bwynt ag y mae cymaint o wahaniaeth rhwng yr Egiwys a'r Ymneilltuwyr yaddynt ag sydd gyda ehysyiltiad yrglwys a'r WladwriaethUrddau a Sacrc-tm" entau. Meddyliwch am eu barn am urddau. Maest yn credu fod rhyw-rin mewti. urddiad gan un dyn, a rhaid i'r brodyr sydd yn myned drosodd wadu gwirioneddolrwydd eu hordeiniad gennym ni. Rhaid iddynt gydnabod nad oedd yr or- deiniad fu yn Penmount, Pwllheli, pan oedd Dr. Owen Thomas, Dr. Saunders, neu Dr. Hughes ym cym ryd rhan ynddo yn ddim ond ffug, a bod mwy o rin mewn ordeiniad gan un dyn yn yr Eglwys Esgob- aethol., Nid peth difewys yw i ddyn ieuanc ddyweyd peth fel yna. Mae Eglwys Loegr yn cydnabod ordeiniad Eglwys Rhufain, a chredai fod yn anodd i Ymneilltu- wr fyned dros yr anhawster yna. Yr un fath gyda golwg ar y Sac- ramentau. Y farn uchel eglwysig sydd yn Eglwys Loegr, ac y mae y rhai hyn yn aros er fod yr Eglwys wedi ei datgysylltu. Osyw y dyn- ion ieuainc yn newid eu barn ar y pethau hyn,—yn credu mewn ail- enedigaejh, mewn bedydd, ac yn gwadu y pechod gwreiddiol a'r pethau yna, wel gadawer iddynt fynd. Dywedir fod rhai yn mynd er mwyn troi yn yr hyn a elwir yn gylch uchel, ac eraill er mwyn manteision bydol. Pe gwnelai ffermwyr hynny er mwyn cael ffermK-gelwid hwy yn ddisgyblion y torthati. Phaidirgweinidogion fod ar eu gocheliad onide fe ddy- wedir yr un peth am danynt hwy- thau. Credai nad oedd yr un dyn oedd yn Ymneilltuwr egwyddorol yn gallu mynd dros yr anha-v. sterau hyn. ¡

[No title]

[No title]

- - - - BWRDD Y GOL. 'I