Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
.ICONGL YR A WEN.
.I CONGL YR A WEN. COLLI TAD I Cyflwynedig i'm cyfaill, y Parch. Rich- ard Jones, B.A. (W.), Llundain, ar farwolaeth el annwyl dad, y diweddar Mr Griffith Jones, Frongaled, Traws- fynydd. Eneiniog Gristion annwyl-a hunodd, Dibenodd ei orchwyl; Diymhongar, gweithgar, gwyl Ddyn lesu gadwodd noswyl. Ef fu'n addurn defnyddiol-bywiog, hoff Ymhob cylch oedd lesol; Br is Ar, erys o'i ol Enw da y dyn duwfol. I'w enaid nid oedd swynion U nIle' n well na Gwinllan Ien A'i gryf gywiraf gariad At Iesu, fu wrth ei fodd Hyd wyn henoed enynnodd. Y eu ..1 Ddiacon," cywir—ei enw Yn Nhrawsfynydd goflr; Ei sedd yn wag sydd yn wir, Ar ei ol chwerw wylir. Ireiddiol oedd wrth roddi—yn araf Ei gynghorion difri; Yn fanwl iawn, cofiwn li Hydreiddiol ei daer weddi. y Ni ryda gweryd goron Yr hawddgar wr ddygai'r Ion Ymaith o boen maith y byd-at seint- iau I orwyoh wyliau yn ddifrycheulyd. Maentwrog. J. R. JONES (Gerallt). ER COF 1 I I Am rte. James Morris, Tudno Villa, Dolgellau, yr hwn a syrthiodd ym I Mrwydr Gaza, Mawrth 26ain, 1917. Y mae'r misoedd a'r blynyddau Yn cyflymu ar eu taitb, Ac yn gadael dwys atgofiori Wna ein gruddiau'n foddfa faith 0 ddu ryfel! cwympaist filoedd, Peraist ochain mawr a chlwy', A difrodaist o aelwydydd Hoff delynau nad y'nt mwy. Ein James Morris siriol gwympodd, Cyfaill tyner fel y wawr, A myn kiraeth du a'i fidog Glwyfo'n mynwes lawer awr, Per atgofion gwyd am dano, Ar lanerehau rodlem gynt, Nid oes ynddynt 'nawr ond gatar Salmau prudd yn swn y gwynt. Beddrod pell mewn gwlad estronol, Fu dy ran fy nghyfaill mad- Gwylied engyl dy orweddle- j Gwynu mae dy ber gofflaad Na ddoed troed yr anystyriol Fyth i fathru man dy fedd, Suo byddo'r awel dyner Eu hemynau mwyn mewn hedd. TRSBOR j (Ar ran dau o'i gyfeillion). U_J Lj I Er Serchog ac Annwyl Goffadwriaeth am ein hannwyl fab, Samuel Pritchard, yr hwn a syrthiodd ym Mrwydr Arras yn Ffrainc, Ebrill lleg, 1917. Mewn hiraeth dwys am dano yr ydym oil fel teulu. Ei dad a'i fam- HUGH A JANE PRITCHARD. 5, Railway Terrace, Conway. Pennillion Coffe. 0 ein hannwyl Sam dyneraf, Mae dy golli'n ingol loes Anodd iawn yw peidio grwgnach Heddyw, o dan bwysau'r groes. 'Rydym beunydd yn ein dagrau— Dagrau hiraeth, dagrau siom, Pan ym meddwl na chawn yma Mwyacfa weld dy wyneb lion. Nid oedd irhyfel yn dy galon, Ar dangnefedd oedd dy fryd, Dyna nodwedd dy gymeriad Tra buost yma yn y byd. Ond er cymaint oedd yr aberth Ufuddheist i gorn y gad," Cefnaist ar y rhai anwylit I roi'th fywyd dros dy wlad. Gwerthfawr odiaeth inni beddyw Yw dy betbau yma a thraw,- Prudd-der dwys orleinw'n mynwes Wrth weld sgrifen gwaitb dy law. Mao atgofion byw am danat Yn ymrithio goi- ein bron— Gweld dy ddarlun-cofio'th eiriau- 0 mor greslon ydyw'r don Llwyr ymroddiad oedd d'arwyddair, Ac er byred fu dy daith, Hynod brysur oedd dy gamrau- Gwnaethosfc ddiWrnod da o waith. Crwydro fyn ein meddwl pruddaidd Dros y don-i Ffrainc rhydd lam, I herio'th fedd a'th eiriau olaf Mi fyddwch chwi yn iawn fy Cefaist fedd ymhell o gartref Gyda llu o ddovvrion glan Ond 'rwyt heddyw uwch gofidiau, Wedi cyrraedd Gwlad y Gan." Cenaist, ceraist lawer emyn— Emyn oedd dy yrfa di- Cysur gawn o'th emyn olaf- Arglwydd cymer f'einioes i." Huna bellach Sam annwylaf, f Engyl Duw fo'n gwylio'th fedd, Plannu blodyn ar y llanerch Roddai inni falm a hedd. Credu 'rydym cawn dy gwmni Pan gyrhaeddwn Ganaan dir, Hyfryd iawn yw meddwl weithiau Cawn ail-gwrddyd cyn bo hir. CODWY. H. P., sof ei dad.
MARWOLAETH A CHLADDEDIGAETH…
MARWOLAETH A CHLADDEDIGAETH DEWI E. ROBINTS. Gorchwyl pruddaidd yw cofnodi marwolaeth fy nghyfaill ieuanc Dewi. Bu farw mewn canlyniad i ddamwain tra yn chwareu gerllaw i'r ty Mawrth 14eg, yn yr oedran tyner o ddeng mlwydd. Cyffrodd y ddamwain--yr ardal drwyddi, ond pan daeth y newydd o Yspyty Wrecsam am ei farw, cyffrowyd yr holl wlad., Wylai y plant yn yr ysgol pan glywsant eu bob wedi colli eu cyfaill bach oedd mor annwyl ganddynt, yn ogystal a chan bawb, a theimlir chwithdod mawr ar ei ol. Yroedd Dewi yn fachgen pert, llawn o fywyd a direidi di-ddrwg. Dygodd Mr W. E. Davies, ei Ysgol- feistr, dystiolaeth i'w ffyddlondeb a'i fedr yn yr ysgol; Llywydd yr Ysgol Sul, ei athraw, a'r rhai ofal- ent am y Gobeithlu i'w barod- rwydd i ddysgu a chynorthwyo yn ei fferdd ei hun er cario y cyfarfod- ydd ymlaen. Mae llawer yn caru son am yr adegau y byddai Dewi yn cellwair yn chwareus a hwynt, a llawer stori ddoniol adroddir am dano. Byddai yn gwylio y gardd- wr yn ami yn trin ei ardd, ac yn beirniadu ei waith, mor lym weith- iau iel y byddai y garddwi yn cael anhawster i wneud ei waith, ac er r mwyn. cael gwared o'r beirniad bychan cyflogai ef i'w helpu gyda'r gwaith, ac fe weithiau yn ddygn nes i'r nos ddod, pryd nis dichon neb weithio. Caiff llawer garddwr bellach drin ei ardd heb Dewi i feirniadu ei waith, ac mi gredaf y bydd ambell un yn dweyd yn ddis- taw fod yn hawddach gweithio yn swn beirniadu Dewi nac yn nis- tawrwydd ei absenoldeb. Chwith gennym feddwl na chawn edrych ar ei wyneb siriol mwy yrochr yina i'r bedd. Teimlwn golli bywyd, aspri, a llonder, mae'r ardal yn dlotach ond mae'r nefoedd yn gyf oethocach. Cydymdeimlwn yn fawr gyda'r tad—Thos. Ellis Roberts, Peny- bryn, a'r fam, a'r brodyr, dau o ba rhai sydd yn Ffrainc, a'r brawd arall, sef Aubrey, sydd yn awr yn y wlad hon, fu yn Ffrainc am lawer o fisoedd, wedi ei analluogi i ym ladd yn erbyn cig a gwaed, ond sydd gryf i ymladd brwydrau Crist a'i groes. Nawdd y nef fyddo drostynt. VDWio- Prydnawn Mawrth, lgfed, daeth tyrfa i dalu'r gymwynas olaf i'w waddillion ynghanol arwyddion o dristwch a galar cyffredinol. Cym- erwyd rhan wrth y ty gan y Parchn E. G. Turner, a H. Meirion Davies. Canwyd yn dyner a swynol gan blant yr ysgol. Wedi'r wasanaeth wrth y ty, ymffurfiwyd yn orym. daith—plant yr ysgol ar y blaeri, yna Gobeithlu Eglwys Penybryn, ac wedi hynny ei ddosparth yn yr Ysgol Sul, ac ar ol y corff dilynai y dyrfa fawr. Rhoddwyd ef i orffwys yng NgHaddfa Coedpoeth. Cym- erwyd rhan wrth y bedd gan y Parchn. R. G. Hughes, a Philip Price. Cafwyd gair ar lan y bedd gan Mr W. E, Davies, yr Ysgolfeistr, fel un a adwaenai Dewi oreu, ac wedi i blant yr ysgol ganu eil waith, gadawyd ef yno i huno mewn hedd, yn nhawelwch ei dy ola, hyd fore'r adferiad mawr. 0 Dewi, Dewi, blentyn mwyn, Un oedd mor gall, mawr ydyw'r gwyn, O'i ddodi ef oedd gynt mor iach I waelod bedd-anwylyd bach. I'w dad a'i fam O boed ei fedd Yn wych a hoff fel llanerch hedd I gofio am ein Dewi bach Sy' yn y nef yn rhosyn iach. E.G.T.
PENYBRYN, GWRECSAM. II
PENYBRYN, GWRECSAM. Marwolaeth a chladdedigaeth y brawd annwyl Edward Roberts.— Colled fawr i eglwys Penybryn ydoedd colli y brawd goleuedig a ffyddlon Edward Roberts, wedi cystudd byr. Yr oedd yn frawd eithriadol mewn mwy nag un ystyr. Yr oedd yn ddarllenwr mawr, treuliau oriau bob wythnos i bar- atoi ar gyfer yr Ysgol Sul, ym mha un yr oedd yn athraw ffyddlon, a llwyddiannus iawn, ychydig o athrawon sydd yn teimlo'r pwysig- rwydd fel efe o barotoi ar gyfer ei ddosparth, eto ni chredai mewn gweithio yn eu lie, ond paratoi ei hun er mwyn eu hysprydoli hwy i ymdrechu trostynt eu hunain, a llwyddodd i fesur helaeth iawn. Gwelid ffrwyth ei ddarllen hefyd yn y modd astud a llawen y gwrandawai yn yr odta. Chwith iawn i'r pregethwr fydd colli ei wyneb siriol a'i wrandawiad deall- gar. Magoild nifer o blant sydd yn ffyddlon gyda phob rhan o'r gwaith yn eglwys eu tad. Cydymdeimiir yn ddwfn a hwy, a gweddiwn lawer am i Dduw y tad barhau yn Dduw yr had. Claddwyd ei weddilllion ym mynwent y Plwyf. Gwasanaeth- wyd yn y capel gan y Parch E. G. Turner, ac yn y fynwent gan y Ficer. h E. G T.
PENM?CHNO. j PENMACBNO. I
PENM?CHNO. j PENMACBNO. I Rhyw ddyddiau tywyll a sain 1 wylofus gerdd y dyffryn y dyddiau j hyn. Yr ydym ni yn y Llan wedi colli yr ufudd a'r hawddgar David John Williams, Preswylfa. Bu nawn Sul y Pasg yri neilltuedig fel i fwrw blodau o goffa am dano. Siaradodd' Mr ] ohn :Williams, Commerce House, Mr D. W. Dav- ies, School House, a'r Parch Daniel j Williams, Aberffraw. Yp gwybod j fod eich gofod yn brin, ni flinaf a meithder. Cyfarfod a theimlad eithriadol o ddigalori, pawb yn wylo, achos yr oedd David John mor hoff gan bawb. Gellir yn fyr symio ei nodweddion i (1) Ffydd. Ion a gwasanaethgar. Pwy bynnag fyddai yn absennol, byddai D.J. yn bresennol, ac nid presenoldeb rodd- ai, ond cyfrannai wasanaeth mewn chwareu yr offeryn, rhoddi pennill allan, neu adrodd adnedau. (2) Ufudd dod i bob galwad. 'Doedd dim gwaith yn phy gyffredin yn ei olwg. Nid safie ond gwasanaeth oedd y prif gymhellydd yn ei holl fywyä-" Dewis yn hytrach gadw drws yn nhy Dduw." (3) Cyfadd asiad i bob symudiad. 'Rocdd ynddo rhyw ddyfnder o adnoddau. Dysgu plant, dysgu drama, a dweyd honno yn dda; gwerthu tocynau at de neu ddarlith ac yn awr gyfyng fel aelod o bwyllgor, yr oedd ganddo rbyw weledigaeth a phelydr o oleuni i rhywun arall lunio penderfyniad ohonno. Chwith iawn gennyf feddwl na chaf ei weled mwy yn y "bwthyn." Hiraethodd lawer am gartref "yng ngoleu'r lloer yn Fflanders draw. Ebe un tro wrthyf, Noson leuad, ychydig feddyliais pan y chwareu- wn yn dy oleu yn blentyn y buas- wn yn filwr yn Ffrainc." le, gyfaill hoff, ac yn cael, fel miloedd eraill, dy osod i orwedd mewn ty estronol i gysgu dy hun olaf. Geill y ceir cyfle eto i ysgrifennu rhagor am dano. Dymuna y teulu gydnabod pob cydymdeimlad a hwy yu eu prof. edigaeth. JW.
CWM PENMACHNO.
CWM PENMACHNO. Gofnodwn'am aelodau ffyddlon goll- wyd yaaa yn diti-wtdiar- Mawrth 13, bu farw Mrs Catherine Davies, Blaenycwm, yn 68 oed. Caf- odd ei tharaw gan Stroke, fel na bu fyw ond ychydig ddyddiau. Hanai o deulu Wesleaidd selog, hitbau felly ar hyd ei hoes. Yr oedd yn barod i wneud yr hyn allai, ac yn falch 0 gael cyflwyno ei rhodd at yr achos, ac yn gysOn yn y moddion bob amser byd y gallai. Gaf- odd ei rhan o brofedigaethau y byd. Y mae mab iddi yn byw eto yn y Deheudir a merehy m Mhenmachno. Mawrth 28, derbyciwyd y newydd trist, am farwolaoth Pte. Ellis,'Lewis yn Palestina, yn 33 oed. Brawd selog, defnyddiol, a galiuog, yn meddu doniau ac yn Hawn gwres, ae o fywyd buch eddol- Efe oedd Ysgrifennydd y Trust. AMfeceald amrai lytkyrau derbyniol o Palestina i yrnddangos yn y Gwylied- ydd Newydd. Mae iddo frawd-yng- nghyfraith yn y rhyfel, brawd arall a ch waer yn y Owm, a ehwaer yn Traws- fynydd. Pa le bynnag yr huna, gwylied engyl Duw ei lwch hyd yr adgyfodiad. Marwolaeth a chladdedigaeth Samuel Roberts (Glan Mstebno).—Gyda gofid y crybwyllwn am farwolsoth sydyn y brawd rhagorel ushei. Nid oedd yn dda er's amser, ar adegau, oherwydd peswch mawr. Yn y tapel nos Sul, i lyny i's gwaith bor.. Llun fel aaefer. Bu orfod iddoiiaii) dydd Morsher, a bu farw botoit Sadwre, Mavrtk SOain, yn 62 oed. Yr oedd o deulw crefyddol, dywedir mai dya da oedd ei dad, a gollodd ei fywyd ya. y obwarol, pan nad oedd Bamrel end hegya. Trwy hynny taflwyd y fam ragerol ar arfifn rhag luniaeih a'r bjd, ond ^faleddDuw am dami, a dygodd ei phlant i fyay YI1 ei ofn, felly y bwont ar hyd ei hoeet Coll- odd frawd oedd ienangaeh nag ef. Tyfodd Samuel ym fachgen ieuanc bucheddol a selog, yn ddarlleawr mawr fel y daeth yn alluog a gwybedus. Pan oddeutu ugain oed, dewilwyd, af yn flaenor, ac efe oedd yr hynaf yn y swyddogaeth yn y Cwm er's blyn- yddau. Cafodd ei gymell i bregethu, ond ar ol.bod wrthi am yehydig rhoddodd i fyny am na tbeimlai yn gymwys i'r gwaith pwysig hwnnw. Taiodd sylw mawr i farddoniaeth, felly defnyddiodd yr enw Glan Atachno. Enillodd ddwy gadair Eisteddfod Genedlaethol, a llawer o englynion a pbeniilion, a chytu ansoddodd emynau coffa am laweroedi. Yr oedd yn lienor da, ac yn ddirwest- wr pur, ac ni wnaeth ddim erioed gyda myglys a diodydd meddwol. Yn weith- iwr diwyd a thawel, a pbawb yn hoff o Glan," fel ei gelwid. Treyliodd oes wastad a bucheddol, a bu farw fel y bu fyw. Gadawodd briod a dwy ferch ar ei ol. Claddwyd- ef dan y drefn newydd. Darllenwyd a gweddiwyd yn y ty gan y Parch Daniel Williams. Cynhaliwyd gwasanaeth yn y capel yn y llan gan y Parch Owen Evans a Daniel Williams. Wedi hynny cludwyd ei weddillion i'r gwely pridd, pryd y gwasanaethwyd drachefn gan y ddau weinidog a enwyd. Cafodd gladdedigaeth barchus a lluosog. DIOLCH. Dymuna Mr Edward Lewis (brawd y diweddar Ellis Lewis) a'i chwaer gyd- nabod yn ddiolchgar y Uythyrau lawen a dderbyniasent yuglyn a marwolaeth eu hannwyl frawd. Mae cynnwys y y llythyrau wedi bod o gymorth mawr iddynt ymostwng yn dawel odan alluog law Duw, yn eu profedigaeth lem. At ddiddanwch Duw, yn nesaf, yw eiddo ei bobl. Dros y teulu, 1 O. Evans.