Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
jbW YD Y BOBL,
jbW YD Y BOBL, Ateb Cwestijnsii Pw. ysig, I A oes rhyw gyfnewidiad yn Rheolau'r Bwyd ?-Oes, amryw. Ymwnant yn bennaf a phlant o dan ddeg oed; a bechgyn rhwng tair ar ddeg a deunaw oed a defn- yddio coupons y cardiau cig; a'r modd i brynu cig moch; ac a gwerthu blawd. Beth am y Plant?—Teimla Arglwydd Rhondda ei bod yn bwysig iawn fod y plant, yn anad neb, yn gael digon o fwyd maeth lawn. Dyna paham y rhoddodd, dro yn ol, awdurdod i rieni i hawlio cael llefrith i blant o dan bum mlwydd ced o flaen pawb arall. Am yr un rheswm mae yn awr yn rhoi hawl i bob plentyn uwchlaw chwech miwydd oed, i gael yr un ration o gig ag a ganiateir i rai mewn oed. I rai uwchlaw deg oed yn unig y caniateid hyn gynt, ond o hyn allan estynnir y fraint i blant ocddent yn chwech oed dydd Gwyl Dewi Sant. Beth am y bechryyn ?-Tybia Arglwydd Rhondda fod bechgyn pan yn tyfu i fynny, yn gofyn gael mwy o faeth nag a gaent o dan reol y lowans cig hyd yma. Felly mae yn trefnu yn awr i ganiatau lowans chwanegol o bob cigfwyd (oddigerth cig ffres) i fechgyn rhwng tair ar ddeg a deunaw oed. Bydd y lowans chwanegol hwn yn gyfartal i un coupon ychwanegol ar y cerdyn cig. Hynny yw, yn lie pedwar lowansyr wythnos, ca.y bechgyn hyn bump ration o gig- fwyd bob wythnos. Pa le, a pha fodd y ceir y lowans chwanegol ?—-Drwy wneud cais ya Swyddfa'r Pwyllgor Bwyd ymhob ardal. Rhaid myned a cherdyn cig plentyn rhwng chwech a deg oed il,- Swyddfa, a newidir ef a:m gerdyn fo'n rhoi hawl i ration llawn, yn lie hanner ration. Rhaid gwneud cais am cerdyn cig ych- wanegol i fechgyn rhwng 13 a 18 oed. Ceir cerdyn yne rhoi hawl cyfartal i un coupon ychwanegol. Pa bryd y gellir hawlio hyn ?— Gellir gwneud y cais unrhyw amser ar ol EbriU 14fed. Daw hawl y plant o 6 i 10 oed mewn grym yn ddioed, hynny yw, cant y ration 11awn ar ol Ebrill 14fed, Am y bechgyn o II illg oed, daw y lowans ychwanegol iddyntkwy ar, ac ar ol, Mai 5ed. A geir pob math o gig drwy'r coupoiif, newydd ?—Ceir i blant rhwng i a 16 oed. Ond am y bechgyn rhwng 13 a IS oed ni ellir cael cig ffres a'r coupon newydd ceir un lowans yr wythnos o gig moch, neu ffowl, neu wnhingen, neu'r cyffelyb, yn fwy nag, or blaen. Pa sawl coupon a ellir ei ddefn- yddio at gael cig fire. ?—Mae ped- war.coupon am bob wythnos i bob person ar bob cerdyn cig. Hyd Mai 5ed gellir defnyddio tri o'r coupons hynny i gael cig ffres. Ar ol Mai 5ed ni ellir defnyddio ond dau o'r pedwar at y pwrpas bydd y ddau arall at brynu cig moch, sausages, ffowl, cwnhingen, neu iinrhyw gigfwyd a fynoch (heb law cig eidion, cig dafad, a pore; ni ellir cael y rhai hyn). A raid cofestru am gig moch ?— Rhaid, dewisied pob un y shop lie y dymuna gael ei gig moch. Oof- restied ei hun yn y shop honno fel cwsmer cig moch. Ar ol Mai 5ed ni eill efe gael cig moch ond yn unig yn y shop lie bo efe wedi cofrestru fel cwsmer. A oes raid cofrestru am flawd ?-- Rhaid i'r shopwr, ond ni raid i'r cwsmer. Dylai pop -shopwr fo'n gwerthu, neu am werthu blawd, wneud cais at y PwyllgorBwyd am leisens-cyn Mai laL Ar ol Mai llfed ni cha werthu blawd o un rhyw fath os na bydd ganddo leis ens gofynnol. Ni chostia'r leisens ddim iddo.
LLYTHYRAU Y MZLWYR.
LLYTHYRAU Y MZLWYR. Pte. Llew. Chambers, 60890, (Att.) Office of D.A.G 3rd Echelon General Head Quarters, Mes. Ex. Force, 2il Chwefror, 1918 Annwyl Mr Jones, Mae'n amser maith er pan y ceis iais ysgrifennu gair at y- Gwylied- ydd," ond gallaf eich sicrhau mae nid diffyg gwerthfawrogiad o'ch papur sy'n achosi yr oediad. Mae yna lawer iawn o Gymry yn y rhanbarth yma o Mesopotamia, ac yn eu plith, ychydig o Wesleaid, ac 'ryda ni yn edrych ymlaen at gael y G.N." o wythnos i wythnos. Fel mae'n hysbys i lawer o'ch darllenwyr, mae gennym Gaplan Cymraeg yma, sef y Parch W. G. Hughes, ond mae'n ofidus gennym feddwl fod ei arhosiad yn ein plith yn brysur dyfod i'w therfyn. Oher- wydd amgylchiadau neilltuol y mae Mr Hughes yn bwriadu hwylio am yr Hen Wlad yn ystod y dydd iau nesaf. Cefais y fraint o fod yn bresennol yn ei oedfa Gymreig gyntaf yn Mesopotamia, ac nid fuan yr ang- hofiaf fy nheimladau wrth wrand- aw ar bregeth yn yr hen iaith un waith eto. Mae'n wir mae ychydig oedd yn bresennol yn yr oedfa gyn- taf, ond mae'n dda gennym allu dweyd fod yr achos'' Cymreig wedi cynhyddu yn rhagorol o dan weinidogaeth Mr Hughes. Y illae" yr un mor boblogaidd gyda'r Saeson a chyda'r Cymry, ac mae'n debyg mae'r prif reswm am ei boblogrwyddj y w, ei fod mor "di- lol," os caniatewch y dywediad. 'Rydym bob amser yn cael croesaw cynnes ganddo a phawb yn teimlo yn rhydd i fyned at y Caplan gyda'u helyntion. Nos Iau diweddaf, lonawr 31ain, cynhaliwyd Cyfarfod Ymadawol (a phob item" yn Gymraeg) o dan lywyddiaeth Gunner William, B.A. (Bangor). Adroddwyd gan Pte. Davies, Colwyn Bay, a chaf- wyd caneuon gan L/Cpl. Llew. Jones (Llysfaen),JPte. John Morris (Nantlle), a Gunner Davies (Lloc). Darllenodd L/Cpl. P. Ellis (Old- ham), lytkyr a dderbyniwyd oddi- wrth Pte. Sam Williams (Maen twrogi gynt o Coleg y Bala), yr hwn oedd yn analluog i fod yn bresennol yn y cyfarfod o h.r-r'ydd: afiechyd. Hefyd, siaradwyd gan Sergeant Richards (Caernarfon;, a Pte. J. Morris (Arweiaydd y Gan). Yn ystod y cyfarfod cyflwyawyd anrheg i'r Caplan ar rhan bechgyn Cymreig, fel prawf fechan o'r lie cynnes oedd Mr Hughes wedi canill yn ein serchiadau. Cydnab yddodd Mr Hughes yr anrheg a dywedodd mor hapus yr oedd ef wedi bod yn ein plith, ae mor ddrwg oedd ganddo orfod ein gadael. Terfynwyd cyfarfod hynod o Iwyddiannus trwy gyd.ganu Hen Wlad fy Nhadau." Wel, dyna ddigon am y gorffen nol. Beth am y dyfodol ? Deallaf mae Caplan Seisnig sydd yn dyfod yma fel olynydd i Mr Hughes. I Felly, os ydi'r achos Oymreig i I barhau bydd yn rhaid gwneud trefniadau newydd. Mae Pte. Sam I Williams (Maentwrog), yn garedig I wedi addaw gwneud ei oreu i ofalu am y Gwasanaeth Cymreig, ac mae'n ofynol arnom ninnau, y gweddill o'r Cymry, i. roi pob cynhorthwy iddo yn ei ymdrechion. Mae'r oedfaon Cymreig wedi profi'n fendith i lawer yn y gorffen- nol, ac nid oes rheswm paham na. ddylent barhau felly yn y dyfoddl. Mae'n debyg y gwel y Parch W. G. Hughes lawer o'ch darllenwyr cyn i chwi dderbyn hyn o lith, a cewch ganddo ef yr oil o'r manyl- ion am y rhan yma o'r byd. Felly nid oes angen i mi ymhelaethu. Mae'r Cymry yn y fan hon yn dal yn galonnog, 'rydym oil o'r un farn," nad oes yr un man yn debyg i gartref," ac edrychwn ymlaen at yr amser pan y fydd heddwch yn teyrnasu, a'r beehgyn sydd ar hyn o bryd wedi eu gwasgaru ar hyd a lied y byd yn troi eu hwynebau i gyfeiriad Hen wlad fy nhadau." Gyda cofion goreu atoch chwi a'r teulu, Yr eiddoch, yn bur, LLEW. CHAMBERS. I
APELIADAU AC HYSBYSIAUAU IESLMIDD.
APELIADAU AC HYSBYSIAUAU IESLMIDD. Mines Llafur T&leithiol. I Ar ol helbul lied fawr, a phryder nid bvchan, llwyddwyd i ddwyn y Maes Lla-fur Taleithiol allan yn weddol brydlon. Ofnid unwaith na cheid swm digonol o bapyr ar gyfer yr esboniadau, ond goresgyn wyd yr anhawster -ond nid heb draul chwanegol. Sut bynnag, mae esboniad diddorol y Parch E. D. Thomas ar Heb xi. o dan y tei tl o "Wroniaidy Ffydd yn barod, a chredwn y ceir esboniad y Parch Tecwyn Evans, B.A., allan ar fyr- der. Drwg gennym orfod codi'r prisiau, ond y mae hyn yn anochel. adwy. Ceir dwsin o Wroniaid y Ffydd," 6ch. yr un, am 4/6, a'r Maes Llafur am 6/- y cant. Dwsin o'r I esboniad ar 1 Corinthiaid, 2/6 yr un, am 27/- y dwsin. Oni fyddai'n bosibl i wahanol ysgolion y cylch deithiau uno a'i gilydd i anfon un Order dros y gylchdaith ? Petai modd anfon un parsel i centre neili- tuol ymhob cylchdaith arbedai hynny lawer o draul. Cyst 100 o Faes Llafur 5c. crwy'r pGst, ond gellid datifon nifer sylweddol o Faes Llafur ac esboniadau gyda'r tren ar lawer llai o gost. Gob- eithio y cymer y cylchdeithiau'r awgrym. Gallai Ysgrifennydd Undeb Ysgolion y gwahanol gylch- deithiau weithrcdu i bwrpas o dan y cynllun hwn. Hyderwn y cawn gydweithrediad ein pobl gyda'r Maes Llafur eleni. Mae'r draul yn enbyd a llawer o risk ynglyn ag argraffu a rhwymo y dyddiau 1 yn. Ni raid dweyd fod esboniad y 1. larch Teewyn Evans ar 1 Corinthiaid cystal, os nad gwell, na dim ddaeth o'i ddwylo erioed. Gan hyderu ar eich cefnogaeth frwdfrydig, yn enwedig yn yr ar- gyfwng presennol, y gorffwys eich wfudd was, O. MADOC ROBIRTS. O.Y.—Mae llawer o holi am lyfrau emynau 1/6 cofier mai 2j- y w y rhataf yn awr. Carrcg ar Fedd y Parch. R. I Roberts (Robertm). Yng Nghyfarfod Chwarter Cylch- daith, Treorci, gynhali wyd nos Sadwrn, Mawrth 30, yn Ton Pentre, pasiwyd i symud i roddi carreg ar fedd Robertus. Y mae i Robertus lu o gyfeillion yng Nghylchdaith Treorci; Teithiodd yma dri thymor ac yma yn Ystrad Rhondda y bu farw, ac yma y gorwedd yr hyn syddfarwol o honno ym mynwent Treorci Felly, naturiol ddigon oedd i Gylchdaith Treorci gyrneryd y mater i fyny. Nid oes angen dweyd wrth ddarllenwyr y Gwyl- iedydd Newydd pwy oedd Robert- us. Ysgrifennodd lawer i'r Hen Wyliedydd o dan y penawd "Trem o'r Twr." Teithiodd lawer yng Nghylchdeithiau y De; yma y g;vasanaethodd ei dymor, er mai Gogleddwr oedd o Bentre Helyg- ain, Sir Fflint. Os teimla rywrai awydd i uno gyda Chylchdaith Treorci i ddangos ychydig o barch i Robertus, bydd y rhai sydd a'u henwau isod yn falch o dderbyn unrhyw rodd, boed fawr, boed fach, a chydnabyddir y cyfryw yn y ffordd arferbl. Ysgrifennydd, Mr Richard Hughes, 44, Ely Street, Tonypandy Trysorydd, y Parch. E. D. Thomas, 14, Glyncoli Road, Treorci.
Advertising
Llyfrau Ail Law. BARGEINION. Rhodder" A" ar yr arnlen oddi- allan, a chyfeirier yr Archebion i— Rheolwr, "Y Gwyliedydd Newydd," Flint Mountain, Flint. A cawn ni det«aSI y Nib! ? Gan y Parch Rhondda Williams wedi ei gyfiei thu gan y Parch. Ivan T. Davies, Llanerfel. Cyn. hwysa chwech o benodau 'byw 'iawn, yngoleu beirniadaeth a diwinyddiaeth ddiweddar ar Dduw, Rhagluniaeth, Bywyd Dyfodol, y Diafol, Gwerth y Beibl. Trwy'r Post 10 ceiniog, Sannau Ffydd Neu brif bwyntiau Cristionog- aeth yng ngoleuni Efengyl loan, gan Dr. H. Cernyw Williams. Cynhwysa benodau dyddorol ar Ffaith yr Ymgnawdoliad, Ar- wyddocad yr Ymgnawdoliad, Moeseg yr Efengyl, Cymeriadau yr Efengyl, &c. Cystal a new- I ydd. Trwy'r post, 1/6. Ri-,iytdid yr Ewyllys Traethawd ar Rhyddid yr Ew- yllys gan y diweddar Owen Williams, Carnarfon. Trwy'r Post, 10 ceiniog. Mewn rhwym- iad da. Gn&etieið a Agncstieiftsih Cyfrol wir alluog o Bregethau gan Dr George Salmon. Mae yn y gyfrol 18 o bregethau gwir uchraddol. Cystal 'a newydd. Pris cyhoeddedig 5/6; trwy'r Post 3/3. Ohrát and the Times Cyfrol o Bregethau gan yr Arch- ddiacon Sinclair. Pris cyhoedd- edig 3/6; trwy'r Fost 2/ Cys. tal a newydd. Yr Hen a'r Newydd mewn Diw- inyddiaeth Gan y Parch D. Adams, B.A., Lerpwl. Cynhwysa benodau galluog a dyddorol ar faterion fel Preswyliad Duw yn y Cread Pechod yng ngoleuni Mewnfod- aeth Duw Athrawiaeth yr Ym- waghad; Teyrnas Dduw; Yr lawn; Yr Atgyfodiad. Cystal a newydd. Trwy'r Post, 1/10. Y sy"ed a««i Nuw Darlith Davies gan y diweddar Barch Griffith Ellis, M.A., Bootle. Y mae hon yn ymdriniaeth feis- trolgar ar yr Athrawiaeth Grist- ionogol am Dduw yng ngoleu gwyddor, philosophi, a diwin- yddiaeth. Cystal a newydd. Trwy'r Post, 2/2. Bdifeirweh Darlith Davies gan y Parch W. Morris Lewis, Tyllwyd. Edrychir ar agweddau gwahanol y Gras. Cystal a newydd. Trwy'r Post, 1/10. Yr YmeMkdiatiau ar y Beibl yn cael eu Beirniadu Gan y diweddar Dr. Spinther James. Tra yn cydnabod gwerth uchel beirniadaeth oleuedig a theg, y mae Dr. Sphinther James yn y gyfrol hon yn amddiffyn y Gair rhag yr holl ymosodiadau eithafol. Newydd. Trwy'r Post 1/2. Aspiration and Achievement Cyfrol fechan o draethodau byr- rion, byw, ac awgrymiadol iawn gan Fredrick Atkins, cychwyn- ydd a chyn olygydd yr Young Man." Dyma rai o'r testunau What is it makes a man." Superfluous Young Men. The Pious Prodigal. "What is your Ideal." Playing the Fool."