Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Advertising

HODIADAU WITHNOSOL.

[No title]

News
Cite
Share

V Llywodraeth ag Aafoesoldeb. Y mae'n debyg y myn y Llywod raeth ystaenio baner Prydain trwy gefnogi, yn swyddogol, anfoesol- deb. Gorchfygwyd hi yn llwyr gyda'i hymdrech warthus yn Ffrainc, ond wedi ei churo yno bwriada gario y maen halog i'r mur mewn ffordd arall: o dan glog Deddf Diffyniant y Deyrnas," gorchymynir fod unrhyw ferch a fo'n .dioddef oddiwrth y clefyd ffiaidd a gyfyd o anlladrwydd ac anniweirdeb, ac a esyd ei hun yn ffordd unrhyw filwr gydag amcan anfoesol yn agored i'w chymeryd i'r ddalfa a'i harchwilio gan fedd yg. Da gennym weled fod y wlad yn deffro eto, ac y gorfodir y Llyw- odraeth, sydd mor gyndyn a gwrth- nysig ar bynciau moesol, i gilio'n ol drachefn., Nid ywhyn ond ym drech i adsefydlu y Contagious Diseases Act," ag y mynnodd sel Ian Mrs Josephine Butler, ag eraill, eu dadwneud flynyddoedd lawer yn ol. Ceisiodd y Llywodraeth ad- sefydlu y deddfau yma ychydig amser yn ol, ond aeth cydwybod y wlad yn drech na hi. Ceisir carlo y pwynt annuwiol yn awr yng nghanol cythrwfl rhyfel. Paham na cheir yr un safon i'r dyn ac i'r ferch ? Os yw yn ddrwg i ferch andwyo milwr, tybed yn enw Duw a dynoiiaeth, nad yw hi yr un mor ddrwg i adyn o filwr andwyo merch ? Fel y dywed un gohebydd Cymreig Bydd llawer gwraig a merch rinweddol yn agored i ddod dan gwmwl du drwgdybiaeth, ac i fynd o dan oruchwyliaeth warad wyddus, er iddi fod cyn laned a'r haul. Fel y dengys dwy foneddiges fcnwog, mewn llythyr yny wasg, yr hyn a hawlia y Llywodraeth yw glendid a gofal i ddynion, ac aed y merched lie mynnont. Tybiasom fod cyfrifoldeb y Llywodraeth hon ynglyn a diota yn llawn digon tramgwyddus heb iddi ycnwanegu y gwarthrudd hwn eto. Araith y Count Czernin. Dydd Mawrth diweddaf, yng Nghyngor tref Venice, pan y mae rhu ofnadwy y magnelau yn fwy marwol nag y buont erioed, tradd- ododd y Cangheilor Awstriaidd- Count Czernin-araith wir bwysig ynglyn a heddwch. Fel arfer y mae araith y Canghellor yn gymedrol, ac wedi ei chyfeirio mewn rhan at Brydain a Ffrainc, ac mewn rhan at yr America. Credwnei fod yn glir bellach fod Awstria wedi blino ar.-y rhyfel, ac yn awyddus i ddod allan ohonno credwn hefyd ei bod, 1 fesur tra helaeth, yn fodlon talu y pris er mwyn dod allan. Ar fwy nag un achlysur, trwy y Count Czernin, y mae Awstria wedi ceisio agor ffordd o ymwared. Tybed nad un o gamgymeriadau mwyaf difrifol y Cyngrheiriaid oedd eu hanallu, neu eu hamharodrwydd i weled unrhyw wahaniaeth" cyd- rhwng araith Czernin a Hertling. Yr oedd y datganiad ar ol Cynhad- ledd Versailles yn cau y drws yn wyneb y naill araith fel y llall, heb yr ymgais leiaf i wahaniaethu cyd- rhyngddynt. Yn ei araith dydd Mawrth dywed y Count Czernin am ymdrech arall i geisio dod yn nes, a hynny ar drothwy y laddfa fawr yr ym yn awr yn ei channol.. 1 Fel yr ymdrechion eraill bu hon. eto yn aflwyddiannus. — It; ♦ mi. V

[No title]

LLANGOLLEN.