Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

-Y BLEIDLAIS MEWYDD.

News
Cite
Share

Y BLEIDLAIS MEWYDD. SUT I'W CHAEL. Y mae pob dyn i gael pleidlais Seneddol wedi cyrraedd un ar hug- ain oed, ond bydd gan y dyn sydd gy fyddin, y Ilynges, y Groes, Goch, &c., bleidlais pan gyrhaeddo ei 19 oed. Y cymhwyster i bieidlais, ar wahan i oed ydyw fod y dyn wedi byw yn yr etholaeth am chwe' mis. Os na bydd ond lletywr ac yn gyfrannog ag eraill mewn un ystaf- ell, bydd ganddo bieidlais. Ni chyll ei bieidlais trwy symud o'r naill dy i'r Hall yn yr un etholaeth, nae wrth symud i etholaeth arall a fo'n cyd. daro ar yr etholaeth lle'r oedd ganddo bleidlais o'r blaen. Er engraifft, dyweder fod gan ddyn yn Sir Gaernarfon bleidlais. Gall symud i Fon, Meirion, Dinbych;neu i Fwrdeisdrefi Arfon heb ei cholli, ond bydd yn rhaid iddo ei rhoddi yn yr etholaeth lie bo'n byw ar y pryd. Nid yw cael cymorth plwyfol yn difreinio dyn. DWY BLEIDLAIS. I Bydd gan y sawl a fo'n dal tir, siop, swyddfa, neu ryw adeiiad busnes arall, gwerth 10p. yn y Iwyddyn bleidlais ychwanegol os bydd ef yn byw mewn etholaeth arall. Os bydd dau ddyn yn dal y tir neu'r adeiiad gall y ddau gael pleidlais o'i herwydd os bydd yn werth [20 yn y flwyddyn, ac felly gydag unrhyw nifer o bartneriaid os bydd gwerth yr eiddo yn [10 y flwyddyn ar gyfer pob un. PLEIDLEISIWR ABSENNOL. I Y mae galwedigaethau rhai pobl yn eu gorfodi i fod oddicartre. Yn y dosbarth yma y mae llongwyr, gweision y ffyrdd haiarn, a theith- wyr masna chol. Dan yr hen drefn, osna bydd y rhai hyn gartref ar ddiwrnod etholiad. collent eu cyfle i bleidleisio i gyfarfod hyn, darp- perir rhestr o Bleidleiswyr Absen nol, a dylai pob dyn sydd yn debyg o fod oddicartref adeg etholiad hawlio cael ei enw ar y rhestr hon. Caiff bob gwybodaeth yn Swydd- fa'r Cofrestrydd. Pan gynhelir etholiad, anfonir papur balot i bob un ar y rhestr hon, a dylid marcio'r papur a'i ddychwelyd trwy'r post i'r Swydd- og Etholiadol. PLEIDLAIS Y BRIFYSGOL. I Bydd gan bob dyn wedi cyrraedd un ar hugain oed ac wedi graddio mewn prifysgol, bleidlais yn y brif ysgol honno. Ond, os bydd ganddo yn ychwanegol at ei bleidlais Brif- ysgol, bleidlais hefyd am y lie y mae'p byw ynddo (ei dy neu ei ystafell), ac ei le busnes (tir.swyda- fa, siop, &c.), ni chaniateir iddo roddi tair pleidlais mewn etholiad cyffredinol. Rhydd un bleidlais ar gyfrif ei dy, a rhaid iddo ddewis ptrun o'r ddwy arall i'w rhoddi. Ni chaniateir iddo bleidleisio fwy na dwy waith. PLEIDLAIS Y MERCHED. I Rhydd y ddeddf newydd bleid lais i ferched. Y mae pob merch, priod neu ddibriod, i gael pleidlais os bydd yn ddeg ar hugain oed, yn denant ty, neu ystafelloedd heb eu dodref- nu (nid yw wahaniaeth am eu gwerth) neu yn dal tir, siop, &c., o werth £ 5 yn y flwyddyn. Bydd gan ferch os yn denant ty, neu ystafelloedd, &c., bleidlais mewn etholiadau byrddau a chyng- horau Ileol pan yn 21 oed. Bydd gan bob gwraig briod wedi cyrraedd ei deg ar hugain oed bleidlais Seneddol a Ileol os bydd ei phriod yn etholwr. Bydd ganddi bleidlais Seneddol mewn Prifysgol hefyd os bydd yn raddedig ac yn ddeg ar hugain oed. Os na bydd yn raddedig, am nad oedd y Brifysgol ar y pryd yn rhoddi graddau i ferched, bydd ganddi bleid'a?? ns bydd wedi pasio'r arholiadau, Pan fo gan ferch un bleid!ais Seneddol am fod gan ei phriod un, ac un arall yn rliinwedd lie busnes a ddelir ganddi hi ei hun, ni chan- iateir iddi bleidleisio fwy nag unwaith mewn Etholiad Cyffred. inol. Ni chaiff roddi ail bleidlais ond pan fo ganddi bleidlais mewn Prifysgol. PLEIDLAIS Y MILWYR. Pan gyrraeddont 19 oed, gosodir sen henwau ar yr ethol-restr heb iddynt hwy wneud unrhyw gais am hynny. Bydd gan unrhyw un a fo wedi gadael y fyddin neu'r llynges hawl i gael ei enw ar yr ethol-restr cyn gynted ag y bo wedi byw am fis I mewn un lie. Er mwyn galluogi'r dosbarth yma i bleidleisio, gosodir eu hen- .wau ar restr yr etholwyr absennol, y cyfeiriwyd ati uchod, ond tra y bo ar y rhestr honno nid all bleid- leisio trwy fyned i'r bwth ei hun. Ond gall ddigwydd ei fod mor bell oddicartref, neu yn debyg o fyned rnor bell, fel nad ellir anfon papur pleidleisio iddo mewn pryd iddo ei ddychwelyd erbyn yr ethol- iad. Mewn achos fell} gall benodi rhywun i bleidleisio yn ei le, a gall wneud hynny ar ffurflen a roddir iddo gan ei swyddog, neu iddo ef neu i rywun ar ei ran, gan swydd. og y Cofrestru. Wedi penodi un yn ei le (etholwr arall yn yr un etholaeth, ei dad, ei fam, ei wraig, ei frawd, neu ei chwaer) nid all ef ei hun bleidleisio wedyn hyd yn oed pe b'ai adref ar y pryd heb iddo yn gyntaf ddidd- ymu'r awdurdod i'r Hall.. Dylai pob morwr a milwr sydd ar ymadael i wlad bell, sicrhau ei bleidlais trwy benodi rhywun i bleidleisio drosto. Cosbir y sawl benodir felly os pleidleisia ag yntau yn gwybod fod yr etholwr naill ai wedi marw neu wedi diddymu ei awdurdod. CYFFREDINOL. t Gosodir y cyfrifoldeb o ofalu fod pob mab a merch sydd ganddo 11 hawl i bleidleisio yn cael ei enw ar y rhestr ar Swyddog yr Ethol- restr. Ond dylai pawb y mae ganddo hawl i ofalu drosto ei hun.

BYD CREFYDDOL. t

Advertising