Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

TIPYN 0 BOPETH. I

Advertising

JERUSALEM, -WRECSAM. I

FFLINT. I

News
Cite
Share

FFLINT. I Nos Fercher, Mawrth 13eg, cynhal- iwyd cyngerdd mawreddog ym Mheniel gan blant y Gobeithlu. Daeth tyrfa iiosog ynghyd—y capel eang yn rhwyad lawn,-a'u tystiolaeth unol yn fawr ac yn fan oedd iddynt fwynhau eu hunain yn rhagorol. Yn sicr cafwyd eyfarfod penigamp. Yn y rhan gyntaf, canwyd âe adroddwyd a chafwyd action songs a chaneuon desgrifio gan niter o'r plant. Yn yr ail ran, perfformiwyd Operatta,' Cwmni dydd penblwdd," a bu yn llwyddiant perffaith. Swynwyd y gyn- ulleidfa fawr gan naturioldeb pwyslais, llais, ac ystum rhai o'r plant. Para- towyd hwy gan Miss Louie Lloyd, a diolchwyd iddi yn gynnes am ei Ilafur diflin a'i gwaith godidog. Cynorthwy- wyd hi i ofalu am y plant a gwerthu tocynau, &c gan nifer o chwiorydd ieuanc ffyddion eraill yr eglwys. Cyn- ygiwyd dioleb iddynt gan y Parch E. Bowen, a chefnogwyd gan Mr David Jones. Yn absenoldeb y Cadeirydd, Dr. J. H Williams, U H., arweiniwyd gan y Parch E. Ilowen. Cyn y diwedd, cyrhaeddodd y meddyg hybarch, a cbafwyd arait ■; a rhodd ganddo. Diolch- wyd yn gynnes iddo yntau.

PENYGROES A'R CYLCH. I

Advertising

Y Rhjffel o Ddydd i Ddydd.