Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
TIPYN 0 BOPETH. I
TIPYN 0 BOPETH. I Tywyllu yn enbyd y mae hi ynglyn a phapur. Y mae y new- yddiaduron y wlad oil bron yn codi eu pris eilwaith. Dyma fel y dywed perchenogion y Faner :— Yr ym dan orfod codi pris y Faner i ddwy geiniog y copi—trwy'r post, 2jc. Y rheswm yw. fod y Llywod- raeth yn gosod cyfyngiadau ar y cyfleriwad o bapur trwy y deyrnas, a hynny oblegid yr anhawsder i gael defnyddiau at wneud papur o wledydd tramor. Mae y Swydd. fa hon wedi ei chwtogi i hanner y cyflenwad blaenorol o bapur, tra y mae ei bris wedi myned i fyny dros/ chwe' gwaith mwy yr hyn oedd cyn y rhyfel; ac nid yw yn debyg ei fod eto wedi cyrraedd ei eithafnod. Nid yw y cam hwn o eiddo perchenogion y Faner ond yr hyn sydd wedi ei wneud, oherwydd yr un rhesymau, gan liaws o gy- hoeddwyr newyddiadurol eraill. Lleiheir maintioli y papyrau, a chynhyddir eu prisiau. Y mae yna deimlad cryf iawn wedi codi yn Canada yn erbyn y teitlau a'r urddau a wasgerir yn y Drefedigaeth, a rhoddir sylw man- wl i'r mater yn y Senedd yn fuan. Os gwaherddir hwy gan y Senedd, eithaf peth i'r rhai a'u carant fydd- ai dod drosodd i'r wlad hon. Y maeyma Lywodraeth sy'n medru eu creu a'u gwasgaru fel cawodau o beiswyn. Parheir, meddir, i fyned ymlaen gyda'r cynllun i sefydlu Swyddfa Iechyd. Yn sicr, dyma'r peth pwysicaf heddyw yng ngwleidiad- adaeth gartrefol Prydain. Nid pwnc y gellir ei ohirio hyd ddi- wedd y rhyfel mohono yn hytrach dylem frysio i'w setlo cyn delo heddwch, a gosod y peirianwaith i fyny erbyn y daw'r becbgyn adref o faes y tan. Mr W. J. Davies, Capel Betliania, Pentre, Fflinfc, a eiallodd fathodyn aur, a gwobr o bunt, mi gredaf, Arholiad Cyngor Dirwestol y Gogledd eieni. Dywedir fod cwmni newydd ei greu at weithio tair o chwarelau segur Arfon. Ni wn y manylion, ond gwn y bydd llu mawr o hqgiau'r glolyn ail anadlu awyr rydd mynydd a mor wrth glywed hyn o cbwedl felys. At dalu cyflogau ein seneddwyr a'n swyddogion gwleidyddol y^ flwyddyn nesaf, geilw y Cyfrifgyngor am £ 1,000, Ueihad o £ 3,495. Ty y Cyffredin, £ 279, 898, lleihad o £ 1,896 Swyddogion Ty yr Arglwyddi, £ 44,567, cynydd o £ 2,418. Daw cyflogaif Aelodau Seneddol i £ 211, 500. >*• Ar gyfer Gwasanaeth Ddirgelaidd (Secret Service) gelwir am £ 500,000 ar gyfer y flwyddyn 1918 19. Deallwn fod Mr Llewelyn Williams yn ffafrio symud i sicrhau Swyddfa i Gymru megis ag sydd gan yr Alban. Cred ef y byddai hynny yn gam tuagat hwyluso Ymreolaeth. Ni wrthodai Mr E. T. John na Major David Davies mo'u cefnogaeth i'r cais hwn, ond credant hwy y gellir cael rhagor. Hysbysir fod y Gynhadledd Wyddelig wedi dylod i benderfyniad ar bob pwynt, ac fod y cadeirydd—Syr Horace Plunkett-i dynnu allan adroddiad i'w gyflwyno i'r Gynhadledd dydd lau, Ebrill 4ydd.
Advertising
BWftDD Y GOL. ALLAN o DDIFFYG GOFOD.-Tany. fron, Cenhadaeth Lancashire, Rhosddu, Ystumtuen, Shiloh.
JERUSALEM, -WRECSAM. I
JERUSALEM, WRECSAM. I Nos Fercher, Mawrth 20, cynhaliwyd cyngherdd blynyddol y Gobeitblu, o dan lywyddiaeth y Parch Charles Jones, a chafwyd lie Ilawn a chyngherdd liwyddiannus. Dyma y rhaglen Unawd ar y berdoneg, Miss Enid Williams Adroddiadau gan Katie Griffiths, Dilys Jones, Walter W. Williams, Herbert Jones, Lizzie Parry, Emlyn Williams, Katharine Williams, Glyn Jones, Mena Williams, Dorris Jones, Dilys M. Jones, Willie Edwards, M. LI Williams, Joseph Parry, Gwyneth Edwards, Gilbert Edwards, a Maggie Jones Unawdau gan Gladys Simon, May Williams, Emlyn Williams, a Phyllis Jones; Deuawd gan Myfanwy ac Olwen Williams, ac amrai ddarnau gan y Cor, o dan arweiniad Miss H. E. Williams. Y P x. yllgor eleni ydoedd-Mr Edward Hughes, a Misses H. E. Williams, Annie Jones, Sallie Anderson, Kitty Williams. Gwnaethant waith rhagorol gyda'r plant ar hyd y tymor. GOH. I
FFLINT. I
FFLINT. I Nos Fercher, Mawrth 13eg, cynhal- iwyd cyngerdd mawreddog ym Mheniel gan blant y Gobeithlu. Daeth tyrfa iiosog ynghyd—y capel eang yn rhwyad lawn,-a'u tystiolaeth unol yn fawr ac yn fan oedd iddynt fwynhau eu hunain yn rhagorol. Yn sicr cafwyd eyfarfod penigamp. Yn y rhan gyntaf, canwyd âe adroddwyd a chafwyd action songs a chaneuon desgrifio gan niter o'r plant. Yn yr ail ran, perfformiwyd Operatta,' Cwmni dydd penblwdd," a bu yn llwyddiant perffaith. Swynwyd y gyn- ulleidfa fawr gan naturioldeb pwyslais, llais, ac ystum rhai o'r plant. Para- towyd hwy gan Miss Louie Lloyd, a diolchwyd iddi yn gynnes am ei Ilafur diflin a'i gwaith godidog. Cynorthwy- wyd hi i ofalu am y plant a gwerthu tocynau, &c gan nifer o chwiorydd ieuanc ffyddion eraill yr eglwys. Cyn- ygiwyd dioleb iddynt gan y Parch E. Bowen, a chefnogwyd gan Mr David Jones. Yn absenoldeb y Cadeirydd, Dr. J. H Williams, U H., arweiniwyd gan y Parch E. Ilowen. Cyn y diwedd, cyrhaeddodd y meddyg hybarch, a cbafwyd arait ■; a rhodd ganddo. Diolch- wyd yn gynnes iddo yntau.
PENYGROES A'R CYLCH. I
PENYGROES A'R CYLCH. I Diolchwn i Gyngrhair Eglwysi I Rhyddion yr ardal am drefnu cynhad ledd i drafod ynghylch yr Ysgol Sul. I Bu hyn y Sadwrn diweddaf. Cafwyd I dau gyfarfod yn Soar, y Parch 1. H. Williams yn llywyddu yn y prydnawn. Traethwyd fel y canlyn,—" Hanes yr i Ysgol Sul," Mr W. Elias Williams, I Prudential; I. Achosion y dirywiad yn yr Ysgol," Mr T. W. Williams, I Gwynfa; I. Moddion i wella a diwygio yr Ysgol," Mr J. B Davies, Ysgol y Cyngor, Llanllyfni. Yn yr hwyr cym- erwyd y gadair gan y Parch W. Elias Williams. Cafwyd anerehiaiau fal y canlyn, Yr Ysgol Sul a'r cartref," Mr R. T. Roberts (swyddog presenoldeb) a'r Parch G. 0. Roberts (Morfin); Yr Ysgol Sul a'r eglwys," y Parch R. Edwards. Calwyd cyfarfodydd rhagor- ol. Talwyd y diolcbiadau gan Mr D. R. 0. Prytherch, M A., a W. Parry, Ysgol y Cyngor. Swynwyd y gynulleidfa yn fawr gan waith nifer o enethod ieuanc o. Llanllyfni yn canu, o dan arweiniad Miss Barlow Pritchard, A.T.C.L.
Advertising
BUSINESS TO BE SOLD. NEVIN, NORTH WALES DISPENSING CHEMIST, FAMILY, PHOTOGRAPHIC, &c. Takings £ 500. (might be doubled by pushing). Corner Shop & House, 3 Bedrooms, 3 Living Rooms, 2 Large Cellars, 2 Attics, 2 Lofts, & Small Handy Yard. Seaside Resort, most bracing beautiful country 7 miles from" Railway Station (Pwllheli), Regular Motor Bus Convey- ance, etc., from Station. Apply to-W. G. WILLIAMS, A The Pharmacy, PORT DINORWIC. Llyfrau Ail Law. BARGEINION. Rhodder A ar yr amlen oddi- allan, a chyfeirier yr Archebion i— Rheolwr, "Y Gwyliedydd Newydd," Flint Mountain, Flint. A gawn ni ddeall y Beibi ? Gan y Parch Rhondda Williams wedi ei gyfieithu gan y Parch. Ivan T. Davies, Llanerfel. Cyn- hwysa chwech o benodau byw iawn, yngoleu beirniadaeth a diwinyddiaeth ddiweddar ar Dduw, Rhagluniaeth, Bywyd Dyfodol, y Diafol, Gwerth y Beibl. Trwy'r Post 10 ceiniog. Bannau Ffydd Neu brif bwyntiau Cristionog- aeth yng ngoleuni Efengyl loan, gan Dr. H. Cernvw Williams. Cynh-wysa benodau dyddorol ar Ffaith' yr Ymgnawdoliad, Ar- wyddocad yr Ymgnawdoliad, Moeseg yr Efengyl, Cymeriadau yr Efengyl, &c. Cystal a new- ydd. Trwy'r post, 1/6. Rhyddid yr Ewyllys Traethawd ar Rhyddid yr Ew- yllys gan y diweddar Owen Williams, Carnarfon. Trwy'r Post, 10 ceiniog. Mewn rhwym- iad da. Gnostlciaeih a Agnosticiaeth. Cyfrol wir alluog o Bregethau gan Dr George Salmon. Mae yn y gyfrol 18 o bregethail gwir uchraddol. Cystal a newydd. Pris cyhoeddedig 5/6; trwy'r Post 3/3. Christ and the Times Cyfrol o Bregethau gan yr Arch- ddiacon Sinclair. Pris cyhoedd- edig 3/6 trwy'r Post 2/ Cys- tal a newydd. Yr Hen a'r Newydd mewn Diw- inyddiaeth Gan y Parch D. Adams, B.A., > Lerpwl. Cynhwysa benodau galluog a dyddorol ar faterion fel Preswyliad Duw yn y Cread Pechod yng ngoleuni Mewnfod- aeth Duw Athrawiaeth yr Ym- waghad; Teyrnas Dduw; Yr lawn; Yr Atgyfodiad. Cystal a newydd. Trwy'r Post, 1/10. Y Syched am Dduw Darlith Davies gan y diweddar Barch Griffith Ellis, M.A., Bootle. Y mae hon yn ymdriniaeth feis- trolgar ar yr Athrawiaeth Grist- ionogol am Dduw yng ngoleu gwyddor, philosophi, a diwin- yddiaeth. Cystal a newydd. Trwy'r Post, 2/2. Edifeirwch Darlith Davies gan y Parch W. Morris Lewis, Tyllwyd. Edrychir ar agweddau gwahanol y Gras. Cystal a newydd. Trwy'r Post, 1/10. Yr Ymosodiadau ar y Bsibi yn cael eu Beirniadu Gan y diweddar Dr. Spinther James. Tra yn cydnabod gwerth uchel beirniadaeth oleuedig a theg, y mae Dr. Sphinther James yn y gyfrol hon yn amddiffyn y Gair rhag yr holl ymosodiadau eithafol. Newvdd. Trwy'r Post 1/2. Aspiration and Achievement Cyfrol fechan o draethodau byr- rion, byw, ac awgrymiadol iawn gan Fredrick Atkins, cychwyn- ydd a chyn olygydd yr Young Man." Dyma rai o'r testunau What is it makes a man." SJperfluous Young Men. The Pious Prodigal." "What is your Ideal." Playing the Fool."
Y Rhjffel o Ddydd i Ddydd.
ymlaen yn ddi baid i'r de o'r Somme, lley mae'r Germaniaid wedi ymdrechu'n oler i dorri cysylltiad y byddineedd Cyngrlie'riol. Y mae'r Prydeiniaid, y Ffrancod a'r Americaniaid yn ymladd yn galed, ac wedi gwrthsefyll yn ddewr yr ymosodiadau parhaus e eiddo adranau newydd y Germaniaid, a gwnaetharfc wrth-ymosodiadau. Y mae'r gelyn wddi ennill ychydig yn rhagor o dir, yn •cynnwys Roye a Noyon, ond y mae wedi costio'n ddrud iddynt, ond y mae'r Cyngrbeiriaid yn parhau yr un mor gadarn ag erioed. Y mae'r ymladd ar y ff rynt Brydeinig iIr gogledd o'r Somme wedi marweiddio gryn dipyn, felly, nid oedd ond man ysgarmesoedd lleol ddoe. Y mae eiu milwyr wedi sefydlu eu hunain mewn safleoedd newyddion ar hen linell 1916. Y mae trydedd ran y byddinoedd Germanaidd ar y ffrynt orllewinol wedi bod yn ymladd. Dyw- edir fod adgyrnerthion Prydeinig a Ffrengig yn parhau i ddod i'r lliuell. Hawlir yn yr adroddiadau German- aidd fod eu byddinoedd wedi croesi'r Ancre a'r Somme wedi trechu byddin oedd cryfiop, ac we i meddiannu canol- fannau pwysig. Dywedir fod yr ysbail yn cynnwys 963 o ynnau, a thros 100 o dancs, ond ni chyfeirirat nifer y carch- arorion. Dydd lau Y mae'r sefyllfa ar y ffryntorllewinol yn fwy sefydlog. Parha ymladd ffyrnig ar hyd y ffrynt, ond ychydig o gynnydd a wnaeth y gelyn, ac y mae safle yr ochrau gwrthgyferbyniol ychydig yn well nag oedd y dydd blaenorol. Y mae ein mil wyr wedi ymladd yn ddewr yn erbyn rhif Iluosooach. Y mae'rj brwydran wedi bod yn ffyrnig iawn i'r de o'r Somme, lie nad yw'r Germaniaid hyd yn hyn wedi rhoddi fyny'r gobaith o dorri adwy rhwng y llinellau Prydeinig a Ffrengig. Y mae eu hymdrechion mwyaf wedi cyahyddu'n raddol. Dilynyd gan ymosodiadau parhaus nos a dydd. Defnyddiwyd adran o'r Guards gan y gelyn ymhlith byddinoedd mawr cryfion yn ymyl Bucquay. Llwyddasant i roddi eu troedi lawr yn Ablaizville, ond yrobobmtlwn y maa'r.doll ar fywydau wedi bod yn drwm. Ildiodd y llineil mewn rhai lleoedd, ymosodiadau. Rhwng yr Ancre a'r Somme gwnaeth y Germaniaid ymosodiadau o'r newydd ar ol ychydig seibiant wedi cyrraedd i Albert. Llwyddasant i symud ymlaen i'r gogledd a'r de o'r dref, ond curwyd hwy'n ol yn ddilynol i'w manau cych- wynol. Curwyd yn ol eu hymdrech i symud ymlaen o Albert. I'r gorllewin o Roye bu'r Ffrallcod mewn brwydrau celyd, a gorfodwyd hwy i aberthu ychydig dir, ond y maent yn ymladd gyda dewrder anarferol, ac adgyfet thion yn eu cyrraedd. Dywedir yn swyddogol o Moscow fod Odessa wedi ei gymed o ddwylo Ger- maniaid gan gyd-fyddinoedd y Bolsheviks a'r Ukraine, ar ol brwydro ffyrnig pryd y cs merodd y Lynges Rwsiaidd <fn y Mor Du ran. Y mae milwyr Soviet hefyd yn hawlio eu bod wedi llwyddo mewn lleoedd ereill yn yr Ukraine. Dywedir fod Hindenburg wedi llacio yn ei ymdrechion yno mewn trofn i gael milwyr yn y gorllewin. Y mae Llynges Rwsia wedi bombardio porth- ladd Suklium Kale, i'r gogledd o Batum, yn y Caucasus, yr hwn Ie yn ol pob golwg sydd yn moddiant y Tyrciaid. Dydd Sadwrn Aeth diwrnod 'arall o'r frwydr fawr heibio heb ddwyn y Germaniaid ddim ymhellach ymlaen ar eu hynt. Y mae yn wir fod ein llineil ni i'r de o'r Somme ychydig yn fwy gorilewinol na'r dydd blaenorol, ond y mae hyn yn llai o fantais i'r gelyn nag o gynorthwy i ni, yn gymaint ag fod ein safle yn awr yn linell mwy unionsyth a'r Ffrancod ar ein de. I bob amcan.a phwrpas y mae ffrynt yr ymladd fel ag y mae wedi bod am y tri a'r pedwar diwrnod diweldaf, canys os ydyw y gelyn ychydig gan- oadd o lafcheni yn nes i Amiens mewn un man, y maenfe wedi colli tir ir gogledd o'r Somme, wedi metbu a gwneud cynnydd yn Arras nag Albert, ac ar y ffrynt Ffrengig wedi ceisio'n ffyrnig, ond yn ofer, adenill y pentref- ydd a gollwyd ganddynt ddeuddydd yn Ol. Hawlia'r Germaniaid fod yr ysbail a. ddaeth i'w meddiant er dechreu y frwydr yn cynnwys 70,000 o garcharor- ion. a 1|100 o ynnau. Llwyddodd yr ehedwyr Prydeinig i ollwng dwy dunnell ar hugain o bombs a thaniasant 100,000 o rounds o'r gwn- beiiiannau ar fyddinoedd y gelyn.