Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

TIPYN 0 BOPETH. I

Advertising

JERUSALEM, -WRECSAM. I

FFLINT. I

PENYGROES A'R CYLCH. I

Advertising

Y Rhjffel o Ddydd i Ddydd.

News
Cite
Share

ymlaen yn ddi baid i'r de o'r Somme, lley mae'r Germaniaid wedi ymdrechu'n oler i dorri cysylltiad y byddineedd Cyngrlie'riol. Y mae'r Prydeiniaid, y Ffrancod a'r Americaniaid yn ymladd yn galed, ac wedi gwrthsefyll yn ddewr yr ymosodiadau parhaus e eiddo adranau newydd y Germaniaid, a gwnaetharfc wrth-ymosodiadau. Y mae'r gelyn wddi ennill ychydig yn rhagor o dir, yn •cynnwys Roye a Noyon, ond y mae wedi costio'n ddrud iddynt, ond y mae'r Cyngrbeiriaid yn parhau yr un mor gadarn ag erioed. Y mae'r ymladd ar y ff rynt Brydeinig iIr gogledd o'r Somme wedi marweiddio gryn dipyn, felly, nid oedd ond man ysgarmesoedd lleol ddoe. Y mae eiu milwyr wedi sefydlu eu hunain mewn safleoedd newyddion ar hen linell 1916. Y mae trydedd ran y byddinoedd Germanaidd ar y ffrynt orllewinol wedi bod yn ymladd. Dyw- edir fod adgyrnerthion Prydeinig a Ffrengig yn parhau i ddod i'r lliuell. Hawlir yn yr adroddiadau German- aidd fod eu byddinoedd wedi croesi'r Ancre a'r Somme wedi trechu byddin oedd cryfiop, ac we i meddiannu canol- fannau pwysig. Dywedir fod yr ysbail yn cynnwys 963 o ynnau, a thros 100 o dancs, ond ni chyfeirirat nifer y carch- arorion. Dydd lau Y mae'r sefyllfa ar y ffryntorllewinol yn fwy sefydlog. Parha ymladd ffyrnig ar hyd y ffrynt, ond ychydig o gynnydd a wnaeth y gelyn, ac y mae safle yr ochrau gwrthgyferbyniol ychydig yn well nag oedd y dydd blaenorol. Y mae ein mil wyr wedi ymladd yn ddewr yn erbyn rhif Iluosooach. Y mae'rj brwydran wedi bod yn ffyrnig iawn i'r de o'r Somme, lie nad yw'r Germaniaid hyd yn hyn wedi rhoddi fyny'r gobaith o dorri adwy rhwng y llinellau Prydeinig a Ffrengig. Y mae eu hymdrechion mwyaf wedi cyahyddu'n raddol. Dilynyd gan ymosodiadau parhaus nos a dydd. Defnyddiwyd adran o'r Guards gan y gelyn ymhlith byddinoedd mawr cryfion yn ymyl Bucquay. Llwyddasant i roddi eu troedi lawr yn Ablaizville, ond yrobobmtlwn y maa'r.doll ar fywydau wedi bod yn drwm. Ildiodd y llineil mewn rhai lleoedd, ymosodiadau. Rhwng yr Ancre a'r Somme gwnaeth y Germaniaid ymosodiadau o'r newydd ar ol ychydig seibiant wedi cyrraedd i Albert. Llwyddasant i symud ymlaen i'r gogledd a'r de o'r dref, ond curwyd hwy'n ol yn ddilynol i'w manau cych- wynol. Curwyd yn ol eu hymdrech i symud ymlaen o Albert. I'r gorllewin o Roye bu'r Ffrallcod mewn brwydrau celyd, a gorfodwyd hwy i aberthu ychydig dir, ond y maent yn ymladd gyda dewrder anarferol, ac adgyfet thion yn eu cyrraedd. Dywedir yn swyddogol o Moscow fod Odessa wedi ei gymed o ddwylo Ger- maniaid gan gyd-fyddinoedd y Bolsheviks a'r Ukraine, ar ol brwydro ffyrnig pryd y cs merodd y Lynges Rwsiaidd <fn y Mor Du ran. Y mae milwyr Soviet hefyd yn hawlio eu bod wedi llwyddo mewn lleoedd ereill yn yr Ukraine. Dywedir fod Hindenburg wedi llacio yn ei ymdrechion yno mewn trofn i gael milwyr yn y gorllewin. Y mae Llynges Rwsia wedi bombardio porth- ladd Suklium Kale, i'r gogledd o Batum, yn y Caucasus, yr hwn Ie yn ol pob golwg sydd yn moddiant y Tyrciaid. Dydd Sadwrn Aeth diwrnod 'arall o'r frwydr fawr heibio heb ddwyn y Germaniaid ddim ymhellach ymlaen ar eu hynt. Y mae yn wir fod ein llineil ni i'r de o'r Somme ychydig yn fwy gorilewinol na'r dydd blaenorol, ond y mae hyn yn llai o fantais i'r gelyn nag o gynorthwy i ni, yn gymaint ag fod ein safle yn awr yn linell mwy unionsyth a'r Ffrancod ar ein de. I bob amcan.a phwrpas y mae ffrynt yr ymladd fel ag y mae wedi bod am y tri a'r pedwar diwrnod diweldaf, canys os ydyw y gelyn ychydig gan- oadd o lafcheni yn nes i Amiens mewn un man, y maenfe wedi colli tir ir gogledd o'r Somme, wedi metbu a gwneud cynnydd yn Arras nag Albert, ac ar y ffrynt Ffrengig wedi ceisio'n ffyrnig, ond yn ofer, adenill y pentref- ydd a gollwyd ganddynt ddeuddydd yn Ol. Hawlia'r Germaniaid fod yr ysbail a. ddaeth i'w meddiant er dechreu y frwydr yn cynnwys 70,000 o garcharor- ion. a 1|100 o ynnau. Llwyddodd yr ehedwyr Prydeinig i ollwng dwy dunnell ar hugain o bombs a thaniasant 100,000 o rounds o'r gwn- beiiiannau ar fyddinoedd y gelyn.