Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
[No title]
Wyliedydd Newydd, aros ar y mur, Ac edrych allan am yr iawn a'rpur, Gwas'naetha grefydd,—seinia ar ein clyw Os gelyn feiddia gyffwrdd Ddinas Duw. RALFARDD. I
PHSLISTIAETH Y COLEGAU.
PHSLISTIAETH Y COLEGAU. Un o'r pethau mwyaf iach a glywodd Cymru er ys talm oedd anerchiad Mr E. T. John, AS., o Gadair Adran Morgannwg o Un- deb Cenedlaethol y Cymdeilhasau Cymreig. Mae Mr John, fel pob Cymro fedr farnu yr ysprydion, wedi hen flino ar Philistiaeth y dysgawdwyr hynny yn ein colegau a fynnant bob amser fychanu pop- eth Cymreig-iaith, hanes, lien, oyhead, a chenedlaetholdeb y Cymro. Gan gymeryd fel ei destun anerchiad ymadawol y Prifathraw Griffiths, o Goleg y Prifysgoh Caerdydd, dy wedodd Mr John:- "Mae rhai o addenadau y Prif- athraw Giitilths yn llawn addysg. Mewn yspryd edifeiriol—edifeir weh gwely angeu ysywaeth—cyd nabyddai y dylid cefnogi yr hyn sydd nodweddiadol mewn cenedl because it was hopeless to expect success by their suppression." Dyna ddechreuad doethineb— cithr gwers nad yw Lioegr eto wedi ei meistroli, nac yn yr Iwer ddon, nac yng Nghymru. Cyfadd efai ymhellach y dylai'r Cymro ieuanc gario ei Gymreigrwydd gydag ef i bob rhysy orchwyl. Dy wedai hefyd ei fod yn barnu oddi- wrth yr hyna glywai y ceir mewn Efrydiau Celtaidd gytleusterau i ymchwil a chyflawniad," opportun- ities for research and achieve- ments. Ni bu o bosibl erioed addefiad mor boenus o ddifrifol --gwr o Gymro ar ol llanw amtlynyddoedd lawer y swydd o Brifathraw Coleg o ran rifedi ei fyfyrwyr y pwysicaf yng Nghymru, yn gorfod dweyd ei fod yn gwbl ddibynnol ar eraill am y syniad lleiaf o weith a phwys Efrydiau Cymreig a Cheltaidd. Yn mha wlad ond Cymru y gellir dychmygu y cyfryw ddatganiad. Mae Gwyddonwyr Lloegr yn am) mewn gwrthryfel yn erbyn Lladin .a Groeg-ond ni chlywyd am un yn dweyd ei fod "yn deall oddi- wrth eraill fod astudiaeth o len yddiaeth Seisnig yn rhoddi cyfleus- lerau i ymchwil a chyflawniad." Rhaid addef fod yn anodd dar- ganfod yngwaith y Prifathraw yng Nghaerdydd rhyw arwyddion am Jwg o gefnogaeth pers-onol brwd- frydig i ddim sydd yn nodweddiadol Gymreig-ofnaf mai i eraill y rhaid diolch am yr hyn a wnaethpwyd yn wyneb anhawstersu fyrdd, Cyferbynier a hyn waith Anthony Bacon, y Sais ddatblygodd fasnach haearn Merthyr, yr hwn a ddysgodd ddarllen a siarad Cymraeg ac a fu yn gefnogydd da i lenyddiaeth ein gwlad; a gwaith y foneddiges Seisnig, Charlotte Guest, yn cyf ie.thu'r Mabinogion cyferbynier hyn, meddaf, a Philistiaeth dien waededig y Doethawr Cymreig o Gaerdydd! Mae y Prifathraw mewn dirfawr bryder rhag i Brifysgol Cymru ddeddfu fod gwybodaeth o iaith a llenyddiaeth Cymru i fod yn y dyfodol i fod yn elfen anhepcor yn ei chyfuhdrefn a'i graddau. Gwel amgenach ddoethineb mewn gwneuthur Lladin a Dynamics yn orfodol, gan adael y Gymraeg i rynu yn oerfel y cynteddau allanol. Cymharer eto anwybodaeth add efedig y Prif -it,iraw o Lenyddiaeth y Celt a thystiolaeth enwogion dysg a lien cenhedloedd eraill. Er engraifft- Dywed yr ysgolor Ellmynaidd, Albert Schubz, fod traddodiad Cymru mal rhyw goeden anferth, canghennau yr hon am ddeg canrif a ymledent dros holl Ewrop." Dywed yr enwog Renan fod i'r Celt Lenyddiaeth, yr hon yn y canoloesoedd a gariodd ddylanwad enfawr, a drodd rediad gwareidd- iad Ewrop, ac a arosododd ei hysg- og gwleidyddol ar ymron yr oil o'r Byd Cristionogol'' Dywed Henry Nurley Onibae iddi ddod i gysylltiad mynych ac amrywiol a'r Celtiaid, ni fuasai Lioegr Germanaidd erioed wedi cynhychu yr un Shakespeare" Y m- hyfryda mewn olrhain yr unrhyw ddylanwad Celtaidd yng ngwaith Milton, Byron, Keats, a Word sworth. Gwel hyd yn oed yng nghenedl y Saeson sylfaen Gelt; aidd fawr er yn aneglur, gyda gor- uwchadeiladaeth fawr Deutonaidd amlwg." Da fyddai gan y Sais heddyw gredu hyn, ac ymfalchio ganwaith mwy yn y sylfaen Gym reig na'r adeilad Teutonaidd Yn wir heb wybodaeth o Hanes a Llenyddiaeth y Cymry ni ellir ffurfio syniad cywir am hanes dat- blygiad Lloegr ei hun,- heb son am y Cymry. Yn wir priodolir hynny o wareiddiad sydd gan y Germaniaid heddyw i ddylanwad y Celt. Yn ei gyfrol ddyfnddysg, Frontiers of Language and Nat- ionality in Europe," dywed yr Am- ericanwr Leon Donvinian Nid dylanwad gwareiddiol diwylliant Celtaidd diweddar yn unig yw. Trwy ddod i gysylltiad a'r Celt yn oesoedd bore eu hanes y daeth y Teutoniaid yn wareiddiedig." Gelynion y Gymraeg ydyw'r gwyr sydd yn analluog i gredu y gall dim da ddyfod o Nazareth llenyddiaeth Gymreig a Cheltaidd, y bob! ddywedant mai angen rnwyaf y Cymro ydyw angherfio ei Gymreigdod, a throi yn Sais. Nid ydwyf yn synnu o gwbl fod awyda angherddol ymhlithy Cym- ry am sicrhau Prifathraw i Goleg Caerdydd fydd mewn cydymdeim lad byw, dwfn, gwirioneddol a hanes, traddodiadau, a delfrydau y genedl Gymreig, gwr fydd yn gallu sylweddoli ein bod yn genedl hir- faith ei hanes, erioed yn ddiysgog gadarn, a goleuni ei hathrylith ddihefelydd yn lleufer llachar i'r cenhedloedd drwy'r oesau, gwr all amgyffred amhrisiadwy, fraint ar- weinyddiaeth medd > liolac addysg ol cenedl,-braint a ddylai fod o fewn cyrraedd Prifathraw Coleg y dref sydd yn chwennych caelei hystyried yn brifddinas Cymru, gwr o gyffelyb yspryd i Thomas Charles Edwards a Vinamu Jones. Ni raid inni ymddiheuro heddyw am ein cred yn egwyddor cenedl. Er moi gaddugawl rhagolygon Ewrop, cydnabydir nad oes obaith am heddwch parhaol ond ar safle anriibyniaeth achydraddoldeb cen- hedloedd mawr a man. Nid ydyw dymchweliad gallu Rwsia yn un golled i ddynoliaeth ond yn unig i'r graddau y mae yn adgyfnerthiad i awdurdod yr Almaen-ae yn hyn o gysylltiad nid yw y diwedd eto. Er fod cadfridogion yn methu, a gwladweinw) r yn ymddyrysu, y mae gwerin y gwledydd yn ym- symud. Canfyddant mai brodyr o'r un bru" ydynt, er cymaint gwahaniaeth lleferydd ac anian- awd, canfyddant hefyd lawn egJur- ed fod rhyddid hunan ddatblygiad cenedlaethol cyflawn yn amod an- hepcor heddwch a chydweithred- iad y gwledydd.
[No title]
Mewn cyfarfodo'r aelodau Cym. reig, cynliygiodd Major David Davies fod yr holl o'r aelodau Cymreig i bleidleisio fel y byddo'r mwyafrif yn penderfynu. Tri a bleidiodd ei gynhygiad, y Milwriad ei hun, Mri E. T. John a J. H. Edwards. Mewn canlyniad dyw- ed Major David Davies ei fod wedi darfod é 'f blaid Gymreig, ac nad yw yn myned i wastraffu mwy o amser gyda hi. Cafodd 11 mlynedd o brofiad, a gwyr sut y mae pethau y tu mewn i'r Blaid.
Advertising
APELIADAU AC HYSBYSIAUAU ¡ WELEAIDD. Gair at Arolygwyr y Dalaith Gyntaf. Schedules y Capeli. Dymunaf eich atgofio eleni eto fod o'r pwys mwyaf, i chwi anfon Schedules y Trust UMr W. Jones, 73, St. Domingo Vale, Liverpool, mor fuan ag mae yn bosibl ar ol y Cyfarfod Chwarter nesaf. Er i Mr Jones gael y Schedules yn brydlon I golyga iddo lafur mawr i barotoi y I Schedule Daleithiol erbyn y Synod. I Yr holl Schedules eraill i'w han- J fon i mi, yn brydlon eto, os gwel- wch yn dda.. Yr Eiddoch yn bur, Llys Meddyg, T. O. JONES. Denbigh. Y Dalaith Ddeheuol. Tystysgrifau y Maes Liafiir. Annwyl Syr, Diolchaf am ychydig o'ch gofod i hysbysu Arolygwyr Cylchdeithiau y Dalaith Ddeheuol fod yn ofynol i'w harchebion am Dystysgrifau y Maes Llafu ddod i'm 11 aw o hyn i Ebrill 9fed. Nid argreffir ond y nifer a archebir erbyn y dyddiad uchod. Yr Eiddosh, &c, Bryndwr, WM. T. ELLIS. Llanidloes. Maes Llafur 1918. Cyfarfu Pwyllgor y Llyfrfa ddydd Mercher, Mawrth 28ain, a chadarnhawyd y penderfyniadau a ganlyn 1. Fod Dosbarth IV. i lafurio yn 1 Corinthiaid pen. i. i'r vii. Mae esbiad rhagorol y Parch D. Tec., wyn Evans, B.A., yn ymyi bod yn barod. Pris y gyfrol fydd 2/6 nett. ond gwerthir dwsin ac uchod am jlaen dal i Ysgolion Sabothol am 2/3 yr un. Casgler enwau ar un- waith. It Fod Dosbarth II. a III. i laf urio ar lyfr gwych y Parch. E. D. Thomas ar Wroniaid y Frydd." seiliedig ar Hebreaid xi. ben. Bydd y llyfr yn barod ar fyrder. Pris 6ch. Dwsin ac uchod i Ysgolion Sabothol am flaen-dal am 4/0 y dwsin III Gofyniadau ar y Maes Llaf- ur. Disgwylir y bydd y Gofyniad- au yn barod ddechreu Ebrill. Pris Ie. yr un; 100 am 6/- 50 am 3/6. RICHARD LLOYD TONES, Cadeirydd. R. "MON HUGHES, Ysgri fenny dd.
MARWOLAETH MR. GRIFFITHI JONES,…
MARWOLAETH MR. GRIFFITH I JONES, TRAWSFYNVDD, Boreu Sadwrri di tveddaf, Mawrth 30ain, bu farw Mr Griffith Jones, Frongaled, Tra", sfynyddtad y Parch. Richard Jones, B.A., Llun- dain. Cleddir ei weddillion dydd Mercher, y 3ydd o Ebrill, yp cych wyn oddi wrth y ty am 2 ojr gloch,
Advertising
IN EVER LOVING MEMORY of my dear husband, Capt. Richard Cad walader Jones, Who lost his life through his ship I being torpedoed April 3, 1917. A loving husband, true and kind, A beautiful memery left behind. Arfryn, The Green, Criccieth. 1
[No title]
Wrth siarad ar y Mesur Addysg yn Nhy y Cyffredin, dywedodd Mr Herbert Lewis, fod y Mesur yn sicrhau y daw 50 y cant o gostau addysg o'r Trysor;' lys. Bydd Cymru felly yn cael rhagor o P,850,000 at addysg elfennol, a £ 265.000 yn rhagor at addysg uwch- raddol.
Y Rhjffel o Ddydd i Ddydd.
Y Rhjffel o Ddydd i Ddydd. Dydd Llun, Mawrth 25. Parha y frwydr fawr yn y Gorllewin i fyned ymlaen gyda ffyrnigrwydd. I'r deheu o Peronne llwyddodd y Germaniaid i groesi'r afon Somme mewn rhai mannau. I'r gogledd o Peronne y mae y bydd- inoedd Prydeinig wedi cilio yn ol bêll- ter o tua phymtbeng milltir. Y mae ein byddinoedd mewn meddiant o'r Uinell sydd yn ymestyn o'r afon Somme i Peronne. Mewn un lie bu brwydr neilltuol o ffyrnig, a chafodd y German- iaid eu euro yn ol mewn cynifer a chwech o ymosodiadau. Hawlia y Germaniaid iddynt feddian-. nu Peronne a Ham, a'u bod wedi cym- eryd deng mil ar hugaia o garcharorion, a chwe chant o ynnau. Dywed adroddiadau y gwahanol ohebwyr fod byddinoedd cryfion a lliosog yn cael ei tafia ymlaen i'r ymos- odiad. Dydd Gwener bu yr awyrenwyr Prydeinig yn dra llwyddiannus, a dyw- edir i hanner cant o beiriannau Ger- manaidd eu dwyn i lawr. Y Sadwrn a'r Sul disgynodd nifer o ffrwydr belenni yn Paris, a deuent bob ryw chwarter awr ar wahariol adegau yn ystod y dydd. Liaddwyd deg o bersonau, ac anafwyd pymtheg dydd Sadwrn. Caed allan fod yr ergydion yn cael eu saetbu o wn Germanaidd y tu ol i'r llinellau Germanaidd pellter o tua 75ain milltir. Acboswyd cryn gyffro yn y ddinas oblegid yr ymosodiad bwn. Dvdd Mawrth. Y mpe'r frwydr fawr yn Ffrainc yn parhau. Prydnawn a nos Sul gwnaed ymosodiadau cryfion gan y Germaniaid i'r gogledd o Bapaume, ond gorthrech- v-yd hwy. Yn ystod boreu Llun adriewyddwyd yr ymosodiadau yn yr un gymydogaeth, ac hefyd i'r deheu o Bapaume. I'r deheu o Peropne cafodd adrannau o fyddin y gelyn oedd wedi croesi yr afon rhwng Licourt a Brie eu gyrru yn oliochr ddwyreiniol yr afon. Dydd Llun bu brwydro o'r fath ff yrnicat, ar ffrynfc eang i'r deheu o Per onne ar deheu a'r gogledd o Bapaume. Yr oedd y Germaniaid yn gwthio ymlaen yn fyddinoedd cryfion- Y mao y Germaniaid yn awr mewn meddiant o Nesle a Bapaume, ac y inae brwydro ffyrnig yn parhau. Cyhoeddwyd yr hyn a ganlyn gan y Swyddfa Rhyfel Yn ystod boreu heddyw yr oedd ein byddinoo'dd ar y ffrynt o'r Somme cyn belled i'r gogledd a Wancourfc wedi bod yn llwyddiaous mewn curo yn ol ymosodiadau trym- ion a pharhaus. Achoswyd colledion trymion i'r golyn gan ein gynnau mawr- ion a'n gynnau peiriannol tra yr ymos- odid yn barhaus, hefyd, ar fyddinoodd y gelyn gan ein h awyrenwyr. Yn y prydnawn gwoa-ed ymosodiad gan fyddinoedd newydd o du y gelyn, a llwyddasant i ennill tir i'r gorllewin ar cjeheu orllewin o Bapaume, yng nghyf- eiriad Courcelette. I'r deheu o Peron- ne y mae ein byddinoedd wedi eu gwthio yn ol mewn amryw fannau i'r gorllewin o'r afon Somme, tra i'r deheu y mae y gelyn wedi llwyddo i wneud path cyn- nydd, gan feddiannu Nesle a Guiscard. Y mae atgyfnerthion Ffrengig yn ccael eu hanfon i'r gymydogaeth yma. Y caae ein byddinoedd, er yn fiinedig, mown yabryd da, ac yn ymladd yn rhagorol, ac nid yw y gelyn yn ennill tir,ond ar draul aberth ofnadwy. Y mae ein colledion mewn cyflenwad- au wedi bod yn drwm, ac yn cynnwys nifer o dangoiau. Y mae y gynnau pell eu hergydion sydd wedi bod yn tanio ar Paris er's dau neu dri diwrnod wedi eu darganfod yn St. Gabain, le oddeutu 74ain milltir o Paris. Bernir fod yna, ddau o'r cyf- ryw. DyddMercher Ymddengys fod y Gerrnaniaid wedi arafu eu camrau ychydig yn Firaine, er fod ymladd ffyrnig yn parhau i fyned