Skip to main content
Hide Articles List

8 articles on this Page

[No title]

PHSLISTIAETH Y COLEGAU.

News
Cite
Share

PHSLISTIAETH Y COLEGAU. Un o'r pethau mwyaf iach a glywodd Cymru er ys talm oedd anerchiad Mr E. T. John, AS., o Gadair Adran Morgannwg o Un- deb Cenedlaethol y Cymdeilhasau Cymreig. Mae Mr John, fel pob Cymro fedr farnu yr ysprydion, wedi hen flino ar Philistiaeth y dysgawdwyr hynny yn ein colegau a fynnant bob amser fychanu pop- eth Cymreig-iaith, hanes, lien, oyhead, a chenedlaetholdeb y Cymro. Gan gymeryd fel ei destun anerchiad ymadawol y Prifathraw Griffiths, o Goleg y Prifysgoh Caerdydd, dy wedodd Mr John:- "Mae rhai o addenadau y Prif- athraw Giitilths yn llawn addysg. Mewn yspryd edifeiriol—edifeir weh gwely angeu ysywaeth—cyd nabyddai y dylid cefnogi yr hyn sydd nodweddiadol mewn cenedl because it was hopeless to expect success by their suppression." Dyna ddechreuad doethineb— cithr gwers nad yw Lioegr eto wedi ei meistroli, nac yn yr Iwer ddon, nac yng Nghymru. Cyfadd efai ymhellach y dylai'r Cymro ieuanc gario ei Gymreigrwydd gydag ef i bob rhysy orchwyl. Dy wedai hefyd ei fod yn barnu oddi- wrth yr hyna glywai y ceir mewn Efrydiau Celtaidd gytleusterau i ymchwil a chyflawniad," opportun- ities for research and achieve- ments. Ni bu o bosibl erioed addefiad mor boenus o ddifrifol --gwr o Gymro ar ol llanw amtlynyddoedd lawer y swydd o Brifathraw Coleg o ran rifedi ei fyfyrwyr y pwysicaf yng Nghymru, yn gorfod dweyd ei fod yn gwbl ddibynnol ar eraill am y syniad lleiaf o weith a phwys Efrydiau Cymreig a Cheltaidd. Yn mha wlad ond Cymru y gellir dychmygu y cyfryw ddatganiad. Mae Gwyddonwyr Lloegr yn am) mewn gwrthryfel yn erbyn Lladin .a Groeg-ond ni chlywyd am un yn dweyd ei fod "yn deall oddi- wrth eraill fod astudiaeth o len yddiaeth Seisnig yn rhoddi cyfleus- lerau i ymchwil a chyflawniad." Rhaid addef fod yn anodd dar- ganfod yngwaith y Prifathraw yng Nghaerdydd rhyw arwyddion am Jwg o gefnogaeth pers-onol brwd- frydig i ddim sydd yn nodweddiadol Gymreig-ofnaf mai i eraill y rhaid diolch am yr hyn a wnaethpwyd yn wyneb anhawstersu fyrdd, Cyferbynier a hyn waith Anthony Bacon, y Sais ddatblygodd fasnach haearn Merthyr, yr hwn a ddysgodd ddarllen a siarad Cymraeg ac a fu yn gefnogydd da i lenyddiaeth ein gwlad; a gwaith y foneddiges Seisnig, Charlotte Guest, yn cyf ie.thu'r Mabinogion cyferbynier hyn, meddaf, a Philistiaeth dien waededig y Doethawr Cymreig o Gaerdydd! Mae y Prifathraw mewn dirfawr bryder rhag i Brifysgol Cymru ddeddfu fod gwybodaeth o iaith a llenyddiaeth Cymru i fod yn y dyfodol i fod yn elfen anhepcor yn ei chyfuhdrefn a'i graddau. Gwel amgenach ddoethineb mewn gwneuthur Lladin a Dynamics yn orfodol, gan adael y Gymraeg i rynu yn oerfel y cynteddau allanol. Cymharer eto anwybodaeth add efedig y Prif -it,iraw o Lenyddiaeth y Celt a thystiolaeth enwogion dysg a lien cenhedloedd eraill. Er engraifft- Dywed yr ysgolor Ellmynaidd, Albert Schubz, fod traddodiad Cymru mal rhyw goeden anferth, canghennau yr hon am ddeg canrif a ymledent dros holl Ewrop." Dywed yr enwog Renan fod i'r Celt Lenyddiaeth, yr hon yn y canoloesoedd a gariodd ddylanwad enfawr, a drodd rediad gwareidd- iad Ewrop, ac a arosododd ei hysg- og gwleidyddol ar ymron yr oil o'r Byd Cristionogol'' Dywed Henry Nurley Onibae iddi ddod i gysylltiad mynych ac amrywiol a'r Celtiaid, ni fuasai Lioegr Germanaidd erioed wedi cynhychu yr un Shakespeare" Y m- hyfryda mewn olrhain yr unrhyw ddylanwad Celtaidd yng ngwaith Milton, Byron, Keats, a Word sworth. Gwel hyd yn oed yng nghenedl y Saeson sylfaen Gelt; aidd fawr er yn aneglur, gyda gor- uwchadeiladaeth fawr Deutonaidd amlwg." Da fyddai gan y Sais heddyw gredu hyn, ac ymfalchio ganwaith mwy yn y sylfaen Gym reig na'r adeilad Teutonaidd Yn wir heb wybodaeth o Hanes a Llenyddiaeth y Cymry ni ellir ffurfio syniad cywir am hanes dat- blygiad Lloegr ei hun,- heb son am y Cymry. Yn wir priodolir hynny o wareiddiad sydd gan y Germaniaid heddyw i ddylanwad y Celt. Yn ei gyfrol ddyfnddysg, Frontiers of Language and Nat- ionality in Europe," dywed yr Am- ericanwr Leon Donvinian Nid dylanwad gwareiddiol diwylliant Celtaidd diweddar yn unig yw. Trwy ddod i gysylltiad a'r Celt yn oesoedd bore eu hanes y daeth y Teutoniaid yn wareiddiedig." Gelynion y Gymraeg ydyw'r gwyr sydd yn analluog i gredu y gall dim da ddyfod o Nazareth llenyddiaeth Gymreig a Cheltaidd, y bob! ddywedant mai angen rnwyaf y Cymro ydyw angherfio ei Gymreigdod, a throi yn Sais. Nid ydwyf yn synnu o gwbl fod awyda angherddol ymhlithy Cym- ry am sicrhau Prifathraw i Goleg Caerdydd fydd mewn cydymdeim lad byw, dwfn, gwirioneddol a hanes, traddodiadau, a delfrydau y genedl Gymreig, gwr fydd yn gallu sylweddoli ein bod yn genedl hir- faith ei hanes, erioed yn ddiysgog gadarn, a goleuni ei hathrylith ddihefelydd yn lleufer llachar i'r cenhedloedd drwy'r oesau, gwr all amgyffred amhrisiadwy, fraint ar- weinyddiaeth medd > liolac addysg ol cenedl,-braint a ddylai fod o fewn cyrraedd Prifathraw Coleg y dref sydd yn chwennych caelei hystyried yn brifddinas Cymru, gwr o gyffelyb yspryd i Thomas Charles Edwards a Vinamu Jones. Ni raid inni ymddiheuro heddyw am ein cred yn egwyddor cenedl. Er moi gaddugawl rhagolygon Ewrop, cydnabydir nad oes obaith am heddwch parhaol ond ar safle anriibyniaeth achydraddoldeb cen- hedloedd mawr a man. Nid ydyw dymchweliad gallu Rwsia yn un golled i ddynoliaeth ond yn unig i'r graddau y mae yn adgyfnerthiad i awdurdod yr Almaen-ae yn hyn o gysylltiad nid yw y diwedd eto. Er fod cadfridogion yn methu, a gwladweinw) r yn ymddyrysu, y mae gwerin y gwledydd yn ym- symud. Canfyddant mai brodyr o'r un bru" ydynt, er cymaint gwahaniaeth lleferydd ac anian- awd, canfyddant hefyd lawn egJur- ed fod rhyddid hunan ddatblygiad cenedlaethol cyflawn yn amod an- hepcor heddwch a chydweithred- iad y gwledydd.

[No title]

Advertising

MARWOLAETH MR. GRIFFITHI JONES,…

Advertising

[No title]

Y Rhjffel o Ddydd i Ddydd.