Skip to main content
Hide Articles List

6 articles on this Page

BWRDD YR ADOLYGYDD. -j

News
Cite
Share

BWRDD YR ADOLYGYDD. -j (Gan y Parch R. W. Jones, 18, St. Edmond's Road, Bootle). Y BEIRNIAD. Mawrth, 1918 I Rhifyn rhagorol ydyw hwn, yn wir y goreu a ddarllenais yn ddi- weddar. Mae pob erthygl sydd ynddo'n wirioneddol dda, ond cef- ais ddyddordeb mawr a lies anar ferol drwy ddarilen dwy erthygl a cvnhwysa. Credaf fod y rhain yn eithriadol o gyfoethog ac yn apel. io'n rymus at y sawl a gymer y gradd lleiaf o ddyddordeb mewn diwinyddiaeth, ac yn awyddus i wybod beth yw osgo meddwLei oes ar bynciau diwinyddol a beiblaidd. Beth fai inni sylwi i ddechreu ar ysgrif feistrolgar yr Athro Miall Edwards. Ei destun ydyw Cref- ydd a Diwinyddiaeth H. G. Wells." Gwyddys yn ddiau mai nofelydd poblogaidd ydyw Mr Wells. Mae'n feddyliwr mawr a mentrus ddigon, ac ar delerau pur dda ag ef ei hun, ac oblegid hynny rneiddia ddatgan ei farn ar bob pwnc o bwys, yn cynnwys "y netolion, a'r daearol- y i tl ion, a than ddaearolion bethau." Medd ddull o drafod ei bwnc sy'n swynol ryfeddol i niferoedd o bobl y wlad—ysgrifenna gydag awdur- dod a hunan-hyder heb ronyn o I swildod, a thraetha ei farn yn oraclaidd gydaphendantrwydd an- ifaeledig. Dyma'n ddios sy'n myned gyda'r lliaws yn y dyddiau hyn, nid oes gan neb fawr o amyn- edd gyda'r siaradwr neu'r ysgriten- nydd sy'n petruso dweyd ei feddwl ac yn cymedroli ei frawddegau. Y gwr oraclaidd a'i piau hi'n ddi- gwestiwn, Hysbys yw i Mr Wells gyhoecldi'n d iiweddar lyfr dan y penawd .-God, the Invisible King," ac ynddo traetha ei farn ar faterion jdyfnaf a mwyaf sylfaenol bywyd' Gan nad beth a farno neb yn ei gylch, mae'n llyfr pwysig a theil- wng o ystyriaeth ofalus a diragfarn. Fel v dywed Mr Miall Edwards nid oherwydd ei fod yn gyfraniad syl- weddol a gwreiddiol at lenydd- iaeth crefydd, ond am y dengys beth yw osgo meddwl dosbarth Hiosog o botl yn y deyrnas hon. Eglur yw, yn ol y llyfr hWD, fod dyriion y byd" yn ymbellhau oddiwrth Gristionogaeth a'r Egl wys Gristionogol, a'u bod wedi laru ar fateroliaeth a seci w lari aeth di-dduw, ac yn ciiwilio am rhyw fath ar grefydd a dehongliad ys- brydol o ystyr a phwrpas bywyd. Perthyn i'r llyfr ragoriaeth lenydd- ol uwchlaw'r cyffredin, oblegid nid oes odid i neb ym Mhrydain hedd- yw sy'n fwy o feistr ar y grefft o Jenydda nag H. G. Wells: ac yn y gyfiol hon o'i eiddo, ceir ef ar ei oreu. Chwanega hyn yn ddirfawr at bwysigrwydd y llyfr. Da fuasai gennyf ddilyn Mr Miall Edwards yn ei grynhodeb o'i .gynnwys, a'i feirniadaeth manwl a miniog arno. Mae'n deg a diragfarn. Beichus ydyw y diwinyddion yn ami, ond nid felly- yr Athro Miall Edwards —heblaw ei fod yn athronydd a diwinydd lionor gwych, ac oblegid hynny gorchwyl pleserus ydyw darllen ei gyfroddiadau lIen. yddol. Erthygl gampus arall ydyw eiddo'r Ddr. Maurice Jones dan y penawd Y Byd Hellenistaidd tu ol i'r Testament Newydd." Cymer gryn ofod i drafod ei bwnc, ond ni fuaswn yn gwarafin iddo gymeryd chwaneg. Dengys fod Cristionog- aeth yn ddyledus i hanes a dat- blygiad am gyfran sylweddol o'i chynnwys, er fod yr hyn sydd yn sylfaenol iddi'n briodol iddi ei hun. Arferid synio'n wahanol hyd yn gymharol ddiweddar, a diau fod rhai yn para i lynu wrth y syniad fod y grefydd Gristionogol yn ei ffurf gyntefig yn newydd-beth holl ol, heb ddim tebyg iddi yn y byd y gwawriodd arno. Anwybyddir y ffaith i Paul ddatgan ei fod yn ddyledwr i'r Groegiaid ac i'r bar- bariaid," nid yn unig ei ddyled bersonol ei hun, ond hefyd dyled y grefydd a bregethai i'r byd pagan- aidd. Yn yr ysgrif dyry'r awdur amryddawn fraslun cyffredino) o'r byd yr ymddangosodd crefydd Crist ynddo yn ei agwedd foesol, crefyddol, a chymdeithasol. Cyn- orthwya'r disgrifiad pob darllen- ydd meddylgar i sylweddoli y modd yr oedd Duw yn ei Raglun- iaeth, wedi paratoi at ddyfodiad y Mab, ac hefyd rhoddir inni ryw syniad am ddyled yr Efengyl i'r byd paganaidd, a beth fu'r dylan- wadau a effeithiodd fwyaf arni. Wrth reswm mae'r Ddr. Maurice Jones yn feistr ar ei bwnc, ac heb os nac onibae, ceir ganddo gyfoeth o oleuni a gwybodaeth ar faterion na ddarllenais yn y Gymraeg odid i ddim arnynt. Pe na chynhwysai y rhifyn ond y ddwy erthygl a I nodais, buasai'n gaffaeliad amhris- I iadwy. Traetha'r Pr if a thro T. Rees yn I alluog ar "Ddiwinyddiaeth Wil- liams, Pantycelyn. Ceisia, a hynny yn dra llwyddiannus mi gredaf, olrain yn bennaf trwy em- ynau Williams rai o'r syniadau a gydblethai'n fwyaf by wiol a grym- us a. phronadau'r Diwygwyr Meth- odistaidd. Yng ngwrs ei drafod- I aeth dywed er i John Wesley I ogwyddo tuag at Arminiaeth, nid oedd hanner mor gaeth i'r gyfun drefn honno ag yr aeth y diwygwyr Cymreig i Galfiniaeth y Piwritan- iaid. Rhoddodd ef a'i ddilynwyr ffurf gy fun drefn ol fwy cvdnaws ag ysbryd y diwygiad i'w diwinydd- iaeth. Dileasai Galfiniaeth bob olion o nodweddion y diwygiad Cymreig oni buasai i Ernynau Williams agor iddynt' dragwyddol hoel. Dengys fod profiad cref- yddol y Diwygiwr wedi ei gario i fro oleuach a charedicach na Chalfiniaeth traddodiad. Po fwy- at," ebai'r Prifathro Rees, a ddar- lllenaf ar y Perganiedydd, rn wyaf oil y teimlaf nad digon o esboniad I arno yw ei ddosbarthu'n Gal fin a'i adael." Deil y Seneddwr W. Llewelyn Williams i ysgrifennu dan y pen awd "S llawer dydd." Dyma'r seithfed bennod, a'i theitl ydyw Wil Gelynen." Mae ei ddisgrifiad o Wil yn ddoniol anghyffredin, a dyry siamplau o'i ddywediadau pert a digrif, Teitl yr wythfed bennod ydyw" Ch warae Plaiit," ac od o tiibyg ydyw arfeiion plant ym mhob oes. Er y dyddiau y sonia'r Seneddwr am danynt mae'r byd wedi newid yn ddirfawr, ac yn parhau i newid o do i do; ond priodol y gellir gofyn a ydyw bywyd gwledig yng Nghymru heddyw cyn gyfoethoced ag ydoedd gynt. Hanes Edward Richard—tad y fugeilgerdd yng Nghymru,' sydd gan Mr.D. Emrys Evans. Difyr a darllenadwy iawn. Heblaw Y Beirniad daeth i law Yr Eurgrawn am fis Mawrth —rhifyn digon cyffredin, a'r Win- Han am yr un mis-rhifyn pur dda ar y cytan. Hefyd derbyniais Llais Rhyddid," Chwefror a Mawrth, 1918. Cynhwysa bregeth goeth a chref gan y Parch. W. O. Jones, B.A., ac ysgrif ddymunol odiaeth gan y Parch. W. A. Lewis. Eisteddfod Genedlaethol Birken- head sydd gan Mr Lewis tan sylw. Cefais gryn flas ar ddarllen ei syl- wadau byw a beirniadol. Bum innau yn yr Eisteddfod, a mwynhe- ais fy hun yn fawr. Gwerthfawr ryfeddol ydyw nodiadau'r Golyg- ydd dan y penawd "Trem Amgylch Ogykh," traetha ei farn yn gryf a ehroe w ar faterion y dydd.

[No title]

. CONGL YR A WEN. I

SALEM, LLANDDULAS.

I TALSARN.

ICOED-Y-FFLINT.