Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

'LLOFFION DifiWkiSTOt.

Cyngor Cenedlaethol Eglwysi…

[No title]

News
Cite
Share

Mae adroddiad y Ddirprwyaetb Fren- hinol ar addysg Prif Ysgol Cymru wedi ej gyheeddf. Bydd yn dda gan holl garedigion undeb Cymru fod y dirprwy- wyr yn unfrydol mai un brifvsgoi a ddylai fod yng Nghymru. Y mae'r ddirprwyaeth hefyd o blaid symud y rhwystrau sydd yn awr ar ffordd dysgu diwinyddiaeth yn y Brifysgol; dywed- ant y dylid cael trefniant gwell gyda efrydiau Celtaidd ac y maent yn argymhell sefydiu gwasg ynglyn a'r Brifysgol, gyda chymorth o gronfeydd y Brifysgol. Gellid felly wneuthur llawer iawn i lenyddiaeth Cymru yn lie ein bod yn dibynnu ar wasg Prifysgol Seisnig fel Manchester i gyHoeddi llyfrau megis Gramadeg Cymraeg y diweddar Athro Jones o Hanes Gruff ydd ap Cynan. Codir pris prif newyddiaduren Saes- neg Canolbarth Cymru i ddwy geiniog ddechreu mis Desaf a'r tebyg yw y bydd newyddiaduron lleol Cymraeg yn sjmud yn yr un cyfeiriad. Llongyfyrchiadau i Mr Howell J. Williams, Y.H. Cyn-Sirydd Meirion, ar ei benodiad yn Ddirprwy Rhaglaw (Deputy Lieutenant) dinas Llundain. Mae dwy foneddiges wedi eu tyngu i mewn yn aelodau o dded'dfwrfa Alberta, Canada. Hefyd am y tro cyntaf erioed y mae boneddiges-Miss Katherine Wallas, wedi ei hapwyntio yn is-gadeir- ydd Cyngor Sir Llundai.