Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

'LLOFFION DifiWkiSTOt.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

LLOFFION DifiWkiSTOt. Y mae Mr Alfred Blomfield, yr ynad heddwch y gosodwyd dirwy a £25 arno am ddefnyddio ei haidd i borthi ei anifeiliaid yn hytrach na'i werthu i wneud cwrw, wedi ei anrhegu gan aelodau y Cyngor Sir a cheque o £ 55 i dalu y ddirwy a'r holl draul. Dywedodd Mr Anderson, yr Ael- od Llafur dros Attercliffe, sylw at elw'r Fasnach Feddwol yn ystod y fiwyddyn ddiweddaf, a gofynodd ai gwir fod yr elw wedi cynhyddu 50,000,000p. yn ystod y fiwyddyn, er gwaethaf y lleihau yn yr ymyfed. Gofynnodd ymhellach pa gwrs a fwriadai'r Llywodraeth < gymeryd yn wyneb hyn Nid allai Mr Bonar Law ateb yr un o'r ddau ofyniad a roed iddo, ond gofynnodd Syr J. D. Rees, ynghanol chwerthin, os oedd elw mawr wedi ei wneud y fiwydd- yn ddiweddaf, onid oedd yn ffaith fod nifer o flwyddi wedi rhedeg heb iddynt wneud elw o gwbl. Mae gwahanol Gymdeithasau Dirwestol Kansas, yn yr Unol Dal- eithiau, a'u haelodau yn rhifo 400, 000, wedi pasio penderfyniadau cryfion iawn yn protestio yn erbyn gwaith Llywodraeth Prydain yn caniatau i ddarllawyr Prydain ddefnyddio defnyddiau bara i wneud cwrw. Wedi gwrando anerchiad gan y Parch Dr. Sheldon, awdur In His Steps," anfonwyd pellebr o'r egl- wysi yn Topika i Wasbington yn gwasgu ar Lywodraeth yr Unol Daleithiau ofyn i Lywodraeth Prydain osod yr un deddfau mewn grym ym Mhrydain, ynglyn a rhoi diod i filwyr, ac sydd mewn grym yn yr America. Yng nghyfarfod blynyddol di- weddaf Cyngrhair Unedig y Dar- llawyr pasiwyd yn unfrydol i anog y Pwyllgor Gweithiol i wasgu ar y Llywodraeth, pe y bwriadai biynu y fasnach, i gydnabod ei rhwymed- igaeth i dalu iawn. Y mae hyn yn golygu, mae'n debyg, rywbeth mwy na phris masnachol y concern, golyga fath o ewyllys da, &c. Pe prynid y fasnach, mae'n amlwg y bwriada y darllawyr i'r wlad dalu mwy hyd yn oed na'r ffyrling eithaf am dani." Yn awr, ar ol y laf o Ebrill, oddigenh i amcanion peiriannol a meddygol, trwy orchymyn y Lly- wodraeth, y mae distyllio unrhyw fath o wirf yn drosedd. Y mae holl randiroedd Canada yn awr o dan waharddiad oddigerth Quebec ni ddaw Cyfraith Gwaharddiad i rym yno hyd Mai, 1919. Y dydd o'r blaen, bu Pwyllgor Gweithiol yr Undeb Dirwestol Cristionogol yn ystyried y darpar- iadau y dylid eu gwneud ar gyfer yr Etholiad Cyffredinol, fydd, yn ol pob tebyg, yn yr Hydref. Y mae Rhaglen Wleidyddol yr Undeb,— rhaglen sy'n wleidyddol amhartiol, eisys wedi ei chymeradwyo gan y pedwar enwad ar ddeg sydd ynglyn a'r Undeb. Pasi wyd i apwyntio yn ddiymdroi Ysgrifennydd Trefnydd- 01, gwaith arbeanig yr hwn fydd trefnu cynghorau dosbarthiadol ymhob ran o'r wlad i ddadieu a gweithio allan raglen yr Undeb Cychwynwyd trysorfa i gario yr ymgyrch ymlaen addawyd £ 645 yn y cyfarfod. Y mae pob goheb iaeth ynglyn a'r ymgyrch i gael eu danfon i'r Parch Henry Carter, 1, Central Buildings, Westminster, London, S.W. 1. -v Mae cryn feio wedi bod gan wyr cyfrifol—Mr Lloyd George yn eu phth—mai y gweithwyr sy'n gyfrif- ol am na chawsom waharddiad— y cbdai y gweithwyr mewn gwrth- ryfel pe vr atelid eu diod. Y mae Mr Henderson, ac eraili, dro ar ol tro wedi protestio fod yr haeriad I yn anfri anwireddus ar gorff mawr gweithwyr y wlad. Trefnwyd pleidlais yn ddiweddar, i brofi y mater mewn amryw ardaloedd llafurol, a dengys y bleidlais yn glir iawn mai Mr Henderson, a'i gyfeillion, sy'n iawn. Dyma hanes ?pwysig: mewn rhai centres y bleidlais mewn rhai centres Yn Mwy Lie. Dros. erbyn. afrif. Paisley .11,182 1,178 10,004 Clydebank 8,207.1,861. 6,346 Barrhead 3,343. 299. 3,044 Cowdenheath 2,371. 576. 1,765 Alva 1,332. 47. 1,285 Oban 1,249. 80. 1,169 Lesmaliagow 1,076. 32. 1,044 Spennymoor 2,765. 143. 2,622 Y dydd o'r blaen, yn Nhy y Cy- ffredin, mewn atebiad i Mr Duncan Millar, dywedodd Ysgrifennydd Seneddol Gwasanaeth Cenedlaeth- ol fod yna o gwmpas 150,000 o bob oed yn uniongyrchiol ac anunion- gyrchiol, yn cael eu cyflogi i wneud ac i werthu diod, &c, Cynhwysa y nifer hyn yr hpll ddynion oddi- gerth y rhai yn y siopau grocers, a'r tai nad oes ganddynt ddim ond off licence. Mae'r gyfres ysgrifau ar Wah- arddiad ac yn erbyn Pryniant a ysgrifennodd y Parch G. Parry Hughes, Morfa Nefyn, i'r "Cymro" wedi eu cyhoeddi yn bam Mea dest- lus gan Hughes Bros., Swyddfa'r Dysgedydd." Ceir rhagarwein- iad i'r ysgrifau gan Mr John Owen, Caerlleon. Heb os nac onibae y mae y gyfrol fechan hon yn werth ei meddu. Ei phris ydyw chwe' cheiniog. Ar flaen y gyfrol ceir lythyrau gan Dr. Cernyw Williams, Llywydd Cyngor Eglwysi Rhydd- ion Gogledd Cymru; a'r Ysgrifen- nydd-y Parch Gwynfryn Jones, yn argymell y llyfr. Dyma fel y dy- wed Gwynfryn Darllenais yr oll o'r Ysgrifau yn fanwl. Gosodent bwnc Pryniant y Fasnach Feddw ol gerbron yn glir o bob safle y gellir meddwl am dano. Gwnaeth- ant les mawr, buont yn gymorth i oleuo ac achub y wlad rhagsyrthio i amryfusedd mor gadarn. Llaw- enychaf yr arfaethir cyhoeddi'r Ysgrifau'n llyfryn. Nid yw y frwydr hon dros sobrwydd ond megis yn dechreu, a bydd y lyfr hwn yn rhan werthfawr ac effeith iol o arfogaeth y rhai fydd yn ol fy marn i, yn ymladd gwir frwydr Sobrwydd;" Y mae y "Spectator" yn siarad yn blaen ynglyn ag ymddygiad y Llywodraeth ar bwnc y ddiod. Dywed "Mae'r Llywodraeth drwy feddwl y gallant nodi dyddiad y gellid penderfynu ar y cwestiwn o fara ynte cwrw, yn anturio yn fawr. Os daw amser y gwel y gweitbiwr fod ei wraig a'i blant yn cael eu llwgu, ni bydd ganddo I drugaredd at y Llywodraeth feth odd a'i rybuddio mewn pryd, ond a ddewisodd ddweyd wrtho fod cwrw I yn angenrheidiol i ddiwydiant, ac y gallai yfed gyda chydwybod ddi- rwystr nes yr aethai y maroons allan. Gwyddom fod y Llywodr aeth wedi gadael i'r cyfle euraidd fyned heibio. Ar ddechreu y rhyfel, pan yr oedd y genedl oil yn holi ei hunan mewn dyryswch beth olyg- ai rhyfel, fe fodlonai i gymryd oddi arni unrhyw beth. Pe y dywedasid wrth y bobl fod y rhyfel yn gofyn am waharddiad dros y rhyfel,' ni buasent yn ameu, a buasent er ys hir amser wedi ymgynefino a'r am- odau newydd. Buasal yr effaith ar arferion y bobl hefyd yn aruthrol ac hwyrach yn barhaol." Mae dwy archeb newydd ynglyn a chwrw i ddod i weithrediad ar Ebrill laf. Dan yr archeb gyntaf nodir y pris uchaf elli d godi am j i gwrw o an^awdd neilltuol yn 4c, y i peint,' ac ansawdd arall yn 5c. y peint a werthid mewn bar cy- I' hoeddus. Dan yr archeb arall mae'r cxarw I a ddarllawir o hyn allan i fod yn wanach.

Cyngor Cenedlaethol Eglwysi…

[No title]