Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

I fNODIADAU WYTBNOSOL. i

[No title]

TAMEIDIAU GWLEIDYDDOL A CHYMDEITHASOL,

News
Cite
Share

TAMEIDIAU GWLEIDYDDOL A CHYMDEITHASOL, Dyma air gan Mr Ellis Davies, A.S Beth sydd wedidigwydd i Mr Henderson ? Mae ton ei areith- iau wedi newid, a'r awydd neu'r rediniaeth yn y posiblrwydd o heddwch wedi lleihau. A oes rhyw berthynas rhwng hynny a'r ffaith yr enwir ef fel un o'r rhai all fod yn y Weinyddiaeth nesaf ? i Mae cyfrifoldeb yn ami yn cymed- roli syniadau dynion cyhoeddus, ac yn anffodus, mae swyddi hefyd wedi newid llawer ar syniadau arweinwyr LIafur yn ystod y ddwy flynedd ddiweddaf. Cofiaf yn dda i aelod Llafur ddefnyddio iaith gref wrthyf am y Prif Weinidog am gefnogi Gorfodaeth Filwrol, ond mae heddyw yn aelod pwysig iawn yn y L lywodraeth. Mae an- wadalwch gwleidyddol aelodau Llafur yn lleihau eu dylanwad, ac yn rhwym o leihau eu gaUu yn yr etholiad. Dyna paham yr wyf yn mhell o fod yn sicr na cheir mwy. afrif Toriaidd y tro nesaf Mae mwyafrif Toriaidd o ddeugain yn Lloegr heddyw, ac hyd y gwelaf amcana Plaid Lafur ymosod, nid ar y seddau Toriaidd, ond ar y rhai Rhyddfrydig. „ Yn y ddadl ar y Swyddfa Dram or yn Nhy'r Cyffredin y dydd o'r blaen, cynygiwyd fod pwyllgor o aelodau'r Ty yn cael ei ffurfio i ofalu am ein polisi tramor. Gwrth wynebodd Mr Balfour hynny yn bendant, a dywedodd y peidiai ef a bod yn Ysgrifennydd Tramor pe penodid pwyllgor felly. Buasai dwyn gweithrediadau ein polisi tramor ymlaen yn gyhoeddus yn magu drwgdeimlad rhwng gwled- ydd a'i gilydd, ebe Mr Balfour. Wel, yr hen drefn a fagodd y te:m- ladau uffernol sydd yn bodoli rhwng cenhedloedd a'i gilydd heddyw yn Ewrob. Dyma brawf fod yr hen deulu aristocrataidd yn golygu cadw materion tramor yn eu dwvlo yn y dyfodol etc os godd- efir iddynt. Diwedd yr wythnos o'r blaen bu Mr Asquith yn annerch Cyngor yr Undeb Rhyddfrydig Cenedlaethol yn Derby. Yn ei araith siaradodd yn bennaf am ddyfodol Rhyddfryd- iaeth. Dywedodd mai deng mlynedd oedd ers pan etholwyd ef yn arweinydd y Blaid Rhyddfrydig. Nid oedd wedi ymddiswyddo (Oymeradwyaeth uchel). Nid oedd yn deall ei fod wedi ei droi o'i swydd, ac hyd nes y byddai ei gynheddfau naturiol yn ei adael- a byddai rhyw gyfaill caredig yn sicr o roddi rhybudd mewn pryd iddo am hynny-nid oedd yn bwr iadu ymddiswyddo. Wrth siarad ar bwnc y Rhyfel dywedodd Mr Asquith, cyn belled ac yr oedd meddiannu unrhyw dir- iogaeth yn myned yr oedd efe yn barod i roddi'r holl gwestiwn i farn llys rhyngwladwriaethol yn ddiamodol, ac nid oedd ganddo unrhyw amheuaeth nac ofn parth- ed y penderfyniad y deuid iddo. Defnyddiodd un frawddeg arall sydd yn debyg o gaelsylw go fawr. Am ddadgortioriad y byddinoedd^ dywedodd y gallai hynny ddyfod ynghynt nag yr oedd Uawer o bobt yn ei feddwl. Beth yw ystyr y frawddeg ? Yn y ddadl ar ail ddarlJeniad y Mesur Addysg talodd mwy nag un warogaeth i gyfundrefn Cymru. Dywedodd un aelod Seisnig mae'r Saeson oedd isaf yn eu cariad at addysg. Ychydig yn uwch yr oedd yr Ysgotiaid yn uwch na hynny drachefn, y Cymry; ac yn uwch na hwythau yn y peth hwn vr A I maen- iaid. Trwy Orchymyn y Cyngor yn ol Deddf Cynrychiolaeth y Bobl, daw cyfres newydd yr etholwyr i rym Hydref laf, 1918, a bydd yn bwysig sylwi ar y dyddiadau canlynol Terfyn y tymor i gymhwyso am bleid- lais-Ebiill 15ad. Gyhoeidi y cyfresi cyntaf Mehefin 15ed. Y diwrnod olaf i wrthwynebu un- rhyw eaw-Mehefin 20. Y diwrnod olaf i hawlio pleidlais- Gorffennaf 5. Y diwrnod olaf i hawlio fel pleidleis", wyr abseonol-Gorff. 5. Cyhoeddi cyfres y gwrthwycebiadaa; -Gorff 8. Cyboeddi cyfres y sawl a hawlianfc bleidlais-Gorff, 13. Y diwrnod olaf i wrthwyneba y sawl, a hawliant-Gorff. 26. Cyhoeddir cyfres y gwrthwynebiaiaa i'r sawl bawliant bleidtais mor fuan ag sydd bosibl ar ol Gorff. 26 Cyhoeddi a gosod y gyfres mewa grym—Hydref laf. Dyma fel y dywed y Cymro :— Dywed tin o'i organau y bydd Ar- glwydd Rhondda yn y Cabinet ya fmaa. Dydd pobl y papurau newydd ydyw/