Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

I fNODIADAU WYTBNOSOL. i

[No title]

News
Cite
Share

Hanes Pantycelyn. Y mae Cymdeithas Hanes y Methodistiaid Callinaidd wedi rhoi yr oil o Rhifyn II., Cyfrol III., o'r Oylchgrawn Hanes i Pantycelyn," Dywed Ap Nathdn mai yr unig anffawd ydyw iddo ddod i law mor ddiweddar. Pe gwelsai oleu dydd yng nghynt buasai wedi arbed am beil ddarlithiwr rhag gwneud y fath gamosodiadau wrth draethu ar yr Emynydd. Difyr ydyw meddwl sut y teirnla ambell un a gymerodd yn ganiatsol fod y traddodiadau a gerddent o amgylch am Bantycelyn yn ffeithiau, ac yn wyneb y prinder ffeitniau a fynnai eu nyddu yn ei ddychymyg ei hun, pan eistedda i fyfyrio uwch ben y rhai a gasglodd Golygwyr y Rhifyn hwn. Dymchwelirllawer o hen dybiaethau, a dygir ffeithiau newyddson i'r golwg. Yn ddi dcladl bydd yn rhaid i ami un newid cryn lawer ar ei ddarlith cyn ei thraddodi eto. Ond daw gwerth y rhifyn i'r amlwg yn fwyaf ar- bennig, nid drwy y ffeithiau newyddion a gyhoedda, ond yn ei waith yn cyfarwyddo'r efrydydd a'r hanesydd 1 lygad y ffynnon. Ceir cofnodiad o'r prif ddigwydd- iadau a'r dyddiadau ym mywyd yr Emynydd, ynghyd a rhestr o'r llyfrau, pamffledau, a'r erthyglau a gyhoeddwyd o dro i dro ar ei hanes a'i waith gan y Parch M. H. Jones, B.A., Nodion ar Weithiauj Cyhooddedig Williams, gan y lienor dyfnddysg a'r llyfrbryf dyfal Mr J. H. Davies, M.A., Cwrtmawr, ac hefyd,—Nodion a Dyfyniadau o Lawysgrifau Williams, sydd yn Athrofa'r Bala, gan y Parch J. T. Alun Jones. Ni honna'r Golygwyr fod y rhifyn yn Gofiant i'r Emynydd, ond y maent drwy eu llafurwaith wedi gwneud cofiant teilwng yn bosibl. Ynfydrwydd yn neb mwyach fydd anturio traethu nac ysgrifennu ar fardd mwyaf y genedl heb ym gydnabyddu a'r awduron y cyfeirir atynt yn y gyfrol fechan hon. Cwbl gredwn y cyfarwydda'r Rhifyn hwn bob hanesydd at y prif ffeithiau, ar ol wedi cael y fath gyfarwyddid. Pwy a wyr na fydd yn foddion i danio ryw lenor at y gwaith mawr o roddi i ni gofiant teilwng o Bantycelyn? Dyledus ydym i Kilsby a Chynhafal am eu hymdrechion teg i wneudy gwaith ond eddyf pawb ond y barnol ddall fod angen am waith uwch a rhag- orach ei ffeithiau, ac yn rhoddi mwy o arbenigrwydd ar bersonol- oliaeth fawr ac awen gysegiedig y bardd a wnaeth enw hen amaethdy Pantycelyn yn air teuluaidd yng, Ngwalia.

TAMEIDIAU GWLEIDYDDOL A CHYMDEITHASOL,