Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

[No title]

I Y Rhyfel" o Ddydd i Ddydd.…

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

I Y Rhyfel" o Ddydd i Ddydd. I Dydd Llun, Mawrth 18. Bu cryn ymladd o bobtu'r Meuse, ac ar y gorllewin llwyddodd yr ymosodwyr Ffrengig i dreiddio i mewn banner mill- tir i linell y gelyn, gan wneud cryn hafoc, a chymeryd 160 o garcharorion. Gwnaeth y Germaniaid ymosodiad cyff- elyb i'r dwyrain. Ourwyd hwy yn ol o'r safleoedd a gymerasant, a honid lod 200 o garcharorion wedi eu cymeryd. Dydd Mawrth. Y mae Prif Weinidogion y Cyngheir iail wedi anfon protest unedig allan yn erbyn y telerau heddwch a osodir gan Germani ar- Rwsia. DrwV gytundeb Brest, yr hwn na chydnabyddir gan y Cyngrheiriaid,dywedir fod bywyd cenedl- aethol Rwsia yn cael ei ddarostwng i'r dim, ac yn ymarferol caniateir i Germani feddianu tiriogaethau eang. Yn awr hysbysir yn swyddogol fod cyfarfod o'r Supreme War Council wedi cael ei gyn nal yn Llundain yr wythnos ddiweddaf, a bod cynhadleddau gwleidyddol pwysig wedi cael eu cynnal. Yn bresennol yr oedd Prif Weinidog Prydain, Fhainc, ac Itali, yn ogystal a Phrif Weinidogion eraill yngbyda chyfarwyddwyr milwrol pwysjg. Dydd Mercher Ymosododd ehedwyr ar leoedd milwrol ym Mannheim ddydd Llun. Tarawyd y dociau ac amryw leoedd pwysig ereill. Ar hyd y llineilau Prydeinig a Ffren- gig ddoe yr oedd y cyflegrau trymion a'r gwyr traed yn lied brysur. Wrth anerch yn y Senedd, dywedodd Count Hertling, y Canghellor German- aidd, with ddarllen y cytundeb heddwch gyda Germani, nad oedd yn cynnwys telerau dianrhydeddus i Ewsia; nid oedd ychwaith yn goiygu iawn rhyfel gormesol. na meddianu tiriogaethau Rwsiaidd trwy orfodaeth. Gyda phythefnos eto hyd derfyn y flwyddyn ariannoi, y mae'r cyllid canedl- aethol eisoes uwchlaw yr amcanrif o £ 14,750,000- Y mae cyfanrif y flwydd- yn £ 653,359,658. Dydd Iau Dywedir yn yr adroddiad swyddogol o Berlin fod ad-drefniad y byddinoedd yng nghyffiniau Verdun gan y Cadfridog Von Gallwitz, a bod y Crown Prince yn gyfalu am y byddinoedd sydd i'r gogledd o'r Aisne ac yn Champagne. Y mae llong awyr perthynol i'r.gelyn wedi gollwng nifer o belennau rubber liawn o nwy mwstard hylifol ar safleoedd1 yr Americaniaid yn Lorraine. I Y mae'r Ffrancod wedi curo'n ol amryw ymosodiadau cryfion, ac mewn un ohonynt torwyd i fyny ddwy fataliwn r o'r Sturmtrapper. g Ofnir yn Moscow ar byn o bryd sym- udiad amgylchynol o eiddo'r milwyr ):1 Awstriaidd a Germanaidd, ac y mae'r Llywodraeth Bolshevicaidd yn barod i I symud eu prifddinas unwaith yn rhagor. l Y mae Trotsky, fel Gweinidog Rhyfel, wedi ymweled a Moscow gyda chynllun i amddiffyn y wlad. Dywedir yn yr adroddiad Germanaidd swyddogol eu bod wedi symud ymlaen yn Ukraine i'r gogledd o Odessa. Y mae'r cadoediad Rumanaidd wedi cael ei ymestyn i Mawrth 22. Y mae Cabinet newydd wedi cael ei ffurfio yn Bucharest. Nid oes dim swyddogol wedi ei dder- byn eto pa un a ydyw Llywodraeth y Netherlands wedi derbyn cynnyg y Cyngrheiriaid i gymeryd drosodd longau Holland. Yn ystod yr wythnos collwyd 11 o longau tros 1,600 o dunelli, 6 o dan hynny, a dau ogychod pysgota. DyddGwener. Adroddir heddyw am ruthr mawr a wnaed gan y Germaniaid yn Ffrainc ar ein safleoedd ni. Yng nghyntaf tanbel enwyd ein safleoedd yn enbyd, ac yna bu ymosodiad penderfynol gan y gwyr traed ar ffrynt o hanner can' milltir, o lannau yr afon Oise. gerllaw La Frere, i lannau yr afon Sensee yng nghymdog- aeth Croiselles. Parhaodd y rhuthr gyda chryn benderfyniad ar hyd y dydd. I-Awyddodd ylqlyn- i dorri trwy ein saf. leoedd blaen, ac yn wir trwy ein prif safleoedd mews rhai mannau. Rbuthr- ai y Germaniaid ymlaen yn fioteoedd mawr, a bernir y rhaid fod yr ymosodiad wedi bod yn un costus iawn. Mae'r ymladd yn parhau yn dra ffyrnig, a dy- wedir y gellir canfod cryn atgyfnerthion yn cael eu crynhoi a'u trefnu o'r tu ol i rengau y gelyn. Dywedodd Mr Bonar Law yn Nhy y Cyffredin fod y ruthr yn cael ei ddisgwyl, a bod pob darpariaeth posibl wedi ei wneud ar ei gyfer. Cyhoeddwyd Papur Gwyn ddoe gan y Bwrdd Llynghesol yn rhoi hysbysrwydd am tonnage' y llongau sydd wedi eu colli trwy y Submarines o gychwyn y rhyfel hyd Rhagfyr diweddaf. Tonnage gollwyd-Prydeinig 7,079,492 „ Tramor 4,748,080 Cyfanswm 11,827,572 Y mae yr ochr arall-yr enillion trwy adeiladu a meddiannu llongau y gelyn, fel y canlyn— Prydeinig 3,811,555 Tramor 5,383,720 Cyfanswm 9,195,275 Y mae y golled felly yn 2,632,297 o dunelli. Y mae yr America wedi moddiannu yr holl longau perthynol i Holland, a bwriada Prydain a'r Cyngrheiriaid eraill wneud yr un peth. Nid yw Holland, sydd wedi gofalu am fod yn amhleidiol er dechreu y rhyfel, yn fodlon i hyn, ond, megis y gwnaeth Bethman-Holl- weg ynglyn a Belgium, dadieuant ei fod yn angenrhaid milwrol. Wrth gwrs y mae y Cyngrheiriaid yn addaw taiu am y defnydd a wnant o'r llongau, eu gwylied yn ddyfal rhag ymosodiadau y Submarines, a rhoddir llongau new- yddion yn lie y rhai a gollir. Dydd Sadwrn Parhaodd y Germaniaid eu hymosod- iad ddoe yn erbyn y safleoedd Prydeinig rhwng yr afonydd Sensee a'r Oise. Gwnaeth y gelyn beth cynnydd mewn rhai lleoedd, ond costiodd yr hyn enill wyd bris enbyd iddynt. I'r de o St. Quentin treiddiodd minteoedd y gelyn i bentref Essigny. Hawlia'r Germaniaid iddynt gymeryd 16,000 o filwyr Pryd- einig yn garcbarorion, ynghyd a 200 o ynnau- Dywedir gan ohebwyr i oddeutu banner cant o Ddivisions' gymeryd rhan yn yr yn; jyrch hon, ac eu bod oil wedi eu dillaàu mewn gwisgoedd new yddion.. Yn y Reichstag ddoe cymerrdwywyd, wedi trafodaeth faith, yr amodau hedd- wch wnaed a Rwsia. Protestiodd y Sosialwyr yn erbyn yr amodau, a gwrthodasant bleidleisio am y Credit Rhyfel. Y mae Holland yn protestio yn gryf yn erbyn gwaith y Cyngrheiriaid ym meddiannu llongau'r Dutch. Dywedir fod rhwng ugain a phump ar hugain o longau'r Dutch ym mhorthladdoedd Prydain, a chymerir y rhai hyn dros- odd.

[No title]

Advertising

 ¡ Deddf yr Eglwys Gymreig.…