Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

[No title]

America a Diota Prydain.

I GLYNDYFRDWY. ---I

NOCION WESLE^IDD, 1 I

News
Cite
Share

NOCION WESLE^IDD, Y mae Pwyllgor Purdeh ein Cyf- undeb wedi pasio penderfyniadau cryf iawn ynglyn a'r cwynion fod yr awdurdodau milwrol yn dal (wyneb, os nad yn hyrwyddo anfoes- oldeb ymysg ein nÚl wyr yn Ffrainc. Y mae y penderfyniad cyntaf yn protestio yn bendant iawn yn erbyn gwaith awdurdodau y fyddin yn ledu hysbysrwydd ymhlith y mil wyr am dai anfoesol y gallent eu mynychu heb droseddu y rheolau parth y terfynau na oddefid iddynt fynd trostynt. Y mae yr ail ben- derfyniad yn datgan cydymdeim lad gyda Maer a thrigolion tref Cayeux, yn eu protest yn erbyn sefydliad ty anfoesol o'r fath ym mhrif heol eu dinas. Y mae y Parchn J. H. Bateson, Prif Gaplan Milwrol ein Cyfundeb; Henry Carter, Ysgrifennydd Dirwestol ein Cyfundeb; a Mr Gerald France, A S., wedi eu hapwyntio i osod y penderfyniadau hyn o flaen y Swyddfa Rhyfel. Nid oes neb hwyrach yn dioddef cymaint oblegid y rhyfel a gwein- idogion yr efengyl. Nid oedd y cyflog o'r blaen yn ormod, ac yn awr pan y mae pris popeth wedi treblu y mae yn llawer iawn rhy fychan. Gwelwn fod Wesleaid yr Iwerddon a'u bryd-ar wella y drwg. Y mae trysorfa gyffredinol wedi ei chychwyn i'r perwyl, ac y mae eis ys f.10,100 wedi eu casgluyn Nhal- aith Belfast yn unig. Cwynir nad oedd y cyflog mewn 80 o gylch- deithiau ond [120 gydag £ 20 o bonus ihyfei, tra y telid i Coal Por- ters yn y ddinas [200. Y dydd o'r blaen, mewn gwth o oedran, yn West Kirby, bu farw y gweinidog Wesleaidd Arminius Burgess. Yr oedd Mr Burgess yn >sgolfeistr yn Ffrainc yn amser y Chwyldroad 1848. Pas: odd i'r "einidogaeth vn 1852, ac aeth yn genhadwr i'r India; yr oedd yno yn adeg-y gwrthryfel. Wedi llaf urio am 18 mlynedd ym Madras daeth adref, a bu yn gweithio yn ymroddol a chymeradwy mewn cylchdeithiau Seisnig. Yroedd Mr Burgess-yn ysgolor clasurol, ac yn Mathematician o gryn fri. Y dydd o'r blaen bu y Wesleaid, ond odid hynaf yn y byd, farw, sef Mrs Brookes, King's Lynn. Yr oedd yn 102 mlwydd oed, ac hyd o fewn ychydig yn ol mynychai y capel yn rheolaidd. 0 fewn cyleh yr ychydig wyth- nosau diweddaf, y mae cynifer a saith o .Gapleniaid Wesleaidd wedi derbyn anrhydedd milwrol :— Parchn Owen J. Fletcher, a G. Leonard Robinson wedi cael y D.S.O., a'r Parchn G. H. Crossland, B. Dobson, A. S. Hullah, A. G. Kick, a G. Jarvis Smi th wedi cael y Military Cross. Dr. Horton oedd y pregeth wr eleni yng ngwyl flynyddol Cenhad- aeth Ganolog Wesleaid Birming- ham. Dywedai y Dr. nad yw Sos- ialaeth yn ddim ond yr agwedd ar Gristionogaeth a esgeuluswyd: rhaid priodi y breuddwyd cym- deithasol a'r gwirionedd efengyl. aidd cyn y ceir efengyl gyflawn. Gyda gofid y deallwn fod y Cap- lan A. W. Davies wedi bod am dipyn o amser yn yr ysbyty gyda math o dwymen boenus. Y mae yn gwella eto ac yn disgwyl bod yn fuan eto gyda'i waith ymhlith y bechgyn. y mae Dr Scott Lidgett wedi ei ddewis yn arweinydd Plaid y Pro- gressives yng Nghyngor Sir Dinas Llundain. Rhagflaenor y Dr oedd Syr John Benn yr oedd Syr John yn ymneilltuo oblegid llesgedd. Y mae Dr Lidgett yn haeddu yr anrhydedd, nid oes neb wedi gweithio'n galetach tros Llundain, ac yn enwedig tros ei haddysg hi na Dr Lidgett. Y mae y Parch David Morris, Llanfyllin, wedi dychwelyd adref wedi bod am rai misoedd yn gwas- anaethu gyda'r Y.M.C.A. yn Ffrainc. Am yr ail dro er dechreu y rhyfel Talaith Manchester sydd ar y blaen gyda'r cynnydd yng nghyllid y Genhadaeth Dramor. Casglwyd eleni CIO,000 yn fwy na'r llynedd.

 ¡ Deddf yr Eglwys Gymreig.…