Skip to main content
Hide Articles List

6 articles on this Page

! BYD CREFYDDOL.

I COLOFN Y LLENOR.

[No title]

I BWYD Y BOBL. ■

News
Cite
Share

I BWYD Y BOBL. ■ Ateb Cwestiynau Pwysig. A oes rhaid rhoir Cerdyn Siwgr i fyny cyn y ceir Tystysgrif Claddu? Nac oes. Nid oes hawl gan Gof- restrydd i hawlio hynny. Gwnaed hynny mewn rhai amgylchiadau, ond trwy gamgymeriad y gwnaed. Beth yw y rhagolwg am fwyd ? Mae y rhagolygon am fwyd yn well nag y buont. Cynhyrchir mwy o fwyd cartre yn y wlad hon eleni nag a wnaed erioed o'r blaen. Os ceir ilongau i'w gludo daw mwy o fwyd yma o'r America nag erioed. Eto, bydd rhaid bod yn gynnil, a gofalu peidio gwastraffu. A ydyw cynllun y Rations yn Ilwyddiant ? Ydyw, yn fwy o lwyddiant nag a ddisgwylid iddo fod. Rhaid eofio mai arbrawf ydoedd i raddau pell. Peth new- ydd hollol ydoedd yn y wlad hon, a rhaid oedd i bawb cysylltiedig ag ef ddysgu trwy brofiad. Am- hosibl felly oedd peidio gwneud camgymeriadau ar y cyntaf Ond, ag ystyried yr holl amgylchiadau, profiad Llundain yn arbennig yw mai bendith anrhaethol i bawb, i'r shopwr ac i'r cwsmer, yw gwneud cynllun y Rations yn orfodol. Beth yw profiad y cwsmeriaid ? Cyn sefydlu cynllu^ y Rations, ar- feriad beunyddiol cwsmeriaid oedd sefyll wrth y cannoedd yn rhesi hir, "ciws" y'u gelwid, ger drws y shop, pob un yn aros ei dro i gael myned i mewn, ac yn ami ar ol sefyll am oriau, methu cael yr hyn oedd eisieu. Ond mae'r rhesi hir hyn bellach wedi diflannu. Mae bwyd i'w gael yn ymarferol ymhob shop, a chan fod y Ration yn nodi swm penodol o bob nwydd i bob cwsrner, mae pob un fel rheol yn cael ei Vrfio mewn llai o amser na chynt. A yw Arglwydd Rhondda yn gallu sicrhau digon 0 bob nwydd i ateb y galw ymhob shop ? Nid yw yn ymrwymo y ca pob shop ei chyfran teg o'r nwyddau fo ar gael. Nid yw yn deg fod un teulu yn cael cwpbwrdd Hawn, a theulu arall a'i gwpbwrdd yn hanner gwag. Felly yn hollol nid yw yn deg fod un shopwr yn gallu cael ystor cyflawn tra shopwr arall heb hanner digon i'w gwsmeriaid. Mynnodd Ar- glwydd Rhondda rannu y bwydyn hollol deg rhwng y gwahanol shopau yn ol nifer eu cwsmeriaid cofrestredig. Hyd yma mae pob cwsmer, fei rheol, vTedi^medru cael ei lowans neu ration yn y shop. Ai yr un Ration sydd i bawb ? Ie, fel rheol gyffredin. Ond lie bo am- gylchiadau yn galw am hynny caniateir mwy na'r Ration o rai nwyddan i bersonau fo mewn ang- en neill tuol. Er engraifft gall dyn claf gael mwy o siwgr, neu fwv a ymenyn, neu fwy o gig na'r ration, yn ol fel bo'r meddyg yn gorchym- yn. Ac yn awr trefnir i roi ration helaethach o gig moch, neu fowl, neu unrhyw fath o gigfwyd (oddi- gerth yr hyn a elwir yn gig ffres," megis cig eidion neu gig dafad) i ddospartlnadau neilltuol o weith- wyr. Trwy y Gyfnewidfa Llafur (Labour Exchange) y ceir y cerdyn arbennig yn rhoi hawl i'r Ration, helaethach hwn.

[No title]

- fLLOFFION DIKW&STOL. I i1…