Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Advertising
"GwYilyedydd Mewyda' AT EIN DOSBARTHWYR. Pob archebion a thaliaday am y Gwyl- iedydd Newydd i'w danfon i'r Rheolwr, (7wyliedydd Newydd," Flint Mountain, Flint, Anfonir un copi am dri mis trwy y Llyth yrdy 2/2 dau gopi am 3/7 tri copi am 4/6; pedwar, pump, a chwech yn ol 1/5 y dwsin. Disgwylir tal ar derfyn pob chwarter Heb hyn y mae yn amhosibl bron i ni gario ymiaen. AT EIN GOHEBWYR. Anfoner pob Gohebiaeth, gydag enw priodol yr anfonydd, i'r Golygydd wedi eu cyfeirio- V, (iolygydd, Qwyliedydd Newydd, Flint Mountain, Flint, Diolchwn os rhydd ein Gohebwyr sylw i'r awgrymiadau hyn :— Carem i bob gohebiaeth fod mewn Haw eibyn boreu Iau. Ysgrifener ar un wyneb i'r ddalen bob am- ser. Os na fyddis yn rhoi ond Stamp Dimau ar yr amien gadawer hi yn agored, ae ys giifet-iner Press News ar ei chongl. LLYFR NEWYDD. "Emynwyr Cymru" GAN Y PARCH. EVAN ISAAC. Cynnwys y llyfr Ysgrifau Hanes yddol a Beirniadol ar holl Brif Emynwyr Cymru, o Edwwnd Prys hyd Ehedydd Ial, ac ar ei derfyn ceir Llyfryddiaeth yr Emynwyr. Barn Lleriorian YR ARCHDDERWYDD DYFED. Fel un sydd yn teimio cryn ddiddordeb yn emynwyr ac emynau Cymru, darlienais eich ysgrifau gyda boddhad mawr. Cred- af y bydd y llyfr yn fendith i'r genedl." PARCH T. J. PRITCHARD (GLAN DYFI). I- Yn ddios, y peth goreu yn yr iaith ar y pwnc a chredaf y bydd yn waith safonol. Cosiiodd lafur enfawr. Y mae cywirdeb yr awdur fel hanesydd, ei farn deg fel beirniad, a'i arddull fyw a graenus fel lienor, yn gosod ei genedl tan rwymau i'w gefnogi." Y PRIFARDD J. J. WILLIAMS. Galla 'f yn ddibetrus gymeradwyo'r llyfr hwn. Chwiliodd yr awdur yn fanwl am y ffeithiau, traethodd ei farn yn groyw, a gwisFodd y cyfan mewn iaith gref a glân. Bydd bai mawr yn rhywle os na phrynir y llyfr wrth y miloedd." Y PARCH THOMAS HUGHES. Golygydd yr Eurgrawn. "Ceir yma ffrwyth ymchwil fanwl i hanes ein hen emynwyr, wedi ei gyfleu mewn modd diddorol iawn. Cloriennir eu cynhyrchion a llaw beirniad annibynnof a chraff, sydd ar yr un pryd yn lienor awen- gar. Y mae graen lenyddol rhagoiol ar y gyfrol o glawr i glawr." Y PRIFARDD GWILI. Darlienais eich ysgrifau gyda bias mawr. Aethoch i drafferth anarferol, a dywedasoch y gwir plaen, heb ofni wyneb gwr. Credaf y bydd y llyfr o werth i'r rhai a ddaw ar eich ol, fel engraifft o wrthod byw ac adeiladu ar draddoaiad heb sail iddo. Dylai y llyfr werthu yn gyfiym a hir." TECWYN. Credaf y bydd y llyfr hwn yn gynysg- aeth wirioneddol i'n L'enydciiaeth. Dengys yr ysgrifau ol meddwl galluog, medr llenyddol, barn aeddfed, a gwybodaeth drylwyr o'r pwnc. Os caiff y gwaith hwn y gefnogaeth a haedda, prynnir ef wrth y miloedd." Cyhoeddir cyn gynted ag y ceir nifer digonol o Danysgrifwyr. PRIS 5/6. Yr Archebion i'w hanfon i'r Awdur, Treharris, Glam.
NODIADAU WYTHliOSOL.
NODIADAU WYTHliOSOL. Yr America a'r Saboth. Y mae y Llywydd Wilson wedi anfon allan y gorchymyn sydd isod ynglyn a chadwraeth y Saboth — Y mae y Llywydd, a Phrif Reolwr y Fyddin a'r Llynges, yr un ffunud a'u rhagflaenoriaid, yn gorchymyn, ac yn taer erfyri, ar i'r holl swyddogion a'r milwyr yn y Fyddin a'r Llynges Americ anaidd barchu y Saboth. Y mae'r angen am ddydd wythnosol o orffwystra, i ddyn ac anifail- hawlfrainVsànctaidd pob milwr a morwr, parch gweddus i argy- hoeddiad Cristionogol ein cen edl, ac ufudd-dod i orchvmyn Duw, yn hawlio na wneir yn y fyddin na'r llynges ddim gwaith ond a fo yn gwbl anocheladwy. Y mae y parch yma i'r Saboth yn gyson a thraddodiadau goreu ein gwlad, ac ag argyhoeddiadau cysegredicaf pawb a ymddined- ant mewn Rhagluniaeth am ar weiniad.ac amddiffyniad. Wrth annerch fel hyn yng ngeiriau Lincoln, telmla y Llywydd ei fod yn siarad a chalon pobl ei wlad." Y mae y geiriau hyn, ac ar wef- usau prifddyn gwlad fawragallu og fel yr America, ie, ac mewn cyfnod mor ddibarch a materol, yn wir amaethun. Teimlwn i'r byw y dirfawr wahaniaeth yn nhymer a defosiwn yr arweinwyr American- aidd rhagor eiddo ein harweinwyr ni. Gwneud cyn lleied yn y fyddin a'r llynges ar y Sul ag a ellir ydyw nod yr awdurdodau Ainericanaidd, ond ofnwn mae'r gwrthwyneb yn rhy fynych ydyw y nod gan ein hawdurdodau ni. Beth bynnag, yr ym yn sicr o hyn,—ein llywodr aethwyr ni, yn arbennig y rhai milwrol, sydd flaenaf mewn anys- tyriaeth ynghylch gwerth a chys egredigrwydd y Dydd o Orffwys." Soniwn, a gweddiwn, am gael Duw o'n plaid, ond ar yr un gwynt sarnwn Ei ddydd o dan ein traed. Y mae yr America yn esiamp] wvch i ni ynglyn a'r ddiod y mae eto yn dywedyd wrthym I ynglyn a Dydd Duw, Dring i fyny yma."
[No title]
r Addysg FeiMaidd yn yr Ysgolion. I' Y mae y rhyfel erchyll wedi creu torf enbydus o droseddwyr ieuainc yn y wlad ymhob rhan o'r Deyrn- as y mae y llysoedd wedi eu blino yn enbyd gan achosion, dirif bron, o ladrad, creulondob, a chynllwyn ¡ ymhlith bechgyn, ac yn wir eneth- I od,deuddeg, tair ar ddeg, a phed air ar ddeg oed. Tuedd rhyfel yn I wastad ydyw lacio y zanctions ¡ moesol-gwneud dynion yn ddibris o'r cystwyon,—y traddodiadau, y deddfau, a'r cyffelyb, oedd, mewn ¡ amgylchiadau cyffredin, yn eu cadw yn ystyriol a gweddus eto 'I, y mae achos gwirioneddol y cam- ymddygiadau yn ddyfnaeh na'r rhyfel ei hun: nid yw y rhyfel ond achlysur,->-a.wT gyfleus i'r gwendid, neu'r ctiwant anheilwng oedd cyn I hynny yng nghalon a bywyd y ¡ bobl ddangos ei htin,-niaih ar can ysol ydyw yn proft ein sefydliadau, yn dangos( eu gwerth neu eu pyd- redd. Olrheinir y twf enbyd mewn troseddau yn mysg plant i dair I ffynhoneil-- diffyg rheolaeth-a dis gyblaeth ar yr aelwyd, dylanwad y Cinemas, a'r addysg ddigrefydd yn yr ysgolion elfennoL I wella peth- au ymysg y plant rhaid i ni, medd- ir, newid y pethau hyn. Y mae yr olaf o'r tri yn cael cryn sylw yng Nghymru y dyddiau hyn. Y mae Cynghor Cenedlaethol Eglwysi Rhyddion y Dywysogaeth wedi gafael yn y mater. Cpdwyd y mater i ddechreu gan y Parch Ellis Jones, Bangor, yng Nghyfarfod Chwarterol Annibynwyr Arfon, parodd i Esgob Llanelwy afaelyd yn y mater, ag anfonodd lythyr i'r §' Manchester Guardian "Jyn datgan ei fod yn barod, yn wir yn awyddus i gyfarfod a rhai o'i frodyr Ym- neilltuol i drin y mater. Y mae Cynghor Cenedlaethol Eglwysi Rhyddion Cymru wedi cymryd y mater mewn llaw ac yn y Pwyll- gor Gweithioi, a gyferfu yn ddi- weddar yn yr Amwythig, enwyd nifer o frodyr, ar ran y Cynghor, i gyfarfod a nifer gyffelyb a ddichon gael eu henwi gan yr Eglwyswyr, i ystyried a oes modd tynnu allan drefnlen o hyfforddiant Beiblaidd, addas i'r ysgolion elfennol, fydd yn dderbyniol i'r naill ochr a'r llall. Teimlid yn y Pwyllgorfod y mater! yn un anodd,—fod llawer o hawl- iau ac o agweddau i'w hystyried eto fod y pwnc yn un pwysig, ac er yn anodd nad oedd hwyrach yn anymarferol. Tynwyd linell groyw o wahaniaeth cydrhwng Hy fforddiant Beiblaidd ag Addysg Grefyddol "-y mae y cyntaf yn anenwadol, ond yr olaf ya tybio dysgu credo, a dull o addoli: ni ddaw yr olaf o fewn cylch yr ym driniaeth. Cwestiwn anodd fydd a fodlonir ar y drefnlen yn yr holl ysgolion—y provided" a'r non- provided school." Teimlid hefyd fod yn rhaid cael trefniant effeithiol i amddiffyn y Secualist fydd o argy- hoeddiad yn gwrthwynebu hyd yn oed hyfforddiant Beiblaidd. Y per- sonau a ddewiswyd i weithredu ar ran yr Eglwysi Rhyddion ydyw Syr Beddoe Rees, y Parchn John Roberts, M.A., H. M. Hughes, B.A., D. H. Williams, Thomas Hughes, Portdinorwic, D. Gwynfryn Jones, Prif Athro Edwards, Mn William George, J. E. Powell, a Richard Jones, Caersws — <» »
[No title]
Y Tai Drwg yn Fframc. Yn y Senedd. diwedd yr wythnos ddiweddaf, hysbysodd Mr Macpher- son, yr Is Ysgrifennydd Rhyfel, fod yr awdurdodau milwrol, trwy gan- iatad y Cyngrheiriaid, wedi trefnu fod y tai anliad trwyddedol yn Ffrainc i gael eu gosod o'r tuallan i derfynau y gwersyll Prydeinig, Derbyniwyd y datganiad gan y Ty gyda chymeradwyaeth fyddarol. Cwynai Mr Macphersan yn dost yn erbyn yr ymosodiadau a wnaed arno ef ynglyn a'r mater,—galwodd yr ymosodiadau yn rhai anonest- urtscrupulous," ae wedi eu seilio ar ddarnau anghysylltiol, rneddai, o'i areithiau. Darllenasom yr oil a ddywedodd Mr Macpherson ar y mater yn Nhy ly Cyffredin, ac nid oes dim, a welsom ni, wedi ei ysgrifennu ynghyichMr Macpher son mor unscrupulous a gwarth- us a'r pethau a draethodd y cyfaill ei hun ymlaid y traffic budr a di faol yma. Y mae'n rhyfedd mor deneu ydyw croen, ond mor galed ydyw c>dwybodau rhai gwlad weinwyr. Dywedodd Mr Mac pherson hefyd mai nid yr awdur- dodau milwrol Prydeinig a sefydl asant y tai yma, ac mai nid hwTynt; hwy ychwaith oedd yn gofalu am ferched i'w llenwi. Hwyrach, ond ni chawsom oleuni paham yr hys- bysid y milwyr gan yr awdurdodau nad oedd y tai yma, ar adegau, it out of bounds." Y mae y busnes diffaeth wedi ysgwyd ymhellach ffydd cannoedd o bobl yng ngwerth gwystlon a datganiadau Gweinid- ogion y Goron. Ond gan nad pwy oedd y cynllwynwyr a fwriadasant y fath frad yn erbyn enw da, moes- oldeb a glendid bywyd ein cenedl, y maent, o leiaf yn ymddangosiad- ol, wedi gorfod cilio oflaen protest ddig afhref gOreuon y wlad. Diolch am hyn o fuddugoliaeth. Ond nid yw y fuddugoliaeth yn gwbl sicr eto, chwedl y Man- chester Guardian, rhaid i gyfeill- ion diweirdeb ofalu fod y gwarad- wydd yn cael ei ddileu, nid yn unig mewn enw, ond ynddiffuant hefyd. Y mae drwg-dybiaeth yn beth an. nifyr a phoenus iawn, ond ar bryd. iau mae'n anodd ei ochelyd. I » —
[No title]
Unioni Cam Cymru. Ymddengys fel pe byddai Cymru o'r diwedd ar dderbyn cyfiawnder oddiar law Senedd Prydain. Ers dros chwarter canrif mae wedi bod yn galw am yr hawl i drefnu mat. erion ei thy ei hun gartref. Preg- ethodd Mr T. E Ellis a Mr Lloyd George efengyl Ymreolaeth i Gymru yn selog a brwdfrydig— ond yn ofer. Cuf gan ami i ddar- llenydd y Gwyliedydd Newydd am y gefnogaeth aiddgar a rodd- odd y diweddar annwyl Hugh Price Hughes yn y cyfarfod Wesle- aidd bythgofiadwy yng Nghonwy llynyddoedd lawer yn ol i ddadl Wesleaid Cymru y dylasent hwy eu hunain gael penderfynu drostynt eu hunain eu cwestiynau eu hun- ain. Dyna hanfod Ymreolaeth. Hawlia Llafur Cymru hynny heddyw-a mynnant ei gael. Gwel- ir cyfnewidiad mawr ym marn gyhoeddas gwladweinwyr Lloegr ar y cwestiwn. Mae hyd yn oed y Times," papur mwyaf dylanwad- ol y deyrnas, yn awr yn dod allan yn eofn i bleidio Ymreolaeth i Gymru. Yn wir a ymhellach na hynny, canys dywed mai trwy Fesur Eang o Ymreolaeth Genedl- aethol i Gymru, a'r Alban, a Lloegr, yn ogystal a'r I werddon, yn unig y gellir dod allan o'r dyrys. wch Gwyddelig. Dywed y Man- ¡ chester Guardian" fod y Llywod- raeth yn awr yn argyhoeddedig o hynny hefyd' a bod yn eu bryd ddwyn Mesur o Ymreolaeth Gyff- redinol ger bron y Senedd, ac y bydd y Mesur hwnnw yn seiliedig ar y Mesur Ymreolaeth i Gymru a ddygwyd ger bron y Senedd dro yn ol, yn bennaf drwy ymdrechion selog a diflino Mr E T. John, A.S. Cred j lawer mai ar ysgwyddau Mr John y syrthiodd man tell proffwyd Cenedlaethokieb Cymru a gafodd Mr Lloyd George pan fu farw Mr T. E. Ellis Gan nad sutam hynny, gall Dwyrain Dinbych ymfalchio yn y ffaith mai ei chynrychiolydd hi y\'r gwr sy'n debyg o waredu yr Ymercdraeth oddiwrth berygl yr Iwerddon ar ol i bawb arall fethu.
Advertising
I BWRDlJ Y GOL. J. J Y Gan Myfyrdod yn gwyli. ei chyfie, gofod sy'n bria. ALLAN o DDIFFYG GOFOD,-Dolgellau, Porthmadog, a Bwrdd yr Adolygydd.