Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

l' ' dd ' Y fiuj iq Dp; y…

News
Cite
Share

 l' dd Y fiuj i q Dp; y ? i Dijil, s.. ;1\M& ii!JJ 'A?!>'0if9 1 19J Dydd Hsu, Mawrth 11. Dywed adroddiad o eiddo'r Bol shiviciaid fod Prince -boof, cyn Brif Weinidog y Provisional Govern- ment ar ol y chwildroad, wedi ffurfio Llywodraeth Rwsiaidd newydd, gyda Phencadlys, dros dymor, yn Pekin, yn disgwyl i'r Japaniaid ddod i Vladivostock. y Bolsheviciaid eu bod yn prysur alw y byddinoedd i cyfarfod a'r bygythiad newydd hwn. Golwg ddu gymer Arglwydd Robert Cecil ar y ffaith fod y Ger maniaid wedi treiddio i Rwsia, a dywed mai da fyddai i ni gymer- yd cymorth Japan i rwystro'r Ger- manaidd yn y Dwyrain. Dywed Lenin yn derfynol ei fod wedi gadael Petrograd fel prif ddinas. Cadarnheir fod Trotsky wedi ymddiswyddo o fod yn Wein- idog Tramor. Y mae M. Tch.tch- erine, yr hwn a gadwyd mewn gwersyll yn Lloegr yn ddiweddar yn ei dilyn. Dydd Mawrth. Yn ol adroddiad Syr Douglas Haig, ceir fod tanbelennu ffyrnig a nifer o ymosodiadau lied ffyrnig yn cymeryd lie ar ran helaeth o'r ffrynt Prydeinig. Ychydig iawn: enillwyd gan y Germaniaid mewn canlyniad i'whymdrechion. j Gwnaed cynnydd pellach gan y byddinoedd Prydeinig ym Mhales- tina. Yr oedd eu hymgyrch trwy leoedd peryglys iawn, ac yn erbyn gwrthsafiad cryf o du y Tyrciaid, ond enillwyd oddeutu tair mil o latheni ar ffrynt o ddeuddeng mill- tir. Y mae ein byddinoedd yn a wr oddeutu deuddeng milltiro Nablus neu Sichem. I Ym Mesopotamia y mae y Tyrc-I iaid a yrwyd allan o Hit wedi cymeryd eu safle yn Khan Bagh dadi, ar yrEuphrates-dwy filltir, arhugain tu hwnt i Hit. Ymos. odwyd ar y Tyrciaid yn ystod eu henciliadgan einhawyrenwyr. Dydd Mercher Parha y Germaniaid i danbelennu y safleodd Prydeinig, ac i wneud; ymosodiadau ar wahanol rannau o'r ffrynt Prydeinig. Yn ystod dydd Mawrth yr oedd y tanbelennu yn bennaf yn cymeryd lie rhwng Havricourt a'r Afon Scarpe, hefyd, i'r deheu-orllewin o La, Bassee, ac yng nghymdogaeth Ypres. Gwnaeth y gelyn ymosodiad ar adran o linell oedd yn meddiant milwyr Portugal, ond cafodd y Germaniaid eu llwyr orthrechu gyda cholledion trymion. Gwnaed cynnydd pellach gan y byddinoedd Prydeinig ym Mhales- tina yn ystod nos Sadwrn a dydd Llun, ac achoswyd colledion trym- ion ar y Tyrciaid. j Parha y byddinoedd German- j aidd i wthio yn mleen yn Neheu Rwsia. Yn eu hymgyrch i gyfeir- iad y Mor Du y maent wedi cyr- raedd pwynt o fewn naw milltir o Odessa, porthladd pwysig yn y Mor Du. Dydd Iau Dywed Arglwydd French fod un neu ddwy o longau awyr y gelyn; wedi croesi y glannau gogledd-; ddwyram, ac wedi gollwng tuag ugain o bombs ar y glannau. Ni wyddis hyd yn hyn beth yw y coll- edion. Yn ystod yr ymosodiad awyrol ar Hull, nos Fawrth, goliyngwyd 4, o bombs ar y dref gan un o'r llong- j au awyr. Chwalwyd un ty, a bu un ddynes farw mewn canlyniad i ddychryn. Bu dwy Zeppelin arali. yn crwydro o amgylch y wlad ehedent yn uchel, a gollyngasant, bombs ar o wlad agored. j Y mae ein milwyr yn parhau i symud ymlaen ym Mhalestina. Gwnaed ymosodiod ar ffrynt o un milltir ar ddeg, gan symud ymlaen dair milltir. Meddianwyd nifer o bentren, yn cyn w v s El Lubban, yr hwn ie'sydd tua deng militir o Nablus. Danghosodd y Tyrciaid gryn wrthwynebiad, Bu tan-belennu lied drwm ar y i llineilau Prydeinig i'r gogledd o Lens ar hyd Camlas La Bassee, ac yr oedd y gynau yn lied brysur ar ffrynt Ypres a Cambrai. Gwnaeth ein gwyr traed ymosodiad ar le cryf yn ymyl Polygon Wood, a dygasant 37 o garcharorion yn ol. Dywed y Ffrancod fod y cytleg rau yn brysur yn yr Argonne ac i'r dwyrain o'r Meuse, gydag ymosod iad gan y Germaniaid yn Cham- pagne, yr hyn a achosodd ysgarm- es fywiog. Hawlia y Germaniaid eu bod wedi cael 90 o garcharor ion. Y mae milwyr Germanaidd wedi myned i Odessa prif borthladd y Rwsiaid yn y Mor Du. Dywedir fod yr Awstriaid a'r Germaniaid yn brysur yn cludo cymaint ag a allant o ddefnyddiau bwyd o Ukraine i'w tiriogaethau eu hun- ain. Dywed teligram o Washington fod Ffrainc yn ddiamodol yn cytuno a'r cwrs a fwriada Japan gymeryd yn Siberia. Y farn gyff- redinol yn Tokio yw y byddant yn y myryd cyn pen mis. Yn ystod yr wythnos suddwyd 15 o longau dros 1600 o dunelli, 3 o dan hynny, ac un cwch pysgota. Dydd Gwener. Edrydd Syr Douglas Haig am ymladd ffyrnig iawn cydrhwng nifer fawr o awyrennau ar y ffrynt Gorllewinol. Cafodd 19 o awyr- ennau Germanaidd eu dinistrio, a phump eu rhoddi allan o reolaeth, tra na chollasom ni ond pump. Adrodda'r Morlys fod submarine Germanaidd wedi ymosod ar yr ysbyty-long Glenart Castle yn Bristol Channel prydnawn Sul diweddaf. Methodd un torpedo hi, ond llwyddodd yr ail i'w tharaw. Ni wnaed ond difrod ysgafn ami, a chyrhaeddodd borthladd gyda'r holl ddwylo ar ei bwrdd yn ddi- ogel. Dydd Sadwm Parha'r Germaniaid i wneud eu ffordd i Rwsia, a mynegiad swydd- ogol a ddywed fod tref arall wedi ei meddiannu yn Ukraine. Adroddir fod y rhuthr German- aidd wnaed ddydd Iau yn ymyl Parschendaele wedi costio yn ddrud iawn iddynt. Boreu ddoe, gwnaeth y Canadiaid ruthr llwyddiannus ar trenches y gelyn yng nghymdogaeth Lens gan ddwyn yn ol nifer o garcharorion.

Advertising

CARNARFON. I

[No title]

Advertising