Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

LLYTriYRAU Y MIL Wilt

News
Cite
Share

LLYTriYRAU Y MIL Wilt GAIR 0 GANAAN. (Gan Mr W. GEORGE JONES, un o'n Myfyrwyr). Chwefror 2il, 1918. Annwyl Mr Jones, Welc'r flwyddyn newydd yn brysur delthio i ffwrdd, tra'r rhyfel ofnadwy yn parhau yn ei rhwysg andwyol. Rhesymol yw gofyn, li I ba beth y bu y golled hon," ac ar- swydwn wrth ddychmygu beth all y golled fod cyn y diwedd. Am heuwn yn ami a fydd yr ennill cyffredinol ae arhosol yn werth y fath aberth. Ond waeth tewi na siarad. Pan ysgrifenais y tro diweddaf 'roeddwn yng nghyffiniau Beer- i sheba. Wedi pythefnos o orffwys ar ol y frwydr, teithiasom i gyfeir- iad Gaza. Tra ar y daith aethum yn wael, a chludwyd fi i'r ysbyty agosaf. Cyn pen tridiau cefais fy hunan yn Alexandria. Braint yn wir yw cael myned i-le o'r fath am ychydig seibiant. Gwna y Red Cross" waith rhagorol iawn yn y lleoedd hyn i wneud y bechgyn yn hapus a dedwydd. Ym mhen pythefnos teimlais yn llawer gwell, ac anfonwyd fi am dair wythnos i Wersyll Mustafa Oddiyno cefais pass i Alexandria ragor nag unwaith. Y peth cyntaf yr ymwelais ag ef oedd olion yr hen balas Rhufeinig. Yno mae Piler Pompey," y Ertacombs," y "Sphinx," a'r hen eglwys yn y graig. Gwelir hefyd nifer fawr o hen silffoedd ar ba rai y dodid llwch cyrff preswylwyr y palas o do i do. Adroddir amryw o bethau ofergoelus gan yr arweinydd, oil bwysig sydd yno yn rhinwedd ei svydd. Wrth syllu ar y Piler a'r Sphinx, rhyfeddem at waith cyw- rain dwylo celfydd y cewri fu. Bwriedais fyned i'r Amgueddfa," ond rhwystrwyd fi oherwydd prin der amser. Yr hyn a effeithiodd fwyaf ar fy meddwl tra yn Alexandria ydoedd fjyddlondeb y trigolion i'w crefydd. Dynoda eu gwisg, hyd yn oed, beth a, pwy ydynt, a chefais engraifft ragor nag unwaith o'u sel a'u brwdfrydedd dros eu hegwyddor ion, pa un bynnag a'i ofn cosp a'i ynte parchedig ofn oedd wrth wraidd hynny. Er engraifft, pan "on guard" un boreu, oddeutu pedwar o'r gloch, gwelais y bobl' yn myned yn llu i gyfeiriad y "Mosque," ac yn fuan wedi hynny clywals waeddiadau yr offeiriad yn adseinio drwy'r distawrwydd. Cys- egredig ia wn yw y Mosque yn eu g jlwg: nid oes caniatad i fyned i mewn heb yn gyntaf dynnu'r esgid. iau oddiam y traed, golchi y traed os yn bosibl, a diosg y pen-wisg Parchant y ty, a ffyddlon ydynt i'w ordinhadau. Beth am Eglwys Dduw yng Nghymru a Lloegr, &c., sydd a chanddi enw ei bod yn fyw ? Beth brofa ei difaterwch a'i han ffyddlondeb ynglyn ag ordinhadau y cysegr, hyd yn oed yn y dyddiau hyn ? Yr Eglwys Gristionogol ddylai fod yr awdurdod uchaf ar gyfiawnder a phurdeb yn y wlad. Hi ddy lai fod y gallu llywodraelh- 01, gan rnai Crist, ei phen, yw ei harwemydd anffaeledig. Beth sy"n cyfrifam ei gwendid a'i safle an- heilwng heddyw, onid diffyg sel a brwdfrydedd ysbrydol dros eg- wyddorion y Crist broffesir ganddi? Onid anffyddlondeb i'w Brenin Iesu ym mhoethder brwydr rhyddid, cydraddoldeb, a biawdgarwch yn y gorffennol ? Dirgelwch gallu gwyrthiol a goruchafiaeth yr Ar- glwydd Iesu pan ar ein daear oedd Ei gymundeb dibaid a'i Dad, yng- hyda'i benderfyniad di-ildio i wario pob egni o'i eiddo er gwneuthur Ei ewyllys Ef. Tra yn meddwi dros y pethau hyn y boreu hwnnw gw rid a is o gywilydd wrth orfod cydnabod diogi ysbrydol yr Eglwys yn gyff- rdinol, ac mor bell yw hi o fod yr Eglwys ddelfrydoi yng Nghrist. Bydd yn esmwythach I drigolion yr Aifft addolant Uduw *'Allah yn y farn nag i gannoedd broffes- ent fod ynganlynwyr y Duw byw. Gweddiwn gyfeillion am nerth i fod yn deilwng o'r alwedigaeth nefol, fel y byddom gyfryngau teil- wng i Ysbryd y Gwirionedd weith- io trwom ddeffroad ysbrydol yn y tir. Yn y modd hwn yn unig y gall yr Eglwys wisgo ei gogoniant —cael Duw yn allu anorchfygol o'i mhewn. Bum yn ffodus i dreulio y Nadol- ig yn Alexandria. Nid anghofiaf byth garedigrwydd rhai cyfeillion yno, wnaeth yr Wyl o'i dechreu i'r diwedd yn felus odiaeth i lawer ohonom. Cyfarfyddais amryw o genhadon a chenhadesau oedd a'u calon yn llosgi yn y gwaith. Gwelir olion eu llafur mewn am- bell i bentretgwledig, dinod, tlawd a bier yr olwg. Tra yn myned drwy rhyw bentref heb fod ymhell o Gaza, daeth geneth tach ataf gan ddweyd Me a Christian." Eisieu bwyd oedd arni, a chan dybio mai Cristion oeddwn(gan fy mod mewn Khaki) disgwyliau gydymdeimlad yn ddios. Dyddorol yw sylwi ar y dwyrein- iwr yn trin ei dir. Ddoe ddiwedd- af gwelais bedwar ohonynt yn brysur, er yn ddiog, gyda'r gorch- wyl—(yn ddiog mewn diwyd- rwydd)-yn rhy ddiog i gliiio y cerrig oedd yn gorchuddio gwyneb y tir. Nid ym ymhell o'r Ddinas Sanct- aidd. Pabellwn rhwng rai o fryn ipu Judea, a gwaith pleserus yw chwilio yr ogofeydd mawr a bach sydd o'n cwmpas. Cefais fraint arali o bregethu i'r bechgyn ar lethrau un o'r bryniau nos Sul di- weddaf. Ca^som oedfa fendithiol, a chanu, er yn Saesneg, yn fendig edig. Bydd fy nghyfaill E. J. Jones, o Goleg y Bala, yn cymeryd y wasanaeth y Sabboth nesaf. Gwelais vfy nghyfaill Hughie Hughes, Ynys y-gain, Criccieth, y dydd or blaen. Edrycha yn gryf, iach, a siriol fel arfer. Brysied y dydd pan gawn ddych- welyd yn ol i'n cartrefi at ein gwaith. Hyderaf eich bod yn iach fel teulu. Yr Eiddoch yn gywir, WM. GEO. JONES. Llythyr oddiwrth Ellis Lewis, Siloh, Cwm Penmachno, attei gyfaill—y Parch W. J. Roberts, Hanley. Palestine, Chwef. 1,1918 Annwyl Gyfaill, Derbyniais dy lythyr ar lethrau y "Ganaan \Vlad," ac yn falch iawn o honno, a deall dy fod mewn iechyd, a dy annwyl briod yr un modd. Da gennyf dy fod yn hapus, ac yn hoth dy gartiefle newydd. Gobeithiaf y bydd llwyddiant ar dy waith yn Hanley, ac y derbyni iechyd a nerth I Iwyddo gwaith y Deyrnas yng nghanol y dyddiau enbyd yma, tra mae bechgyn yng ngwanwyn bywyd yn cael eu hyrddio dros y gorwelion," a gobeithion eu mebyd yn ddarnau. Cefais lawer o fwynhad ar yr ael wyd hirnos gaeaf yn y Cwm, yn darllen hanes a gwaith Gipsy Smith yn Hanley, a gobeithiaf y byddi dithau yr un mor lwyddian, nus. Mae'r adnoddau a'r pwerau yn aros yr un, a r drefn yn abl i achub mewn Rhyfel a Hedd- wch, a gwyn fyd ra ddeuai hiraeth ar y Cyfandir am achubiaeth, a throi yr athrylith, a'r gallu, a'r nerth i'r amcan o achub yn hytra.ch na dinistrio bywydau, a lleihau y ¡ goiid a'r pryder sydd yn gorwedd yng nghalonnau miloedd o ricni. Mae'r olwg geir ar ami i fachgen yn myned i'w fedd ar faes y rhyfel yn galw am i'r rhai sydd yn dda ganddynt ryfel gael eu difodi oddi- ar wyneb daear Duw. Credaf fod gan y peyrna^ broblem fawr yn yr argyfwng yma, mewn goicuni, dysgeidiaeth, ac arweiniad y cyf- andiroedd i heddwch, a diogelwch ei barhad tros byth 'Rwvf yng nghanol y misoedd gwaedlyd hyn wedi fy argyhoeddi yn llwyr drwy brofladnad oes modd cyfiawnhau Rhyfel, na chwaith ei chysoni a Christionogaeth. Gallwn nodi mil a mwy o ffeithiau sydd yn gryf, a chadarn o blaid y syniad. Gwawr ied y dydd ar genhedloedd iddynt dderbyn egwyddorion y deyrnas mewn "cariad," "addtwynder," a boneddigeiddrwydd," ac yn hawdd eu trin ar waljanol faterioni yn wleidyddol," "cyrndeithasol," J a chrefyddol.' Wet, gyfaill annwyl, mae'n dda gennyf ddweyd fy mod yn mwyn- hau iechyd, ac yn ddiolchgar am y cynnal a'r cadw sydd wedi bod arnaf, yn yr Aifft a Chanaan, yng nghanol y brwydro o Gaza a Beersebd i fyny am Hebron a Bethlehem, gan feddiannu leru- salem a llawer o bentrefi eraill. Gallaf ddweyd imi gael llawer o fwynhad wrth sangu ar y lleoedd adnabyddns a chysegredig hyn. Digwyddiad hapus oedd dyfod am Bethlehem dydd Gwener o flaen y Nadolig, a chael gweled mangre genedigaeth Gwaredwr y Byd," a gofidiais y gwahaniaeth oedd rhyngom a'r Doethion gynt, nid H aur, a thys, a myrr," oedd gennym ni, ond y gwn a'r cledd," ac nid i addoli" chwaith y daethom, ond i ymladd, a hynny ar ol dwy fil o flynyddoedd wedi'r geni," a pharod oeddwn i ofyn Pa le mae'r tangnefedd ar y ddaear, ac i ddyn- ion ewyllys da ? Oes rnodd gog- oneddu Duw ynghanol y galanas- tra ? Da gennyf oedd edrych ar adeil- ad hardd oedd yn goffadwriaeth ana fangre y geni," a statue o'r Iesu wedi ei godi ar uchelfan yr adeilad, ond prin iawn yw Ei ddyrchafiad ar fywyd y gwahanol genhedloedd sydd yma, Yn fuan iawn wedi gadael Bethlehem, wele binaciau y Ddinas Sanctaidd yn dod i'r golwg, a mawr oedd fynis. gwyliad am ei gwelad, am fod swyn yn enw Jerusalem. Yn agos iawn i'r Ddinas canfyddais y Bryn, sef Calfaria, a daeth emyn anfarw- 01 Hugfe Jones, MaeSyglasau, yn fyw i fy meddwl- 0 ben y bryn bu'r addfwyn Oen, Yn dioddef dan yr hoelion dur, 0 gariad pur i mi mewn poen." Daeth llawer o bethau i fy meddwl wrth fyned drwyy ddinas, Amhosibl, mi gredaf, yw i neb fynd drwyddi heb deimlo ei enaid yn llosgi. Cofiais am awdl ardderch- og Eben Fardd i ddinistr y ddinas Liithrig yw'r palmant llathrwyn, A'r mor gwaed ar y marmor gwyn." Ond, raid oedd myned ymlaen drwy'r ddinafe, a g wneud y gora' o'r ddau lygaid, ac yn gofidio na chawswn hamdden yn fuan i gael leave i fyned i mewn iddi. Cefais fy hunan yn fuan iawn yn dringo Mynydd yr Olewydd, a chanfod Gardd Gethsemane a'r Bedd Sanctaidd, a daeth eto emyn Ann Griffiths yn fyw i fy meddwl Fy enaid gwel y fan gorweddodd Pen tywysog Brenin Hedd, Y greadigaeth ynddo'n svmud, Yntau'n farw yn ei fedd." Nid oes an en dweyd mae hwn yw Mynydd yr Esgyniad, a chawsom y fraint o aros dau ddiwrnod yma cyn gwneud ymosodiad ar y gelyn. Mae amryw adeiladau hardd ar y mynydd, a llwyddais i fyned i mewn i Eglwys perthynol 1'[ Rus sians R C ac ar y llawr yr oedd twll ile torwyd pen loan Fedydd- iwr, a'i fedd oddiallan, a bedd I Joseff: nis gwn a oedd hyn yn wir. Mae He i ameu yn ol hanes Beibl-I aidd. Danghoswyd hefyd y garreg yr esgynodd Crist oddiarni i'rnef. | Nid wyf yn sicr o'r garreg, ond 'rwy'n sicr mae hwn oedd y myn ydd. Mae golygfa ardderchog o ben y mynydd gwelir y Mor J Marw, a'i wyneb yn la, yn gorwedd yn aawei yng nghysgod y bryniau uchel; Pisgah, a Nebo, a phwy all anghofio Moses wrth edrych arn- ynt, ac i gyfeinad Rhosydd Moab a Rhosydd Jericho, a Dyffryn yr Iorddonen, ac ar y llaw arall gwelir Ramah, a Bethel, Bethania, a Bethphage, ac amryw bentrefi, eraill llai hanesyddol. Cefais y fraint fawr y Sabboth diweddaf i gael gwasanaeth Cym- raeg mewn hen Eglwys Roegaidd mewn pentref o'r enw Bireh, lie darfu Mair a Joseff droi yn ol i chwilio am yr lesu, a'i gael yn y deml. Yr oedd yr Athro David Williams, Aberystwyth, yn ei hwyl- jau goreu, a mynd ar yr Hen Fmynau a'r Tonau. Nid anghofiaf y dylanwad ar gwlith oedd ar y wasanaeth, ac mae swn y llineliau hyn yn aros byth yn fy nghlustiau, Y clod, y mawl, y parch, a'r bri, Fo byth i enw ein Harglwydd m." Wei, gyfaill annwyl, hawdd fu- asai ysgrifennu llawer o'r hanes., ond nid oes ryddid i ddweyd po- peth. Anodd peidio meddwl am Gymru ar fryniau Canaan. Maent' yn uchel a chreigiog, ac yn llawn o ogofaau. Ceir mwy o wyrddlesni ar fryniau Cymru nag a geir yma. Byddaf yn hoffi gweled y bugail yn dyfod gyda'i dcefaid a'rgeifri bori ar y bryniau; nid oes angen y ci ganddo, ond maent yn adnabod ei lais, a chlywir ef yn ei iaith ei hun yn siarad gyda hwynt: a charwn, eto weled yr amser i wiandaw ar frefiadau y defaid a'r wyn ar fryn- iau Cymru, ac i wrandaw ar ei nentydd yn sisial ganu, a gallaf ddweyd fel Deio Bach Er i flwyddi fyned ymaith, Minnau o fy nghartre'n rahell: Aelwyd annwyl fy mhlentyndod Caraf di o hyd yn well." Wel, gyfaill, dyna iaith caloa pawb o honom, hiraethu am yr amser a chael ein hunain ar yr aelwyd lan gynnes, a'i charu yn well. Maddeu ryw air bier fel hyn ceisiaf ei ysgrifennu mewn ogof, ac yn oer iawn. Cofion filoedd atat. Mewn iechyd a hwyi ar fryniau uchel Canaan. Dy gyfaill cywir. ELLIS.

[No title]