Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
At Gadeirydd Talaith Gyntaf…
At Gadeirydd Talaith Gyntaf y Gogledd. A,lr Gol. A gaf i ofyn i Mr Felix ateb trwy gyfrwng y G.N.—er mwyn i'r Cyfarfod- ydd Chwarter wybod sut i weithredu,- a ywn anhebgorol i fwy nag ui) g )ruch wyliwr ddyfod i'r Cyfarfod TaJeithiol eleai; ac befyd a all y Cyfarfod Chwar- ter bebgor, o dan ) r amgylchiadau, ddewis cynrychiolwyr; ac yn olaf, a raid i bob gweinidog fod yn bresennol. Anfenaf ato trwy'r G N er mwyn i'w ateb fod o fudd cyffredinol. Yr Eiddoch, AROLYGWR.
41Y Gwyliedydd Newydd."
41Y Gwyliedydd Newydd." (Gan HEN WR O'R CWM '') Teimlaf awydd anfon gair i ddiolch amy G.N., er ei fod yn costio ceiniog a 4itnau mae yn llawer mwy o werth yn fy Dgoiwg. Bum yn dderbynydd o'r lien Wyliedydd o'r dechreu i'r diwedd, a cbefais lawer iawn o fwyniant a bendith wrth ei ddarllen. Ac yr wyf yn derbyn y G N. o'i g ohwyniad, ac y mae nid yn unig yn dal ei flas, ond yn gwella yn barhaus. Gan fy mod yn pieswylio mewn cwffiwd dipyn yn anhysbell, a bron yn unieithog, nid wyf yn gwybod ond pur ychydig o gwrs y byd mawr llydan, ond trwy golofnau y G.N. yr wyf yn cael banes y Rbyfel o ddydd i ddydd,—y gyflafan fwyaf erchyll welodd y byd. Diolch am yr hyn geir bob wythnos o banes y Rhylel- Hefyd y Golofn Ddirwestol: yn ddios mae cael tipyn o banes yr achos dir- westol yn iechyd i galon hen wr fel rnyfi, gan ty mod wedi cael fy magu ar laeth iach ac nid ar drwyth Bachus. Hefyd dyrnunaf ddiolch am golofnau Y Ebai a Hunasant": onibae am y G.N. buasai ami i un o fy hen gyfeillion wedi fy ngadael fel pererin fy hunan heb i mi wybod, ond trwy y G-N, yr wyf yn -cael ychydig o'r banes, ac fe synnech y llawenydd fyddaf yn gael wrth fyfyrio a dailien am ami un ohonynt. fel yroedd- ynt wedi byw, c wedi bod mor werth iawr efo'r achos goreu, ac wedi cadw eu dillad yn lan i'r diwedd. Coffadwr iaetb y cyfiawn sydd fendigedig. Ycbydig iawn oeddwn yn wybod am y "Gwthwynebwyr Cydwybodol," ond trwy y G.N. yr wyf wedi cael fy ngol ,euo, a phiti mawr fod yr awdutdodau yn rboi y bechgyn yn y c uchar am fod yn gydwyboiol, ond daw dydd y bydd po p-th yn eglur, ac y ca pawb eu talu yn ol eu haeddiant. At hynny, dyma .1 Llythyrau y Mil- wyr." 1 un fel fi sydd a rhai anew it yngbanol y gyflafan, mae llythyrau y nailwyr yn ischyd, a byddaf wrth ddar Hen y rhai n yn rhoi bloedd o l&wenydd. Diolch Fr-becbgynannwyl am eu U th yrau. Hefyd llythyrau y Gaplaniaid byddaf yn cael lies ysbrydol vrth eu myfyrio Maclijthyrau yr annwyl A. W. Davies uwchlaw dim a welais, ond y Beibl. Y mae ei lythyrau yn ein bar wain yn ami iawn i feysydd a rbodfeydd y Gwaredwr, ac nid rbyfedd cedd i A.W D. ddod o Gaza heb yr un crys am ei gefn, oherwydd os oedd y crys yn rhywbeth i leddfu clwyfau y bechgyn, nid aliai bachgen fel Aithur ond ei dorri yn ddarnau i gael clwt ar yr archollion. 0, ie, un felly yw A. W.D.-dilyn esiampl lesu Grist ymhob modd. Ben- dith arno, a chadwed yr Arglwydd ef Yr unig beth yn y G N. yn ddiweddar Mr Gol nad ydw i ddim yn cael llawer o flas arci ydyw y ffrae rhwng y P-archn W. R Roberts, a Thos. Hugbes. Rw}'n jmeddwl, Syr, fod yna hen ddigon o ryfela vn y byd heb iddi nhw'i dau fynd ati fel yma. Os yda nhw eisio ymladd ctybad na fuase yn well iddi nhw listio a mynd allan i Ffrainc neu i Fesopotamia. Mae'n dda gen i fod ryw argcel i bod nhw yn dechreu blino ar y row. Bydded iddyet bob un o'r ddau fed yn sicr yn .en meddwl eu hunain, a gadael y cwer. yb i rywrcfi eraill. Oui fyddsi yu well id&ynt roi sylw i lytbyr y Parch R Jones Williams yn y G.N. am Chwefror 26ain. Diolch am sylwadau y Parch.. R. Lloyd Jones ar Ddiwiayddiaeth Emynau Williams, Pantycelyn." Hefyd mae y newyddion am yr achos yn ei wahanol agweddau yn felus iawn.
I.-BWYD Y BOBL.
I. BWYD Y BOBL. Ateb Cwestiynau Pwysig, A ganiateir prynu ymenyn gan ffermwr yn lie yn y shop ? Gwneir, oad rhaid i'r teulu fo'n prynu felly gadw o fewn y "rations" bob wythnos, a gofelu croasi'r coupon allan wrth brynu fel y gwneir wrth brynu yn y shop. Gellir felly gael ymenyn drwy'r! post ? Gellir, ond cadw at y rheolau uchod. A oes gyfnewidiad yn nyddiau y ration gorfodol ? Oes, gohirir dyddiad gorfodaeth, os dewisa y Pwyll- gor Lleol, hyd Ebrill 7fed yn lie Mawrth 2oain. Ai yr un "ration" cig fydd i weithiwr ag i bawb arall ? Yr ydys yn ceisio trefnm modd y geilir caniatau mwy o ration o gig i'r neb fo'n cyf- lawni caledwaith corfforol nag i'r sawl sydd mewn galwedigaethau ysgafnach. Paham hynny ? Dywed meddygon fod mwy o angen maeth ar lafurwr fo'n gweithio yn yr awyr agored nag sydd ar dyweder clerc mewn swyddfa. Mae llafur corfforol caled yn gwneud i'r bwyd dreuiio yn gyflymach. Beth fydd y gwahaniaeth yn y ration ? Mae eto heb ei benderfynu, ond gwneir hynny yn fuan. Dyna y prif reswm dros ohirio dyddiad rations gorfodol, gan y ceisir sefydlu cynllun na bydd angen newid dim arno ar ol dech- reu. A geir digon o gig i gyfarfod a ration cwsmeriaid ? Hyderir y ceir. Gwnaed gyfritiad mawr er gwybod swm cynnyrch cig y deyrnas. Ebennir y wlal oil yn rhanbarthau- Dwy ran I barth sydd yng Nghymro, sef y Gogledd at Debeudir. Mae'r Gogledd yn cyn- hyrchu mwy o gig nag a gyferfydd a t gwir angen y trigolion felly gyrrir i i ranbarthau eraill gymaint ag a fydd ¡ dros ben angen y Gogledd. Cynyrcha'r 4 Deheudir Jai nag sydd angen, gan fod ei phoblogaeth mor fawr. Yn 11e gyrru cig ymaith, fel y gwneir yn y Gogledd, bydd y Debeudir yn cael cig o Devon- shire a'r Iwerddon i wneutiiur ei diff yg i fyny. Pa fesurau a gymerir i atal I gwastnlfju b?'y? ? Gosodir cospau ?trymion ar y neb a geir yn euog o wastraffu bwyd. Os ceidw shopwrfwyd yn y shop nes y bo wedi myned yn anaddas i'w ddefnyddio, cospir ef. Os drwy esgeulusdod ewmni rheilffyrdd yr a y bwyd yn ofer, cospir y cwmni. Os ceir teulu yn gadael i fwyd fyned yn anghymwys i'w fwyta, cospir y pen- tealu- Oni wastraffwyd llawer o jwyd yn y Camps ? Do, ond yn awr cymer- ir gofal na wneir hynny eto. Yn wir bydd llavter o'r Camps o hyn allan yn cynyjchu bwyd drwy blannu allotments, oo3i moch, magu fowls, &c. A yw gwastrafjn ychydig yn ddrwg ? Ydyw. Pe na wastraffid ond un owns o fara bob dydd ymbob teulu drwy'r deyrnas golygai hynny wastraffu pum miliwn pwys o fara (5,000,000 Ibs.) yr wythnos, neu was- traffu ugain miliwn o bwysi o fara mewn mis yn y deyrnas hon. Casgler y briwfwyd ar 01 pob pryd bwyd.
[No title]
Y mae Mr Ivor Bowen, K C wedi ei benodi yn farnwr Llys Man ddyledion Canolbarth Cymru, yn lie y diweddar Farnwr William Evans. Mae Syr Henry Piimrose a'i gyn- orthwywyr wedi cyhoeddi Papur Gwyn yn hysbysu fod y gwaith o bar- J otoi ar gyfer Datgysylltu yr Eglwys yn mynd ymlaen yn rhagorol.. Y mae cynllun pwysig o Gomnautation," meddir, wedi ei osod gerbron Corff Cyn- rychioliodol yr Eglwys. Mae r Eglwys I yn sior o ennill yn oughyffredin, mewa cyllid oblegid y Rhyfel.
IARTHOG. j
ARTHOG. j Damwain Alaethus.— Yn blygeiniol dydd Sadwrn, Mawrth 2il, daeth y newydd prudd fod Mr Thomas Jones Edwards, mab Mr a Mrs William Edwards, Garth Siding, Arthog, vvedi cyfarfod a dam wain angeuol yn War- rington. Y mae Mr William Edwards yn wr o radd dda ac uchel yn Eglwys y Wesleaid, Arthog, yn flaenor ffyddlon, ac yu swysldog defnyddiol. Ac yr oedd ei fab dysgedig a thalentog, yn cad w ei aelodaeth yn Arthog, er yn ttigiannu yng Nghaer. Collasom fachgen ieuanc ac addewid am ddyfodol ddisglair iddo. Un a naws grefyddol yn llenwi ei fywyd. Brawd ieuanc distaw, diwyll iedig, oedd Thomas Jones Edwards, un a berchid ac a anwylid gan ei gydnabod ymhob man. Prawf o hynny ydoedd, llond capel Artbog yn y gwasanaeth angladdol. Sylwodd ei weinidog—y Parch E J. Parry, fod y brawd ieuanc bebryDgid i'r gweryd oer gerllaw yn fachgen llednais, boueddigaidd, ac hawdd ei drin. Ynghanol llawer o nwyf ieuanc, yr oedd ynddo ufudd dod, a pharch, ac edmygedd tuag at ei athraw- on a i feistriaid yn y cylchoedd yr oedd yn troi ynddynt. Medda saith o fedal ion arian, ac oriawr arian, gan Bwyllgor Addysg Meirion, am ei bresenoldeb difwlch i'r ysgol ddyddiol am bum mlynedd. Eoillodd wobrwyon cylch- deithiol a thaleitbiol gyda'r Maes Llafur. Treuliodd dymor yn Ysgol Sir Dolgellau, a gwnaeth ddefnydd rhagorol o'i addysg yno, Yr oedd ysfa pregethu yn Tommy, a chredai llawer y gwnelai bregethwr rhagorol. Bu droion yn dechreu yr ysgol drwy roddi emyn, a darllen, ac adrodd Gweddi'r Arglwydd. Cafodd gynnyg gwaith i lanhau Eugines dan y Great Western Rail way Company a symudodd i Gaer. Bu yno am rai misoedd. Y chydig fisoedd yn ol safodd arholiad yn Swindon, a phasiodd i fynd yn Stoker,' ac nid oedd oud ychydig o ddyddiau er pan y dech- I reuodd ar ei waith yn sefydlog, a thra- yn dilyn ei oruchwyliaeth y. Warring ton, y colloddyn ddamweinioi ei fywyd. Cymerodd y gladdedigaeth le dydd Mercher diweddaf yn mynwent Eglwys Arthog, dan arwyddion o alar mawr. Cafwyd gwasanaeth yn y capel, cymer- wyd rhan yno gan y Parcha E. Jones Edwards (M.C.), J. Williams Davies (A.), acE. J. Parry. Arlan y bedd gan y P&rchn T. S. Ellis, Llanbedr, a E. J. Parry, a tbraddodwyd anercbiad bryd- ferth a chref gan Mr Griffith, Prif Athro Ysgol y Sir, Dolgellau, gan elfenuu cymeriad y brawd ieuanc Thomas Jonss Edwards. Yr oedd y dyrfa liosog yn fynegiad o barch ac edmygedd o'r bachgen ieuanc diwylliediga chrefyddolbwn, yn ogystal ae o'i cydymdeimlad dwfn a'r teuln yn eu galar a'i hiraeth ar ol bachgen mor annwyl a diymffroat. Nerthed yr Arglwydd y tad a'r fam a'r teulu oil yn nyd& eu cyfyngder boed iddynt ddweyd fel Job, "Uwchlaw a welaf, dysg Di fyfi." Tywyll iawn ydyw troion yr yrfa. Caffed y teulu annwyl hwn oleuni dwyf- ol ar ffordd y mynyddcedd duon. Anfonwyd flodaudorchaa prydferth gan gyfeiliion a pherthynasau, a daeth tri o fechgyn ieuanc yr holl ffordd o Gaer gan gludo un flodeudorch brydferth gyda hwy. • E J. P. I
RHIW, PWLLHELI.I
RHIW, PWLLHELI. I Gofidus gennym gofnodi marwolaeth Miss Catherine Mary Williams. Telyn a dotwyd yn gynnar oedd y chwaer ieuanc rinweddol hon. Bu farw cyn bod yn llawn un mlwydd ar hugain oe3, wedi ychydig ddycldiau o gystudd. Ber fu ei gyrfa, ond bu yn yrfa weithgar iawn, a thynnodd ei chwys yn uniawn i ben. Merch ydoedd i Mr a Mrs Williams, Tanyrardd, ac wyres i un o hen flaeooriaid fiyddlon Pisgah- Robert Owen. Mae ei thad yn arwain y gan yn Pisgah, ac efcifeddodd hithau y gallu i ganu i berffeittirwydd; a chanodd lawer yn ystod ei bywyd byr. Hoffai drigfan ty Dduw, a man preswylfa ei ogoniant." Byddai yn wastad yn y bregefcb, yr Ysgol Sul, y cyfarfod gweddi, y gyfehlob, a'r ysgol gan. Cyaaew ddyddordeb mawr yn mhlant- yr eglwys yr oedd yn aeod o honi, a dysgai hwy i ganu a llawer gwaith y clywyd hi yn dweyd y buasai yn dda ganudi pe gallai wneud mwy gyda'r plant. Gwnaeth ei theulu bopeth oedd yn eu gallu er sicr- hau meddygiaeth iddi a chael adferiad, ond siomedigaeth fu yr oll-Did eu bewyllys hwynt ydoedd ei ewyllys Ef. Tarawyd hi ag afiecbyd oedd tuhwyct i bob cynorthwy dynol, ac ehedodd ei hysbryd pur i'r heirdd drigfannau, Chwef. yr 22ain. Dydd Iau dilynol, er garwed yr hin, daeth tyrfa fawr ynghyd i hebrwng ei gweddillion i fynwent St. Aelrhyw; claddwyd dan y drefn newydd. Gwas- anaethwyd yn y ty ac ar lan y hedd gan Mr John H. Jones. Lay Agent. Gorch- uddiwyd ei harch a blodau-dyrch heirdd -un gan ei brodyr, ac arall gan eglwys Horeb, Aberdaron, o ba le yr oedd yn aelod weithgar. Nos Sabbotb dilynol traddodwyd pregeth angladdol ar ei hoi yn Pisgah gan Mr John H. Jones, a lliosog oedd y gynulleidfa. GOH.
TIPYN 0 BOPETH.
TIPYN 0 BOPETH. Y mae gwerth y degwm yn uwch heddyw nag y bu ers deugain mlynedd. Bob saith mlyneddcy hoeddir cyfartal- edd pris yr yd yn y wlad bOD, ac y mae hynny wedi ei wneud i fyny hyd y Nadolig diweddaf. Wele'r ffigyrrau- gwenith, 5/8t y pwysel Ymherodrol; haidd, 4/9;. ceirch, Sj5h Bydd pob can' pant o ddegwrn am y llwyddyn 1918 yn werth 109p 3s lie-, sof, cyn- nydd o 17p 2s lOfc ar y tlwyddyn ddi- weddaf. Y mae y gwerth yn uwch nag am unrhyw flwyddyn er 1880. Dengys y tabl canlynol werth pob can punt o ddegwm am y saith mlynedd diweddaf: £ s. c. 1911. 71 4 If 1912 72 14 2t 1913 74 14 9t 1914. 75 16 4 1915 77 1 4i 1916. 83 2 61 1917. 92 1 0f Yn y llwyddyn 1836 y pasiwyd Deddf Cyfnewid y degwm mewn yd am ddegwen o arian. Y mae dwy llynedd a phedwar ugain er hynny, a chyfartal- edd gwerth pob can' punt o ddegwm am y cyfnod hwnnw ydyw 91p 153 lJa, Yn 1871 yr oedd Mr Gladstone o'r farn mai'r ffordd oreu i ddelio a'r talaeth- au oedd eu gwneud yn amhJeidiol yn filwrol; hynny ydyw, peidio a'u cym- eryd oddiar Ffrainc yn wladol, ond gwrthod caniatad i Ffrainc r.a Phrwsia gadw milwyr ynddynt. Mewn gwirion- edd, golygai'r cynllun wneud Alsace- Lorraine yn fath o dalaeth amhleidiol ymhob ysfcyr. Credai Gladstone fod Prwsia wedi gwneud camgymeriad mawr trwy wneud fel y gwnaeth gyda'r talaethau. Credai hefyd fod Prydain wedi gwneud camgymeriad trwy fyned i ryfel yn erbyn Ffrainc yn 1793. Pe buasai wedi peidio," meddai, buasni cwrs y chwildroad yn Ffrainc a thynged Ewrob yn ol pob tebyg yn gwahanol. Efaliai buasai yr un Napoleon wedi codi. Efaliai na buasai yr un Sedan," Mae Beriah Gwynfe Evans wedi gadael ei 70 mlwydd ar ol, ond y mae ganddo gryn waith eto wedi ei dorri allan iddo ei hun cyn noswylio. Geilw Alltud Buallt- sylw at y priodoldeb o wneud rbyw gydnabyddiaeth genedl- aethol iddo am ei lafur dros Gyrnru. Trefnodd Ficer Wembdon i weinidog Annibynnol bregethu yn ei Eglwys. Y mae Esgob Tauntou wedi gwrthod can- iatau hynny. Protestiodd yn gyhoeddus ar nos Sul yn erbyn yr Esgob dywedai fod rheolau Eglwysig yn cael eu torri bob wythnos gan y clerigwyrdefodol heb i neb ymyrrid. Hyd yma," ebai, perchais y deddfay, ond bellach gwelaf fod yn rhaid eu torri-chwyldroad a beiddgarweh ydyw'r unig lwybrau i weMhad."