Skip to main content
Hide Articles List

5 articles on this Page

Advertising

- ABERMAW.I

NODION WESLEAIDD. I - -I

Advertising

CYifl.811Îa \i esleaid Lerpwl…

News
Cite
Share

gwahanol Eglwysi y ddwy gylch- daith sydd wedi eu dyrchafu'n uwch i fyny er y Gyrnanfa ddiw eddaf, sef Mri Thos. Jones ac E. T. Hughes, o Eglwys Knowsley Road Mi Wm. Davies, o Eglwys Claughton Road, Birkenhead; a Mr R. Richards, o Eglwys Edge Hill, a datganwyd cydymdeimlad a-u teuluoedd hwy a theuluoedd eraill profedigaethus. Cainc I.—" YR HWN SY'N MADDEU DY HOLL ANWIREDDAU." Y Parch THOS. HUGHES Rhan o ymson gwr duwiol yw'r testun. Wrth ddarilen y Salm ni a glywn y Salmydd yn siarad ag ef ei hun. Ynghanol berw a dadcvrdd y dydd- iau prysur hyn, efallai mai da fydd- ai i lawer o honom ninnau siarad mwy a ni ein hunain, hyd yn oed pe golygai hvnny inni siarad llai ag eraill. Iaith profiad, fel y gwelir, yn hytrach na phwnc o athrawiaeth yw'r geiriau. With feddwl am ddoniau'r Arglwvdd, geilw'r Salm- ydd ar ei enaid a'r cwbl oedd ynddo i ymddeffro. Fy enaid, mowl di Sant Dduw yr lop, A chwbl o'm heigion ynof''— dyna'r modd y mae Emwnt Prys wedi cyfleu syniadau'r Salmydd yn y fan hon ar gan. Y ffiae eigion yn ein natur, ac mae profiad o ddaioni'r Arglwydd yn hawlio-clod a ddylai i ddiasbedam yn yr eigion hwnnw. "Yr Hwn sy'n maddeu dy holl anwireddau," neu bechod- au—dyna'r peth cyntaf a esyd ar restr y doniau, hynny oherwydd pwysigrwydd y fendith. Pwysig iawn yn ei olwg oedd profiad o faddeuant, am ei fod yn effro i ddrwg pechod. Y mae lie i ofni ein bod yn y dyddiau hyn mewn perygl o golli golwg ar ddrwg fel pechod, h,y fel y mae'n gwrthdaro a Duw. Credaf ein bod yn fwy effro nag erioed i ddrygau cym- deithasol. Y mae'r gydwybod gyhoeddus yn dynherach nag a fu, a diau y bydd i'r Rhyfel presennol ein helpu ymhellach i weled gresyni drwg yng ngwahanol gysylltiadau dynion a'i gilydd. Ond anghofir i gryn fesur berthynas foesol dvn a Duw a'i gyfrifoldeb personol iddo. No one fears God these days," medd Dr Dale, Birmingham, wrth gyfaill mewn ymddiddan ag ef tua deng mlynedd ar hugain yn ol, a chredaf fod mwy o reswm dros sylw o'r fath y dyddiau hyn nag oedd hyd yn oed y pryd hynny. Efallai y dywed rhai mai'r esbon- iad ar hynny yw ein bod yn synio am«y Duw mawr i ryw fesur yn wa- hanol i'n tadau-ein bodyn meddwl mwy amdano fel Tad nag fel Barnwr. Gellir ateb mai da yw gwaith yr Eglwys yn rhoddi mwy o amlygrwydd i'r gwirionedd cyf- oethog am dadolaeth Duw. Ond fe ddylai'r gwirionedd hwnnw ein harwain, nid i fod yn fwy diystyro ddrygedd pechod, eithr yn hytrach ein galluogi i weled ei resyni a'i ddifrifoldeb yn gliriach, gan ei fod yn atal dyn i sylweddoli y ddelfryd ddwyfol o fywyd plentyn i'r Tad cariadlawn. I'r graddau y medd wn ymdeimlad dwfn o ddrwg pech- od y gwelwn werth maddeuant. Ofnaf mai diffyg hyn sy'n cyfrif am fod cyn lleied o bwys yn cael ei roddi ar y fendith o faddeuant- pechod yn ein cyfeillach crefyddol. Soniai'r tadau lawer amdani. Yr oedd yn bwysig iawn yn eu golwg hwy, a hynny'nun path am y cred- ent nad oedd modd cychwyn yr yrfa grefyddol hebddi. Yn ddiwinyddol fe'i magwyd ef (fel cadeirydd y Seiat) i gryn fesur ar Holwyddorydd Pritchard, a'r pryd hynny hawdd fuasai inni gael ein magu ar ei waelach. A da y coriaf am yr adeg yi elwn yn fachgen gydag eraill i gyfarfodydd ysgolion y cylch ij adrodd, a chennym ymysg nwydd-! au diwinyddol eraill "brawfiadau"! —dyna'r gair a ddefn ddid-mai'r: un fendith mewn gwirionedd oedd eyfiawnhad a maddeuant a mab- j wysiad. Gan nad beth a ddywedir am ddiwinyddiaeth y tad3u, priod ol iawn i ninnau, fel hwythau, yw cadw mewn cof nad oes modd inni fwynhau breintiau'r mabwysiedig, breintiau plant i Dduw, heb inni gael ein dwyn i iawn berthynas a Duw trwy faddeuant. Da iawn oedd ganddo weld cynifer o bobl ieuainc yn y Seiat, pobl ieuainc ac 61 gofal cartreh crefyddol ac hy- fforddiant yr Eglwysi ar eu hym- arweddiad. Carai atgofio'r cyfryw o un peth pwysig-gari nad pa mor olygus eu bywyd allanol, os oedd unrhyw un ohonynt yn byw iddo'i hun, gan wneud ei hun, yn hytrach na'r Tad dwyfol, yn amcan ei fywyd yr oedd gwraidd ei fywyd moesol o angenrheidrwydd yn bechadurus ac os felly'r oedd, yr oedd ganddo yntau achos i geisio adnabod Duw fel un yn maddeu ei holl anwireddau. (I barhau yn ein rhifyn nesaf),