Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

12 articles on this Page

'(. , *ABERDYFI. I

ABERCYNON. I

PORTH. II

[__-MANCHESTER.-I

LEEDS. I

JERUSALEM, LLANELLI. I

LLANRHAEADR-YM-MOCBNANT,

News
Cite
Share

LLANRHAEADR-YM-MOCBNANT, Nos Fercher, Ion. 30ain, yn y Gym- deithas Ddiwylliadol traddododd y Parch Tegla Davies ei drydedd anerch- iad ar Drefn yr Iackawdwriaeth- Dysgeidiaeth Paul am dani." Chwef. 13eg, ei bedwaredd anerchiad-" Dysg- eidiaeth yr Hebreaid am dani." Chwef. 20fed, ei burned anerchiad, sef" Dysgeid- iaeth loan am dani." Yn sicr cawsom wledd wrth wrandaw ar yr anercbiad- adau cyfoethog hyn, ac y mae y gwortli- fawrogiado'r anerchiadau hyn yn dodi'r golwg yn y ffyddlondeb mawr a ddang- osir i'r Gymdeithas. Chwef. 6ed, caf- wyd Adolygiad ar y ddau anerchiad. I agor yr ymddiddan anerchiad ail- Dysgeidiaeth lesu Grist am drefn yr Iachawdwriaath," Mr D. F. Jones, yn absenoldeb Mr J. H. Vaughan trydydd anerchiad, Dysgeidiaeth Paul am dani," Mr Richard Jones, a chafwyd amser rhagorol. Drwg iawn oedd gennym golli aelod ffyddlon a s-elog o'r Eglwys hon, sef Mr Aneurin Jones, mab Mr a Mrs D. F. Jones, School House, yntau wedi gorfod ymuno a'r fyddin. Y mae ar hyn o bryd yn South Farnborough, Hampshire. Llawenydd mawr oedd gennym weled Lieut. Elwyn Jones, a Private Clement Williams, gartref ar leave." Da gen- nym weled fod y brawd ieuanc Pte- Clement Williams yn dal i wella. Treuliwji^ y Sul diweddaf i ymdrin a'r Ysgol Sul. Cafwyd pregeth effeithiol yn y boreu gan y Parch Tegla Davies ynglyn a'r Ysgol Sul. Yn y prydnawn, dan lywyddiaeth Mr E. 0. Evans, cawsom anerchiadau pwrpasol gan Mri Edward Jones, E. D. Williams, W. H. Jones, a D. F. Jones. Yn yr hwyr pregethwyd gan Mr E. D. Wil- liams. Nos Iau, Chwef. 28ain, yng nghapel Seion, cynhaliwyd cyngherdd mawredd- og. Y llywydd penodedig ydoedd Lieut. Col., Syr Henry Webb, Bart., M.P.,ond oherwydd amgylchiadau neilltuol, bu yn amhosibl iddo allu bod yn bresannol. Yr oedd hyn yn siomedigaeth iddo. Yn ei absenoldeb llywyddwyd yn ddeheuig gan Mr J. H. Profit, ac arweiniwyd yn fedrus gan y Parch Evan Roberts. Yr Artistes oeddynt; Tenor, Lieut. Seth Hughes,; Bass, Lance Cpl. Morgan Morgan (Morleisydd); "The Western Command Labour Centre Orchestal Band," arweinydd ydoedd Capt. Spokes. Cyfeiliwyd yn ddeheuig gan Mr E. O. Evans, Hendre," Yr oedd y capel wedi ei lenwi a chafwyd cyngherdd ardderchog. Ni fuasem wedi cael y fath- gyngherdd a hwn onibai am ymdrech y boneddwr selog a charedig Mr J. H. Profit. Cafodd Captain Spokes a'r cant- orion a'r milwyr oil groesaw cynnes ar ol cyrraedd y Llan. Yr oadd nifer o chwiorydd caredig wedi bod yn darparu yn helaeth ar eu cyfer yn yr Ysgoldy gerllaw, sef MrsE. O. Evans, Hendre; Mrs Jones, Henfache; Mrs Edwards, Tynymaes; a Mrs Davies, Trefeilior. Diolchwyd yn gynnes iddynt am eu caredigrwydd. Hefyd i Capt, Spokes a'r milwyr, a'r cantorion, hefyd Mrs E. O. Evans, am gyfeilio, a Mr J. H Profit a'r Parch Evan Roberts am eu gwasanaeth. Ar derfyn y cyngherdd pasiwyd pleidlais o gydymcleimiad a Syr Henry a Lady Webb yn eu profedigaeth a gawsanfe o golli eu hunig fab. Ysgrifennydd a thrys orydd y mudiad hwn oeddynt Mri J. H. Davies, Park St. ac Iorwerth B. Morris, Trewern. BERWYNFERCH. I

BEDLINOG. I

I NODION 0 DDOLGELLAU.

I BETHESDA, BWLCHGWYN.

CARNO.

COED-Y-FFLINT*