Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Advertising

NODIADAU WYTHNOSOL.I

[No title]

[No title]

FFLINT.-

News
Cite
Share

FFLINT. Bu y Pte. Willie Beavan, Coleshill, un o'n gwyr ieuaine ffyddlon, adref ar ymweliad. Y mae ar ddyohwelyd- nawdd y nef a fo drosto. Hefyd, bu y Pte. D. E. Davies, Pentre, adref ar ym- weliad o'r fyddin. Da gennym ei weled, Yr oedd efe yn un o'n bechgyn goreu. Y mae amryw o'n cyfeillion ffyddlon- af wedi bod yn cwyno: Mr W. E. Jones, Ysgrifennydd yr Ysgol Sul, a Mr Thomas Lloyd, Pentre Farm. Bu y ddau frawd ymroddol yn cwyno'n dost am rai wythnosau, ond y mae'r ddaq erbyn hyn yn gwella, a disgwyliwn eu gweled eto yn eu cynefiu iechyd. Llaw- en hefyd oedd gennym weled Mra Minnie Hughes, (wyres yr hen flaenor ffyddlon, y diweddar Thomas Rhiwlach) wedi dychwelyd adref ar ol bod am gyfnod yn yr ysbyty o dan driniaeth law feddygol bwysig iawu, a phoenus. Hydarwn fod y gwellhad a gafodd yno yn un cwbl, ac yn un parbaus. Y Sul diweddaf eynhaliwyd Reboar- sal yma ar gyfer y Gymanfa Ganu. Ar- weiniwyd gan Mr Thomas Vois Jones: Port Sunlight. Y mae Mr Jones yn un o hen ysgoloiion Ysgol Sul Peniel. Y mae yn gerddor galluog ac yn ar- weinydd campus fel y tystiodd amryw o'r brodyr, gwnaeth ei waith yn ardd- erchog Siaradwyd yn ystod y cyfarfod gan Mr John Bellis, Llywydd yr Ysgol Sul; Mri John Hughes, ac Edward Hughes, Bloc Farm. Cafwyd Rehear- sal gampus—addewid dda am Gymanfa rhagorol.

COED-Y-FFLINT.