Skip to main content
Hide Articles List

6 articles on this Page

Advertising

NODIADAU WYTHNOSOL.I

News
Cite
Share

NODIADAU WYTHNOSOL. I Hunan-Lywodraeth i Gymru a',r lwerddon. Mewn llythyr at Mr J. Hinds, A.S., ynglyn a galw cyfarfod o holl gynrychiolwyr Cymru yn y Senedd, ysgrifenna Mr E. T. John fel y can- lyn:— Credaf mewn gwirionedd fod Major David Davies wedi gwneud gwsanaeth rhagorol trwy ein gwahodd i gyd yn unol i ystyried buddiannau Cymru yn y cyfwng presennol. Yr wyf fy hun bob amser wpdi ffafrio ffurfiad Plaid Genedlaethol Gymreig wedi ei rhwymo trwy adduned, ond mater yn fwyaf neilltuol i'r etholiad cyff- redinol nesaf yw hynny, a dichon nad yw hwnnw mor agos ag y tybir yn gyffredin. Yr hyn y gyfrifaf fy hun sydd yn galw yn tiwch o lawer arnom yw y pwnc o hunan-lywodraeth gyffred- inol fel yr effeithir arno gan feth- iant tair Llywodraeth olynol i sicrhau dealldwriaeth ar y pwnc Gwyddelig. Y mae yn amlwg anesmwythder mawr a chynhyddol yn yr Iwerddon, ac ni wna dim y tro yno ond hunan-lywodraeth ar y liinellau mwyaf rhyddfrydig. Yr unig ffordd bosibl i roddi i'r Iwerdd- on hunan-lywodraeth a galluog Ulster i barhauyn ei chysylltiad ac yn deyrngaiol i awdurdod Prydain Fawr yn union ar yr un Ilinellau a Yorkshire, yw sicrhau federal devo- lution (sef hunan lywodraeth i ran nau ereill y Deyrnas Gyfunol) Cyflwynaf felly yn barchus i fy nghydaelodau ypriodoldeb 0 basio penderfyniad ar y llinellau canlyn. ol:- Fod y cyfarfod hwn o gynrychiol- wyr Cymru yn gofidio wrth sylwi ar gyflwr anfoddhaol yr Iwerddon ac anallu y Cyf-Eisteddfod-i ddod i unrhyw ddealldwriaeth, ac yn gwasgu ar y Llywodraeth y doeth ineb o ymgynghori a chynrychiol- wyr Scotland, Iwerddon, a Chymru gyda golwg ar ddarpariad mesur cytunol ar linellau federal devolu tion, yn rhoddi i bob un o'r tair gwlad lywodraeth lawn ar ei mat erion mewnol, gan adael i gynrych- iolwyr Lloegryn Nhy y Cyffredin yr un modd lywodraeth ddilyfeth air ar fusnes mewnol Lloegr. Sylwaf fod Dr Addison, Gwein- idog Atrefniad, wedi ethol Cyngor[ Ymgyngoriadol heb, mor bell ag y gwelaf fi, nnrhyw gynrychiolydd o eiddo Cymru a buddiannau Cym- reig. Y mae hyn yn hynod nodweddiadol o bob Llywodraeth, ac ni aliaf ddweyd fod yn ddrwg gennyf am y peth. Ychydig a enilla Cymru fel rheol oddiwrth un cynrychiolydd neu ddau ar bwyll- gorau mawr neu ddirprwyaethau. Annhraethol gwell cwrs a fuasai creu Cyngor Atrefniad i Gymru ar unwaith gan osod arno y ddyled- swydd o ystyried ymhob manyl rwydd holl gynhygion y Llywod- raeth ynglyn ag atrefniad mor bell ag y daliant berthynas a Chymru, ac yn ol pob tebyg byddant i gyd yn dal perthynas, mwy neu lai, a'r Dywysogaeth. Dengys y pender. fyniad canlynol y cwrs y buaswn, pe yn bresennol, yn ei gymeradwyo i fy nghydaelodau :— Fod y cyfarfod hwn o gynrychiol- wyr Cymru yn gwasgu ar y Llywodraeth ar iddi yn ddiymdroi ethol Cyngor Atrefniad i Gymru, i gynnwys holl gynrychioiwyr Sen- eddol y Dywysogaeth, gan ychwan- egu personau cyfaddas a feddant brofiad a gwybodaeth gelfol, ac fod holl gynhygion y lywodraeth er atrefniad, fyddont yn dal perth- ynas a Chymru i gael eu cyflwyno i'r cyfryw Cyngor er mwyn cael eu harchwilio yn fanol a'u hystyried. ————— —————

[No title]

[No title]

FFLINT.-

COED-Y-FFLINT.