Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

??y-f? LL7THYRAU Y MILWYK*…

News
Cite
Share

 ??y-f? LL7THYRAU Y MILWYK* I LLYTHYR DYDDOROL 0 ITALI I (Gan POWELL ROBERTS, gynt o I Liverpool House, Penmachno). D/241 Bdg, R.F.A., Italian Ex. Force, Italy, Chwefror 3, 1918. Annwyl Dad a Mam, Yr ydym yn cael amser da iawn yma, tywydd rhagorol, cawn am- bell i ddiwrnod niwliog, mae yn bur oer yr adeg honno, ond dim byd yn debyg i dywydd oervna, a& eithrio y rhai hyn tywydd sych a theg ydyw bydd yn werth bod yma yn yr haf. Gwlad wastad ydyw, end mae rhes o fynyddoedd yn rhedeg drwyddi, ac o gwmpas y rhai hyn y mae y brwydro. Yr ydym ni rai militiroedd o odreu y rhai hyn. Bum yn nhop un o'r mynyddoedd hyn unwaith mewii Motor Lory cawsom ein cario bob cam i'r top, ffordd yn myned igam ogam ydoedd, yn cyrneryd y mynydd bob yn step wrth gwrs, 'roeddym mewn eira ar y top. Gwlad amaethyddol ydyw hon, mor bell ag yr wyf fi wedi ei gwel. ed, a Grapes mae pawb yn ei dyfu bron, ynghydag Indian Corn. Y mae y bobl yn eithaf caredig, ond nid oes ganddynt ddim i'w roi; bywiant ar yr hyn a gynvrchant; ac y mae ymhob ty farilau ar faril- au o win, wedi ei wneud o'r Grapes, a dyna ydyw eu prif ddiod; ni wyddant beth ydyw te na cocoa, cantryw fymryn o goffi rwan ac yn y man. Y mae ganddynt y bara rhyfeddaf, a phobydd ymhob pen- tref bron nid oes ganddynt dyniau crasu, ond torth hirgrwn gwaelod pobty, tua naw modfedd o hyd a thair o led. Yn y pobty cyhoeddus y mae yr holl gyrnydogaeth yn cael ei bara hwyrach ei bod yn wah- anol yn y trefi. Y mae yn perthyn i bob ty hefyd bobty, ond m chras- ant ond math neilltuol o fara, llai o lawer na'r rhai geir yn y Bake- house, ac maent yn ddigon caled i chwi eu cicio o un pen i Itali i'r llall. Cymerant yr Indian Corn i'r felin i'w falu, a gwnant yr hyn a alwant yn Polenta o honno; gall- wn ei fwyta ond cael' riigon o Jam -arrio; wrth gwrs, bwyd moch neu ieir ydyw yna gyda chwi. Dydd Sul ydyw heddyw, ac -maent yn yr Eglwys trwy'r dydd bron er 7 y boreu-y merched yn neilltuol a'r dynion i'r Eglwys rhyw unwaith, yna at eu gwaith fel rhyw ddiwrnod arall, a'r merch- ed i'r Eglwys yn ei ffedogau, a shawls neu lace am eu pennau, a chlogs digefn am eu traed,—dyna maent yn ei wisgo i gyd. Yr oedd yr Eglwys yn rhy lawn iddynt oil allu myned i fewn y boreu, a phen- linient ar y steps a'r palmant y tu allan. Ychydig iawn o anifeiliaid sydd yn y ffermdai mwyaf, rhyw fuwch neu ddwy, ac yna bustuch nid oes ganddynt geffylau, a'r bustuch sydd ganddynt i droi y tir, &c. Yn y ffermdai mwyaf ceir cymaint ag un ar bymtheg neu u ain o honynt. Fe welwch y wedd rhyfeddaf yn pasio weithiau—mul a buwch, neu iath o ferlyn mynydd a bustach. Y mae'r merched yn gweithio yn galed iawn, a hwy sydd yn gwneud y rhan fwyaf o'r gwaith nid yw'r dynion yn gwneud y nesaf peth i ddim, oddigeth trimio y coed ffrwythau, a thwyso y wedd i'r cae gydallwyth o dail wedi ei Iwytho gan y merched, ac yntau yn edrych arnynt, a'r merched sydd yn chwalu y tail yn y cae. Pan yn golchi nid oes ganddyiit gryciau fel yn y wlad yna, ond ant a'r dillad i lan yr afon, ac ar fath o fwrdd pwrpasol, hefo osgo ynddo yn rhedeg i'r afon, .ac arno y golchant y dillad. Y mae un neu ddwy o honynt wedi golchi fy rhai innau golchant beth wm= breth o ddillad am Lira," neu Gc. yn y wlad yna. Cawn faint a fyn- jiir o wyau am 4c. yr un yn arian y wlad yma, neu ddwy geiniog yn ol gwerth arian yna. Ond y diwg ydyw eu bod wedi dod i ddeall fod ein harian ni yn werth dwbl eu rhai hwy, a dyblant y pris am y pethau, yn neilltuol yn y shopau telais 1/9 y nos o'r blaen am fym- ryn a chop a thelpyn o fara yn fy llaw, Cyflog gwael iawn y mae y gweithiwr yn ei gael yma—dwy neu dair Lira yn y dydd-l/- neu 1/6 o'n harian ni; ond mae gan bawb bron fymryn o dir ei hun. Cyflog y milwr yn y trenches ydyw pump ceiniog yn y dydd, a'r rhai tu ol i'r line, ceiniog yn y dydd. Y mae pedwar neu bump o deuluoedd yn byw ymhob ty, math, o gydfyw, a gallant wneud hyn heb ffraeo. Yr ydym mewn lie bach cym fforddus iawn—rhyw fwthyn bach ar ochr y ffordd wrth yr Eglwys: 80 o honom yn y llofft. Yr ydym yn cael spario prynu canhwyllau am fod y Cooks yma hefo ni, a chawrt un bob ncs ganddynt: faint feddyliech y maent yn ei gostio yma ? Pum ceiniog yr un, ac nid bob amser y gallwn eu prynu; purn ceiniog am din a polish (size ceiniog yna), a dau swllt am y brwsh polish lleiaf fu erioed ond nid wyf fi yn prynu yr un brwsh, gallaf ffeindio un am ddim. Ychydig iawn o ddodrefn sydd ganddynt yn y tai, dim ond bwrdd neu ddau, ac ychydig gadeiriau ond y mae pob man yn lan iawn, a'r meiched bob amser yn lan a thrwsiadus, ond syml. Nid wyf eto wedi gweled yr un o'r Italiaid yn iwsio sebon i ymolchi, rhwbiant eu gwyneb nes y cant ef yn Ian. Anaml iawn y gwelir tan yn y tai, dim ond i wneud y bwyd, a than coed ydyw y pryd hwnnw. Credaf fod mwy na hariner Itali heb weled telpyn o lo. Ar nosweithiau dipyn yn oer, bydd yr holl deulu yn y beudy,—yno maent yn byw mwy na hanner eu hamser, ond mae'r beudy cyn laned a'r ty, ac wedi ei whitewashio mor wyned ag eira, ac mewn llawer lie electric light' i'w oleuo, a'r drysau yn ffitio i'r fodfedd, a dim drafit. Wedi deall y wlad, nid ywyn rhyfedd eu bod yn trefnu y beudy mor dda, oblegid gwres yr anifail yw eu tan, a dygir y plant i fyny yn y beudy, a bywyd caled yw, a di-gysur. Am y wlad yr wyf yn siarad, mae'n wahanol yn y tiefi, ond ni fum yn aros yn yr un dref eto. Wel, ynglyn a leave,' ofnaf na ddaw fy nhurn yn hir iawn, er fod rhai yn myned bob wythnos. Mae un cysur fod rhywun yn myned, daw fy nhurn innau rhyw dro felly; aeth tri yr wythnos ddiweddaf, ac un heddyw; mae fy mhartner cysgu y seithfed ar y list i fyned rwan, ac mae ef wedi bod allan am 17 mis, ac mae rhai degau ar ei ol ef cyn y daw fy rhan i. Cerddais i a fy mhartner tua ped- air milltir tua wythnos yn ol i chwilio am rhywbeth i'w fwyta, a phan gawsom afael ar Bakehouse, 'roedd popeth wedi darfod, ond mi dynodd fy mhartner yr wyneb hiraf a welsoch erioed, ac o dosturi mi werthodd yr hen wraig dorth ddwy geiniog bob un i ni, ac mi roesom ores iddi 1 gadw tair bob un i ni at nos drannoeth ond dau o'r gloch y boreu dyma orders i ni symud, ac felly colli ddarfu ni ar y spec yna. Cofion goreu, I POWELL. I

[No title]

CONGL YR AWEN. :

Advertising