Skip to main content
Hide Articles List

5 articles on this Page

GORE STREET, MANCEINION.

BALA.

News
Cite
Share

BALA. Nos Iau diweddaf, yn Ysgoldy Capel Tegid, Bala, dan nawdd Cymdeithas Ddirwestol Gwynedd, cafwyd anerchiad galluog, yn gosod allan yn glir a theg y rhesymau yn erbyn Pryniant a Chenedl- aetboliad y Fasnach Feddwol, gan y Parch Gwynfryn Jones. Cymerwyd y gadair gan y Parch. R. R. Williams, M.A., ac yroedd cynhulliad da wedi dod ynghyd. Darllenwyd rhan o'r Ysgryth- yrau a gweddiwyd gan y Parch R. Davies, Cwmtirmynach. Sylwodd y Cadeirydd fod gwahanol safleoedd oddi ar y rhai y gellid edrych ar bryniant y Fasnach Feddwol ond mai y safle foesol i'r cwestiwn oedd yr un y dylai pobl grefyddol edrych ar y mater, ac oddi ar y safle honno ni ellid ar un cyfrif gyf- reitbloni cenedlaetholi y Fasnach Fedd- wol. Wedi sylwadau rhagarweiniol gan y Parch Gwynfryn Jones yn cyfeirio at ei ymweliad blaenorol a'r Bala cymerodd dri golwg neilltuol ar y mater yn gyn taf edrychodd Mr Jones ar y wedd gyll- idol i genedlaetboli y Fasnach Feddwol. Yr oedd y cynnyg wedi dyfod yn gyntaf oddiwrth y Bragwyr, fel y rhaid y can- fyddent hwy y dygai y trefniant fantais a chyfoeth iddynt. Dywedai Mr Jones y costiai prynu y Fasnach Feddwol o leiaf bedwar can' miliwn o bunnau, a gofynai sut y gallai y bobl byth dalu y liogau ar y swm enfawr yn ogystal a chyfarfod beichiau ychwanegol eraill ddaw mewn canlyniad i'r Rhyfel. Pe byddai pryniad y Fasnsch yn cymeryd lie, mynai y bobl fod mwy o werthu ar I y ddiod er cael elw i js^ifnhau beich- ¡ iau y tiefchu ofnadwv. Edrychodd Mr Jones yn ail ar salie foesol y cwestiwn, a dywedai nad ystyriai ef wertbiad y ddiod feddwol ond yn bechod ofnadwy. Pa fodd felly y gallai ef fel dinesydd i fyned yn gyfranog yn y cyfrifoldeb o I gario ymlaen fasnach y ddiod feddwol? Byddem wrth genedlaetholi y Fasnach Feddwol i gyd yn myned i fewn i gym- eryd rhan yn ei dygiad ymlaen. Gwir ein bod yn cymeryd arian mewn tretbi oddiwrth y fasnach yn awr, ond ein hamcan yn hynny yw rhwystro y fas- nach. Yn yr un modd ag yr ydym yn dirwyo troseddwyr er mwyn ei rwystro heb fod yn gyfrifol am ei drosedd. Ond yn y cynllun o bryniant y Fasnach Fedd- wol gofynir i ni fynd yn dafarnwyr, nid i wahardd (oherwydd nid yw hynny yn y cynllun er fod siaradwyr yn dweyd ei fod), ond i barhau i werthu diodydd meddwol. Cadarnhau y fasnach ofn- adwy yn sicr fyddai ei chenedlaetholi. Edrychodd Mr Jones yn olaf yn ei araeth aUuog a brwdfrydig ar y cwestiwn o safle profiad ymarferol. Nododd luaws o engreifftiau er dangos fod y pwrs cyh- oeddus yn cael y flaenoriaeth ar bob hawliau moesol a chrefyddol pan fyddai y fasnachwedi ei huno ag awdurdodau gwladol a dinasol. Pleidiai Mr Jones Waharddiad Llwyr y Fasnach Feddwol, yn arbennig dros dymor y Rhyfel a diarf- ogiad. Os yw gweithwyr y wlad wedi aberthu mewn bywyd, ac wedi rhoddi eu meibion mwyaf annwyl, yn sicr mai sarhad arnynt yw dweyd na foddlonant i fod heb y ddiod feddwol. Cynhygiwyd diolchgarwch y cyfarfod i'r Parch Gwyn- fryn Jones gan y Parch J. H. Hughes, ac eiliwyd gan Mr H. Evans, Swyddfa'r Eryr," a phasiwyd yn unfrydol. Heblaw y Gweinidogion enwyd yr oedd yn bresennol yn y cyfarfod y Parchn T. R. Jones, T. Talwyn Phillips, B.D., Alun Jones, W. Jones, a'r Meistri J. R. Jordan, R. Williams, M.A., Supt. Morgans, ac eraill. I J. H. H.

J 'WEASTE.

I--LEIGH..

Advertising