Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
10 articles on this Page
PENMACHNO.I
PENMACHNO. I Nos Sadwrn, Chwef. 9fed, bu Mr W. <5aenog Jones, Coedpoeth, yn darlithio ar Teulu Abram Hood," Mr E. Lloyd, U.H Oerrigydruidion, yn gadeirydd,— darlith odidog, a rhodd hael gan y cad- eirydd, ac elw eithriadol oddiwrth y Iliaws ddaeth ynghyd. Y Sul, dwy bregeth rymus un o feistriaid y cyn- mileidfa, dim gair o'i le, a chynllun eglur a sylwadau a pherlau lu yn y pregethau. Yr oedd nos Sul yn debyg i gyfarfod y Sulgwyn noson olaf yr wyl-rhyw deimiadau yn rhedeg drosodd. Sul da .iawn fu i ni oil. Ar Ymweliid.—Gwelais yn y gynull- eidfa lawer o aelodau Bethania sydd ar wasgar, ond wedi dod adref unwaith yn rhagor, sef Gunner Pierce Williams, Mri W. D. Davies o Lerpwl; J. Ellis Williams, o Penmachno; Miss May Jones, Disgwylfa, ac ereill. Cronfa Newydd—Yr ydym yn byw mewn cyfnod o drefnu, ac o gynllunio -erbyn yr atdrefniad mawr sydd yn hofran yn meddwl rhyw bobl; ond nid rhyw welediad pell fel yna sydd gyda ni ond ymdreeh fechan i gyfarfod cynnyg y Genbadaeth Gartrefol mewn rhodd i ,-gUrio ibyw ychydig ddyled sydd ar y Gylchdaith. Dydi hi fawr i son am dani, dechreu at ei thalu oedd y peth .mwyaf, a'r siarad oedd hynny. Mae argoelion eisioes o lwvddiant yn welad- wy, a'r chwaer ymroddol Miss Jones, Moss Hill, yn fyddlon ac ewyllysgar yn y cyntedd fore Sul gan brysured ac norhyw Ganghellor Trysorlys fu ym -Mhrydain Fawr erioed, Did yn derbyn -argymhellion, ond arian. Yn Gwella — Yn ddiweddar iawn yr yr wyf yn cyfeirio athyn, ond gwell hwyr na hwyrach." Cyfarfyddodd Mr D. W. Roberts, un o'n blaenoiiaid, a damwain, allasai fod yn farwol iddo, ond cysgododd aden drosto ac arbedwyd ef, ac mae arwyddion ei fod ar lwybr adferiad fel gynt. Llawen gennym oedd ei weled yn yr addoliad y Sjiiiau diw =eddaf.. Cydymdeimlad.Alae yn ond i'n calon bysbysu nad oes eto air yngbylcb fy hoffusaf gyfailla pherthynas, David ,J. Williams, Disgwylfa. Er aufon i'r Swyddfa Rhyfel, dim gwybodaeth o unlie, ac mae yr annibendod yn dreth drom ar amynedd cariad tad a mam. Prysured y newydd am dano, achos un tua ellir ei hebbor oedd David John. J. W Llongyfarcbiad.- Dymunwn yn gal onnog longyfarch Miss Mary Vaughan Jones,. Bodalaw, o'r He uchod, ar ei ilwyddiant eithriadol fel is-athrawes yn Ysgol y Cynghor. Bu ei gyrfa addysgoi hyd yrna yn nodedig o ddisglair; a phasiodd yr arholiad olaf gyda chamol- iaeth uchel. Hana o deuluoedd enwog yn ein plwyf. Ei thad oodd y diweddar Mr E. Davies-Jones, Cyfreithiwr a'i mham ydyw Pencerddes Machno. Ei thaid o du ei thad oedd y diweddar 0 Jones, Ysw., Glasgwm Hall; a'i thaid o ochr ei m ham oedd y diweddar gerdd or gwych, Mr C. A Vaughan Dringea Miss Vaughan Jones yn uwch eto ar ysgyneb dysg, a llwyddiant
BAGILLT.. i
BAGILLT.. i Ail-agor Bethania.—Mae'r addoldy eang hwn wedi ei lanhau a'i harddu tu mewn a thu allan, ac er wedi pasio ei drigain a deg, edrycha yn ei henaict yn dirf ac iraidd mae fel heli sant yn fwy prydferth oddi mewn nag y bu erioed. Y mae yn un b'r addoldai mwyaf ac harddaf yn yr hoil wlad, a'r addolwyr, trwy fawr ddiwydrwydd, wedi casgln digon i gyfarfod y draul cyn i'r gwaith ,01 lanhau gael ei orffen. Bu y cyfarfodydd yr ail agor y Sab- both, Chwefror lOfed, a'r wythnos ddilynol. Pregethwyd boro Sul gan y Parch D. Meurig Jones prydnawn a'r aos gan y Parch Hugh Hughes, Colwyn Nos Lun, traddodwyd darlith gan y Parch Hugh Hughes testun, Billy Sunday." Nos Fawrth rhoddodd y Parch D, Meurig Jones ddariith testun Trem ar hanes yr acbos ym MagiHt. .Nos Wener, cafwyd darlith gan y Parch ,D. Tecwyn Evans, B.A testun, Williams, PaDtycelyn." Oafwyd pregethau a darlitbiau cyfoefchog a gry mus, cynulliadau da, a'r eneiniad oddi wrbh y StiDctaidd hwnnw. Parbaed i ddisgyn yn drwm a dwys ar yr eglwys. GOH.
ABERMAW
ABERMAW Nos Sul diweddaf, derbyniodd y Parch E. J. Parry driarddeg o aelodau ieuanc, had yr eglwys, i gyflawn undeb a'r eglwys. Yn ddilynol i'r Sacrament pregethodd Mr Parry i gynulleidfa liosog ar Yr Eglwys yn ei pherthynas a'r Cymun Sanctaidd." Bu y Parch E. J Parry yn cyfarfod y cymunwyr ieuanc bob nos Wener am dri mis. Trefnwyd i gynnal y seiat nos Fercher blaenorol i siarad a'r bobl ieuanc. Awr gysegredig iawn iddynt, ac i ninnau, ebai un o'r b'aeDoriaid. Y mae ein parchus weinidog wedi cychwyn "Brotherhood" yn y dref, sydd yn gwneud gwaith effeithiol ang- hyffredin. Cynhelir y cyfartodydd yn Ysgoldy ein capel ni. Yn y cyfarfod agoriadol traetbwyd ganddo ar Ddel. frydau Brawdoliaeth." Deallaf y caiff gefnogaeth arweinwyr addysg a chrefydd yn y dref. Yn nydd ei phethau bych ain y mae eto. Trefnwyd i ddau frawd gyfarfod y tren3 bob bore Sul ih g digwydd y bydd milwr neu forwr ar ei ffordd gartref, ac ynogymaint ac nad oes cyfle iddynt fynd ymlaen efo'r fcren trefnir lluniaeth, a cherbyd i'w cludo i'w cartrefi. Yr ydym eisoes wedi anfon rhai i'r Penrhyn, a Talsarnau, a Har- lecb. Beth bynnag yw y llawenydd sydd yng nghalon y milwr a'r morwr pan y gwel gyfle i fynd adre yn nghynt, y mae ein llawenydd ni yn fwy o gael gwneud hyn i'r milwr a'r morwr sydd mor dawel a diymffrost. GOH.
DINBYCH.
DINBYCH. Priodas.—Dydd Iau, Chwefror 21ain, yng nghapel Pendref, gan y Parch T. 0. Jones (Tryfan), unwyd mewn glan briodas Mr Griffith Roberts, Pregethwr Cynorthwyol ar y gylchdaith, gyda Miss Esther Winifred Jones, merch Mr John B. Jones, 116, Vale Street., ac ysgrifenyddes eglwys Salem Y gwas oedd un o frodyr y priodfab, sef, Mr T Roberts, Oaktleld, Lerpwl, a'r forwyn Miss E. C. Jones, un o chwiorydd y briodasferch. Daeth nifer dda ynghyd i'r capel, a chafwyd haul ar y fodrwy yn ernes, ni gredwn. o o'eur.i ar eu bywyd ar ei hyd. Mae y teulu o'r ddwy ochr yn perthyn i'r dosbarth goieu o'r teuluoedd a berthyn i ni fel enwad, y naill yng Ngwernymynydd, cylchdaith yr Wyddgrug, a'r llall yn Salem y gylch- daith hon. Tyfodd plant y ddwy aelwyd'i fyny, fel planhigion olewydd, mewn gras a defnyddioldeb, a bynny oblegid iddynt gael esiampl dda gan y rhJ a'u magodd. Anodd fuasai medd- w lam uniad mwy hapas na'r briodas hon. Mae Mr G. Roberts yn bregethwr cymeradwy ar y gylchdaith, ac yn Ysgrifennydd y Cyfarfod Chwarter ers rhai blynyddoedd, ond fel llawer o'n bechgyn annwyl y mae ers tro yn gwasanaethu gyda'r fyddin yn Ffratne. Hyderwisi y caiff nawdd y nef hyd derfyn y rhyfel erch, ac y dychwel at ei aiinwylyd i. aelwyd newydd Ian i gyd- fyw mewn hedd a defnyddioldeb am oes faith a llwyddiannus- Dyna ddymun- iad liawer heblaw CYFAILL.
MANCHESTER. I
MANCHESTER. Gymdeithas Genedlaetbol Cyivry ,Uanceinion .-Cyr, haliwyd cyfarfod olaf y tymor nos Wener, Ghwefror 15ed, yn Milton Hall. Gadeirydd y cyfarfod oedd ¡ Syr Daniel McCabe, cyn faer y ddinas. Home Rule for Wales oedd testun yr ymdrafodaeth. Agorwyd yr ym- ddiddan gan y Gynghoryad Rhys J. Davies, yn dadleu c blaid cael Rbeol- aeth Gartrefol i Gymru, a'r Proffeswr Boyd Dawkins yn erbyn. Dadleuai Mr Davies am bawl i drin eu materion eu hunain. yiig Nghymru, trwy iddynt gael bawl i wneud cyfreithiau pwrpasol i Gymru, cael Senedd, dyweder o banner cant o aelodau, yn debyg i genedloedd bychain eraill Yr oedd y Cyngorydd Davies yn gryf iawn o blaid cael senedd yng Nghymru i'r Cymry. Yr oedd I Proffeswr Boyd Dawkins yn datgan ei fod yntau yn hanner Gymro," er nad I oedd yn deall yr iaith, ac yn cydym- deimlo i raddau a hawl y Cymry yn y mater hwn, er heb allu mynd mor bell a Mr Davies, ac nad oedd yn gwela yr angen fynd mor bell, ond y gallai popeth weithio ar yr un llinellau ac y maent yn bresennol. Cawsom'gyfarfod rhag- orol iawn. Siaradwyd ar y terfyn gan y Parch W. Owen, a Mr E. Mason Powell, ac erail!. Llywyddwyd gan y cadeirydd yn wych iawn. Hefyd cynhaliwyd cyfarfod o'r Gym- deithas Genedlaethol, Ionawr 2Ð. Daeth i'n hannerch Dr. Moelwyn Hughes, Birkeohead. Ei destun oedd "Dychymyg." Cawsom ddariith ragor- ol iawn, llawer o bethau newyddiol ac addysgiadol iawn. Cymeiwyd y gadair gan Mr Phillip Hughes. GOH.
LLANBERIS.
LLANBERIS. Yr wythnos ddiweddaf yog Nghapel Coch, o dan lywyddiaeth y Parch Thoaaas Lioyd, anerchwydcyfarfod gan y Parchn John Owen, Engedi, ac Ishmael Evans, Gaernarfon, ar Lwyr waharddiad y fasnach feddwol dros dymor y rhyfel." Cafwyd anerchiadau godidog iawn gan y ddau. Manylwyd ar weddau cyllidol, moesol, ac ymerfer- ol y cynnyg i brynu y fasuach, a dang hoswyd mor niweidiol a fuasai y fath beth Y prif reswm dros brynu, medd- ent, ydyw gwneud i ffwrdd a buddiant personol, ond danghoswyd fod hynny trwy bryniant yn amhosibl. Yn bresen- nol mae gan ugeiniau o filoedd ran yn y fasnach feddwol- Gosodir hi allan yn gyfrannau, a pherthyna i gwmniau mawrion a'r oil yn teimlo buddiant personol ynddi. Wrth i'r Llywodraeth ei phrynu, a ydyw yn debye y byddai yn haws cael gwaharddiad ? Onid y tebygolrwydd ydyw wrth i'r Llywod- raeth ei phrynu, i wneud pawb yn gyf- randdalwyr yn y fasnach, a gwneud pob tafarnwr yn swyddor, ac yn ol yr amcangyfrif a roddir byddai yn rhaid cael 400,000 o swyddogion, a naturiol ddigon fyddai i'r rhai hyn deunlo mwy o sel drosti, a gweithio yn fwy egniol o'i phlaid, felly, nid dileu y buddiant per sonol wnelai y pryniant ond ei chwyddo, a'i fwyhau. Y rbeswm roddir dros anmharodrwydd heddyw i gael gwa- harddiad ydyw, y codai gweithwyr y wlad yn erbyn y peth. Pe buasai y Llywodraeth yn ei phrynu, a fyddai yn bawddach wedyn ? Pan y mae y Llyw- odraetb yn methu dan amgylchiadau neilltuo', fel ag yr ydym ynddynt hedd- yw oherwydd y rhyfel, a ydyw yn debyg y gwnai pan ddaw pethau i'w lie, a heddwch yn teyrnasu ? Nid yw y Llywodraeth yn meddwl ei phrynu i'w difodi, ond y mae yn y fasnach feddwol bosiblrwydd diderfyn bron i wneud arian. Yng nghanol y galwadau mawr fydd arnom ar ol y rhyfel, a all Prydain fforddio cannoedd o filiynau i brynu y fasnach feddwol. Mae pryniant yr ormes a'r trais mwyaf sydd bosibl a'r gydwybod pob un sydd wedi gweithio yng nghyfeiriad gwaharddiad. Hefyd mae parchusa y fasnach, a gwneud y dafarn yn lie denia,doI i'r gwr fyned a'i wraig a'i blaht iddo. yn ergyd farwol i'r cartret. Caed cyfarfod ardderchog. Nos Lun a nos Fawrth, yr wythnos ddiweddaf, yr oedd gennym fel Wesleaid bregethau yma. Gwasanaethwyd gan y Parchn Mon Hughes, Garnarfon, a G, O. Roberts, Penygroes. Cafwyd egwyl dda am fod bendith Duw ar yr odfaon.
CAERNARFON, .'j
CAERNARFON, Blin gennym orfod cofnodi am wael edd Mr John Jones, Margaret Street, darawyd yn bur sydyn gan anh^yldoi). Bydd yn chwith ei golli am ysbaid gan ei fod yn llenwi lie mor bwysig ar y plan fel pregethwr cymeradwy a ffydd lun. Boed iddo adferiad llwyr a buan. Deallwn fod y Gobeithlu wrthi yn ddyfal ddysgu y ddrama ddirwestol Emyr a Miriam, ac fod yr ychwaneg iadau roddir ati yn debyg o greu dydd- ordeb ynddi. Anturiaeuh newydd ydyw, ond y mae'r ymgais yn tynu allan y I plant a'r bobl eraill hefyd. Cafwyd adeg hapus a dyddorol y I noswaith o'r blaen gan Mr W. D. Jones, Bodiiiiii t- (John Henry), drwy draefelaiad ar ".Hundaia a'i Phobl." Ncs Lun, Chwefror lleg, bu y Parch G. O. Roberts (Morfin) yn annerch'ar Gerdd Dafod," a chafodd hwyl anarferol, a chynulleidfa dda. Llywyddwyd gan y Parch R. Mon Hughes, a diolchwyd iddo gan y ddau is-lywydd. Siaradwyd ymhellach gsn y Mri Walter Thomas, John Griffiths, a Francis Oldfield. Morfin drwy rym yrnarfer- a alwodd Yn hwylus iaith syber Agorodd borth i'r Gerdd ber Tan diwnio'r tanau tyner. LEO.
CEFN MAWR.
CEFN MAWR. Cyfarfod Progethu Nadolig.—Cafwyd gwyl rhagorol eleni. Y gweision oedd- ynt—Parchn Philip Price a Charles Jones,—dau wr poblogsidd iawn yn y gororau byn. Yr oedd cynhulliad cyn- taf nos cyn y Nadolig yn profi hyn, a chynyddu o ran rhif wnaetbant ymhob oedfa. Yr oedd yr holl bregethau yn rhai grymus iawn, a'r dylanwad yri nerthol. Rhoddodd Cor yr Eglwys ar ddiwedd oedfa olaf yr wyl, datganiad teilwng iawn o amryw Garolau dewisiedig. Buont hefyd wrth dai amryw o gyfeill- ion fel arfer, ac 'roedd y swm ariannol a dderbynrwyd yn un sylweddol. iawn. Mae yr eglwys yn ddyledus neilltuol i'r brawd Edward Jones, Tai Gwynedd, yr Arweinydd, Salem, Acrefair.—Bu y Parch T. G. Ellis, Harlech, yn gwasanaethu yn yr wyl bregethu flynyddol yr eglwys hon. Yr oodd yn wyl ganmoladwy iawn. Ymweliad cyntaf Mr Ellis, mi gredaf, ond yn ddiameu nid yr olaf. Ar leave o Ffrainc.— Y mae nifer o'r bechgytt wedi bod adrcf yr wythnos- au diweddaf: Wilfred Evans, .milwr ieuanc iawn, da oedd gan bawb ei weled. Enoch Roberts, yr hwn a wnaetb wasan- aetb mewn cludo milwyr elwyfedig o ganol y tan, gan beryglu yn fawr fywyd ei bun, am yr hyn yr anrhydeddwyd of a'r "M.C." Ted Hughes, yr cyn- arweinydd y gan yn Gor ff wysfa, y mae yntau adref ar ol gwneud gwasanaeth gwrol, a dyddanu y milwyr clwyfedig yn swynol mewn can, fel y gall ef. Nid yw ei iechyd yn ciniatau iddo droi yn ol i Ffraine ar hyn o bryd. Roily Davies hefyd, sydd eto yn y wlad hon, yn mynd o dan driniaeth feddygol ar ol Shell Wound.' D. R. Thomas, sydd hyd yma heb fynd allan, ond yn ym- baratoi. Llongyfarchwn y brawd am y modd y mae wedi dringo i fod yn 2nd Lieut. A chyda Haw y mae un arall o fecbgyn Gorffwysfa wedi cyrraodd yrun safle trwy anrhydedd, sef y brawd Ben Roberts. Brawd arall sydd wedi bod gartref hefyd ac yn edrych yn dda, sef B. T. Butterton. Y mae D. 0 Roberts yr hwn a anafwyd yn dost wedi dych- welyd eto am ddisgyblaeth. Daeth newydd galaethus i law yr wythnos hon am y brawd D. Charles Evans wedi ei Gasio yn drwm, ond da yw medru dyweyd ei fod yn gwella yn raddol.
I SOAR, RHYL.
I SOAR, RHYL. Cynhaliivyd y cyfarfod pregetbu blynyddol y capel uchod, Mawrth 2, 3, a'r 4ydd, 1918. Gwasa naetibwyd gan y y Parchn O. Madoc Roberts, Bangor, a W. Caeocg Jones, Wrexham. Cynhal- iwyd Cyfarfod Gweddi yn yr Y sgoldy bob nos am 7 yr wythnos yn blaenori y Cyfarfod Pregethu. Caed cyfarfodydd ardderchog.
IBETHEL, COED-Y-FFLINT.
I BETHEL, COED-Y-FFLINT. Y mae dau o'n haelodau ffyddlon wedi bod yn wael ers rhai wythnosau, set y chwaer Mrs Woodfiae, Pen tro Hill, a Mr Isaac Jones, Pant, ond bellach y mae arwydd eu bod yn troi ar wella, ac y cawn eu gweled yn fuan eto yn eu lie yn y cjsagr. Yng Nghyfarfod y Feibl Gymdeitbas a gynhaliwyd nos Lun diweddaf yn y Fflint, rhoddodd yr Ysgrifeunydd gweithgar, Mr Powell, Bryn Tag, deyrn- ged uchel i'r peotref bach hwn am ei ffyddiondeb a'i sel diball ynglyn a'r gym deithas ardderchog. Yn ol yr erwydd y mae y gymdogaeth hon wedi gwr.eud yn gyfartal os nad Byn well nag unrhyw ran o'r dosbarth. Hyderwn y bydd ein gwaith yn helaethech cham oto.