Skip to main content
Hide Articles List

10 articles on this Page

PENMACHNO.I

BAGILLT.. i

ABERMAW

DINBYCH.

MANCHESTER. I

LLANBERIS.

News
Cite
Share

LLANBERIS. Yr wythnos ddiweddaf yog Nghapel Coch, o dan lywyddiaeth y Parch Thoaaas Lioyd, anerchwydcyfarfod gan y Parchn John Owen, Engedi, ac Ishmael Evans, Gaernarfon, ar Lwyr waharddiad y fasnach feddwol dros dymor y rhyfel." Cafwyd anerchiadau godidog iawn gan y ddau. Manylwyd ar weddau cyllidol, moesol, ac ymerfer- ol y cynnyg i brynu y fasuach, a dang hoswyd mor niweidiol a fuasai y fath beth Y prif reswm dros brynu, medd- ent, ydyw gwneud i ffwrdd a buddiant personol, ond danghoswyd fod hynny trwy bryniant yn amhosibl. Yn bresen- nol mae gan ugeiniau o filoedd ran yn y fasnach feddwol- Gosodir hi allan yn gyfrannau, a pherthyna i gwmniau mawrion a'r oil yn teimlo buddiant personol ynddi. Wrth i'r Llywodraeth ei phrynu, a ydyw yn debye y byddai yn haws cael gwaharddiad ? Onid y tebygolrwydd ydyw wrth i'r Llywod- raeth ei phrynu, i wneud pawb yn gyf- randdalwyr yn y fasnach, a gwneud pob tafarnwr yn swyddor, ac yn ol yr amcangyfrif a roddir byddai yn rhaid cael 400,000 o swyddogion, a naturiol ddigon fyddai i'r rhai hyn deunlo mwy o sel drosti, a gweithio yn fwy egniol o'i phlaid, felly, nid dileu y buddiant per sonol wnelai y pryniant ond ei chwyddo, a'i fwyhau. Y rbeswm roddir dros anmharodrwydd heddyw i gael gwa- harddiad ydyw, y codai gweithwyr y wlad yn erbyn y peth. Pe buasai y Llywodraeth yn ei phrynu, a fyddai yn bawddach wedyn ? Pan y mae y Llyw- odraetb yn methu dan amgylchiadau neilltuo', fel ag yr ydym ynddynt hedd- yw oherwydd y rhyfel, a ydyw yn debyg y gwnai pan ddaw pethau i'w lie, a heddwch yn teyrnasu ? Nid yw y Llywodraeth yn meddwl ei phrynu i'w difodi, ond y mae yn y fasnach feddwol bosiblrwydd diderfyn bron i wneud arian. Yng nghanol y galwadau mawr fydd arnom ar ol y rhyfel, a all Prydain fforddio cannoedd o filiynau i brynu y fasnach feddwol. Mae pryniant yr ormes a'r trais mwyaf sydd bosibl a'r gydwybod pob un sydd wedi gweithio yng nghyfeiriad gwaharddiad. Hefyd mae parchusa y fasnach, a gwneud y dafarn yn lie denia,doI i'r gwr fyned a'i wraig a'i blaht iddo. yn ergyd farwol i'r cartret. Caed cyfarfod ardderchog. Nos Lun a nos Fawrth, yr wythnos ddiweddaf, yr oedd gennym fel Wesleaid bregethau yma. Gwasanaethwyd gan y Parchn Mon Hughes, Garnarfon, a G, O. Roberts, Penygroes. Cafwyd egwyl dda am fod bendith Duw ar yr odfaon.

CAERNARFON, .'j

CEFN MAWR.

I SOAR, RHYL.

IBETHEL, COED-Y-FFLINT.