Skip to main content
Hide Articles List

2 articles on this Page

LLITH Y CAPLAN A. W. DAVIES.

News
Cite
Share

LLITH Y CAPLAN A. W. DAVIES. Annwyl Gwynfryn,— Tra hamdden fach dyma air eto. Mae dyfodol dyn mor dywyll a chyfnewidiol ag y gall fod, ac yn fynych trown ein wynebau fel y Patriarch gynt heb wybod i ba le yr ym yn mynd, er y gwneir popeth wrth gynllun, a llawer mwy cyson o ran amser na rhai cerbydresi ar rai o reilffyrdd yr Hen Wlad. Drwy ffawd neu anffawd gorfu i mi ddod i'r Ddinas drachefn, ar ol hynt fach wedi ffarwelio a hi, a thrwy hynny cefais hamdden i ysgythru o gwmpas, a phigo i fyny yr hyn a allwn or olygfa. Ar gais 4ethum a nifer o fechgyn perthynol i wahanol àôfánnáU gyda mi, gan I fQd yn rhaid iddynt fynd o dan ofal swycldog. Y waith hon aethom i mewn trwy Borth Sion ar y ffordd elem heibio i Borth Jaffa, gan wynebu tua'r de; ar y llaw dde, neu i'r gorllewin, mae llynoedd llwydion claiog Gihon, a'r tudraw trefedigaeth fach, destlus yr olwg o'r pellter, godwyd i'r Iddewon gan Syr Montifure. Wedi dringo peth gydag ymyl mur y ddinas, awn heibio i'r gladdfa Seisnig, yna i'r un Ffrengig, ac yna yr un Armen- aidd. Awn i mewn yma drwy borth bychan, a deuwn i neuadd fechan addurnedig, hen yr olwg, a elwir yn Dy Caiaphas," yma gwelwn gistiau beddi tua pump o Archbatriarchiaid Armenaidd. Ar wyneb y gist o wenithfaen mae'n gerfiedlg y Mitr, y Fugeilffon, yr Oen, a'r Faner. Oddiyma, gan ddal tua'r dwyrain, daethum at ystafell a godwyd ar lecyn lie honhir yr oedd yr oruwchystafell, ac yn gyfagos, yn ddarn o'r un adeilad, mae ystafell a chist en. fawr o'i mewn, ddywedir, a gyn- nwys beddrod Dafydd Frenin. Oddiyma aethom am Borth Sion, ac i mewn drwy y porth i'r ddinas. Ar y chwith y mae llecyn arbennig yr Armeniaid; yn is i lawr adran arall, lie mae'r Iddewon cyn cyr- raedd cwr isaf y mur deheuol y mae y mur yn taflu allan ychydig, ac o ben y mur y mae golygfa ardderchog: codiad y bryn i'r de, lie mae dyffryn Hermon, ar yr hon y mae Maes Aceldama, i'r dwyrain dyffryn Jehosophat, a'r naill ddyff. ryn a'r Hall wedi eu gwahanu gan Fynydd Sion a Moriah, ond yn cwrdd a'i gilydd drachefn, ac yn ymgolli yn un. Gwelir oddiyma filoedd ar filoedd o feddau: gyda mur dwyreiniol y ddinas y Maho- metaniaid wedi eu claddu ar lech. wedd i'r dwyrain miloedd ar fil- oedd o gistiau gwynion-beddau'r Iddewon yna, mwy i'r de, llecyn- nau lie ceir gwahahol ganghennau o'r Eglwys Gristionogol. Symud- asom oddiyma, a daethom at Borth Offal y ddinas, y porth drwy ba un y dygid offal yr aberthau a'r lludw, a phopeth heb fod o werth na theilwng i'w aberthu. Ymlaen drachefn, dod ar draws tri Chymro yma yn gwylio'r porth. Daethom yn awr i fan dyddorol-y darn o'r mur honnir a berthyn i deml Solo- mon. Y mae golwg gwir hen arnynt, ac fe edryeh y meini yn wahanol eu rhywogaeth i'r mur a godwyd arnynt-meini mawr hir- gul ydynt, a phalmant fach ynglyn a hwy, a chist fach naturiol o feini Yma wyla yr Iddewon ers oesau am yr hen deml a'r hen ddinas yr oedd yna nifer ohonyrit y dydd hwn, rhai a'u hwynebau ar y meini yn wylo, rhai yn rhyw ruddfan, eraill a'u dagrau yn rhedeg yn lli —dim ffug, ond pob arwydd o ddwfn alaeth. Yr oedd yna un hen wraig a wylai'n chwerw, yn wir, dorcalonus; ond gwelais un arwydd o'r ffugiol, un wedi gwneud yr oernadau mwyaf, a ddaeth atom gyda llestr bach yn ei law i ofyn am gardod. Ac wrth fynd heibio, rhyfedd cymaint o'r ffugiol sydd yn y Dwyrain, telir i rai am alar nadu mewn angladdau. Dywedir fod rhai Iddewon mewn gwledydd tramor yn talu i rai am alaru dros- tynt wrth feini yr Hen Deml. Y maent yn hynod o fedrus mewn cardota tra ar y daith yma daeth un hen wraig ar ein holau gan oer- nadu a chrochlefain, Baksheesh- cardod am fara, eisiau bwyd gall em dybio ei bod ym mhangfeydd olaf angau, yr oedd ei dolefain sych yn ofnadwy. Gwelais dra- chefn, droion, blant bach tyner iawn eu hoedran ar ddarn o faen ar fin yr heol yn wylo yn chwerw a thorcalonus i'w clywed, ac eto i gyd ffugiol ydoedd Y mae y wlad yn enwog am ei chardotwyr. Wrth borth Stephan gwelais olygfa a'm tarawodd yn syn: yma yr oedd gwir gardotwyr, esgymunion y ddinas, pump o wir wahangleifion, a'r olygfa yn drueuus i'r eithafar; un neu ddau yn arbennig. Daeth- ura oddiyma ar hyd y stryd a el wir yn Heol Dafydd"—heol gul a thywyll, yn fan siopau i gyd, hyd nes y daethom at Borth Jaffa, ond nid porth yw yn awr, mae'r hen borth gerllaw, ond heb ei defn- yddio. Rhwyg mawr yn y mur yw hwn, a dorwyd gan y Sultan er mwyn i'r Kaisar allu mynd i'r ddinas. Dywedir nad allai yr un teyrn estronol fynd drwy'r hen byrth, ond yn unig y teyrn oedd a'i lywodraeth dros y ddinas, a chan y mynnai y Kaisar fynd i'r ddinas, yr unig ffordd oedd agor neu dorri ffordd drwy fan newydd yn y mur. Ynglyn a'r ddinas mae cannoedd 0 hanesion, a thraddodiadau, ar weinia i'r hyn wyddis sydd wir. Siomir rhai ynddi oherwydd hyn, eto y mae iddi ei gwir swyn, ei gwir hanes, fu ag sydd o hyd yn fendith. Y mae adrannau o'r ddinas bres- ennol wedi ei chodi ar adfeil- ion pum' Jerusalem blaenorol. Mae rhai yn cael gwledd crefyddol eu hoes yma-y defodol a'r serem-" oniol, a'r rhai a esyd pwys ar y traddodiadol, a'r rhai y medd y gweledig y lie pennaf yn eu crefydd, y mae thain yn cael gwledd eu hoes ond bendith eraill yw eu bod yn y wlad, yn y ddinas, ar y myn- ydd, yn y pentref He bu'r Iesu; y mae rhy w swyn rhyfedd yn hyn i ddyn, a wna'r Iesu yn bur wirion- eddol fel un ohonom. Mae y wlad fel y oobl, neu y bobl fel y wlad yn bur ftansiol,y ffansi- 01 a'u hennill ymhob peth. Mae y Mahometaniaid yn eithriadol yn eu crefydd, a hynny yn ddigon naturiol: ennilla Mahometaniaeth yr Arab oherwydd symylrwydd, garwedd, a llymder y grefydd, y mae mor debyg i'w brofiad o natur, plentyn yi anialwch crasboeth yw, lie mae natur yn llym, llwm, a moel. Dyma un eithriad hoffa y Bed- owin liwiau cymaint a neb, a blas- usfwyd, llawn o amrywiol 'spices.' Plaen ar y cyfan yw ymborth y Prydeiniwr, ond ffansiol yma, gwnant bob math o gacennau a melysion allan o'r fflgys a ffrwyth y palmwydd a'r cigoedd,coginiant hwnnw yn dameidiau man ymhob dull a modd; defnyddiant bob math o lysiau i roi bias ar y bwyd, a phob math o bowdrau o hadau, a chnauwedi eu sychu a'u malu. Wm i ddim a wynebant ar bryd iawn o gig rhost, cloron, bresych, a moron, mae eu dychymyg ffansiol hyd yn oed yn dylanwadu ar eu harchwaeth, eu bwyd, eu gwisg, a'u crefydd. Plant y Dwyrain ydynt, y mae wlad a'i chynyrch yn bopeth iddynt hwy. Mae popeth yn wahanol i ni, a ninnau drwy y blynyddau, os nad yr oesau, wedi darllen y dwyrain drwy wydrau y gorllewin. Ac yr ydym wedi del frydu cymaint ar y Ganaan a'r Jerusalem ddaearol hyd nes eu gwneud yn annaturiol. Ond nid oes eisiau fawr o ddych- iymyg" na llawer iawn o'r elfen hanesyddol i beri i ddyn ddeall ei fod mewn dinas, ac mewn gwlad [dihafal o'i safbwynt, a honno ar ei phen ei huji, a chydradd yng nghalon y. byd mewn modd na wnaeth neb arall.

Advertising