Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

LLANFAIRCAEREINION. 'I

CYLCHDAITH LLANGOLLEN. I

IAMLWCH. I

CYLCHDAITH LLANASA. I

News
Cite
Share

CYLCHDAITH LLANASA. I Cynhaliwyd Cyfarfod Ysgolion rhan isaf" yn Mostyn, Chwefror lOfed, dan lywyddiaeth Mr Harry Parry, Gwespyr. Dechreuwydj yn y drefn arferol gan y llywydd, a gweddiodd yn hynod o effeithiol, a gafaelgar. Rhoddodd air i bwrpas, wrth gyflwyno ei ddymuniad i'r ysgol, ar fod i'r dydd, a gwaith y dydd brofi yn fendith i'r ysgol, a'r eglwys yn y lie. Cafwyd adroddiadau gan Master Percival Hughes, a; Miss Dilys Wil- liams unawdau gan Miss Margaret.Wil- iams, a Miss Elizabeth M. Williams, mwynhawyd y naill a'r llall yn fawr. Can odd y plant yn swynol iawn dan I arweiniad Mr W. Roberts. Arbolwyd y plant ar y 6, 7, a'r 8 bennod o'r Hyfforddydd" gan Mr Price Owen, Groes, a chand atebion rhagorel. Arhol- wyd y bannod, Am ddarlien y Gair, o'r Egwyddorydd, gan Mr D. Jones, Ffynnongroyw caed atebion boddhaol. Adroddwyd y bennod gyffredinol, sef Philemon, gan rhestr Isaiah Hughes. Yn dilyn, arholwyd y bennod gan y Ilywydd, a chafwyd hwyl anghyftredio. Caed prawfion fod darparu teilwng wedi bod ar gyfer y cyfarfod. Mae gennym i longyfarch brodyr y He am y paratoad- au doeth a threfnus, gyda'u derbyniad cynnes i'r Cyfarfod Ysgolion i Mostyn. Terfynwyd trwy weddi gan Mr Isaac T.1 Jones, Gwespyr. J Cyfarfod yr hwyr. Dechreuwyd gan Mr Price Owen. Cymerodd ni yn ei weddi yn llwyr at Dduw, fel y teimlom ein bod yn dechreu cyfarfod oedd i ddod a bendith ysbrydol i'n henaid, ag yn y cywair hwnnw y bu i'r gwres gadw hyd derfyn y dydd. Unawdau eto yn feluS a da gan Misses Dilys Williams, Maggie Williams, Elsie Williams, a Mri Wil- liam Roberts, Mostyn, a Thos. Jones, Gwespyr. Adroddwyd rhan o'r Ys grythyr gan Mr John Jones. Cafwyd adroddiadau,meistrolgar gan Miss Jennie Hughes, Gwladys Hughes, a Master Percival Hughes. Arholwyd y 55 ben nod o r Holwyddorydd gan Mr T. Jones, Ffynnongroyw, atebwyd yn foddhaol. Caed anerchiad ar yr Ysgol Sul &an Mr D. T. Evans, Penyffordd, yn llawn gwres a dylanwad. Diolchwn o galon i'r brawd hwn am ei anerchiad da ag amserol, gyda gwir ddymuniad ar fod ei ddylan- wad er daioni i aros yn hir ar yr ysgol- ion oedd yn cael eu cynrychioli yn y cyfarfod. Caed cyfarfod o'r cynrychiolwyr rhwng y ddau gyfarfod, ag aed trwy y gwaith angenrheidiol. Hefyd pasiwyd cydymdeimlad a'r is-lywydd, Mr H. T. Williams, ar farwolaeth ei blentyn bach. Mawr lawenhawn wrth weled yr olwg mor weithgar a hyn sydd ar yr ysgol a'r gynulleidfa yn Mostyn, a hyderwn y bydd y nodau hyn yn myned ar gyn- nydd yn eu plith nes ennill yn llwyr yr holl wrandawyr yn aelodau o'r Ysgol Sul. Cyfeiliwyd yn ddeheig i'r canu cynulleidfaol a'r plant gan Miss Noami Hughes. Terfynwyd cyfarfod Ilwydd iannus trwy weddi gan Mr R. Elder, Ffynnongoyw. YSG. I

BETHEL, CAERGIBI. I

I- ABERYSTWYTH.I

SPRING VIEW. GER WIGAN.

MYNYDD SEION, TANYFRON.