Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

LLANFAIRCAEREINION. 'I

CYLCHDAITH LLANGOLLEN. I

IAMLWCH. I

News
Cite
Share

AMLWCH. I Eiddo'r Wesleaid Bethania, Tregele, yw nos Fawrth Ynyd yn Cemaes Bay, a pbob blwyddyn arlywant gyfarfod chwaethus. E!eni cafwyd gwasanaeth cwmni Gobeithlu Bethel, Amlwch, yn perfformio Drama, Moses, neu o'r cawell a'r Mor Coch," a chafwyd gwledd ae adeiladaeth wrth eu gwrando Mae y cwmni hwn yn wir deilwng o bob cefnogaeth, ac y mae galwad mawr am eu gwasanaeth. Y maent eisioes wedi rhoddi perfformiad o'r Ddrama yn Llanfairynghornwy tua'r Nadolig, ac yn lonawr, yn Bethel, Amlwch, a chafwyd y capel yn orlawn, a llawer yn methu cael Ile, fel y gofynwyd am dani drach- efn, a heno nos Fercher, Chwef. 13eg, byddant yn ei pherfformio yn yr Assembly Rooms, Amlwch, ac y mae galwad arnynt eto i fyned i Marian Glas yr wythnos ar ol y nesaf. Y mae mynd ryfeddol ami. Y mae tua 25ain neu ragor yn y cwmni. Eu hatbrawon ymroddgar ydynt y Parch D. Roberts, a Mrs Roberts, Wesley House, a Mrs Brindle, London House. Yr oedd y cwmni mewn dullwisgoedd dwyreiniol, ac yn edrych yn hardd ac atdyniadol dros ben, ac y mae clod yn ddyledus i Miss Nancy Tyrer, ac eraill, am eu help yn parafcai y gwisgoedd hyn. Hefyd i Mr Richard Jones, Ethel Cottage, a Mr D. Brindle am eu gwasanaeth, y naill gydag arwain y canu, a'r Hall ynghyda Mrs Brindle gyda chwareu y crwth, ac adroddiad. Cadeirydd y eyfarfod ydoedd J. C. Jones, Ysw., Cafnau. Cafwyd ganddo rodd anrhyd eddus at yr achos, ac anerchiad pwrpas- ol. Dywedodd ei fod wedi clywed o'r blaen am y cwmni hwn, ond pan gafodd y fraint o'u clywed, ei fod yn teinalo fel Bvenhines Sheba am Solomon, na fynegwyd mor hanner," ac fod yn y Ddrama wers bwysig i famau, mewn dwyn eu plant i fyny yn ofn ac athraw- iaeth yr Arglwydd. Wele rai o'r eymeriadau: Jocebed," Miss Gladys Owen; Miriam," Misses Ann E. Jones, a Janie Myfanwy Roberts; "Moses, Mri ulyndwr Roberts, David J. Jones, a J. Hywel Roberts Aaron," Mri D. Jory Roberts, a T. G Walker; Sephorah a'i chwior ydd," Misses Lizzie Parry, Jennie Wynne, a Sarah Monsdale; "Jethro a Pharaoh," Jack Brindle; "Tbermkvtus," Misses Betty Owen, Lizzie A. Parry, Dadge Owen, Flo Thomas, Anne Mary Thomas, Lizzie Thomas, Bessie Griffiths a Jennie Hughes Bugeiliaid a gweis- ion, &c. Mri W. H. Hughes, Hywel Tyrer, ac Owen Owens. Cafwyd y neuadd yn Ilawn. a phawb wedi eu boddloni yn null dawn y cwmni gyda'r gwahanol rannau, yn neilltuol Glyndwr,bachgen bach y Parch D. a Mrs Roberts, yr oedd pawb wedi dotio ato mor bert yr oedd yn actio ei ran fel "Moses bach. Talwyd y diolchiadau gan H. Williams (Lay Agent), ac eiliwyd gan Mr Robert Owen, Tyddyngele, i bawb fu'n helpu. Cafwyd elw da at yr achos yn Bethania, Tregele, a haedda ein parchus weinidog glod am ddethol drama mor deilwng. a'r cwmni am ei phortre. iadu mor effeithiol. X. I

CYLCHDAITH LLANASA. I

BETHEL, CAERGIBI. I

I- ABERYSTWYTH.I

SPRING VIEW. GER WIGAN.

MYNYDD SEION, TANYFRON.