Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
SYMUDIAD BIN GWEINIDOGION.
SYMUDIAD BIN GWEINIDOG- ION. Gofynir a oedd gwir angenrheid- rwydd am beidio symud ein Gwein- idogion yng Nghymru y flwyddyn ddiweddaf fel arfer ? Gwyddom fod Lloegr yn bur wahanol, oher wydd lliosogrwydd a phellder y symudiadau. Ond beth am Ogledd Cymru ? Wel, cred llawer y w nad oedd rhwystrau anorfod ar ffordd y symudiadau ac y buasai yn llawer gwell pe cymerasant le fel arfer. 0 ran hynny, cymerodd nifer o sym- udiadau le, ac y mae y rhai gymer odd le yn profi y gallasid yr oil fod wedi .cymeryd lie. Bu symudiad yi holl ffordd o Goedllai i Beny- groes, o Hanley i Dreceiriog, o Dreceiriog i Goedllai, o Gaernar- fon i Gaergybi, o Gaergybi i Fangor, o Benygroes i Dregarth, ac o Dregarth i Gaernarfon. Pwy ddywed yn wyneb hyn fod yn hollol amhosibl i'r gweddill fod wedi cymeryd lie ? Gwrthwynebiad goddefol oedd mewn llawer cylchdaith i'r symud- iadau beidio cymeryd lIe fel arfer. Cafodd rhai brodyr gam trwy fethu myned i leoedd neilltuol y gwa- hoddasid hwy iddynt. Cawsant anfantais deuluol, a cho led ar- iannol drwy hynny. Paham y riiaid i rai barhau iddioddef yr anfanteis ion, ac eraill fwynhau mwy na'i cyfran deg o fanteision? Nac edrychwch bob un ar yr eiddoch eich hunain, eithr bob un ar yr eiddo eraill hefyd, yw y cynghor Apostolaidd." Dryswyd trefniadau fwy nag un Gylchdaith tr NY i'r symudiadau rheolaidd beidio cymeryd lie, ac y mae llawer o Oruchwylwyr yn methu deall ym mha le y maent yn sefyll gyda golwg ar y dyfodol. Cofier mai nid gorchymyn pend- ant sydd wedi dyfod oddiwrth Swyddogion y Gynhadledd, ond argymhelliad yn unig, gan adael y Cylchdaithiau a'r Gweinidogion at eu rhyddid i wneud fel y mynont. LLAIS O'R WLAD.
IGWAHARDDIAD A PHRYNIANT.1--
GWAHARDDIAD A PHRYN- IANT. Mr Gol., Oni allai pleidwyr selog Gwa- harddiad, a'r pleidwyr sy'n 'run mor selog dros Bryniant y Fasnach Feddwol-y ddwy blaid sy'n pleid- io yr hyn sy'n ymddangos i ni yn gwbl anymarferol ar hyn o bryd,— oni allent gytuno a'r egwyddor ac y mae pawb, i rhyw fesur, yn ddar- ostyngedig iddi ar hyn o bryd, sef, caniatau rations o ddiodydd i'r rhai ac y dywedir fod eu galwedigaeth- au yn ei gwneud yn angenrhaid iddynt. Dywedir ei bod felly i'r gweithwyr tdn a'r ffwrnes, ac i ddynion y llong-adeilfa. Caniatau hynny iddynt, ond gofalu mai rations o ddiod a gaiff hyd y nod y rhai hynny. Pe cytuna'r ddwy blaid uchod i ofyn i'r Llywodraeth am hyn, yn ystod y Rhyfel ac am chwe' mis ar ol hynny, nid wyf yn meddwl y gellid yn hawdd eu gwrthod, gan y cydnabyddir eisoes yr egwyddor gan y Llywodraeth ynglyn a'r bwydydd. Beth fyddai rhai o'r effeithiau? Ni fyddai'n bosibl i neb feddwi yn ystod y cyfnod hwn. Ni chawsai rhai miloedd o ddynion hi, sydd yn ei chael yn awr, oblegid na byddai dim yn eu galwedigaethau yn eu cyfreithloni, yng ngolwg y Llyw- odraeth, i'w chael hi. Byddai cael diod o gwbl yn amhosibl ar un- waith i holl ferched y Deyrnas— lawer o honynt yn awr yn gwario arian eu gwyr, sy'n y Rhyfel, i'r pwrpas o gael diod. Byddai llai o wastraffu ar ddefnyddiau ymborth y wlad. Diogelid cydweithrediad y gweithwyr hynny, ac y dywedir weithiau am danynt (hwyrach ar gam), fod yn rhaid iddynt gael diod neu ynte bydd iddynt streicio. Byddai gwneud elw ariannol en fawr, fel ar hyn o bryd, yn amhos ibl i noddwyr y Fasnach, a byddai gwell gobaith, a dweyd y lleiaf, am i'r wlad gael ei chadw rhag prinder a newyn. Wele'r ffigyrrau am elw tri chwmni o fragwyr cyn y rhyfel ac yn ystod y rhyfel 1913-14. 1917. ■ 1;c £ Allsopp I 68,100 ••• 239,700 Ind. Coope and Co. 94,200 204,700 Watney, Coomb, Reids 904,200 1,112,900 Yn ddiau, y gelyn a chwardd ac a ymgadarnhaln gyflym, tra yr ym ni yn dadleu a'n gilydd, a defnyddiau maeth a mêr y gen hedlaeth sy'n codi yn cacl ei was. traffu fel hyn ar allor Bachus! Pa hyd tybed ? Oni fyddai'n well i arweinwyr y pleidiau ddod at eu gilydd ar unwaith i ymgynghori ar y mater ? Rhoddais awgrym fel yr uchod yng Nghyfarfod Cyllidol Eglwys- bach, ond ni wnaed memor sylw o'r peth ond gwelaf yn awr fod Maine Ynadol Middlesborough yn awgrymu'r cynllun. Beth feddylia eich darllenwyr o honno ? Yr Eiddo.ch yn serchog, R. JONES WILLIAMS.
NODION 0 DDOLGELLAU.
NODION 0 DDOLGELLAU. Da oedd gennym weled Lieut. R. G. Lloyd (fu yn y Bank yma) efe wedi bod yn Ffrainc ers llawer o arrw.er. Pan yma yr oedd Mr Llovd yn hyndcl o ffyddlon gyda'r achos. Yr oedd yn dda gennym hefyd weld Pte. John Meirion Roberts adref am ychydig o ddyddiau. Un arall o blant Ebenezer yr oedd yn dda gen- nym ei weled wedi cytraedd adref o FfraiDC ydyw Pte R. R. Jones. B.A., mab Mr David Jones, un o flaenoriaid Ebenezer, a brawd i'r Parch W. Morris Jones, B.A. Yr Arglwydd a'uceidwoll hyd derfyn y rhyfel. CYMRO.
Advertising
Enwir Syr Francis Edwards, A.S., fel un tebygol o gael ei ddewis yn Arglwydd Ragfaw sir Faesyfed, yn lie y diweddar Syr Powlett Millbank.
Safle Gweinidogion Wesleaidd…
Safle Gweinidogion Wesleaidd Cymreig ynglyn a Phryniant y Fasnach Feddwol. Mr Gol.,— 1 Da gennyf ddweyd nad oes angen imi gymryd llawer o'ch gofod y tro hwn, am y rheswm fod y Parch W. R. Roberts yn ei lytbyr olaf, fel yn ei lythyr blaen- orol, yn osgoi y pwnc sy mewn dadl rhyngom ar hyn o bryd. Ysgrifenna fel petai wedi llwyr anghofio beth ydyw hwnnw. Dyma ydyw :—Tua chwech wythnos yn ol, wedi iddo, fel Inquisi tor General, ofyn imi dii chwestiwn rhyfedd iawn, cyfeiriodd fy sylw at "sibrydion difrifol. Nid oedd yn sicr fy mod yn gwybod am danynt (" os na wyr," meddai). Ond yr oedd ef, wrth gwrs, yn gwybod, ac aeth ymlaen i ddweyd mai sibrydion" oeddynt ynghylch Cynhadleddau llechwraidd i newid Deddf Datgysylltiad a phasio Mesur Pryniant, a bod yr ysgelerderau hyn wedi eu "holrain" i Mr Lloyd George. Dywedais wrth ateb fod gen- nyf reswm da dros wrthod credu yn y stori cyn belled ag yr oedd a fynnai a Phryniant, ond gan ei fod ef yn credu ynddi dywedais y cymerwn ef ar ei air," a gofynnais am fanylion y stori neu ynte ei awdurdod dros ei lledaenu. Yn awr- 1. Gyda golwg ar yr hyn a ddywed yn rhan gyntaf ei lythyr diweddaf, os tybia imi wneuthur unrhyw gam ag ef wrth ddweyd fod y dyfyniad o'r Monthly Notes yn amherthynasol ac yn hollol gamarweiniol, gofynnaf iddo ar bob cyfrif gyhoeddi y paragraffau sy'n blaenori y dyfyniad, oblegid trwy hynny fe welir yn hollol eglur mai appeal Mr Lloyd George am gefnogiad i'w bolisi ydyw'r un y cyfeiria y dyfyniad ato, ac nad oes a fynno o gwbl a'r Cynhadleddau llechwraidd y ceisia'r sibrydion ddal Mr George yn gyfrifol am danynt. 2. Pwrpas ail ran y llythyr ydyw profi fod Mr George ya gyfrifol am bolisi Pryniant! Ond pwy feddylio-id am ddweyd dim yn wahanol. Yn enw synnwyr cyffredin gofynnaf i beth yr ymdrafferthodd Mr R. i ysgrifennu agos i hanner colofn i geisio profi'r hyn nad oes neb erioe 1, hyd y gwn, wedi ai ameu ? Y mai'r ffaith yn eithaf gwyb- yddus ers agos i dair blynedd. Cyfrifoldeb Mr Lloyd George am Gynhadleddau llechwraidd "—dyna'r stori sydd gan Mr R. i brofi ei geirwir- edd, a gwasgaf unwaith eto am iddo wneud hynny. Gall fynd ymlaen i ddweyd beth a fynno am danaf i yn bersonol, ond profed ei haeriad os gall. Nid wyf yn rhyfeddu dim nad ydyw hyd yn hyn wedi cael tal am y llathenni a ysgrifennodd i'r G.N. dan y pennawd uchod. (Gyda llaw, onid ydyw'n bryd iddo newid ei bennawd o dair llinell am un llai, oblegid y mae'r papur yn ddrud y dyddiau hyn, ac mae Safle Gweinid- ogion Wesleaidd," &c, wedi ei setlo ers tro). Ond os llwydda Mr Roberts i brofi (1) fod Cynhadledd Llandrindod (oedd wedi ei chynnal dri mis cyn iddo son am y "sibrydion '') yn Gynhad- ledd llechwraidd," a (2) mai Mr Lloyd George oedd yn gyfrifol am dani, pwy wyr na fydd i'r Cymdeithasau eyfoethog y sonia am danynt anfon tal iddo. So Try again. Yr Eiddoch, &c., Port Dinorwic. THOS. HUGHES. O.Y.—Priodol efallai ydyw chwanegu mai rhan o'r gwir yn unig a ddywed Mr Roberts am yr Athro Levi. oblegid wedi i'r Ysgrifennydd ddweyd wrth Mr Levi beth ydoedd busnes y Gyn- hadledd cafodd docyn i ddod iddi, a bu yno fel finnau yn dyst i'r ffaith nad oedd dim llechwraidd yng ngweithrediadau'r Gynhadledd honno o'r dechreu i'r diwedd.
I CYDNABOD CYDYMDEIMLAD. I
I CYDNABOD CYDYMDEIMLAD. I Dymuna Mrs Lewis a'r teulu yng Nglanrhyd ddiolch yn gvnnes iawn i'r llu cyfeillion au cofiasant trwy lythyr- au cydymdeimlad yn nydd eu galar. Bu y tystiolaethau lliosog a chryfion i gymeryd da, defnyddiol a charedig eu hanwylyd yn help mawr iddynt i fodloni i'r drefn ac i ddioddef yr ergyd yn dawel. Dros y teulu, I J. HOPKIN MOEGAN. J i
Advertising
Llyfrau Ail Law. =- 1i, <" :1:1 jjJ BARGEINION. *=* I. ■! -MmHJ Rhodder A ar yr amlen oddi- allan, a chyfeirier yr Archebion i— Rheolwr, "Y Gwyliedydd Newydd," Flint Mountain, Flint. -~=. SHIO Nodiadau Herber Sef Detholion o'r Nodiadau Misol byw, craff, ar wahanol bynciau i'r Dysgedydd gan y diweddar Barch Herber Evans, D.D. Addefir fod y Nodiadau hyn ymhlith y pethau goreu a ddaeth o law Herber erioed Y gyfrol cystal a newydd. Pris cyhoeddedig 3/6 trwy'r Post 2/- Pethau Newydd a Hen Gan Mr Delta Evans (Dewi Hir- addug), Llundain cyfrol werth- fawr iawn o draethodau, Moes- egol, Llenyddol, a Beirniadol. Cystal a newydd. Pris cyhoedd- edig 2/6; trwy'r Post 1/8. Holwyddorydd Diwinyddot Dr. Pope Cyfeithedig gan y Parch T. J. Pritchard. Cyfrol ddestlus o 494 o dudalennau, ac yn newydd hollol. Pris cyhoeddedig, 10/6 trwy'r Post, 4/6. Yr oedd Dr. Pope yn un o ddiwinyddion gall- uocaf y wlad, ac mai cyfeithiad Mr Pritchard yn feistrolgar a chlir. Cyfamod Heddwch Cyfrol wych iawn o bregethau gan hyodl a chryf Dr. Marvin R. Vincent. Pris cyhoeddedig 5/ cystal a newydd; trwy'r Post 2/4. Mae'r gyfrol hon yn awr yn brin. Gnosticiaeth a Agnosticiaeth Cyfrol wir alluog o Bregethau gan Dr George Salmon. Mae yn y gyfrol 18 o bregethau gwir uchraddol. Cystal a newydd. Pris cyhoeddedig 5/6; trwy'r Post 3/3. Hwfa Mon Dan olygiaeth Mr W. J. Parry, Bethesda Cyfrol Goffa am yr hen wron" Eisteddfodol. Ceir ysgrifau ynddi fel y canlyn Hwfa fel Cymeriad Cymreig- Parch Rhys J. Huws; Fel Bardd ym Mesurau y Cyng- hanedd-Elfed Barddoniaeth Rydd Hwfa-j. T. Job; Fel Eisteddfodwr—Gwylfa. Ceir yn y gyfrol bigion o gyn- hyrchion y Prif Fardd enwog. Pris cyhoeddedig 3/6; trwy'r Post 2/3. By the River Chebar Myfyrdodau ar Lyfr Ezeciel gan y Parch Elfed Lewis. Y mae gwelediad cyfriniol a barddonol Elfed ar ei oreu yn y gyfrol hon. Mewn cvflwr da. Pris cyhoedd- ig 3/6 trwy'r Post 2/3. The Ideal Life Bywyd, ynghyda detholiad o Bregethau neu Areithiau y di- weddar Proff. Drumond, wedi eu hysgrifennu a'u golygu gan Mr Robertson Nicoll. Mewn cyflwr da. Pris cyhoeddedig 6/- trwylr Post 3/3. Christ in the Wilderness Tair ar ddeg o benodau yn ym- drin yn feistrolgar a diddorol gyda Themtiad yr Arglwydd lesu yn yr Anialwdh," gan y Parch. L. H. Wiseman. Mewn cyflwr da. Trwy'r post, 1/10. Christ and the Times Cyfrol o Bregethau gan yr Arch- ddiacon Sinclair: Pris cyhoedd- edig 3/6 trwy'r Post 2/ Cys- tal a newydd.
Y GWRTHWYNEBYDD CYDWYBODOL.'
ddylai fod ei safle gyda phetbau ereill, nid mawrion a man betheuach. Pobi wrthyd gydymffurfio a dull ei hoes, ebai, yw'r rhai wasanaethant eu hoes yn y petha.u uchaf. Y mae gosodiad fel hwn yn iawn mewn ystyr delfrydol, ond anhywaitt-i odiaeth yw mewn ymarfer iad. Sut y byddai tybed pe byddai i rhyw facwy, yn y Gylchdaith y mae R C.P. ynddi, o dan ddylanwad breudd wydion delfrydol ieuenctid beibio oyd ynaffurfio a dull ac opinwin y Gylch- daith ? Ni wnaiff pethau fel hyn weith io yn yr oes ffurfiol, galed a materol hon. Rhaid wrth freuddwydwyr, ond edrychai dyn yn lied od pe safai ar ganol heol brysur yn Lerpwl i freudd- wydio'i freuddwydion a chanu i'r dyfod- ol gwyn, gan rwystro'r traffig! Yn gyffelyb, pe safai dyn ar lecyn dymunol yng Nghymru gan ddymuno cael ei hun yn Riveira prydferth a thesog yn Itali heb yr ymdrech leiaf o'i du ef ei hunan, byddai rhaid iddo. gredu mai yr unig ffordd yno fyddai trwy wneuthur defn- ydd o'r materol! Y mae lie ac amser i ganu i'r dyfodol gwyn, ond rhaid icni gredu y gorwedd y ffordd i'r dyfodol trwy ddyletswyddau'r presennol. Prun bynnag ai gwrthuni rhyfedd ai rhywbeth arall yw y posibilrwydd i'r G.B. fod yn ddeiliad breiniol yn Nheyr- nas y Milflwyddiant, ac eto fod yn an- nheilwng o'r fraint yn Nheyrnas Pryd- ain, efailai ddywedais y gallwn ysgwyd Haw a hwynt yno gan gofio fod y fath beth a maddeuant yn yr Efengyl. Ond anrhaethol well yw teyrnas wedi ei hennill trwy aberth, nag un wedi ei derbyn ar draul aberth eraill. Dywedaf eto fod fy maentumiad heb ei gyffwrdd. Y mae'r G B. bleidleis- iant yn anghyson a hwy ei bunain, peidiant a bod yn W.C. gonest a di- duedd y funud y dymunant bleidhÚil. Nid oes ystyr na chysondeb, heb son am hawl, mewn iddynt ddymuno'r fath beth. Nid eu condemnio yw fy amcan, ond eu parchu, a cheisio datgan fy marn ar y modd goreu iddynt barchu eu hun- ain, ac eraill sy o amgen meddwl iddynt Ydwyf, yn ddiabsen, Bryn Goleu. CARADOG ROBHSTS. I