Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

SYMUDIAD BIN GWEINIDOGION.

News
Cite
Share

SYMUDIAD BIN GWEINIDOG- ION. Gofynir a oedd gwir angenrheid- rwydd am beidio symud ein Gwein- idogion yng Nghymru y flwyddyn ddiweddaf fel arfer ? Gwyddom fod Lloegr yn bur wahanol, oher wydd lliosogrwydd a phellder y symudiadau. Ond beth am Ogledd Cymru ? Wel, cred llawer y w nad oedd rhwystrau anorfod ar ffordd y symudiadau ac y buasai yn llawer gwell pe cymerasant le fel arfer. 0 ran hynny, cymerodd nifer o sym- udiadau le, ac y mae y rhai gymer odd le yn profi y gallasid yr oil fod wedi .cymeryd lie. Bu symudiad yi holl ffordd o Goedllai i Beny- groes, o Hanley i Dreceiriog, o Dreceiriog i Goedllai, o Gaernar- fon i Gaergybi, o Gaergybi i Fangor, o Benygroes i Dregarth, ac o Dregarth i Gaernarfon. Pwy ddywed yn wyneb hyn fod yn hollol amhosibl i'r gweddill fod wedi cymeryd lie ? Gwrthwynebiad goddefol oedd mewn llawer cylchdaith i'r symud- iadau beidio cymeryd lIe fel arfer. Cafodd rhai brodyr gam trwy fethu myned i leoedd neilltuol y gwa- hoddasid hwy iddynt. Cawsant anfantais deuluol, a cho led ar- iannol drwy hynny. Paham y riiaid i rai barhau iddioddef yr anfanteis ion, ac eraill fwynhau mwy na'i cyfran deg o fanteision? Nac edrychwch bob un ar yr eiddoch eich hunain, eithr bob un ar yr eiddo eraill hefyd, yw y cynghor Apostolaidd." Dryswyd trefniadau fwy nag un Gylchdaith tr NY i'r symudiadau rheolaidd beidio cymeryd lie, ac y mae llawer o Oruchwylwyr yn methu deall ym mha le y maent yn sefyll gyda golwg ar y dyfodol. Cofier mai nid gorchymyn pend- ant sydd wedi dyfod oddiwrth Swyddogion y Gynhadledd, ond argymhelliad yn unig, gan adael y Cylchdaithiau a'r Gweinidogion at eu rhyddid i wneud fel y mynont. LLAIS O'R WLAD.

IGWAHARDDIAD A PHRYNIANT.1--

NODION 0 DDOLGELLAU.

Advertising

Safle Gweinidogion Wesleaidd…

I CYDNABOD CYDYMDEIMLAD. I

Advertising

Y GWRTHWYNEBYDD CYDWYBODOL.'