Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

[No title]

Diwinyddiaeth Emynau Williams,…

News
Cite
Share

Diwinyddiaeth Emynau Williams, II Pantycelyn. [Sylwedd anerchiad a draddodwyd yng Nghapel Clwyd Street, Rhyl, nos Iau, Chwefror 14eg, ar yr achlysui o ddathlu ei Ddau Canmlwyddiant. gan y Parch. R. Lloyd Jones.] Er mai at y dychymyg a'r teim- ladau yr apelia barddoniaeth yn tennaf, eto fe apelia hefyd at farn a deall dyn. Ac i'r graddau yr apelia at y farn a'r deall, y mae'a rhwym o fod yn dysgu gwirionedd neu gyfeiliornad. A chan fod Williams, yn ei gyfansoddiadau barddonol. tra rhagorol, a Ilawn o ddysgeidiaeth y Beibl, yn apelio at ein barn a'n deall, yn ogystal ag at ein dychymyg a'n teimladau, y mae yn rhwym o ddysgu ryw gym- aint o Ddiwinyddiaeth. Canys beth yw Diwinyddiaeth, ond gwir- ioneddau y Beibl, yn cael eu heg- luro a'u cyfleu yn drefnus achyson nes ennill cydsyniad ein dealltwr. iaeth. A phwy a ddichon ddarllen cyfansoddiadau barddonolyr en- wog Fardd o Bantycelynheb dder- byn llawer o oleuni ar athraw- iaethau mawr y grefydd Gristion- ogol ? Nid oes angen dyweyd. mai ffurf Galfinaidd sydd ar Ddiwinydd- iaeth Williams, ond yr oedd yn Galvin llydan ac eangfrydig iawn, Gwelir hyn yn eglur oddiwrth yt hyn a ddysg yn ei weithiau am Helaethrwydd lawn Crist, ac am alwad gyffredinol yr Efengyl. Mae yn wybyddus fod rhai o gyd- oeswyr Williams yn ceisiocyfyngu a rhoddi terfyn ar haeddiant lawn y Groes. Dadleuent dros lawn cyt- bwys a drwghaeddiant yrhai a gedwir, a phe buasai nifer mwyyn gadwedig y buasai raid i Grist fod wedi dioddef a haeddu rnwy nag a wnaeth. Ond ni feddai Williams ddim cydymdeimlad a syniad mor gul a chyfyng am yr lawn mawr. Yn hytrach credai, a dysgai, fod yr lawn yn anfeidrol, a'i haeddiant yn ddiderfyn. Sylwer ar y geiriau canlynol o'i eiddo:- Pe buasai fil o fydoedd Yn cael eu prynu yng nghyd, A'r cyfryw bns buasent Yn llawer iawn rhy ddrud, 'Does angel fyth na seraff, Na cherub o un rhyw, I'r filfed ran all dd'wedyd Mor werthfawr gwaed fy Nuw.' Edrychwn eto ar ei eangfrydedd yn dyfod i'r amlwg yn ei ddesgrif- iad o al wad gyffredinol yr Efengyl. Mae Williams am wahodd pawb at Grist am iachaw d wriaetk- Dewch bellach bechaduriaid, nas gwelodd oleu dydd, Mewn carchar tywyll pygddu, rai eto sydd yng nghudd Fe gododd Haul o'r diwedd, hi gododd y prydnawn, A eg r eich amrantáu i weld yn ddisglair iawn. Crynhowch eich holl achwynion, y mwyaf sydd i'w gael, Cewch yma ddigon, digon, i'ch ateb chwi yn haei; 'Does dim ond edrych yma, mae edrych yn iachau, Mae edrych yn sancteiddio, mae edrych yn mwynhau. Mae'r ffynnon yn agored, dewch edifeiriol rai, Dewch chwithau yr un ffunud sy'n methu 'difarhau; Dewch gafodd galon newydd, dewch chwithau na cha'dd un, I olchi pob budreddi yn haeddiant Mab y dyn. Nid ellir meddwl am alwad eangach na hon, canys y mae rhai edifeiriol, a'r rhai anedifeiriol hefyd a el wir yn cynwys pob pech- adur tu yma i golledigaeth. Prin y rhaid dyweyd wrth neb sydd yn weddol gydnabyddus ag Emynyddiaeth Williams, mai nid Diwinyddiaeth arwynebol ac ys- gafn yw ei eiddo ef. I'r gwrth- wyneb, treiddia yn fynych i ddyfn deroedd athrawiaethau y Datgudd- iad Dwyfol. Car fyfyrio ar Dduw yn ei hanfod anfeidrol, megys pan y dywed Duw Anfeidrol yw dy Enw, Llanw'r nefoedd, llanw'r llawr, Ac mae'th lwybrau anweledig Yn nyfnderoedd moroedd mawr, Dy feddyliau, Is nag uffern, uwch na'r nef." Dyma engraifft arall ei fod yn hoffi arcs gyda'r syniadau uchaf a dyfnaf am Dduw, ac am ddyn hefyd Nid oes terfyn ar fy ngobaith, Cyrraedd mae ym mlaen o hyd, Gyda'r Duwdod mae'n cvdredeg, Dyddiau'r ddau sy'n un ynghyd. Annherfynol Ydyw fy Ilawenydd mwy." Cymerer un esiampl arall sydd yn ddesgrifiad cywir o Berson y Gwared wr Henffych Iesu'r Duw tragwyddol, Gwir a sanctaidd berffaith ddyn, Dwg ddwy natur mewn un Person, Syndod nefoedd fawr ei hun A phob natur a phriodoledd Fto'n hollol gadw eu lie, Dyndod heb gymysgu a Duwdod, Priod f'enaid byth yw E' Ond mae'n debyg iawn mai y ddau beth hynotaf sydd yn nod weddu ei Ddiwinyddiaeth yw ei bod yn ddiwinyddiaeth efengyl- aidd, ac yn ddiwinyddiaeth profiad. Diwinyddiaeth efengylaidd. Cvn- hwysa hyn bedwar peth 1, Fod 4cadwedigaeth pechadur yn hollol o ras Duw, gan gau allan bob gradd o deilyngdod neu haeddiant yn y gwrthrych a gedwir. 2, Fod achos haeddiannol cadwedigaeth pechadur yn gwbl ym marwolaeth iawnol Crist ar y groes. 3. Mae trwy ffydd yn, unig, yn lawn an- feidrol y Gwaredwr, y cyfranoga pechadur o'r iachawdwriaeth rad sydd ynddo Ef ar gyfer ei angen. 4, Mai trwy weithrediad achubol yr Yspryd Glan ar ei feddwl a'i galon y mae pechadur yn cychwyn, ac yn parhau i redeg yr yrfa Gristionogol i'w therfyn. Dyma wirioneddau hanfodol yr Efengyl ag y mae pob plaid Efengylaidd yn un a chytun o berthynas iddynt. Ac, yn sicr, y mae yna elfen efengylaidd gref a chyfoethog yn rhedeg yn amlwg trwy holl gyfansoddiadau bardd onol Williams, Pantycelyn. Fel y dywed Gwilym Hiraethog yn dra phriodol am Emynau Williams: "Ond mawr ddiigelwch ei. nerth ydyw eu hyspryd Efengylaidd, hwn sydd yn rhoddi bywyd ag ahadi ynddynt. Dangosant nid yn unig lygad yn gweled anian, calon yn teimlo anian, a glewder a faidd gydfyned ag anian; ond hefyd lygeid yn gweled efengyl, calon vn teimlo yr efengyl, a glewder a faidd gydfyned ar efengylA fy an hawster yn awr yw gwybod pa le i ddechreu a pha lei ddiweddu wrth geisio egluro hyn. Gallwn gym eryd pregeth Efengelius ym mywyd I a marwolaeth Theomemphus fel cynrychioliad teg o'r elfen efengyl- aidd sydd yn teithio yr oil o'i Em ynyddiaeth. Ni chaniata yr amser i mi roddi ond ychydig iawn o ddifyniadau o honni: — Gwrandewch am hynny newydd, tragwyddol ei barhad, A seiliwyd ar a seiliwyd mewn dwyfol ddynol waed: Trugaredd fel y moroedd, o galon Duw ei hun, Yn llifo yn annherfynol at wael syrthiedig ddyn. Mae mil o addewidion o fewn y llyfr mawr, Oil yn diferu manna, a hyfryd fyr i lawr, Y maent hwy yn perthyn iti, y maent hwy oil yn rhad, Eu sylfaen, a'u cyflawniad sydd yn y dwyfol waed 'R efengyl 'rwy'n bregethu, nid yw yn ddim ond hyn Mynegu'r weithred ryfedd wnawd ar Galfaria fryn, Cyhoeddi yr addewidion, cyhoedd- i'r marwol glwy', A diwedd llygredigaeth i'r sawl a gredo mwy." Nid allaf beidio cyfeiriola t ddes grifiad clir, syml, a tharawiadol Williams o ffydd, fel nodwedd ar- bennig o bregethu efengylaidd :— "Nid credu yw fod gennyt ryw drigain nod ac un Amrywiol o rasusau rhagorol ynot d'hun: Ond credu yw dy weled yn eisiau oil i gyd, A'th eisiau yn peri it' bwyso ar Brynwr mawr y byd. Dy eisiau yn peri it' redeg at yr addewid rad, Dy eisiau yn peri it' olchi dyenaid yn y gwaed, Dy dlodi annherfynol yn peri it' fyn'd yn hy', A doed hi fel y delo o flaen dy or- sedd fry." Credaf yn sicr na roddodd yr un Diwinydd erioed well eglurhad o ffydd achubol—y ffydd sydd yn uno pechadur a Christ, nag a geir yn y geiriau hyn. Ac mor eglur, byw, a tharawiadol yw y desgrifiad o honni. Heblaw ei bod yn llawn o ras yr Efengyl, y mae hefyd yn ddiwin- yddiaeth, profiad. Rhoddir llawer iawn o bwys ar brofiad yn y dydd iau hyn fel prawf o wirionedd y grefydd Gristionogol. Ac yr oedd gan y Diwygwyr Methodistaidd yn Lloegr a Chymru hefyd brofiad eu bob wedi eu hachub trwy ras Os oeddent yn sicr o rywbeth yr oedd- ent yn hollol sicr eu bod wedi eu hachub. Nid teithio yr oeddent ar y low level, chwedl Dr. Cyiiddylan Tones, ond ar yr high level tua'r Ddinas Nefol. Heb brofiad o waith gras Duw ar ei enaid ei hun, ni fuasai Williams byth yn gallucanu mor fyw a gwresog, a chyda'r fath eneiniad nefol. Dyn wedi meddu profiad personol a gwirioneddol o bethau mawr crefydd lyn unig all asai ganu y geiriau a ganlyn :— "Ac erbyn a llefaru daeth nerth- oedd nefoedd fawr Fel afon gref lifeiriol i'w galon ef i lawr, Ni ddeallodd, ac nis clywodd er- ioed o'r blaen gan ddyn, Yr hyn a ga's ei deimlo yr awrhon ynddo ei hun. Ac yna i'r lan fe neidiodd, yn ys gafn oedd ei droed, Trwy brofi yr hyn nas profodd efe o'r blaen erioed. I'r nef fe godai olwg, sef hen drig. fanai Hid, Ond moroedd mawr o gariad oedd yno'n awr i gy.d, Fe synodd, fe ryfeddodd—Be fe-fe drodd y rhod Trodd ofnau yn gysuron, pereiddiaf fu erioed Ymhlith pob ryfeddodau hwn yw yr uwcha ei ryw, Caiff Theomemphus aflan feddianu nefoedd Duw." Ac ar ol ei waredu fel hyn, o'i ofn- au mawr a'i euogrwydd du, a dyfod allan o'i gaethiwed blin, oddiar ei brofiad personol y mae yn darluh- io mor fyw ei demtasiynau, ei brof- edigaethau, ei frwydrau caled gyda phechod. -ei orchfygiad ganddo ambell waith, ei adferiad yn ol, a'i fuddugoliaeth olaf ar ei holl elyn- ion, nes cyrraedd gwlad nad oes na phechu na marw o fewn ei therfyn- nau. Nid rhyfedd i Williams roi yr ysgrifen ganlynol ar fedd Theo memphus:— "Wel dyma'r dyn a godwyd, a ganwyd yn y gwaed, Deng miliwn lawn o feiau faddeu- wyd iddo'n rhad Ei dynnu wnawd o'r danllwyth, ac yntau'n myn'd i lawr, Fe godwyd hwn o uffern, mae e' yn ynefynawi." Cyfododd Mathew Arnold, a llawer eraill, wrthwynebiad i'r athrawiaeth Efengylaidd am ei bod yn diystyru ac yn dibrisio gweith- redoedd da yn nhrefn cadwedig- aeth pechadur, ac nad oedd mor gefnogol i foesoldeb ag y dylai fod. Pe byddai sail deg i'r fath wrth wynebiad, byddai yn sicr o fod yn farwol i'r athrawiaeth efengylaidd. Eithr, credaf nad oes o gwbl sail deg iddo. Y gwahaniaeth mawr ydyw, nid mewn un modd wneud i ffwrdd a gweithredoedd da, cyd- nebydd pawb eu bod yn anhebgor- ol anghenrheidiol; ond eu lie priodol yn nhrefn cadwedigaeth. A ydynt i ragflaenu, ac i fod yn sail cymod Duw a phechadur, ai ynte a ydynt i ddilyn y cymod, ac i fod yn brawf ohonno ? Ai er mwyn ein hachub yr ydym i wneud gweithredoedd da, ai ynte am ein bod wedi ein hachub yr ydym i'w cyflawni ? Yr ydym yn ei garu ef am iddo ef yn gyntaf ein caru ni," a ffrwyth naturiol y cariad hwn ydyw sancteiddr wydd, a lIe bynnag y mae gwir sancteiddrwydd yn teyrnasu, y mae yno bobl a wydd- us i weithredoedd da." Na, y mae y rhai sydd yn credu yr athraw- iaeth Efengylaidd mor awyddus a neb i ufuddhau i ewyllys Duw ym mhopeth, a'u gweddi feunyddiol gyda Williams ei hun ydyw:- Dysg fi fy Nuw, dysg fipa fodd, I ddweyd a gwneuthur wrth dy fodd: Dysg fi ryfela'r ddraig heb goll A dysg im' goncro mhechod oil." O S.—I arbed camddeall, rhaid cofio mai pwysleisio yr ydwyf yn yr anerchiad y gwirionedd ag y mae pob plaid wir efengylaidd yn cytuno arno, ac nid y pethau y mae gwahaniaeth barn yn eu plith. Ac felly nid yw yn can- lyn fy mod yn cymeradwyo pob peth a ddvwed Williams yn ei Emynyddiaeth, na'i weld bob amser yn gyson ag ef ei hun.

Y GWRTHWYNEBYDD CYDWYBODOL.'