Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

0 GAERWXS I FFRAINC. "

News
Cite
Share

0 GAERWXS I FFRAINC. Annwyl Gyfaill, Ychydig wythnosau yn ol cefais y fraint o ymweled a chartref a'm cyfeillion yno. Addewais, ar gais nifer o gyfeillion, anfon gair byr i'r G.N. wedi i mi gyrraedd yn ol. Peth hawdd iawn ydyw gaddo, ond fe gytuna fy mrodyr yma nad yw cyflawni addewidion o'l fath yn un mor hawdd. Eto, gall am- bell un a meddwl cyflym ysgrifennu cyfrolau ynghylch ein symudiadau, ein pronad, a'r hanes rhamantus, ond rhag syrthio i ddwylaw y Censor, ac er mwyn bod yn deyrn- garol, rhaid atal yn ami. Pan yn croesi y Channel i Ffrainc dros flwyddyn yn ol ni feddyliais y byddwn ymayn ddigon hir i deil- yngu leave.' Meddiennid fi y pryd hwnnw a gobeithion uchel y bydd- wn adref, neu o leiaf wedi ein di- arfogi, cyn cael leave.' Ond ysy- waeth parhau y mae yrhyfel, a'r gyflafan yn gymaint, os nad yn fwy nag etioed. Wedi bod yma am dros flwyddyn ynghanol poethder y rhyfel, a'r golygfeydd arswydus. prin mae angen i mi ddatgan ty llawenydd pan gefais hamdden i fyned adref. Yr oedd cael treulio pythefnos yng Nghaerwys dawel, ac yng nghym- deithas teulu annwyl a chyfeillion mynwesol mor felus a hun y gweithiwr ar ol diwrnod o galed waith-fel heulwen ar ol storm. Mavvr oedd y dyddordeb ar fwrdd y Hong, pawb am y cyntaf rganfod yr arwyddion o dir annwyl Blighty. Cyrhaeddais Gaerwys yn fore un diwrnod, yn flinedig ar ol tridiau o daith, ond nid yn rhy flinedig i fwvnhau yr awelon, ac i ddarllen "croesaw "ar wynebau fy nheulu a'm cyfeillion pur. Nid yn fuan, os byth, yr anghofiaf y pythefnos yma fe erys y caredigrwydd dder- byniajs gan bawb yn fy meddwl am byth. 1 Cefais y fraint o dreulio dau Sab- both bendigedig adref. Mae meini Peniel yn gysegredig yn fy meddwl, ar gyfrif llawer awr ddedwydd dreuliais yno, ond addewyddwyd fy mhrofiad y ddau Sabboth byth- gofiadwy hwnnw. Fel popeth perthynol i'r bywyd hwn, daeth fy 'leave' i ben, ac angenrhaid oedd ffarwelio eto dros dro a'm teulu a phawb. Noson i'w chofio oedd y noson pan y gadew- ais gartref, o dan gawodydd 6 len- dithion a d/muniadau da teulu a charedigion. Ar y cyfan yr oedd- wn yn ddigon siriol, yr oedd cofio am lawer amddiffyniad Dwyfol a'r gwaredigaethau gefais mewn llaw- er cyfyngder, pan yr oedd gobeith- ion dynol wedi darfod, yn peri i mi sirioli, a gobeithio, gan ymddiried eto i'r un gallu mawr. Yr oedd bendithion a thrugareddau y gorff- ennol yn cryfhau fy ffydd am y dyfodol. Eto i gyd dynol ydwyf, ac ar ol gadael pawb ar lwyfan yr orsaf, anodd oedd cadw rheol ar y dagrau oedd yn rnynnu disgyn dros fy ngruddiau. Digwyddais fynd i 'compartment' a dim ond dau o honom ynddo fy nghyd-deithiwr oedd milwr Belgiaidd. Ni welais dim tebycach i Waxwork erioed: nid oedd ilef, na neb yn ateb am amser maith. Rhywfodd, gan fy mod wedi dysgu siarad ychydig o iaith Ffrainc, torais ar y distaw- rwydd, a deallais ei fod yntau yn troi yn ol o 'leave,' wedi bod yn ymweled a'i deulu sydd yn rtefu- gees yng Nghymru.jg Tipyn yn wahanol oedd wyneb- au pawb ar y llong wrth droi yn ol. Profiad od oedd sefyll ar fwrdd y llong. Beth bynnag, cyrhaeddais pen fy Dhaitl-i, ychydig yil brudd ac ofnus, ond yn fwy blinedig a di fater na dim arall. Wedi dau ddivvrnod neu dri, cefais fy hun yn y flosydd eto; yn lie Caerwys annwyl, dawel, ac heddychol, dyma fi ynghanol swn gynnau a rhuadau y shells arswydus, a'r gol ygfeydd torcalonns. Ond erbyn hyn yr wyf wedi cynefino eto a'r bywyd. "All we require," ebai rhyw ysgrifennydd, "is the art of adaptability." Y neb sydd wedi dysgu y gelf hon, y mae bywyd yma yn llawer mwy hapus, er fod cymwyso ein hunain ar gyfer am- gylchiadau chwerw yn broblem digon anodd ar y cychwyn. Ond ar wahan i hynny, y mae bywyd yma yn annioddefol, Yr ydyrd, yn ddigon bodlon bellach am fod yr amgylchiadau yn anocheladwy, ond yn disgwyl pethau gwych ymlaen. Y mae fy mhrofiad crefyddol wedi dyfnhau, y mae gan fyd ac eglwys ystyr newydd i mi, a chred- af fy mod yn datgan profiad rhai miloedd. Wedi i'r derfysg hon ddarfod fe dry y bechgyn adref yn well crefyddwyr ac yn ffyddlonach disgyblion. Y mae'n wir y gwelaf ac yr adwaenaf rhai bechgyn, oedd yn grefyddol adref, ac yn ffyddlon i'w crefydd, ond wedi troi yn wrth- grefyddol, ac yn ymhyfrydu mewn gwawdio ar y Haw arall gwelaf ac adwaenaf lawer oedd yn wrth grefyddol adref wedi troi, ac yn Gristionogion da a chydwybodol, ac yn glod i grefydd. Ymhlith Saeson yr ydwyf, ac ni chefais odfa Gymraeg er's dros flwyddyn, ond byddaf yn mwynhau fy hun, ac yn derbyn budd a ben- dithion mawr ysbrydol mewn gwasanaeth Saesneg. Y mae llaw- er gwasanaeth getais yma wedi gadael argraff ddofn ar fy meddwl; ond yn fy unigrwydd y cefais y seiatoieu lawer gwaith. Yr wyf wedi teimlo agosrwydd y Dwyfol lawer gwaith mewn lie od, a pher- yglus, a'r bendithion yn disgyn fel gwlith y nos. Yn bresennol yr ym allan o'r ffos- ydd am ychydig orffwys. Trigwn mewn pentre hach, tawel, ac allan o bob perygl uniongyrchol. Boreu Nadolig cawsom y fraint o gyfran- ogi o Sacrament sanctaidd Swper yr Arglwydd. Nid yn fuao, os byth, yr anghofiaf y ddau Nadolig olaf; gobeithio y byddwn adref erbyn y nesaf. Credaf y daw dydd heddwch a diwygiad crefyddol i'w ganlyn. Fe ddaw ein Capleniaid adref megis o gabinet y Trindod Dwyfol, a chenadwn newydd; fe ddaw y bechgyn yn ol, megis o'r ffwrn, wedi eu profi, yn grefyddwyr brwdfrydig, a thanbaid, i adeiladu muriau Jerusalem, ac i ddeffro yr Eglwys o'i difaterwch. Byddaf yn derhyn y G.N. a'r misolion yn gyson, darllenaf yr oil o glawr i glawr gyda bias, a der- byniaf lawer o fudd a bendithion oddiwrthynt. Edrychaf ymlaen at lythyrau y milwyr a'r capleniaid, sydd mor ddyddorol a blasus. Diolch lawer i'r Parch J. Kelly am ei ysgrif odidog at" Alarwyr Cym- ru." Kind words," ebai un, are the golden rivets which help to hold together the shattered vase of humar) happiness." Y mae can noedd o shattered vases" hedd- yw, nawdd y nef fyddo drostynt. Wrth derfynu, dymunaf ddiolch i'r eglwysi am eu gweddiau dros om. Ein hangen mawr yma ydyw nerth i wrthsefyll y temtasiynau. Gweddiwch dros y rhai sydd mewn cyfnod o ragbaratoad. Gwn trwy brofiad mae yn y Training Camp y dechreua lawer ddirywio, yno y mae y temtasiynau cyntaf a'r cryf- af. Terfynaf gyda chofion serchog at bawb. Yr Eiddoch yn bur, Pnr. J. WILLIAMS, 11 B Special Coy., R.E.

LLYTHYR O GANAAN.-I

TALSARNAU.