Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

t@J !jJj.1tQ.;-I COLWYN BAY.

DOLGELLAU.

LLANFYLLIN.

TREGARON.I

News
Cite
Share

TREGARON. Ar y dydd gyntaf o Chwefror syrth- iodd un o famau goreu Israel ym mher- son Mrs Thomas Mae ei phriod (Mr Jonathan Thomas), yn un o leygwyr blaenaf ein Talaith, ac yn bregethwr cynorthwyol eymeradwy. Mae ei mhab (Parch E. D. Thomas) yn un o anwog- ion ein pwlpud. Pwy bynnag hefyd ddaeth i adnabyddiaeth a'n chwaer ymadewig nid anghofiai byth. Yr oedd yn perthyn i'r dosbarth a deitlau Wil Bryan'' yn "true to nature." Ni bu byw neb erioed a llai o weniaeth o'i chwmpas. Nid oedd ganddi ond un wyneb i bawb. Os mai ar yr opposi tion y byddai nid oedd neb yn fwy pendant. Ac fel ffrynd nidtoedd neb yn fwy ffyddlon ac ymlyngar. Nid oedd gwahaniaeth ganddi frathu gelyn ond rhoddai olew Uawenydd heb fesui a'r y cyfaill. Tu ol i lymder ei geiriau yr oedd meddwl gonest a chalon llawn carqdigrwydd. Yn wir yr oedd yn garedig hyd at aberth, yn enwedig i weision y Brenin Mawr. Yr oedd ei pharch a'i haeliem at weision Crist yo codi o'i pharch at Grist ei hun. Dolchwch iddo ef" oedd ei gair pan ddiolehid iddi am ei charedigrwyetd. Gair Duw oedd ei llyfr mawr, acymhyf- rydai son am dano. Yn wir nid oedd gwerth mewn unrhyw lyfr iddi os na ddaliai gysylltiad a'r Gair hwn. Yr oedd ganddigof gafaelgar, ond troiai y cwfelo gwmpas LIyfr y llylrau, Un o i gofidiau mwyaf yn y blynyddoedd diweddaf y bu byw oedd bod y eof weii pallu. Dengys y gofid ei kod yn darllen nid er mwyn darllen, ond er mwyn cofio a gwneud defnydd wedyn o'r hyn a ddarllenai. Dywedwyd mai ei hoff lyfr oedd y Beibl, ei hoff fan oedd y cysegr, yn enwedig capel y Wesleaid yn y dref. Yr oedd cadw allwedd y ty wedi dod yn fath o anrhydedd ac eiddigedd yn ei golwg, Pe digwydd i anghof ei chadw rhywle arallgwelid yn fuan ei heisiau- Yr oedd cadw drws yn Nhy Dduw yn well ganddi hithau na thrigo ym njhalas annuwioldeb. Ei hoff rhan yn y .cysegr oedd y canu. Ac yr oedd ym medra canu. Yr oedd ganddi lais per- aidd a thrwythid ei chanu gan ysbryd mawl. Byddwn yn ei chofio am ei haelioni diball, ond bydd pleth ylcof yn drymach o gwmpas ei chanu swynol na dim arall. Ymgollai gymaint *yn y canu weithiau nes ei ail ganu drosodd a throsodd. Clywsom hefyd y byddai yn effeithiol iawn ar ei gliniau yn nhy yr Arglwydd. Wedi drachtio cymaint yn nyfroedd Duw, nid rhyfedd iddi farw mor dawel a thangnefeddus. Yn nydd y datod danghosodd y meddwl pur, gonest, a'r galon dduwiolfrydig ei hun yn y geiriau—" Nid oes arnaf ofn marw," Byw i mi yw Crist a marw sydd elw." Bydd arnom hiraeth ar ei hol, ond gorfoddelwn wrth ystyried Nid oes i angau golyn mwy All roddi i dduwioldeb glwy." Nodded Duwei phriod unig, a'i phlant hiraethlawn, a'i ffrindiau galarus hyd ddydd y codi, pryd cawn gwrdd heb ymadael mwy. Claddwyd ei gweddillion lmrwol dydd Mercber canlynol yng nghladdfa yr Methodistiaii Calfinaidd, Er mor arw yr hin daeth tyrfa liosog ynghyd. Cymerwyd rhan gan y Parchu D. James (A.), Llanybyther; D. L. Jones, Aber- aeron; Thomas Morris, Pontrhyd- ygroes Dan Jones (M.C), Tregaron; a J. Wesley Morgan. Nos Sul caulynol pregethwyd pregeth angladdol gan y. Parch J. Wesley Morgan ar y geiriau-" Canys hi a weithiodd weitbred dda arnaf. Daeth cynulleidfa anrhydeddms ynghyd. Ar- weiniwyd y canu gan Mr D. Thomas, a chwareuwyd y "Dead March" gan Miss Mary Thomas- >, t J. M. W.

f CWM PENMACHNO. -1

CARNO. J

EBENEZER, BAGILLT. I

CEFN MAWR. I

I LLANSILIN.

ii CYLCHDAITH TREORCI.