Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

Y Rhyfel o Ddydd i Ddydd.

News
Cite
Share

Y Rhyfel o Ddydd i Ddydd. Dydd Llun, Chwefror 18. Cyhoeddwyd gan y Press Bureau, ddydd Sadwrn, fod Syr William Robertson, mewn canlyniad i Gyngor Versailles, wedi cael dewis bod yn Gynrychiolydd Milwrol Prydeinig ar y Cyngor Rhyfel yn Versailles, neu barhau i i fod yn Bennaeth yr Imperial Staff, gydag awdurdod gyfyngedig. Nid oedd Syr William yn gweled ei ffordd i dderbyn y naill na'r llall. Y mae'r Cadfridog Syr Henry Wilson wedi derbyn y swydd o Ben- naeth yr Imperial Staff, a bwriedir cyhoeddi ymhen ychydig ddyddiau enw ei olynydd. Tra y dywed yr adroddiadau swyddogol fod y Llywodraeth gyda llawer o ofid, wedi derbyn ei ymddiswyddiad (Syr W. Robert son), dywed Syr William mewn ymgom gyda gohebydd nos Sad- wrn Nid wyf wedi ymddi- swyddo, ac y mae'r mynegiad fy mod wedi gwneud hynny yn ang hy wir." Dydd Mawrth. Dywedir yn swyddogol yn Ger- mani eu bod wedi ail ddechreu rhyfel yn erbyn Rwsia. r Ar derfyn y cad.oediad, croesodd milwyr Germanaidd y Dvina, a symudasant ymlaen i Dvinsk, i'r de o Riga, Ni wrthwynebwyd hwy. Ymhellach, dywedant eu bod/ mewn atebiad i alwad o'r Ukraine, wedi symud ymlaen o'r de i gyfeir- iad Kovel, i'r gogledd o Lemberg. Dywed y Tyrciaid am y symud- iadau yn y Caucasus, a ffoedigaeth y byddinoedd Rwsiaidd yn Armen ia. Bu brwydr fy wiog yn ymyl B utte du Mesnil, yn Champagne, lie y ceisiodd y Germaniaid adenill y safleoeddd a feddianwyd gan y Ffrancod chwe' diwrnod yn ol. Llwyddodd rhai o fyddinoedd blaen y gelyn i dori i mewn i rai o'r gwarchtfosydd, ond curwyd hwy yn 01 gan y Ffrancod, y rhai a gadwas- ant eu llinellau. Hysbysodd Mr Bonar Law yn Nhy'r Cyffredin, ddoe, fod Syr Wil liam Robertson wedi cael cynnyg ac wedi derbyn yr Eastern Com- mand. Delid y swydd hon gan y Cadfridog Syr H. Wilson, hyd nes yr apwyntiwyd ef fel Cynrychiol ydd Milwrol Prydeinig yn Ver sailles. Dydd Mercher Yn Nhy'r Cyffredin, ddydd Mawrth, dywedodd Mr Lloyd George fod y Llywodraeth yn awyddus am gadw gwasanaeth Syr Wm. Robeitson fel Pennaeth yr ImperiatStaff, cyhyd ag y bydd- ai hynny yn gyson a'r bolisi ag y penderfynwyd arno gan y Cyng- rheiriaid. Gyda gofid mawr y canfuwyd nad oedd hynny'n bosibi Seiliwyd polisi'r Cyngrheiriaid ar y dybiaeth fod y Cyngrheiriad wedi dioddef yn y gorffennol o ddiffyg cydgordiad a chyd ddealltwriaeth. ¡ Yn Versailles mabwysiadwyd y cynllun gan yr holl gynrychiolwyr oedd 'yn bresennol. Yr oedd yn rhan o'r cynllun fod Pennaeth yr Imperial General Staff i aros fel I prif gynghorwr y Llywodraeth. Cynhygiwyd y swydd i Syr Wm. Roberton, yr hwn oedd yn anew yllysgar i gydsynio a'r cynllun, a gwrthwynebodd iddo ar seiliau milwrol. Gwrthododd y swydd, C1 Bennaeth y General Staff gydag awdurdod oedd ynglyn a'r swydd yn ol fel y cytunwyd yn Versaiilles Yr oedd y Military Adviser rheol- aidd yn Versailles i fod yn rhydd gyda'r cyngor a roddai fel aelod o'r Bwrdd. Awgrymodd Syr Wm. Robertson y dylai'r cynrychiolydd hwn gael ei wneud yn ddirprwywr Pennaeth y Staff, ond teimlent yn rhwymedig i wrthwynebu'r cyn- nyg. Dywedir fod brwydr cyflegrau ffyrnig iawn wedi cychwyn ar y trum dwyreiniol yn yr Asiago Plateau, ac hefyd mewn adrannau eraill o ffrynt y mynydd. Dydd Iau Y mae'r Cadfridog Hoffmann, y Commander Germanaidd ar y ffrynt ddwyreiniol, wedi gwrthod gwneud dim a chynnyg Trotsky i wneud cytundeb ar bwys teligram diwifrau. Y mae'n galw am gyt- undebau wedi eu harwyddo, a phrysurodd Trotsky i anfon y cyfryw gyda negesydd. Yn y cyfamser edrydd y German- iaid eu bod wedi symud ymlaen ymhell yn ddiwrthwynebiad i dir- iogaeth Rwsiaidd. Y maent wedi cymeryd 3,500 o garcharorion, amryw gannoedd o ynnau, a swm anferth o ddefnyddiau ereill. Yn y senedd, darllenodd Kuhl- mann y teligram di wifrau o Rwsia yn datgan ei pharodrwydd i arwyddo yr amodau heddwch ,Germanaidd. Rhybuddiodd yr aelodau rhag credu fod y Llywod raeth eisoes wedi gwneud heddwch gyda Rwsia yn ei phcced. Ni fyddai heddwch i Rwsia wedi cael ei wneud hyd nes y byddai y cyt undeb a arwyddwyd ar bapur wedi sychu. Hysbysa'r Swyddfa Ryfel fod ein milwyr fore Mawrth wedi symud ymlaen iymosod ar y ffrynt obym- theg milltir i'r dwyrein o Jerusal em. Erbyn yr hwyr llwyddwyd i gyrraedd y nod ag y ceisid ymgyr- aedd ato am bellter o ddwy filltir. Suddwyd y wythnos ddiweddaf 12 o longau tros 1600 o dunelli, tair o dan hynny, ac un cwch pysgota. Dydd Gwener. Adrodda Cadfridog Allenby fod ein byddin wedi llwyddo, yn erbyn gwrthwynebiad cyndyn y gelyn, i fyned ymlaen 3tmiIltir ar ffrynt o oddeutu 71 milltir i'r dwyrain o Jerusalem, gan neshau o fewn ped- air milltir i Jericho. Mae'r toriad yn y tywydd braf yn Ffrainc wedi atal gweithrediad au llwyddiannus yr awyrenwyr Prydeinig. Gwnaeth y New Zeal- anders ruthr effeithiol i'r dwyrain o Ypres. Adroddiadau Germanaidd a fynega fod: eu milwyr yn parhau i fyned rhagddynt yn Rwsia, ac wedi meddiannu Minsk, ac mae'r Awstriaid yn Rovno. Hawlia'r Germaniaid eu bod wedi cymeryd 9,125 o swyddogion a dynion, 1,473 o ynnau, 5,000 o geir modur, yng- hyda trens llawn o fwydydd. Dydd Sadwm Hysbysa Cadfridog Allenby in catrodau i'r dwyrain o Jerusalem barhau eu hymosodiad, a llwydd. odd gwyr meirch Awstralaidd i gymeryd meddiant o Jericho boreu ddydd Iau. Ychydig wrth wyneb iad roddwyd gan y gelyn. Nid oes fawr newydd o bwys i'w adrodd o Ffrainc. Yn ol newyddiaduron Vienna, y mae heddwch gyda Rumania yn debyg o fod yn gyrhaeddadwy yn < fuan ar seiliau boddhaol i'r partion oil.

TRYSORFA'R " GWYLIEDYDD NEWYDD."

LLOFFION DI-RWLSTOL.