Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Advertising
Y Gwyliedydd Newydd." AT EIN DOSBARTHWYR. Pob archebion a thaliadau am y Gwyl- iedydd Newydd i'w danfon i'r Rheolwr, "OwylJedydd Newydd," Flint Mountain, Flint, Anfonir un copi am dri mis trwy y Llyth yrdy 2/2 dau gopi am 3/7 tri copi am 4/6 pedwar, pump, a chwech yn ol 1/5 y dwsin. Disgwylir tal ar derfyn pob chwarter Heb hyn y mae yn amhosibi bron i ni gario ymlaen. AT EIN GOHEBWYR. Anfoner pob Gohebiaeth, gydag enw priodol yr anfonydd, i'r Golygydd wedi eu cyfeirio- Y Golygydd, (I wyliedydd Ne wydd, Flint Mountain, Flint, Diolchwn os rhydd ein Gohebwyr sylw i'r awgrymiadau hyn Carem i bob gohebiaeth fod mewn Haw eibyn boreu Iau. Ysgrifener ar un wyneb i'r ddalen bob am- ser. Os na fyddis yn rhoi ond Stamp Dimau ar yr amlen gadawer hi yn agored, ac ysgiifenner Press News ar ei chongl. LLYFR NKWYDD. "Emynwyr Cymra" GAN T PARCH. EVAN ISAAC. Cynnwys y llyfr Ysgrifau Hanes yddol a Beirniadol ar holl Brif Emynwyr Cymru, o Edwwnd Prys hyd Ehedydd Ial, ac ar ei derfyn ceir Llyfryddiaeth yr Emynwyr. Barn Llenorion YR ARCHDDERWYDD DYFED. Fel un sydd yn teimlo cryn ddiddordeb yn emynwyr ac emynau Cymru, darllenais eich ysgiifau gyda boddhad mawr. Cred- af y bydd y llyfr yn fendith i'r genedl." PARCH T. J. PRITCHARD (GLAN DYFI). 1, Yn ddios, y peth goreu yn yr iaith ar y pwnc a chredaf y bydd yn waith safonol. Costiodd lafur enfawr. Y mae cywirdeb yr awdur fel hanesydd, ei farn deg fel beirniad, a'i arddull fyw a graenus fel Ilenor, yn gosod ei genedl tan rwymau i'w gefnogi." Y PRIFARDD J. J. WILLIAMS. Gallaf yn ddibetrus gymeradwyo'r llyfr hwn. Chwiliodd yr awdur yn fanwl am y ffeithiau, traethodd ei farn yn groyw, a gwisgodd y cyfan mewn iaith gref a glan. Bydd bai mawr yn rhywle os na phrynir y llyfr wrth y miloedd." Y PARCH THOMAS HUGHES. Golygydd yr Eurgrawn. Ceir yma ffrwyth ymchwil fanwl i hanes ein hen emynwyr, wedi ei gyfieu mewn modd diddorol iawn. Clorienoir eu cynhyrchion a Haw beirniad annfbynnof a chraff, sydd ar yr un pryd yn lienor awen- gar. Y mae graen lenyddol rhagojol ar y gyfrol o glawr i glawr." Y PRIFARDD GWILI. Darllenais eich ysgrifau gyda bias mawr. Aethoch i draffeith anarferol, a dpedasoch y gwir plaen, heb ofni wyneb gr. Credaf y bydd y llyfr o werth i'r rhiai a ddaw ar eich ol, fel engraifft o wrthod byw ac adeiladu ar draddodiad heb sail iddo. Dylai y llyfr wertfaa yn gyllym a hir." TECWYN. Credaf y bydd y llyfr hwn yn gynysg- aeth wirioneddol i'n Ilenyddiaeth. Dengys yr ysgrifau ol meddwl gallucyg, medr llenyddol, barn aeddfed, a gwybodaeth dryfwyr o'r pwnc. Os caiff y gwaith hwn y gefnogaeth a haedda, prynnir ef wrth y miioedd. Cyhoeddir cyn gynted ag y eeir nifer digonol o Danysgrifwyr. PRIS 3/6, • Yr Archebion i'w hanfon i'r Awdur, Treharris, Glanv.
Y Rhyfel o Ddydd i Ddydd.
Y Rhyfel o Ddydd i Ddydd. Dydd Llun, Chwefror 18. Cyhoeddwyd gan y Press Bureau, ddydd Sadwrn, fod Syr William Robertson, mewn canlyniad i Gyngor Versailles, wedi cael dewis bod yn Gynrychiolydd Milwrol Prydeinig ar y Cyngor Rhyfel yn Versailles, neu barhau i i fod yn Bennaeth yr Imperial Staff, gydag awdurdod gyfyngedig. Nid oedd Syr William yn gweled ei ffordd i dderbyn y naill na'r llall. Y mae'r Cadfridog Syr Henry Wilson wedi derbyn y swydd o Ben- naeth yr Imperial Staff, a bwriedir cyhoeddi ymhen ychydig ddyddiau enw ei olynydd. Tra y dywed yr adroddiadau swyddogol fod y Llywodraeth gyda llawer o ofid, wedi derbyn ei ymddiswyddiad (Syr W. Robert son), dywed Syr William mewn ymgom gyda gohebydd nos Sad- wrn Nid wyf wedi ymddi- swyddo, ac y mae'r mynegiad fy mod wedi gwneud hynny yn ang hy wir." Dydd Mawrth. Dywedir yn swyddogol yn Ger- mani eu bod wedi ail ddechreu rhyfel yn erbyn Rwsia. r Ar derfyn y cad.oediad, croesodd milwyr Germanaidd y Dvina, a symudasant ymlaen i Dvinsk, i'r de o Riga, Ni wrthwynebwyd hwy. Ymhellach, dywedant eu bod/ mewn atebiad i alwad o'r Ukraine, wedi symud ymlaen o'r de i gyfeir- iad Kovel, i'r gogledd o Lemberg. Dywed y Tyrciaid am y symud- iadau yn y Caucasus, a ffoedigaeth y byddinoedd Rwsiaidd yn Armen ia. Bu brwydr fy wiog yn ymyl B utte du Mesnil, yn Champagne, lie y ceisiodd y Germaniaid adenill y safleoeddd a feddianwyd gan y Ffrancod chwe' diwrnod yn ol. Llwyddodd rhai o fyddinoedd blaen y gelyn i dori i mewn i rai o'r gwarchtfosydd, ond curwyd hwy yn 01 gan y Ffrancod, y rhai a gadwas- ant eu llinellau. Hysbysodd Mr Bonar Law yn Nhy'r Cyffredin, ddoe, fod Syr Wil liam Robertson wedi cael cynnyg ac wedi derbyn yr Eastern Com- mand. Delid y swydd hon gan y Cadfridog Syr H. Wilson, hyd nes yr apwyntiwyd ef fel Cynrychiol ydd Milwrol Prydeinig yn Ver sailles. Dydd Mercher Yn Nhy'r Cyffredin, ddydd Mawrth, dywedodd Mr Lloyd George fod y Llywodraeth yn awyddus am gadw gwasanaeth Syr Wm. Robeitson fel Pennaeth yr ImperiatStaff, cyhyd ag y bydd- ai hynny yn gyson a'r bolisi ag y penderfynwyd arno gan y Cyng- rheiriaid. Gyda gofid mawr y canfuwyd nad oedd hynny'n bosibi Seiliwyd polisi'r Cyngrheiriaid ar y dybiaeth fod y Cyngrheiriad wedi dioddef yn y gorffennol o ddiffyg cydgordiad a chyd ddealltwriaeth. ¡ Yn Versailles mabwysiadwyd y cynllun gan yr holl gynrychiolwyr oedd 'yn bresennol. Yr oedd yn rhan o'r cynllun fod Pennaeth yr Imperial General Staff i aros fel I prif gynghorwr y Llywodraeth. Cynhygiwyd y swydd i Syr Wm. Roberton, yr hwn oedd yn anew yllysgar i gydsynio a'r cynllun, a gwrthwynebodd iddo ar seiliau milwrol. Gwrthododd y swydd, C1 Bennaeth y General Staff gydag awdurdod oedd ynglyn a'r swydd yn ol fel y cytunwyd yn Versaiilles Yr oedd y Military Adviser rheol- aidd yn Versailles i fod yn rhydd gyda'r cyngor a roddai fel aelod o'r Bwrdd. Awgrymodd Syr Wm. Robertson y dylai'r cynrychiolydd hwn gael ei wneud yn ddirprwywr Pennaeth y Staff, ond teimlent yn rhwymedig i wrthwynebu'r cyn- nyg. Dywedir fod brwydr cyflegrau ffyrnig iawn wedi cychwyn ar y trum dwyreiniol yn yr Asiago Plateau, ac hefyd mewn adrannau eraill o ffrynt y mynydd. Dydd Iau Y mae'r Cadfridog Hoffmann, y Commander Germanaidd ar y ffrynt ddwyreiniol, wedi gwrthod gwneud dim a chynnyg Trotsky i wneud cytundeb ar bwys teligram diwifrau. Y mae'n galw am gyt- undebau wedi eu harwyddo, a phrysurodd Trotsky i anfon y cyfryw gyda negesydd. Yn y cyfamser edrydd y German- iaid eu bod wedi symud ymlaen ymhell yn ddiwrthwynebiad i dir- iogaeth Rwsiaidd. Y maent wedi cymeryd 3,500 o garcharorion, amryw gannoedd o ynnau, a swm anferth o ddefnyddiau ereill. Yn y senedd, darllenodd Kuhl- mann y teligram di wifrau o Rwsia yn datgan ei pharodrwydd i arwyddo yr amodau heddwch ,Germanaidd. Rhybuddiodd yr aelodau rhag credu fod y Llywod raeth eisoes wedi gwneud heddwch gyda Rwsia yn ei phcced. Ni fyddai heddwch i Rwsia wedi cael ei wneud hyd nes y byddai y cyt undeb a arwyddwyd ar bapur wedi sychu. Hysbysa'r Swyddfa Ryfel fod ein milwyr fore Mawrth wedi symud ymlaen iymosod ar y ffrynt obym- theg milltir i'r dwyrein o Jerusal em. Erbyn yr hwyr llwyddwyd i gyrraedd y nod ag y ceisid ymgyr- aedd ato am bellter o ddwy filltir. Suddwyd y wythnos ddiweddaf 12 o longau tros 1600 o dunelli, tair o dan hynny, ac un cwch pysgota. Dydd Gwener. Adrodda Cadfridog Allenby fod ein byddin wedi llwyddo, yn erbyn gwrthwynebiad cyndyn y gelyn, i fyned ymlaen 3tmiIltir ar ffrynt o oddeutu 71 milltir i'r dwyrain o Jerusalem, gan neshau o fewn ped- air milltir i Jericho. Mae'r toriad yn y tywydd braf yn Ffrainc wedi atal gweithrediad au llwyddiannus yr awyrenwyr Prydeinig. Gwnaeth y New Zeal- anders ruthr effeithiol i'r dwyrain o Ypres. Adroddiadau Germanaidd a fynega fod: eu milwyr yn parhau i fyned rhagddynt yn Rwsia, ac wedi meddiannu Minsk, ac mae'r Awstriaid yn Rovno. Hawlia'r Germaniaid eu bod wedi cymeryd 9,125 o swyddogion a dynion, 1,473 o ynnau, 5,000 o geir modur, yng- hyda trens llawn o fwydydd. Dydd Sadwm Hysbysa Cadfridog Allenby in catrodau i'r dwyrain o Jerusalem barhau eu hymosodiad, a llwydd. odd gwyr meirch Awstralaidd i gymeryd meddiant o Jericho boreu ddydd Iau. Ychydig wrth wyneb iad roddwyd gan y gelyn. Nid oes fawr newydd o bwys i'w adrodd o Ffrainc. Yn ol newyddiaduron Vienna, y mae heddwch gyda Rumania yn debyg o fod yn gyrhaeddadwy yn < fuan ar seiliau boddhaol i'r partion oil.
TRYSORFA'R " GWYLIEDYDD NEWYDD."
TRYSORFA'R GWYLIEDYDD NEWYDD." Diolchwn yn gynnes i'r cyfeillion isod am eu rhoddion i gynorthwyo y G.N. yn yr argyfwng, a'i gwna mor-anodd i ni ei ddwyn ymlaen hyd yma yr ym trwy ofal a dyfal- wch mawr wedi medru ymgadw heb fynd i ddyled. Diolch lawer. s d Parch Rhys Jones 2 6 Mr Roberts, Bone Farm, Pontfadog 2 6 Mr J. E. Grilli ths. 1 7
LLOFFION DI-RWLSTOL.
LLOFFION DI-RWLSTOL. Bu dadl ddyddorol ar Wahardd- iad yn Nhy y Cyffredin yr wythnos djiweddaf. Yr ym yn ddyledus i'r "Goleuad" am y crynhodeb can- lynol:— Cynhygiodd Mr Dunman Millar welliant i'r Anerchiad, yn gofidio nad oedd son am waharddiad yn Araith y Brenin. Yn ei araith, rhoddodd Mr Millar engraifft o'r hyn sydd yn digwydd. Glaniodd 75,000 o gistiau (cases) o gin yn y wlad hon o Holland. Cludwyd hwy wedyn gyda'r tren i borthladd arall yn y wlad hon, ac oddiyno anfonwyd ef i'r Congo-i ddyrch- afu a diwyllio moesau'r brodorion, y maea ddiameu. Clu lai un Hong bedair mil ar ar d^z^rr cistiau hyn, a chvtnerai ddeg ar hugain o ddyriion i'w dad- lwytho. Dywedodd Mr Millar fod gwr oedd yn edrych ar y peth yn dweyd ei fod yn credu fod ar y gweithwvr gywilydd o'u gwaith. Ond nia iddynt hwy y mae'r cywilydd i'r wlad sydd yn goddef y fath beth ar y fath adeg. Cefnogwyd y cynygiad gan y Major David Davies, ymhlith ereill. Soniodd ef yn arbennig am agwedd yr Unol Dalaethau a Chan- ada ar y mater. Yr oedd teirnlad cryf yn y gwledydd hynny, ar y rhai yr ydym yn dibynu i'r fath raddau ar ein bwyd, na ddylem ni yma wastraffu defnydd bwyd ar wneud diodydd meddwol. Dywed- odd Major Davies: The people of America and our fel- low citizens inGanadalook with horror on the spectacle of their young men coming over to this country,after hav- ing lived under condition of total abstineuce during months of training, and then fiading themselves in a coun- try where the sale of liquor goes on unchecked. Siaradwydhefyd gan Syr Herb- ert Roberts, Cadeirydd y Blaid Gymreig. Gofynai ef am i'r Llyw- odraeth roddi cyfle i ryw ran o'r wlad—enwodd Gymru-i roddi ei llais yn bendant o blaid neu yn erbyn gwaharddiad yn ystod y rhyfel. Ceisiodd Mr Clynes druan amddiffyn y Llywodraeth, yn ben- naf trwy osod prif faich y cyfrifol- deb ar ysgwyddau'r gweithwyr. Mewn ateb i'r ddadl fod llongau yn cludo 600,000 o dunelli o rawn er mwyn gwneud diodydd medd- wol bob blwyddyn, dywedodd fod y gweithwyr yn gofyn pa sawl llong oedd yn cludo addurniadau drudfawr a defnyddiau gwisgoedd costus? Tipyn yn anffodus oedd y ddadl, canys cododd Mr Runciman i ddywedyd fod cludiad pob un o'r nwyddau hyn wedi ei wahardd ers llawer dydd, ac os cludid hwy o gwbl nid ellid gwneud hynny ond o dan drwydded y Llywodraeth.