Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Advertising
Y Gwyliedydd Newydd." AT EIN DOSBARTHWYR. Pob archebion a thaliadau am y Gwyl- iedydd Newydd i'w danfon i'r Rheolwr, "OWyliedydd Newydd," Flint Mountain, Flint, Anfonir un copi am dri mis trwy y Llyth yrdy 2/2 dau gopi am 3/7 tri copi am 4/6; pedwar, pump, a chwech yn ol 1/5 y dwsin. Disgwylir tal ar derfyn pob chwarter Heb hyn y mae yn amhosibl bron i ni gario ymlaen. AT EIN GOHEBWYR. Anfoner pob Gohebiaeth, gydag enw priodol yr anfonydd, i'r Golygydd wedi eu cyteirio- Y Golygydd, H Owylledydd Newydd Flint Mountain, Flint, Diolchwn os rhydd ein Gohebwyr sylw i'r awgrymiadau hyn :— Carem i bob gohebiaeth fod mewn llaw eibyn boreu Iau. Ysgrifener ar un wyneb i'r ddalen bob am- ser. Os na fyddis yn rhoi ond Stamp Dimau ar yr amlen gadaiver hi yn agored, ae ysgiifenner Press News ar ei chongl. LLYFR NEWYDD, Emyn w vr Cymru" GAN Y PARCH. EVAN ISAAC. Cynnwys y llyfr Ysgrifau Hanes yådol at Beirniadol ar hall Brif Emynwyr Cynafu, o Edwwnd Prys hyd Ehedydd Ial, ac ar ei derfyn ceir Llyfryddiaeth yr Emynwyr. Barn Liehorlon YR ARCHDDERWYDD DYFED. Fel un sydd yn teimlo cryn ddiddordeb yn emynwyr ac emynau Cymru, darUenais eich ysgrifau gyda boddhad mawr. Cred- af y bydd y llyfr yn fendith i'r genedl." PARCH T. J. PRITCHARD (GLAN DYFI). '• Yn ddios, y peth goreu yn yr iaith ar y pwnc; a chredaf y bydd yn waith safonol. Cosiiodd lafur enfawr. Y mae cywirdeb I yr awdur fel hanesydd, ei farn deg fel beirniad, a'i arddull fyw a graenus fel! lienor, yn gosod ei genedl tan rwymau i'w gefnogi." Y PRIFARDD J. J. WILLIAMS. Gallaf yn ddibetrus gymeradwyo'r llyfr hwn. Chwiliedd yr awdur yn fanwl am y ffeithiau, traethodd ei farn yn groyw, a gwisgodd y cyfan mewn iaith gref a glån. Bydd bai mawr yn rhywie os na phrynir y llyfr wrth y miloedd." Y PARCH THOMAS HUGHES. Golygydd yr Eurgrawn. Ceir yma ffrwyth ymchwil fanwl i hanes ein hen emynwyr, wedi ei gyfleu mewn modd diddorol iawn. Clonennir eu cynhyrchion a Haw beirniad aanibynnof a chraff, sydd ar yr un pryd yn lienor awen- gar. Y mae graen lenyddol rhagojol ar y gyfrol o glawr i glawr." Y PRIFARDD GWILI. „" Darllenais eich ysgrifau gyda bias mawr. Aethoch i drafferth anarferol, a dwedasoch y gwir plaen, heb ofni wyaeb gwr. Credaf y bydd y llyfr o werth i'r rbai a ddaw ar eich ol, fel eagraifft o wifthod byw ac adeiladu ar draddodiad heb sail iddo. Dylai y llyfi: werthu yn gyflym a hir." TECWYN. Credaf y bydd y llyfr hwn yn gynySg- aeth wirioneddol i'n llenyddiaeth. Dengys yt ysgrifau ol meddwl galluog, medr llenyddol, barn aeddfed, a gwybodaeth dtiyrwyr o'r pwnc. Os caiff y gwaith hwn y gefnogaeth a haedda, prynni-r ef wrth y miloedd. Cyhoeddir cyn gynted ag y ceir nifer digonol o Danysgrifwyr. PRIS 316. Yr Arehebion i'w hanfon i'r Awdur, Treharris, Glam.
BWYD Y BOBL.J
BWYD Y BOBL. J Pwysig i Bawb ei Wybod. I A yw cynllun y Rations mewn grym? Y dyw mewn llawer man Can y Pwyllgor Bwyd ymhob ard- al y mae'r hawl i'w osod mewn grym. Pa bryd y daw yn orfodol yng Nghymru ? Mae yn dra thebyg y bydd yn orfodol ymhob rhan o Gymru, Gogledd a De, tref a gwlad, tua'r wythnos gyntaf ym mis Mawrth. Mae y gwahanol Bwyllgorau Bwyd yn ymarferol wedi cytuno a'u gilydd i'w osod mewn grym y pryd hwnnw. Ai yr un fydd y rheol ymhobman ? Ie, yn ymarferol. Mae Cymru oil wedi boddloni derbyn cynllun Llundain. Mae hwnnw yn dod i rym Chwefror 25ain. ond ni ellid cael pethau yn barod yng Nghym ru erbyn hynny. Pa nwyddau bwyd ddaw o dan y Rations? Mae siwgr eisoes o dan Ration. Ychwanegir yn awr ym- enyn, margarin, a chig. Ar ba gynllun y gweithredir. Dylai pob penteulu dderbyn drwy'r post arneu cyn Chwefror 21, Ffurf ]Oost ar Ineu cy ilenoGais (fel ag a wnaed gyda'r siwgr). Rhaid llenwi honno, a'i dycbwelyd Ft Pwyllgor Bwyd yn ?.yr.ardal erbyn Chw error 25ain. Yna tlaw y cardiau angenrheidiol allan erbyn dydd Gwyl Dewi, a, bwnedir i'r cynllun ddechreu gweithio tua Mawrth 4ydd. A ellir de wis ein, Shop ? Gellir. Bydd rhaid llenwi enw a cbyfeiriad y shopwr ar y Ffurflen Cais. Ca pob un berffaith ryddid i ddewis ci shop. Ond wedi llenwi yr enw ar y Ffurflen, rhaid delio gyda'r shop wr hwnnw yn unig. Beth am y cardiau a lenwid eisoes? Osmai cerdyn preifat y shopwr yw, nid oes rym ynddo. Nid yw yn eich rhwymo i ddelio a hwnnw os nad ydych yn dewis gwneud. Ond pan fo'ch wedi llenwi y Ffurflen Cais a gaffoch o'r'Llythyrdy, bydd hwnnw yn sefyll. Ai un cerdyn fydd i'r holl nwydd au ? Nage. Bydd cerdyn i'r ym- enyn a'r margarin, a cherdyn arall i'r cig. Ca'r cwsmer ei ddewis yn y shop bob tro y bo yn prynu pa un ai menyn ai margarin a fyn efe gael-os bydd y ddau gan y shop- wr, ond ni cha lowans neu ration llawn am bob un o'r ddau. Un ration llawn a ga rhwpg y ddau gyda'u gilydd. Beth am y Cerdyn Cig ? Bydd y cerdyn cig yn wahanol. Cynhwysa hawl am ugain wythnos, neu ugain o docynnau wythnosol. Rhennir tocyn pob wythnos yn bed war. Feily gall cwsmer brynu cig bed- air gwaith yn yr un wythnos os bydd yn dewis. Ond ni wna tocyn unrhyw wythnos y tro ond am yr wythnos honno yn unig. Os na fyddwch wedi defnyddio eich tocyn vn llawn un wythnos, wna yr hyn fo yngweddill o'r tocyn. hwnnw mo'r tro yr wythnos wedyn. A bob tro y bo'ch yn prynu cig, neu yn ordro pryd o fwyd fo'n cynnwyacig mewn gwesty, rhaid i chwi ioi un o'r darnau bach o'r tocyn cig i fyny. Pa fath gig a awdurdodir drwy'v tocyn ? Yn ymarferol bob math— cig ffres, cig moch, cig mewn tin- iau, ffowls, cwnhingen, lard, sos- ages-mewn gair popeth y gellir ei alw'n gigfwyd. Pa faint o gig ganiateir ? Fel rheol gwerth pum ceiniog am bob chwarter o'r tocyn wythnosol. Golyga hynny y caniateir fel rheol gwerth ugain ceiniog o gig bob wythnos i bob aelod o'r teilu-- oddigerth plant o dan ddeng- mlwydd oed. Bydd cerdyn gwa- hanol iddynt hwy, yn caniatau hanner yr hyn a ganiateir i rai mewn oed. Ai gwerth pum ceiniog a geiro bob math o gig. Nage. Bydd un chwar- ter o'r tocyn am yr wythnos yn golygu gwerth pum ceiniog o gig ffres yn shop y cigydd. Ond golyga naw owns o bwysau o ffowlyn neu chwyad, neu saith owns a hanner o gig cwnhingen, neu dair owns o gig moch neu ham heb ddim asgwrn ynddo neu chwech owns o'r sosages goreu, neu ddwy owns a hanner o gig wedi ei bresyrfio mewn tin neu'r cyffelvb. Mewn gair ceisir cyfarfod, hyd y gellir, a chwaeth pawb mewn cigfwyd. Beth fydd safleffermwyr sy'n gutmeud ei ymenyn ei hun, neuyn halltu cig at iws ei deulu ? Dis- gwylir iddo yntau gadw o fewn terfynau y Rations, gan ddefnyddio dim mwy o'r hyn fo ganddo o'r nwyddau nag a gaff ai brynu mewn sbpl) pe na baent ganddo yn ei dy. Yr un modd os bydd rhywun yn cael cig neu ymenyn drwy'r post, neu ofterrn, rhaid iddo rhwng yr hyn a gaffo efe feUy a'r hyn a brynir ganddo drwy ei gerdyn, beidio bod yn fwy na'r lowans neu y ration am yr wythnos.
Y DYDDIADUR A'I GWSMER.
Y DYDDIADUR A'I GWSMER. Mr Gol. Can fy mod yn arfer ag anfon cais i'r "Gwyliedydd Newydd bob blix yddyn i ofyn am awgrym- iadau i wella neu gywiro y Dydd- iadur," diolchaf am gyfle i ddiolch i'eh gohebydd am dynnu fy sylw at y ffaith fod tri golygydd wedi gad ael i'r gair Antigua gael ei gam sillafu am lawer blwyddyn. Os enfyn i mi ddyddiadau cywir y ffeiriau a noda anfonaf ddimau am y cerdyn. Gofidiaf fod eich gohebydd gall uog yn cuddio ei dalent, ac yn cyfyngu ei hiwmor uchelradd i bapurau Cymreig; dilys gennyf ped ysgrifennai i bapurau Seisnig, megis y U Punch," "Comic Cuts," neu Chips," y gwnclai ei ffort iwn, a gallai yn rhwydd roddi subsidy i Bwyllgor y Llyfrfa i bwr. casu gwell papur i argraffu y Dyddiadur y flwyddyn nesaf. Yr Eiddoaeh yn ddiolchgar, W. Richard ROBERTS.
YR YSGOL SUL AC EGLWYSI :RHYDDION…
YR YSGOL SUL AC EGLWYSI RHYDDION CYMRU. Syr, Brfyniwn am ran o'eh gogod gwerfeh- fawr i alw sylw an apel Cyngor Oenad laethol Eglwysi Rayddion Cymru, ar i'r 8ul cyntaf o Fawrfcli iaeusf (Mawrth 3ydd) gael ei nailltuo fo^Sabbotk arbea- nig yr Ysgol Sal. Yr amcan yw cych- wyn mudiad egniol a chyffredinol trwy Gymru i adfywio a diwygio'r Ysgol Sul, a gwasgu adref at holl aelodau ein hegl. wysi eu cvfrifoldeb personol hwy yn y mater. Aw dros gan' mlynedd bu'r Ysgol Sul yn offeryn tra nerthol ym mywyd cref- yddol a chenedlaethol Cymru. Bu'n fagwrfa nodweddion cryfaf a phuraf ein cenedl, ac ni ellir mesur gwerth ei gwas- anaeth. Ond olywir ar bob Haw achwyn- ion dwys fod yr Ysgol Sul yn colli tir yn ein gwlad. Tybed ua ddaeth y dydd i wneud rhywbeth heblaw achwyn a beio a dwrdio? Oni ellir trwy gydymdrech weddigar, penderfynol, ac unol roddi terfyn ar y dirywiad presennol, ac nid yn unig nifer yr Ysgol,Sul i'w ben safle ym mywyd ein cenedl, ond ei chyfadd- asu ar gyfer gofynion newydd ein cyf- nod ? Gellir yn ddiameu, ond inni gredu hynny. Credwn fod y Sabboth cyntaf o Fawrth —y Sul agosaf at Wyl Dewi—yn adeg gyfaddas iawn i gychwyn madiad o'r fath. Byddwn fel Cymry yn y dyddiau hynny yn achlesu teimladau gwiadgarol, a pbriodol iawn fydd inni gydblethu eymhellion erefyddol a'n dyheadau cen. edlaethol. Beth dal son am Gymru Fydd oni fydd yn Gymra gretyddel ? Lie ni byddo gweledigaeth, metbu a wna y bobl." "Nidtrwyfara yn unig y bydd byw cenedl. Ni all ein gwlad* garwch Cymreig weithie i gyfeiriad mwy ffrwythlawn nag i gyfeiriad adfyw-io a diwygio'r Ysgol Sul, cblegid yn yr Ysgol Sul yn anad unmanymae gobaith ein cenedl. Mae Cymru haddyw ar y groeaffordd. Rhaid iddi ddewis un o ddau gwrs, — boddloni llithro'n ol yn araf a dioglyd i gyfeiriad anwybodaeth o'r Ysgrythyrau a phaganiaeth dywyll, neu benderfynnu ymysgwyd o'i chwsg as ymegnio trwy gymorth Duw i arwain Cymru Fydd tus. gloywach nen. Os yr olaf, rhaid iddi ddeffro i bwysigrwydd a phosibilrwydd yr Ysgol Sul; ao i'r diben hwn rhaid i arweinwyr yr eglwyai a chorff mawr yr aelodau sylweddoli o'r newydd eu cyfrifoldeb yn y mater, a tbrwy eu presenoldeb &'u gweithgarwch yn yr Ysgol Sul roddi eu gymorth ymarferol i'r gwaith o adfyw "io a diwygio'r sefydl- iad pwysicaf a berthyn i'r Eglwys Ynglyn a'r diwygiadau sy'n angen rheidiol taag at wneud yr Ysgol Sul yn fwy effeithiol ac atyniadol, ni ellwn yma wneuthar dim ond eyfeirio eich darllenwyr at y pamffled oyhoeddedig gan y Cyngor, sef, Yr Ysgol Sul yng Nghymru: ei sefyllfa bresennol, a pha fodd i'w gwella," i'w gael yn Swyddfa'r Cynkor, 11, Dumfries Place, Caerdydd. Ceir fod y pamffled hwn yn Ilawn o awgrymiadau ymarferol a gwerthfawr. Boed i bob pregethwr yn ei bulpud ar y Sul cyntaf o Fawrth chwythu utgorn adfywiad yr Ysgol Sul, nes y clywo'r mwyaf difraw o'i wrandawyr; terfyned pob arolygwr anerchiad yn yr Ysgol Sul ei hun i'r un amcan trefner canfas o aelodau a gwrandawyr pob eglwys i'w gwahodd yn daer i'r Ysgol; gwneler y mater hwn yn fater gweddi dwys a thaer yng nghyfarfod gweddi cyntaf yn aglwys ym mis Mawrth; a'r cyfan er mwyn lesu Grist a'i Deyrnas, er mwyn dyfod- ol ein cenedl a liwyddiant yr Eglwys. Ar ran y Cyngor. D. Miali, EDWARDS, .I JORK Robhrts.
[No title]
Mae Syr Ellis Jones Griffith K.C., AS., wedi ei ethol yn gym- rawd anrhydeddus o Goleg Down- ing, Caergrawnt.