Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

CYMRU All GWLEIDYDD. I IAETH.

News
Cite
Share

CYMRU All GWLEIDYDD. IAETH. Cenhadaath Flaid Llafur. Mewn erthygl feddylgar ar "Gymru, ei Gvvleidyddiaeth a'i Thrafnidaeth," yn y Welsh Out look" am lonawr, mae Mr E. T. John, A.S., yn edrych i'r dyfodol er gweled beth a fydd peithynas Llafur a Gwleidyddiaeth Cymru ar ol y Rhyfel. Wedi cyfeirio at Ad- drefniad Byddin Llafur yn y deyrn- as drwy ymdrechion Mr Arthur Henderson ar ol ei rydahau o lyf fetheiriau swydd yn y Cabinet, dengys fod y mudiad newydd ym Myd Llafur yn rhwym o sicrhau amddiffyniad gwell i fuddianaau Gwerin y deyrnas nag a gafodd. hyd yma. Tybia Mr John os llyw- ir y mudiad newydd yn ddoeth y gellir tafiu yn ymarferol holi gost enfawr y Rhyfel presennol oddiar ysgwyddau y gweithiwr a'r bobl gyffredin, a'i osod ymron yn gyfan- gwbl ar y dosparth sydd yn y gor ffennol wedi pentyru cyfoeth. Yna a ymlaen i ystyried CYSYLLTIAD 'LLAFUR A CHTNEDL- AETHOLDEB. Dywed :—" Mae yr hunan-hyder sy'n nodweddu y mudiad cenedl- aethol newydd yn y Werddon yn awgrymu y myn Llafur yn y Wer- ddon dorri pob cysylltiad ffurfiol ag Undebau Llafur ym Mhrydain. Yn yr Alban, ac yng Nghymru hefyd, gwelir Llafur heddyw mewn cyffelyb fodd, er mewn dull llai ymosodol, yn dechreu ad-drefnu ei rengoedd ar linellau cenedlaethol. Fel y dysgodd y Prif Weinidog yn ddiweddar mae Plaid Llafur yri yr Alban yn benderfynnol o fynnu cael Ymreolaeth i'r Alban yn ddi- oed—a chymer y penderfyniad ffurf hollol ymarferol can gynted ag y bo y Gyd-Gynhadledd Wyddelig wedi gorfSen ei gwaith. Ma6 prob- lemau y dyfodol felly yn canoli o amgylch Trefnidaeth a Chenedl- aetholdeb." Am y Pleidiau Gwleidyddol pre- sennol yng Nghymru dywed Mr John tra y gellir disgwyl i'r Blaid Doriaidd edrych yn amheus ar hawliau Llafur, a pharhau i'w gwrthwynebu, eto fod ymhlith Ceidwadwyr Egl wysig yng Nghym- ru lawer o Genedlaetholwyr Cym- reig pybyr, a llawer. iawn mwy na hynny yn barod i gydnabod hawl y werin i well manteision mewn bywyd. Tyoia fod Rhyddfrydwyr Cymru gan mwyaf oil yn Genedl aetholwyr o ran eu syniadau, ac fel rheol mewn cydymdeimlad hollol a hawliaucyfia wn y dosparth gweithiol. Dywed:—"Pan gym- erir poblogaeth frodorol Cymru, mae yn amheus a geir tm o bob pedwar yn Doriaidd,—mae y gweddill yn Genedlaetholwyr a Gwerinwyr i'r earn. Mae un o bob pump o boblogaeth bresennol Cymru yn estroniaid, cymysgedig o ran eu lliw politicaidd, llawer o honynt yn dwyn nodweddion Ceid- wadaeth Lloegr, ond y mwyafrif mawr, yn enwedig yn y Deheudir, yn yrnosodol Werinol,acyn tueddu yn gryf at Sosialaeth. Nid yw y dosparth hwn, hyn yn hyn, wedi cymeryd llawer o ddyddordeb yn nyheadau Cenedlaethol Cymru; ond maent eisoes yn dechreu gwel- ed mai ar hyd llwybr Cenedlaeth- oldeb y teithir gyflymaf a sicraf at gyrraedd y nod—gwir ryddid gwleidyddol a llafurol. Y cwest. iwn mawr yw, a fedr Gwerin Gen- edlaethol frodorol Cymru, gwledig a dinesig, sydd mor iach ei syniad- au, ddad i gyd-ddealltwriaeth a chydweithrediad effeithiol a'r adran estronol a ddaeth i'n gwlad, ac sydd. ar y cyfan, mor selog dros ddiwygiad cymdeithasol. Nid oes unrhyw wrthdarawiad, nac ang- hysondeb rhwng amcanion a nod y ddau ddosparth —ond yn unig eu bod at; hyn o bryd wedi cael eu meddiannu gan agweddau gwa- hanol o'r hyn a ddylai fod yn rhagien gyffredin i'r oil o honynt." I CYMRO., I

SEDD MR E. T. JOHN, A.S.I…

BWYD Y BOBL.-1

Advertising