Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

? _: i  iLl;,TYCERRIG.I

I-.COMMINS COCH. --!

LLANBEDR PONT STEPHAN. I

I -MYNYDD SEION. LER PWL.…

News
Cite
Share

MYNYDD SEION. LER PWL. Gofidus genny-m orfod cofnodi marwolaeth Mr Humphrey Joues, 21, Heman Street, Liverpool. Bu farw Ion. 27ain, ac fo'i claddwyd ym mynwent Smithdown Road, Liverpool, Ionawr BOain- Ganwyd yr ymadawedig yn Syrnant, Pennal, Mai 22a.in, 1834. Symudodd y teulu i fyw i Gefn Coch, Darowen, pan-yr oedd ef yn 8 mlwydd oed. Enwau ei rieni oeddynt Richard a,c Ann Jones, ac hannai o deulu y Parch Humphrey Jones (laf). Bu Mr Humphrey Jones yn flaenor yn eglwys y Wesleaid, Tycerrig, am 40 mlynedd. Cafodd ei ddycbwelyd ym I mlwyddyn y Diwygiad, 1859, a bu am fly nyddoedd-lawer yn ddefQyddiol iawn I ynglyn a'r achos mawr, ac yn ddisgybl. ffyddlon i'r Gwaredwr hyd drliwedá ei oes. Yr oedd ei gymeriad wedi ei brydferthu a llawer o rinweddau gras. 'I Gwr o ysbryd llawen a charedig iawn ydoedd, parod iawn ei gymwynas ae o dueddfryd siriol a chroesawus. Rhoddai mawr bwys ar ffyddlondeb i air, cadwai ei addewid yn ddiwyro, a'i gas beth oedd i neb fod yn Uai na'i air. Mewn llythyr anfonwyd at y teulu gan y Parch John Humphreys, Merthyr, yr hwn a'i hadwaenai yn dda, dywed Yr oedd yn wir yn un o'r dynion goreu a adwaenais erioed." Pros 17 mlynedd olaf ei oes trigai yn Lerpwl, ac yn aelod o eglwys Mynydd Seion. Yr oedd ei ddydd gwaith wedi dod yma ar ben, ond profodd ei hua hyd y diwedd yn gymeriad cryf a phur. Bu farw gwedi mynd o dan driniaeth yn y Southern Hospital-; Yn ystod ei waeledd bu yn hynod o amyneddgar a thraethai emynau, ac adnodau oedd brofiad iddo yn' fynych. Gadawodd ar ei ol dystiolaeth uchel i'w Waredwr. Bu farw mewn tangnefedd. Cydym- deimlwn yn fawr a'i briod adawyd mewn gwendid mawr ar ol bywyd priodasol hapus am 50 o flynyddoedd. Hefyd a'i fab y Parch D. Creigfryn Jones, Penygraig, a'i frawd Mr Humphrey Jones. Gwasanaethwyd ddydd ei ang ladd gan y Parchn Edward Davies, ac Isfryn Hugnes. Derbyniodd y teulu lu o lythyrau cydymdeimlad, a dymunwn ddiolch dros y teulu i'r cyfryw. CYFAILL.

BEDLINOG. I

Advertising