Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
BWRDD Y GQL.I
BWRDD Y GQL. I G. A. D.—Dymuna Mr John Lloyd Jones, Lerpwl, arnom fynegu nad efe yw yr un a ysgrifennodd uwchben y llythrennau uchod i'r G¿J. beth amser yn ol; a dym- unwn gadarnhau hynny. ALLAN o DDIFVYG GOFOD.—Bwrdd yr Adolygydd Llythyrau y Mil. wyr Pnr. J. Williams, a Corporal Hughie Hughes Llanfairfech- an; Llanfechain Leigh Gol borne Gair o Dreffynnon,; Ab- erdyfl Llanfaircaereinion Nod- ion o Ddolgellau Colwyn Bay; Llanfyllin; Knowsley Road, Bootle.
[No title]
Yn yr adroddiad diweddaf, ceir ffigyr- rau swyddogol am y flwyddyn yn diweddu Mawrth, 1916, yn dangos fod incwm 634 person yn44,205,000p., neu gyfartaledd o 70,000p. yr un. Yn y manylion o'r death duties," dangosir fod 81,616 wedi marw, gan adael eiddo. ond fod 35,000 wedi gadael llai na mil o bunnau yr un. Haedda y ffigyrrau yst- yriaeth y werin, oblegid pwnc mawr y dyfodol fydd trethiant.
11 1LOFFION DIRWESTOL. -..Z?…
11 1LOFFION DIRWESTOL. Z rIf- Y mae y ffeithiau a ganlyn wedi eu dyfynnu allan o'r "Alliance War Almanack am 1918 Bill y Ddiod am 1916. Cyfanswm y gwirod a yfwyd, 28,163,000 o alwyni. Cwrw, 29,855,000 o alwyni. Gwin, 10,001,000 o alwyni, Gwinoedd Prydeinig, Seider, &c. 15,000,000 o alwyni. Cyfrifir fod cost yr uchod i'r cy hoedd yn 203,989,000p., yn rhoddi cyfartaledd o 4p 8s 6c y pen ar gyfer poblogaeth y Deyrnas Gyf- unol-y raddfa uwchaf er y flwydd- yn 1900. Nifer y trwyddedau i werthu i mewn (on licences), yn Lloegr a Chymru am 1917'" ydoedd 85,271- lleihad o 618 ar y flwyddyn flaen- orol. Nifer y trwyddedau i werthu allan (off-licences), ydoedd 22,722— lleihad o 255 ar y flwyddyn flaen orol. Cyfartaledd blynyddol y lleihad mewn on-licences" am y deng mlynedd cyn 1904 ydoedd 386, ac er pan ddaeth Deddf 1904 i rym, 1,183. 0 Awst, 1914, hyd Rhagfyr, 1917, defnyddiwyd fel y canlyn gan y bragdai a'r distylldai:— -I Tunell. Grawn ;4,600,OGO Siwgr 382,000 "Molasses" 150,000 Cyfanswm 5,132,0QQ Y raddfa bresennol TunelL Grawn 870,000 Siwgr 60,000 Molasses "—ffigyrrau heb eu cael. 930,000 Y Ii 01 mynegiad a wnaed gan y Rheolwr Ymborth y mae peint o gwrw yn golygu dinistrio pedair owns o fara peint o stout'' yn golygu pum owns, a. dogn o chwis- gi 1 2/5th owns. Y dydd o'r blaen yng NgbJrman. fa Ddirwestol Sir Ddinbych, wrth roddi ei adroddiad, sylwodd Huwco Penmaen ei fod yn an- nerch y gymanfa am yr ugeinfed tro. Sefydlwyd y gymanfa ugain mlynedd i'r dydd lau blaftPorol yn Abergele ac yn Ninbydr y dysg- odd y gymanfa gerdded. Yr oedd Mr Thomas Gee yn fyw y pryd hwnnw, a'i ddylanwad yn gryf o blaid y mudiad. Naw mlynedd yn ddiweddarach, daeth y gymanfa i Ddinbych drachefn, a'r brawd selog Mr Boaz Jones yn faer y dref ar y pryd. Deuai y gymanfa i'r dref yn awr am y drydedd waith, a diolch- ent i gyfeillion Dinbych am ei chroesawu pan oedd drws arall yn gauedig. Chwith oedd cyfarfod heb Mr J. Harrison Jones a Miss Gee-dau b ls-lywyddion y gym- anfa, a gweithwyr selog gyda'i achos. Yn y Gymanfa uchod, ar gyn- hygiad v Parch. Hugh Evans, caf- odd penderfyniadau i'r perwyl a ganlyn eu pasio:-(l), Datgan gwerthfawrogiad o gyfyngiadau y Bwrdd Llywodraethol Canolog ynglyn a gwerthu diodydd meddw- ol; (2), fod y gymanfa yn ystyried fod y farn gyhoeddus yng Nghymru yn galw am i Gymru gael triniaeth ar'wahan mewn unrhyw Fesur Trwyddedol a ddygir ymlaen gan y Llywodraeth, gan ein bod yn credu fod Cymru yn addfed i Fesur Dew- isiad Lleol; (3), annog y Llywodr- aeth i ddwyn mesur o lwyr wah- arddiad ymlaen yn ystod y rhyfel a thymor diarfogiad. Yn y "Brewers' Gazette" ym- ddangosodd y mynegiad canlynol: In reviewing the events of the past year the most outstanding fact calling for attention is the prosper- ity generally of the trade."
ICOLOFN Y LLENOR.I
ICOLOFN Y LLENOR. Y tnae blwyddyn dathlu dau can mlwyddiant Williams bellach dros odd, ond hwyrach nad anyddorol gan bob Cymro a fu yn y cyrddau dathlu ac a gafodd ei sel a'i barch at y Perganiedydd wedi eu hennyn, fydd clywed fod llyfryn o hanes y bardd a'i waith ar fin cael ei gyhoeddi gan Gymdeithas Hanes'y MethodistiadiCalfinaidd. Cyhoeddir ef fel un o gylchgronau arferol y Gymdeithas honno tua diwedd Ion- awr, a bydd copi yn naturiol fynd i bob aelod tanysgrifiedig o'r Gym- deithas honno. Ond gan fod y rhifyn hwn.'o'r Cylchgrawn Hanes yn un arbennig a cyn gyfyngedig o ran ei gynnwys i Williams, Panty- celyn, kbarnodd y golygyddion yn briodol argraffu nifer ychwanegol ohono a'i werthu i rai nad sy'n aelodau o'r Gymdeithas Hanes am 2s. y copi. Rhagoriaeth y rhifyn hwn yw y bydd ynddo y casgliad llawnaf o ffeithiau am fywyd a llyfrau Williams a gyhoeddwyd erioed, a phob ffaith wedi ei chyfleu fel y cawd hi. o ffynhonellau gwreiddiol. Cyhoeddir am y tro cyntaf yn y rhifyn hwn wybodaeth am Williams na wyddid am dano o'r blaen, ac yr oedd yn hen bryd i'r Emynydd gael y gwir am dano'i hun a chymaint o'r gwir ag oedd yn bosibl, yn lie bod pobl yn clywed yr un traddodiadau disail o hyd ac ym gorfod yfed yr un cawl ail dwym yn barhaus. Ysgrifenna Mr J. H. Davies, M.A., Aberystwyth ar Lyfryddiaeth Williams—pwnc na thriniwyd yn gyflawn na chywir erioed o'r blaen ceir defnyddiau hanes ei fywyd wedi eu crynhoi gan y Parch M. H. Jones, a disgrifiad o'r M.S.S. prin i Williams sydd yn Llyfrgelly Bala gan y Parch 1. T. Alun Jones. Cyhoeddir gyda'r erth- yglau ddarlun o lawysgrifen Wil liams, wedi ei chymryd o fysg y papurau o'i eiddo sydd yn Nhref- ecca. Dymunir ar i bob un sydd am gopi o'r Rhifyn Coffa hwn i anfon yr enw, y cyfeiriad a'r ddeuswllt gynted ag sydd bosibl i'r Parch M. H. Jones, Eryl, Ton Pentre, Glam.; canys ni argraffir fwy o gopiau ychwanegol nag a geir o archebion, ac ni cheidw'r argraffwyr y type' yn hir. Y mae Chwedl Llyn y Fan," wedi ei throi i Gymraeg tlws a phersain gan yr Athro Syr John Morris Jones, o Saesneg Mr Wil- liam Rees, Lanymddyfri, a'i heg- luro a lluniau odiaeth Miss Marg- aret Lindsay WilMams. Anfonir y gyfrolen allan gan berchnogion Keenora, y 'Meistri Morris a Jones, o Lerpwl, ond ni wyddom a oes pris arni, neu a yw ar y farchnad lyfrau. Diau y bydd edmygwyr dwy gelf gain yn awchus i'w meddu. Nid yw'r rhyfel wedi rhoddi atalfa hollol ar gyhoeddi llyfrau Cymraeg. Yr wythnos o'r blaen gwelso-m "Yr Hen Deiliwr Mr J. Lloyd- Jones, y Barry. Darlun a geir ynddo o fywyd yn Sir Gaer- fyddin tua phedwar ugain mlynedd yn ol, ac er nad ellir dywedyd fod dim neilltuol iawn yn y gwaith, y mae'n cvfleu syniad dyddorol am hen fywyd y wlad. M Yng Nghastellnedd y cynhelir yr Eisteddfed Genedlaethol eleni, a gwelaf fod gwobr ychwanegol o gan' punt yn cael ei chynnyg am arwrgerdd yn Saesneg ar y testun "Cymru a'r Rhyfel." Nid yw'r gdn i fod dros dri chan' llinell.
[No title]
Pa nifer o Gymru sy'n arwain y byddinoedd Cymreig yn Ffrainc ? gofynai Mr Ellis Davies yn Nhy y Cyffredin.. Mae awdur- clbdau milwrol yn rhy brysur i ateb," ebai Mr Macpherson. Sut y mae pethau yn Kinmel Park heb son am Ffrainc ? <
Advertising
Llyfrau Ail Law. BARGEINION. Rhodder A ar yr amlen oddi- allan, a chyfeirier yr Archebion i— Rheolwr, "Y Gwyliedydd Newydd," Flint Mountain, Flint. i-3 'i .11 Nodiadau Herber Sef Detholion o'r Nodiadau Misol byw, craff, ar wahanol bynciau i'r Dysgedydd gan y diweddar Barch Herber Evans, D.D. Addefir fody Nodiadau hyn ymhlith y pethau goreu a ddaeth o law Herber erioed Y gyfrol cystal a newydd. Pris cyhoeddedig 3/6 trwy'r Post 2/- Pethau Newydd a Hen Gan Mr Delta Evans, (Dewi Hir- addug), Llundain cyfrol werth- fawr iawn o draethodau, Moes- egol, Llenyddol, a Beirniadol. Cystal a newydd. Pris cyhoedd- edig 2/6; trwy'r Post 1/8. Holwyddorydd Diwinyddol Dr. Pope Cyfeithedig gan y Parch T. J. Pritchard, Cyfrol ddestlus o 494 o dudalennau, ac yn newydd hollol. Pris cyhoeddedig, 10/6 trwy'r Post, 4/6. Yr oedd Dr. Pope yn un o ddiwinyddion gall- uocaf y wlad, ac mai cyfeithiad Mr Pritchard yn feistrolgar a chlir. Cyfamod Heddwch Cyfrol wych iawn o bregethau gan hyodl a chryf Dr. Marvin R: Vincent. Pris cyhoeddedig 5/ cystal a newydd; trwy'r Post 2/4. Mae'r gyfrol hon yn awr yn brin. Gnostlciaeth a Agnosticiaeth Cyfrol wir alluog o Bregethau gan Dr George Salmon. Mae yn y gyfrol 18 o bregethau gwir uchraddol. Cystal a newydd. Pris cyhoeddedig 5/6; trwy'r Post 3/3. Hwfa Mon Dan olygiaeth Mr W. J. Parry, Bethesda Cyfrol Goffa am yr hen wron." Eisteddfodol. Ceir ysgrifau ynddi fel y canlyn :r- Hwfa fel Cymeriad Cymreig Parch Rhys J. Huws; Fel Bardd ym Mesurau y Cyng- hanedd—Elfed Barddoniaeth Rydd Hwfa— J. T. Job; Fel Eisteddfodwr—Gwylfa. Ceir yn y gyfrol bigion o gyn- hyrchion y Prif Fardd enwog. Pris cyhoeddedig 3/6; trwy'r Post 2/3. By the River Chebar Myfyrdodau ar Lyfr Ezeciel gan y Parch Elfed Lewis. Y mae gwelediad cyfriniol a barddonol Elfed ar ei oreu yn y gyfrol hon. Mewn cyflwr da. Pris cyhoedd- ig 3/6 trwy'r Post 2/3. The Ideal Life Bywyd, ynghyda detholiad o Bregethau neu Areithiau y di- weddar Proff. Drumond, wedi eu hysgrifennu a'u golygu gan Mr Robertson Nicoll. Mewn cyflwr da. Pris cyhoeddedig 6/- trwy'r Post 3/3. Christ in the Wilderness Tair ar ddeg o benodau yn ym- drin yn feistrolgar a diddorol gyda Themtiad yr Arglwydd lesu yn yr Anialwdh," gan, y Parch. L. H. Wiseman. Mewn cyflwr da. Trwy'r post, 1/10. Christ and the Times Cyfrol o Bregethau gan yr Arch- ddiacon Sinclair. Pris cyhoedd- edig 3/6 trwy'r Post 2(. Cys- tal a newydd.
"Y DYDDIADUR All BENSIL."
yn i lawr. Ni chefais gyfle i wneud <, a n fy mod oddi hynny yr ail Su', gan fy mododdi cartref. Er fy syndod pan aethum i roddi y testun i lawr y trydydd Sul, gwelais fy mod wedi ysgrifen nu yno eisioes y pregethwr, a'r un bregeth a'r Sul cyntaf. Meddyliais fy mod yn breuddwydio, ac wedi ysgrifennu hyn yn fy ngwsg; gan na chofiwn wneuthur y fath ynfyd- waith. Yn sydyn, daeth awel o wynt a chododd y tudalen, ac er fy nychryn gwelais nad oedd enw y pregethwr na'r testun ar y trydydd Sul o gwbl. Flatiodd y dudalen drachefn a daeth enw y pregethwr a'r testun i'r golwg eilwaith. Meddyliais ar y funud mai Dyddiadur o Hud yd- oedd. Ond, wedisylwi'n fanylach gwelais mai ysgrifen y Sul cyntaf oedd yn ymddangos drwy y papur. Am hyn haedda, ganmoliaeth oherwydd prinder inc y dyddiau hyn,canys fe ellir Ilenwi'r Dyddiad- ur trwy lenwi y dudalen gyntaf ohonno yn unig, gan yn ymddeng- ys honno drwy y gweddill o'r papur. Gofidi wn nad yw y Dyddiadur mor "up to date" mewn pethau eraill a'r bensil a'r papur. Un arwydd o hynny yw, na cheir enw y diweddar Dr. Moulton ac eraill ym mysg y rhai ym meddu cys ylltiad a Chymru fuont feirw yn y gwaith Seisnig." Yr oedd iddynt gysylltiad a Chymru mewn dwy lordd o leiaf. Deuent yno am eu gwyliau, a dysgent efrydwyr Cymreig, ac onid yw hya" yn gysylltiad a Chymru? Eithr hwyrach mai arwyddair y golofn hon yw y gair Antiqua sydd ddwywaith ar ei dechreu, a gwyr pawb mai rhywbeth yn perthyn i henaint yw hytiny. Gyda 11aw hwyrach y dylai y Golygydd ddwcyd mai yn Antigua y bu farw J. Lewis, a D. Jones. Arwydd arall yw, fod dyddiadau ffeiriau ynddo, a'r ffeiriau hynny wedi diflannu ers blynyddoeddL Mai cysur yn hyn hefyd, yn enwedig i'r hen, y bydd y Dyddiad- ur yn, gymorth hyfryd iddynt atgofio y dyddiau gynt, pan fyddont wedi blino darllen Hanes Wesleaeth Gymreig," Yn wyneb hyn oil ni ofidiaf fy mod wedi talu hanner coron t am Ddyddiadur, yn enwedig gan fy mod innau hefyd ym myned yn hen. Pleidiwr Purchase wyf fi yn hyn o beth o leiaf, er fod fy ngwraig ar ol astudio y Dyddiadur a'i bensil, wedi cael troedigaeth rymus o blaid" Prohibition." Felly, gan mai hi sy'n llywodraethu ofnaf na ddaw y Dyddiadur na'i bensil yma y flwyddyn nesaf. Gwn na thram- gwydda neb am y tipyn humor hwn gan fy modmewntymer reit dda ac yn ffrindiau hefo pawb. HEN GWSMER. I