Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

BWRDD Y GQL.I

[No title]

11 1LOFFION DIRWESTOL. -..Z?…

ICOLOFN Y LLENOR.I

News
Cite
Share

ICOLOFN Y LLENOR. Y tnae blwyddyn dathlu dau can mlwyddiant Williams bellach dros odd, ond hwyrach nad anyddorol gan bob Cymro a fu yn y cyrddau dathlu ac a gafodd ei sel a'i barch at y Perganiedydd wedi eu hennyn, fydd clywed fod llyfryn o hanes y bardd a'i waith ar fin cael ei gyhoeddi gan Gymdeithas Hanes'y MethodistiadiCalfinaidd. Cyhoeddir ef fel un o gylchgronau arferol y Gymdeithas honno tua diwedd Ion- awr, a bydd copi yn naturiol fynd i bob aelod tanysgrifiedig o'r Gym- deithas honno. Ond gan fod y rhifyn hwn.'o'r Cylchgrawn Hanes yn un arbennig a cyn gyfyngedig o ran ei gynnwys i Williams, Panty- celyn, kbarnodd y golygyddion yn briodol argraffu nifer ychwanegol ohono a'i werthu i rai nad sy'n aelodau o'r Gymdeithas Hanes am 2s. y copi. Rhagoriaeth y rhifyn hwn yw y bydd ynddo y casgliad llawnaf o ffeithiau am fywyd a llyfrau Williams a gyhoeddwyd erioed, a phob ffaith wedi ei chyfleu fel y cawd hi. o ffynhonellau gwreiddiol. Cyhoeddir am y tro cyntaf yn y rhifyn hwn wybodaeth am Williams na wyddid am dano o'r blaen, ac yr oedd yn hen bryd i'r Emynydd gael y gwir am dano'i hun a chymaint o'r gwir ag oedd yn bosibl, yn lie bod pobl yn clywed yr un traddodiadau disail o hyd ac ym gorfod yfed yr un cawl ail dwym yn barhaus. Ysgrifenna Mr J. H. Davies, M.A., Aberystwyth ar Lyfryddiaeth Williams—pwnc na thriniwyd yn gyflawn na chywir erioed o'r blaen ceir defnyddiau hanes ei fywyd wedi eu crynhoi gan y Parch M. H. Jones, a disgrifiad o'r M.S.S. prin i Williams sydd yn Llyfrgelly Bala gan y Parch 1. T. Alun Jones. Cyhoeddir gyda'r erth- yglau ddarlun o lawysgrifen Wil liams, wedi ei chymryd o fysg y papurau o'i eiddo sydd yn Nhref- ecca. Dymunir ar i bob un sydd am gopi o'r Rhifyn Coffa hwn i anfon yr enw, y cyfeiriad a'r ddeuswllt gynted ag sydd bosibl i'r Parch M. H. Jones, Eryl, Ton Pentre, Glam.; canys ni argraffir fwy o gopiau ychwanegol nag a geir o archebion, ac ni cheidw'r argraffwyr y type' yn hir. Y mae Chwedl Llyn y Fan," wedi ei throi i Gymraeg tlws a phersain gan yr Athro Syr John Morris Jones, o Saesneg Mr Wil- liam Rees, Lanymddyfri, a'i heg- luro a lluniau odiaeth Miss Marg- aret Lindsay WilMams. Anfonir y gyfrolen allan gan berchnogion Keenora, y 'Meistri Morris a Jones, o Lerpwl, ond ni wyddom a oes pris arni, neu a yw ar y farchnad lyfrau. Diau y bydd edmygwyr dwy gelf gain yn awchus i'w meddu. Nid yw'r rhyfel wedi rhoddi atalfa hollol ar gyhoeddi llyfrau Cymraeg. Yr wythnos o'r blaen gwelso-m "Yr Hen Deiliwr Mr J. Lloyd- Jones, y Barry. Darlun a geir ynddo o fywyd yn Sir Gaer- fyddin tua phedwar ugain mlynedd yn ol, ac er nad ellir dywedyd fod dim neilltuol iawn yn y gwaith, y mae'n cvfleu syniad dyddorol am hen fywyd y wlad. M Yng Nghastellnedd y cynhelir yr Eisteddfed Genedlaethol eleni, a gwelaf fod gwobr ychwanegol o gan' punt yn cael ei chynnyg am arwrgerdd yn Saesneg ar y testun "Cymru a'r Rhyfel." Nid yw'r gdn i fod dros dri chan' llinell.

[No title]

Advertising

"Y DYDDIADUR All BENSIL."