Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

BWRDD Y GQL.I

[No title]

11 1LOFFION DIRWESTOL. -..Z?…

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

11 1LOFFION DIRWESTOL. Z rIf- Y mae y ffeithiau a ganlyn wedi eu dyfynnu allan o'r "Alliance War Almanack am 1918 Bill y Ddiod am 1916. Cyfanswm y gwirod a yfwyd, 28,163,000 o alwyni. Cwrw, 29,855,000 o alwyni. Gwin, 10,001,000 o alwyni, Gwinoedd Prydeinig, Seider, &c. 15,000,000 o alwyni. Cyfrifir fod cost yr uchod i'r cy hoedd yn 203,989,000p., yn rhoddi cyfartaledd o 4p 8s 6c y pen ar gyfer poblogaeth y Deyrnas Gyf- unol-y raddfa uwchaf er y flwydd- yn 1900. Nifer y trwyddedau i werthu i mewn (on licences), yn Lloegr a Chymru am 1917'" ydoedd 85,271- lleihad o 618 ar y flwyddyn flaen- orol. Nifer y trwyddedau i werthu allan (off-licences), ydoedd 22,722— lleihad o 255 ar y flwyddyn flaen orol. Cyfartaledd blynyddol y lleihad mewn on-licences" am y deng mlynedd cyn 1904 ydoedd 386, ac er pan ddaeth Deddf 1904 i rym, 1,183. 0 Awst, 1914, hyd Rhagfyr, 1917, defnyddiwyd fel y canlyn gan y bragdai a'r distylldai:— -I Tunell. Grawn ;4,600,OGO Siwgr 382,000 "Molasses" 150,000 Cyfanswm 5,132,0QQ Y raddfa bresennol TunelL Grawn 870,000 Siwgr 60,000 Molasses "—ffigyrrau heb eu cael. 930,000 Y Ii 01 mynegiad a wnaed gan y Rheolwr Ymborth y mae peint o gwrw yn golygu dinistrio pedair owns o fara peint o stout'' yn golygu pum owns, a. dogn o chwis- gi 1 2/5th owns. Y dydd o'r blaen yng NgbJrman. fa Ddirwestol Sir Ddinbych, wrth roddi ei adroddiad, sylwodd Huwco Penmaen ei fod yn an- nerch y gymanfa am yr ugeinfed tro. Sefydlwyd y gymanfa ugain mlynedd i'r dydd lau blaftPorol yn Abergele ac yn Ninbydr y dysg- odd y gymanfa gerdded. Yr oedd Mr Thomas Gee yn fyw y pryd hwnnw, a'i ddylanwad yn gryf o blaid y mudiad. Naw mlynedd yn ddiweddarach, daeth y gymanfa i Ddinbych drachefn, a'r brawd selog Mr Boaz Jones yn faer y dref ar y pryd. Deuai y gymanfa i'r dref yn awr am y drydedd waith, a diolch- ent i gyfeillion Dinbych am ei chroesawu pan oedd drws arall yn gauedig. Chwith oedd cyfarfod heb Mr J. Harrison Jones a Miss Gee-dau b ls-lywyddion y gym- anfa, a gweithwyr selog gyda'i achos. Yn y Gymanfa uchod, ar gyn- hygiad v Parch. Hugh Evans, caf- odd penderfyniadau i'r perwyl a ganlyn eu pasio:-(l), Datgan gwerthfawrogiad o gyfyngiadau y Bwrdd Llywodraethol Canolog ynglyn a gwerthu diodydd meddw- ol; (2), fod y gymanfa yn ystyried fod y farn gyhoeddus yng Nghymru yn galw am i Gymru gael triniaeth ar'wahan mewn unrhyw Fesur Trwyddedol a ddygir ymlaen gan y Llywodraeth, gan ein bod yn credu fod Cymru yn addfed i Fesur Dew- isiad Lleol; (3), annog y Llywodr- aeth i ddwyn mesur o lwyr wah- arddiad ymlaen yn ystod y rhyfel a thymor diarfogiad. Yn y "Brewers' Gazette" ym- ddangosodd y mynegiad canlynol: In reviewing the events of the past year the most outstanding fact calling for attention is the prosper- ity generally of the trade."

ICOLOFN Y LLENOR.I

[No title]

Advertising

"Y DYDDIADUR All BENSIL."